Moderneiddio Gofal Cymdeithasol i Oedolion: Egwyddorion y Ddeddf newydd
Ym mis Ebrill 2016, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym gan ddisodli sawl cyfraith flaenorol. Mae'n newid sut y mae cynghorau a gwasanaethau gofal yn gweithio. Mae'n awr yn rhoi cyfrifoldeb ar y cyd arnoch chi a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu'r canlyniadau sy'n bwysig i chi.
Mae pobl wrth galon y Ddeddf newydd. Mae’n rhoi cyfle cyfartal iddyn nhw leisio barn ar y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Nawr, gall unrhyw un sy’n credu bod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth (neu y bydd ganddynt) gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl am wybodaeth, cyngor a chymorth. Gellir cynnig cefnogaeth yn gynt na'r arfer i helpu i osgoi mwy o angen a chadw pobl yn hapus, yn ddiogel ac yn iach.
Bydd y sgwrs yn wahanol. O’r blaen roeddem yn arfer canolbwyntio ar beth oedd yn bod ac yn ceisio ei ddatrys. Nawr rydym yn dechrau trwy ofyn i bobl sut fywyd maent yn dymuno ei gael. Rydym yn gofyn beth sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac yn y dyfodol i'w helpu i gadw'n iach ac yn ddiogel. Rydym yn gofyn beth sy’n gweithio’n dda a ddim cystal yn eu bywydau a gyda’n gilydd rydym yn gweld beth allan nhw ei wneud eu hunain a phwy a beth sydd o gwmpas i’w helpu i oresgyn rhwystrau a chyflawni’r hyn sydd o bwys iddyn nhw.
Byddwn yn cynhyrchu cyfres o erthyglau byr i ddweud mwy wrthych am yr hyn rydym yn ei wneud a sut.
Mae’r ffordd rydych yn cael cymorth wedi newid
Mae'r dull o asesu a chymhwyso yn newid, rydym yn dechrau gyda chi.

Gall unrhyw un sy’n credu fod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth gysylltu â ni, beth bynnag yw lefel eu hanghenion neu eu hadnoddau ariannol. Bydd gwybodaeth, cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu. Bydd mwy o wasanaethau ataliol yn cael eu cynnig i gefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a chynorthwyo i osgoi cynnydd yn eu hanghenion.
Byddwn yn cael sgwrs gyda nhw i wybod beth sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac yn y dyfodol i'w cadw'n iach ac yn ddiogel. Yn hytrach na gofyn 'Beth sy’n bod arnoch chi?' byddwn yn gofyn 'Beth sy'n bwysig i chi?' er mwyn canfod beth sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym eisiau cael y sgwrs gywir â nhw er mwyn dod o hyd i’r ateb iawn gyda nhw.
Gyda'n gilydd, byddwn yn trafod yr hyn sy'n llwyddiannus yn eu bywyd yn awr, a'r hyn nad yw cystal. Byddwn yn gofyn beth maent eisiau o'u bywyd a'r hyn maent eisiau ei gyflawni. Byddwn yn nodi pa gryfderau a/neu adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Byddwn yn trafod y bobl o'u cwmpas ac yn eu cymuned. Efallai y byddant yn gallu eu cynorthwyo i oresgyn rhwystrau a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Byddwn yn canolbwyntio ar eich lles ac ansawdd eich bywyd. Byddwn yn trafod y canlynol gyda nhw:
- Eu hamgylchiadau personol
- Eu canlyniadau personol
- Y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau hynny
- Y peryglon i gyflawni canlyniadau personol
- Eu cryfderau a’u gallu personol. Os ydych yn meddwl eich bod angen cymorth neu yr hoffech gael trafodaeth gyda rhywun, gallwch gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl ar 0300 4561000 neu ymweld â’n gwefan
- Neu gallwch gael golwg ar Dewis Cymru y lle am wybodaeth lles yng Nghymru. Gellir dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol i helpu trigolion i barhau i fod yn annibynnol ac yn iach http://www.dewis.cymru/.
- https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/iechyd-a-gofal-cymdeithasol/oedolion-a-phobl-hyn/oedolion.aspx
- Ar gyfer mwyafrif yr unigolion sy'n cysylltu â'r awdurdod lleol oherwydd bod pryderon ynglŷn â'u lles, fel arfer gall ystod o opsiynau yn y gymuned, gwasanaethau ail-alluogi, offer neu gefnogaeth tymor byr ddiwallu eu hanghenion ac atal yr angen ar gyfer gofal a chefnogaeth tymor hwy.