llais y sir

Diweddariad Sgwrs y Sir

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gyfle cyffrous i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Mae’n gofyn i ni feddwl mwy am ganlyniadau tymor hir ein penderfyniadau ac edrych ar atal problemau cyn iddynt ddigwydd.  

Ers cyflwyno’r Ddeddf ar ddechrau 2016, rydym wedi bod yn gweithio i nodi’r blaenoriaethau y mae trigolion Sir Ddinbych yn teimlo sy’n bwysig. Yn ystod yr haf 2016, holodd Cyngor Sir Ddinbych bobl am eu dyheadau hirdymor ar gyfer dyfodol eu cymunedau. Mae hyn, ynghyd ag ystadegau, wedi ein galluogi i ddrafftio rhestr o’r hyn y credwch a oedd yn bwysig.County Conversation

Mae’r adborth a dderbyniwyd nawr wedi cael ei adolygu ac mae ein Cabinet presennol wedi cytuno ar y 6 Blaenoriaeth a ddewiswyd gan drigolion Sir Ddinbych. Byddwn yn cynnig bod ein Cyngor newydd yn mabwysiadu’r rhain yn ffurfiol fel ein blaenoriaethau corfforaethol ym mis Hydref 2017, yn dilyn cyfnod arall o ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf.

Mae ein Datganiad Lles draft hefyd yn egluro sut y dylai’r blaenoriaethau hyn wella lles ein cymunedau.

Mae’r canlynol yn set o amcanion lles y cytunwyd arnynt a threfnwyd fel â ganlyn yn ein ymgynghoriad diweddaraf, gyda mwy na 1500 o ddinasyddion wedi ymateb:  

  1. Mae Sir Ddinbych yn fan lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo a lle bydd ganddynt y sgiliau i wneud hynny.
  2. Mae cymunedau wedi eu cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein neu drwy gysylltiadau trafnidiaeth da.
  3. Mae yna amgylchedd deniadol a warchodir sy'n cefnogi lles cymunedau a ffyniant economaidd.
  4. Gall pobl fyw bywydau annibynnol a chyflawn mewn cymunedau cryf, gofalgar, diogel a gwydn.
  5. Mae’r Cyngor a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn heriau; gan ddyfeisio a darparu datrysiadau ar y cyd.
  6. Mae yna ddigwyddiadau sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan greu cymunedau gweithgar a helpu busnesau i ffynnu.

Byddwn nawr yn mynd ati i amlinellu sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hyn, ac yn cyflwyno hyn i’n Cyngor newydd (yn dilyn etholiadau mis Mai) ym mis Hydref ar gyfer cymeradwyaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n Cynllunio Corfforaethol, dilynwch y ddolen hon.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid