llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Y gyflwynwraig Clare Balding yn crwydro yn Sir Ddinbych

Yn ddiweddar bu i’r ddarlledwraig a newyddiadurwraig, Clare Balding gydweithio ag archeolegydd Cyngor Sir Ddinbych i fynd ar fryniau’r sir fel rhan o’i chyfres Radio 4, 'Ramblings’.

Ymunodd y gyflwynwraig radio a theledu â Fiona Gale, archaeolegydd y sir a’i chydweithwyr, David Shiel, uwch swyddog cefn gwlad a Helen Mrowiec, uwch swyddog hamdden Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, i ganfod mwy am fryngaerau Oes Yr Haearn ar hyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dechreuasant eu taith drwy gerdded I Fryngaer Moel Arthur ac at Lwybr Clawdd Offa cyn mynd am Fryngaer Penycloddiau gan drafod gwaith cloddio diweddar a’r olion a adawyd ar y tirlun gan genedlaethau o’r gorffennol.

Dywedodd Fiona: “Roedd Clare yn edmygu’r ardal yn fawr a'r golygfeydd hyfryd a welodd ar ben Bryniau Clwyd. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r tirlun ac yn gweld y bryngaerau’n ddiddorol. Pan nad oeddem yn recordio, roeddem yn sgwrsio am bob math o bethau gwahanol, fel y byddech chi wrth fynd am dro gyda rhywun. Roedd hi’n ddynes ddiffuant a neis iawn.”

Dywedodd Fiona mai ei mab a gafodd y syniad o wahodd y rhaglen i ymweld â'r ardal.

Dywedodd: “Cysylltodd â Radio 4 ac awgrymodd iddynt wneud rhaglen ar fryngaerau Ardal o Harddwch Eithriadol. Roeddent yn hoffi’r syniad gan ei fod yn cyd-fynd â’u thema ‘Treftadaeth’, felly dyma nhw'n mynd ymlaen gyda’r syniad! Hefyd, roedd y cynhyrchydd wedi’i fagu yn Llanrhaeadr ac wedi mynd i’r ysgol yn Ninbych!”

Gellir gwrando ar y rhaglen hon drwy dudalen rhaglen Ramblings ar wefan y BBC.

Am fwy o wybodaeth am fryngaerau, rheoli rhostiroedd, hamdden a mynediad o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i: http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/addysg/

Clare Balding

 Llun – o’r chwith i’r dde, Helen Mrowiec, Clare Balding, Fiona Gale a David Shiel

Ymunwch â ni yn awyr agored Sir Ddinbych!

Mae'r gwanwyn wedi’n cyrraedd, a pha amser gwell i fynd allan a mwynhau’r cefn gwlad prydferth sydd ar garreg ein drws.

Boed a ydyw’n daith gerdded yn y coed gyda'ch canllaw eich hun, neu'r cyfle i roi cynnig ar weithgaredd newydd fel cyfeiriadur neu gerdded Nordig, mae rhaglen ddigwyddiadau Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2017 yn llawn o weithgareddau sy’n cynnig rhywbeth i bawb.

Os ydych chi awydd mynd i gerdded gyda grŵp cyfeillgar o bobl, mae yna amrywiaeth wych i ddewis ohoni, popeth o hanner milltir i 7 milltir, yn ogystal â theithiau cerdded archeolegol, yn cynnwys ymweliadau â’r castell tomen a beili yn Nhomen y Rhodwydd, Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chloddiadau bryngaer, dan arweiniad arweinydd arbenigol a fydd yn dweud popeth wrthych am y llefydd anhygoel hyn.

Os mai bywyd gwyllt yw eich diddordeb, mae yna ddigwyddiadau i weld gwyfynod, ystlumod, troellwyr, gwenwyn, cael profiad o gôr y bore bach, yn ogystal ag ymweliadau dan arweiniad i weld un o nythfeydd adar mwyaf prin Cymru yng Ngronant, lle mae’r môr-wenoliaid bach yn nythu bob blwyddyn ar ôl gwneud eu taith 4,500 milltir o orllewin Affrica.

Mae yna weithgareddau a digwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar gyfeiriadu, cerdded Nordig, codi wal gerrig sychion, pysgota a bowls.

I’r rhai sy’n mwynhau’r celfyddydau, mae ein perfformiadau theatr awyr agored eleni yn siŵr o’ch plesio, gyda The Tempest gan Shakespeare yn Loggerheads, Around the World in 80 Days ym Mhlas Newydd, Llangollen, ac i blant cynradd, bydd yr Helfa Dinosoriaid Fictoraidd yn dychwelyd mewn lleoliadau ar draws y sir.

I ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru, mae gennym lawer o ddigwyddiadau teuluol a gweithgareddau crefftau wedi’u paratoi, yn cynnwys gwneud barcutiaid draig, corachod ac adenydd tylwyth teg, dweud straeon am fythau a chwedlau lleol, a llwybrau plant ar lawer o’n safleoedd.

Gallwch ddod i wybod mwy am bob un o’r gweithgareddau hyn drwy lawrlwytho copi o’r rhaglen digwyddiadau cefn gwlad o www.cefngwladsirddinbych.org.uk/newyddion-a-digwyddiadau

Neu gallwch gasglu copi o Barc Gwledig Loggerheads, Plas Newydd neu eich llyfrgell leol.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar facebook.

Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Troedio Clwyd Walks

Môr-wenoliaid bach

Parc Gwledig Loggerheads

Plas Newydd, Llangollen

Treftadaeth Sir Ddinbych

Ride North Wales

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i ymuno â ni!

Countryside Collage

 

James yw Gwirfoddolwr y Flwyddyn!

Mae dyn a oresgynnodd ddamwain difrifol pan roedd yn ei arddegau wedi ei enwi yn Wirfoddolwr y Flwyddyn gan Wobrau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.AONB Volunteer of the Year

Derbyniodd James Yale a’i weithiwr cefnogi, Mike Worsely wobr am eu gwaith yn glanhau llwybrau, torri cloddiau a thrwsio draeni yn Loggerheads, yn ogystal â nifer o dasgau i sicrhau bod y parc yn edrych ei orau.

Maent wedi bod yn gwirfoddoli yn wythnosol ers dros 12 mis, ac mae tîm y parc wedi’u disgrifio fel dylanwad positif iawn sydd â brwdfrydedd ac egni 'heintus'.

Mae James wedi gorfod goresgyn heriau iechyd difrifol ar ôl iddo gael ei daro gan gar pan yr oedd yn ei arddegau a chafodd anafiadau difrifol.

Dywedodd David Shiel, uwch swyddog cefn gwlad AHNE gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Rydym wrth ein boddau bod James a Mike wedi ennill y wobr newydd gwirfoddolwr y flwyddyn. 

“Mae Mike yn cefnogi James yn yr holl waith hwn ac maent wedi dod yn un o’r partneriaethau mawr hynny fel Sturridge a Suarez, Batman a Robin neu efallai mwy o Ant a Dec.

“Yn ddiweddar maent wedi cwblhau taith gerdded noddedig i fyny Moel Famau i godi arian i Ysbyty Alder Hey - a achubodd fywyd James yn dilyn ei ddamwain.

“Gan wybod eu bod yno, yn gefnogol a dibynadwy, yn parhau gyda’r gwaith yn dawel, yn galonogol. 

“Maent bob amser yn hapus ac yn gyfeillgar.”

Llandegla yw Cymuned y Flwyddyn

Da iawn i breswylwyr Llandegla sydd wedi cipio’r wobr Cymuned y Flwyddyn yng ngwobrau Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Canmolwyd y pentrefwyr am ddod at ei gilydd i greu dau brosiect llwyddiannus sydd wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned ac wedi helpu i annog ymwelwyr i’r ardal.

Ar ôl i’r siop leol a’r swyddfa'r post gau oherwydd gwaeledd yn 2015, daeth preswylwyr at ei gilydd i sefydlu prosiect caffi a siop bentref Llandegla, gan wneud defnydd o hen adeilad ysgol. Mae’r cyfleuster wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol, cerddwyr ac ymwelwyr.

Yr ail brosiect oedd agor atyniad i ymwelwyr newydd yn Eglwys Sant Tegla sydd ar lwybr y Clawdd Offa.

Roedd pentrefwyr ac aelodau’r eglwys yn awyddus i ganfod ffyrdd o wneud defnydd o adeilad hyfryd ac eisiau cynnig rhywbeth mwy na man i orffwys a llonyddwch i ymwelwyr.

Cynigiwyd y syniad o greu canolfan ymwelwyr sy’n cynnwys hanes yr ardal, man te a choffi a thoiled yr oedd ei angen yn fawr iawn yn y festri. Defnyddiodd yr eglwys ei gyllid ei hun ynghyd â nifer o grantiau llai gan gynnwys un gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r ddau brosiect wedi darparu gwasanaeth gwych i’r gymuned leol ac i gerddwyr y Clawdd Offa.

Gwarchod y Gorffennol, Paratoi ar gyfer y Dyfodol

Mae gwaith i ddiogelu un o’r cynefinoedd mwyaf arbennig yn y sir wedi’i gyflawni gan y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gwelliannau wedi’u gwneud i ran o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n rhedeg drwy Gyrn-y-Brain, ardal fawr o weundir grug gwlyb i’r gogledd o Langollen, sy’n Ardal Gadwraeth Arbennig ac o bwysigrwydd byd-eang.

Mae’r safle'n cynnwys tomen gladdu o'r Oes Efydd, sy'n fwy na 4,000 oed. Mae’r gwaith wedi cynnwys dargyfeirio’r llwybr o amgylch y gladdfa, a disodli’r hen drawstiau pren ar y llwybr gyda slabiau cerrig mwy gwydn, i sicrhau bod yr ardal arbennig hon yn cael ei gwarchod a’i diogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.

Dywedodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn bod y gwaith hwn wedi’i wneud. Mae’r ardal hon yn un o’r safleoedd mwyaf arbennig yn Sir Ddinbych. Mae hanner gweundiroedd gwlyb y byd yn y DU, ac mae’r ardal hon o bwysigrwydd rhyngwladol, felly mae gennym gyfrifoldeb i’w diogelu.

“Bydd y gwaith a wnawn nid yn unig yn helpu i ddiogelu’r gweundir a'r tomen gladdu oes efydd rhag niwed, a'u gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond mae hefyd yn rhoi llwybr gwell a mwy diogel i gerddwyr i'r ardal."

Cyrn y Brain Collage

Gwirfoddolwyr yn Cael Cystadleuaeth ‘Wrych’

Dangosodd gwirfoddolwyr o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych eu gallu i gystadlu mewn cystadleuaeth i weld pwy allai osod y gwrych gorau.Hedgelaying Contest

Cymerodd dau ddeg chwech o bobl ran yn yr her ar dir ym Modfari a rhyngddynt, gwnaethant osod 77 metr o wrychoedd newydd.

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae’n ffordd o ddod â gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar wahanol safleoedd at ei gilydd ar gyfer digwyddiad llawn hwyl wrth gyflawni swydd hanfodol yng nghefn gwlad.

Dywedodd Jim Kilpatrick, warden cefn gwlad: ”Mae gosod gwrychoedd yn hen dechneg sy'n hanfodol er mwyn adfywio ein gwrychoedd ac sy’n cynnig cysgod ar gyfer bywyd gwyllt.

 “Mae llawer o bobl bob amser yn bresennol yn y dasg wirfoddoli, ac ar ôl sylwi ar safon gwaith ein gwirfoddolwyr, roeddem ni’n meddwl y byddai’n beth da i ddefnyddio eu helfen gystadleuol!

 “Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda gwaith arbennig o dda i’w weld. Baeddodd pawb eu dwylo ac roedd yn ymddangos eu bod wedi ei fwynhau.”

Roedd dewis yr enillwyr yn dasg anodd iawn ond ar y diwedd, aeth y gwobrau i’r gwirfoddolwyr David Jackson a Chris Johnson a Thomas Jones a Matty Williams, sy’n wardeniaid dan hyfforddiant gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad. 

Os hoffech chi ddarganfod mwy am yr ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, codwch gopi o’r rhaglen ddiweddaraf.

Mae nifer o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt, boed chi’n dymuno gwneud rhywfaint o waith gyda’r garddwr ym Mhlas Newydd, Llangollen neu Nantclwyd y Dre yn Rhuthun, yn cynorthwyo gyda gwelliannau mynediad neu’n helpu gyda Nythfa’r Fôr-Wennol Fechan yng Ngronant.

Gallwch gael copi o’r rhaglen drwy ffonio 01824 712757 neu yn:

www.denbighshirecountrysideservice.co.uk/cymraeg

 denbighshirevolunteers.co.uk

www.clwydianrangeanddeevalley.org.uk

Datgloi'r gorffennol yng Nghastell Dinas Brân

Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn canfod a oes unrhyw adfeilion tan ddaear ar safle un o gestyll eiconig y 13eg Ganrif.Dinas Bran

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal arolwg geo-ffisegol yng Nghastell Dinas Brân, Llangollen i weld a oes unrhyw strwythurau o dan y ddaear. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal ar ôl derbyn arian gan CADW a’r Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll.

Mae arolwg geo-ffisegol yn galluogi arbenigwyr i ddefnyddio technegau fydd yn rhoi darun i’r Cyngor o beth sydd oddi fewn i’r castell a’r bryngaer heb orfod amharu ar dir y castell, sydd yn heneb warchodedig ac yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mi gychwynodd y gwaith yr wythnos hon gan gwni Tigergeo ac mi fydd y canlyniadau yn wybyddus o fewn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Fiona Gale, Archeolegydd Sirol Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ”Mae hwn yn gyfle gwych i ni geisio darganfod mwy am y safle arbennig hwn sydd wedi bod yn lle pwysig yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ers miloedd o flynyddoedd.

“Bydd yn ddiddorol gwybod os oes olion o weddillion y fryngaer 2500 oed yn parhau, neu a wnaeth y castell eu dinistrio i gyd? Hefyd rydym yn meddwl fod mwy o adeiladu o fewn waliau’r Castell, a fyddwn ni’n gallu gweld eu holion?

“Gobeithio y bydd y gwaith yn ein galluogi ni i wybod mwy am y castell, fydd o gymorth i ni i warchod y safle i’r dyfodol ac yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cryfhau profiad ymwelwyr.

Meddai Jeremy Cunnington, Cadeirydd Ymddiriedolwyr ‘Castle Studies Trust', "Mae 'Castle Studies Trust' yn falch iawn o gyd-gyllido'r arolwg hwn er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o Ddinas Brân, castell Cymreig eiconig a hanfodol bwysig." 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid