llais y sir

Newyddion

Etholiadau Llywodraeth Leol 2017

Election Voting

Bydd etholiadau Cyngor Sir yn cael ei cynnal ddydd Iau 4ydd o Fai 2017. Dyma rhai dyddiadau allweddol i'w cofio:

  • 5 Ebrill - mae'r rhestr o ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr Etholiadau Cyngor Sir nawr ar ein gwefan ynghyd â ymgeiswyr etholiadau Dinas, Tref a Chymuned
  • 13 Ebrill - bydd angen i chi gofrestru erbyn y dyddiad hwn er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio ar y 4ydd o Fai. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio am fwy o wybodaeth
  • 18 Ebrill - i ffwrdd ar 4ydd o Fai? Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar 18 Ebrill
  • 25 Ebrill - dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr Etholiadau
  • 25 Ebrill - bydd y Rhybudd o Bleidlais yn cael ei gyhoeddi
  • 4 Mai - Diwrnod yr Etholiad. Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm

Unwaith y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10pm, bydd dilysu'r blychau pleidleisio yn cychwyn yng Nghanolfan Hamdden Dinbych. Bydd y cyfrif yna yn dechrau am 9am bore dydd Gwener 5ed o Fai gyda'r rhan fwyaf o'r canlyniadau y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi erbyn hanner dydd.

Felly cofiwch, os nad ydych ar y gofrestr etholiadol ni allwch bleidleisio yn yr etholiadau! Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru erbyn 13 o Ebrill.

Byddwn yn trydar pan fydd y canlyniadau etholiad yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob adran etholiadol, felly cofiwch ddilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

ELlL17 #EtholiadSirDdinbych

Nodwch:  Bydd yr etholiadau cynghorau dinas/tref/cymuned yn cymryd lle yr un diwrnod

Llyfryn Treth y Cyngor yn fyw ar-lein

Mae Eich Arian, canllaw y Cyngor ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig â threth y Cyngor ar  gael ar-lein yn awr.

Yn ddiweddar gosododd y Cyngor y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18. O ran treth y cyngor, mae hyn yn golygu cynnydd o 2.94% ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych (mae hyn yn cynnwys cynnydd o 2.75% yn elfen y cyngor sir, ynghyd â phraesept cynghorau tref/dinas/cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd). 

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynhyrchu llyfryn sy'n egluro’r  ffeithiau a'r ffigyrau y tu ôl i setliad treth y cyngor, sut y caiff arian ei wario a manylion am sut i dalu biliau treth y cyngor.

Mae'n rhoi gwybodaeth am drethi busnes, gostyngiadau i fusnesau bach a pha fath o gymorth sydd ar gael os yw'r preswylwyr yn cael trafferth i dalu treth y cyngor.

Gellir gweld y llyfryn drwy glicio yma.

Council Tax Booklet 2017

Mynediad i Gyfarfodydd y Cyngor

Mae Cynghorwyr wedi bod yn trafod cynnal cyfarfodydd y Cyngor ar wahanol adegau er mwyn hyrwyddo mynediad i'r cyhoedd ac rydym yn awr yn gofyn am eich barn chi.

A yw'r amseriad a/neu leoliad o pryd rydym yn cynnal cyfarfodydd yn rhwystr i chi fynychu?

Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn ateb y cwestiynau canlynol os gwelwch yn dda:

  1. A fyddai'n well gennych gyfarfodydd gyda’r bore, y prynhawn (gan ddechrau dim hwyrach na 4pm) neu gyda'r nos (gan ddechrau ar ôl 5pm)?
  2. Ydy eich dewis yn berthnasol i (a) holl bwyllgorau neu (b) pwyllgorau penodol yn unig - os yw'n bosibl, nodwch pa rai?
  3. Os mai dim ond un pwyllgor oedd yn cwrdd am 4pm pa bwyllgor y byddech am i hynny fod?
  4. A fyddai'n well gennych weld amseriad cyfarfodydd yn cylchdroi? 
  5. Os ydych, a hoffech amseriadau i gylchdroi ar gyfer (a) holl bwyllgorau neu (b) ar gyfer rhai pwyllgorau yn unig - os yw'n bosibl, nodwch pa bwyllgor (au)?
  6. A oes adegau penodol a fyddai'n achosi anhawster i chi fod yn bresennol? 
  7. Os ydych wedi nodi 'byddai', nodwch pa amseroedd fuasai’n anodd.
  8. A oes gennych leoliad(au) a ffefrir ar gyfer mannau cyfarfod?
  9. Os ydych, nodwch y lleoliad (au) a ffafrir.

Gellir cael manylion am y cyfarfodydd cyhoeddus ar ein gwefan.

Gall ymatebion drwy e-bost yn uniongyrchol at democratic@sirddinbych.gov.uk

Diolch am gymryd rhan.

 

Agor pennod newydd yn hanes Llyfrgell a Siop Un Alwad

Mae Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan wedi cyrraedd carreg filltir arbennig yn ei hanes gydag agoriad swyddogol yn dilyn adnewyddiad sylweddol, gan nodi dechrau pennod newydd sbon.

Mae’r cyfleusterau newydd yn darparu hwb cymunedol, gan gynnig pwynt mynediad sengl i nifer o wasanaethau’r Cyngor a lle i’r gymuned ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.

Yn yr adeilad sydd wedi ei adnewyddu mae ystafell gyfrifiadurol newydd y gall pobl wneud cais amdani neu i hysbysu gwasanaethau'r cyngor ar-lein, ciosg arian, cyfleuster i bobl ddychwelyd llyfrau, ystafelloedd cyfarfod newydd gyda chyfleusterau TG modern ac ystafell ymgynghori preifat ar gyfer trafodaethau un i un.

Mae ardal y plant wedi ei foderneiddio’n llwyr ac yn ychwanegol at hyn bydd ardal newydd i bobl ifanc/rhai yn eu harddegau.  Bydd yr adeilad hefyd yn darparu ardal gymunedol ar gyfer arddangosfeydd, toiledau cwsmer newydd a wi-fi. Gall prosiectau partner ac asiantaethau fel Cyngor ar Bopeth a Heddlu’r Gogledd gynnal cymorthfeydd yma hefyd.

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Marchnata: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyfleusterau newydd sbon yn Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu cydweithrediad a’u hamynedd yn ystod y gwaith adnewyddu ac ail-leoli’r cyfleusterau dros dro.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod gwerth llyfrgelloedd a siopau un alwad i’r gymuned a dyma pam rydym yn parhau gyda rhaglen o fuddsoddiad ar draws y sir ac yn ymateb i anghenion y gymuned.

“Mae’r hyn rydym wedi ei greu yn gyfleuster modern lle gall pobl ddod i gysylltiad â llawer mwy na llyfrau yn unig. Gall cwsmeriaid ddod i gysylltiad ag amrediad eang o wasanaethau'r cyngor mewn un lleoliad, cyflawni gweithrediadau a hefyd defnyddio’r cyfleusterau fel hwb cymunedol, lle ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol. 

Rhuddlan Library - No Councillors

 

 

Safleoedd treftadaeth gwobrwyol yn paratoi ar gyfer y tymor gwyliau!

Mae tri o atyniadau treftadaeth poblogaidd Sir Ddinbych wedi agor eu drysau ar gyfer tymor gwyliau 2017!

Mae Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre yn Rhuthun a Phlas Newydd yn Llangollen ar agor i’r cyhoedd ers 1 Ebrill ac mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous i’r teulu oll wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf.

Mae'n newyddion gwych bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi ennill Gwobr Trysor Cudd Croeso Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, ac mae Carchar Rhuthun a Phlas Newydd yn amlwg wedi plesio defnyddwyr TripAdvisor gan eu bod wedi ennill 'Tystysgrif Rhagoriaeth', yn dilyn llu o adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn 2016.

Hoffai Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ddiolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys disgyblion Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl, sydd wedi helpu i drin y gerddi yn Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd dros fisoedd y gaeaf. Mae eu gwaith a’u hymroddiad wedi bod yn werthfawr iawn.

Bydd digwyddiad cyntaf y flwyddyn yn digwydd ym Mhlas Newydd ddydd Sadwrn 18 Mawrth. Mae taith gerdded 'taith y briallu' o amgylch y gerddi gyda’r garddwr cyn i'r tymor ddechrau yn costio £3 ac fe gewch friallen i fynd adref gyda chi.

Bydd Nantclwyd y Dre yn cynnal ei ddigwyddiad cyntaf, sef ‘Helfa Drychfilod’ i’r teulu oll ddydd Llun 8 Mai.

Mae Carchar Rhuthun yn cynnal 'Ar Gamera’ ddydd Iau 1 Mehefin lle bydd cyfle i ymwelwyr greu eu poster ‘YN EISIAU' eu hunain!  Yn y dyddiau cyn agor ym mis Ebrill ac i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru, mae’r carchar yn rhannu hanes rhai o'r gymeriadau mwyaf lliwgar trwy flog ar-lein ar https://streaoncarcharrhuthun.wordpress.com.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y lleoliadau a'r digwyddiadau sydd i ddod ar:

www.nantclwydydre.co.uk

www.plasnewyddllangollen.co.uk

www.carcharrhuthun.co.uk

Collage Attractions

Grwpiau Cymunedol yn Cael Hwb Ariannol

Mae cyfanswm o 19 grŵp cymunedol wedi cael budd o hwb ariannol diolch i fenter gan Gyngor Sir Ddinbych a Chwaraeon Cymru trwy Gronfa Cist Gymunedol Sir Ddinbych.

Dyfarnwyd cyfanswm o £23,761 o grantiau yng nghyfarfod diwethaf y panel i gefnogi addysg hyfforddiant a chostau sefydlu clybiau newydd ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar draws y sir.

Clybiau a grwpiau wnaeth dderbyn grant:

  • Clwb Pêl-Droed y Rhyl - Ieuenctid                     £1500
  • Clwb Pêl-Droed y Rhyl - Merched                      £1500
  • Ruthin Rovers                                                    £1500
  • Clwb Tennis Prestatyn – Ieuenctid                      £400
  • Clwb Tennis Prestatyn – Merched                     £1500
  • Clwb Pêl-droed Merched Tref Dinbych                £250
  • Clwb Beicio y Rhyl                                               £320
  • Clwb Hoci y Rhyl                                                £1466
  • Dragon Riders BMX                                           £1020
  • Clwb Tennis y Rhyl                                              £540
  • Clwb Criced Llanelwy                                        £1500
  • Absolute Fitness Weightlifting                           £1500
  • Ffilm a Cherddoriaeth Tape                              £1250
  • Clwb Badminton Prestatyn                               £1215
  • Clwb Pêl-droed Henllan                                    £1257
  • Clwb Gymnasteg Rhuthun                               £1500
  • Clwb Gymnasteg Dinbych                                £1500
  • Clwb Criced Prestatyn                                      £1475
  • Gee Martial Arts                                                £1500

Mae yna hyd at £1,500 o grantiau yn y gronfa ar gyfer prosiectau chwaraeon cymunedol ac mae’n agored i unrhyw grŵp sy’n dymuno trefnu gweithgareddau a anelwyd at gael mwy o bobl yn fwy heini, yn amlach.

I glybiau sy’n dymuno cyflwyno cais, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma – http://www.sport.wales/ neu ffoniwch 0300 300 3111 i gofrestru eich clwb.  I glybiau sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd eisiau cyngor, gallant ffonio Aled Williams, Swyddog Cist Gymunedol Sir Ddinbych ar 01824 712716.

 

Eisteddfod Llangollen yn dathlu 70 mlynedd gyda pherfformiadau gan y goreuon

Eisteddfod Ryngwladol yn croesawu sêr y byd i Langollen yr haf hwn!

Eisteddfod Llangollen Collage

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu 70 mlynedd eleni ac yn dychwelyd ar ddydd Llun, 3 Gorffennaf gyda pherfformiadau gan oreuon y byd, gan gynnwys amrywiaeth eang o artistiaid a thalent gerddorol.

Gyda pherfformiadau unigol a grŵp a chystadlaethau bob dydd yn ystod cyfnod yr Eisteddfod Ryngwladol, yn ogystal â’r Orymdaith Ryngwladol flynyddol o Genedlaethau, ddydd Gwener 7 Gorffennaf gyda’r holl gystadleuwyr yn gorymdeithio, canu a dawnsio trwy dref Llangollen, mae yna rywbeth i’r teulu cyfan.

Mae pob diwrnod yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn unigryw ac yn wahanol i unrhyw ddigwyddiad cerddorol arall, gan roi’r cyfle i westeion deilwra eu profiad personol gan greu gŵyl i'w chofio.

Ers dechrau Eisteddfod Llangollen, mae pobl ifanc wedi cyflwyno neges heddwch ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ac mae’r traddodiad hwn yn parhau’n rhan annatod o’r ŵyl. Mae'n cael ei gynnal ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant – ar ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf – gan gadarnhau gwir ystyr yr Eisteddfod; undod a dathlu byd-eang.

Eleni, bydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant yn cael ei gynnal gan Gyflwynydd CBBC, Storm Huntley, gyda'r ysgol leol Ysgol y Gwernant yn cyflwyno Neges Heddwch teimladwy.

Bydd yna gyngherddau a pherfformiadau o safon ryngwladol yn ystod yr wythnos gyda thalent byd-eang fel y canwr jas Gregory Porter, ffrind yr Eisteddfod, Syr Bryn Terfel a’r Overtones yn ogystal â chyfoeth o grwpiau a pherfformwyr o amgylch y byd.

Mae'r cyfansoddwr sydd wedi ennill Gwobr Grammy, Christopher Tin yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Cymru i arwain Côr Dathlu Llangollen a sefydlwyd yn arbennig mewn perfformiad o gân Tin ‘Calling All Dawns’ sy’n cynnwys perfformiad o’r eiconig “Baba Yetu” - tôn y thema o’r clasurol chwarae cwlt; Civilisation IV.

Wedi’i argymell gan Classic FM a’i gyflwyno gan Andrew Collins, peidiwch â cholli’r perfformiad hwn sy’n cyfuno byd ffantasi chwarae gyda gwychder y soprano Elin Manahan Thomas.

Bydd yna wythnos o berfformiadau clasurol, operatig a jas i ddiweddu yn Llanfest – gŵyl yr Eisteddfod – fydd yn wahanol i unrhyw ddiwrnod arall yn yr Eisteddfod.

Gyda Llanfest yn addewidio diwrnod llawn hwyl yr ŵyl, bydd yr Eisteddfod yn croesawu’r sêr roc Manic Street Preachers fydd yn perfformio eu hunig gig yng Nghymru eleni!

Am y tro cyntaf yn hanes y digwyddiad, bydd y Pafiliwn Rhyngwladol yn agor i gynnig mwy o le sefyll i’r gwylwyr, gan greu awyrgylch mwy ymlaciol fel y gall pawb yn Llanfest fwynhau’r gig hwn gan y Manics.

Gyda chefnogaeth nifer o fandiau poblogaidd a pherfformiadau eraill heb eu cyhoeddi eto, dylai cefnogwyr roc a cherddoriaeth boblogaidd sicrhau eu bod yno.

Mae’r Eisteddfod yn croesawu pobl o bob oed sy’n caru cerddoriaeth ac mae tocynnau teulu ar gael am £24 yn unig, sy’n cynnwys diwrnod cyfan o’ch dewis, ac eithrio Llanfest.

Hefyd, fel pobl leol Llangollen, mae yna gyfle i gynnig llety i un o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod, gan gynnig profiad o’r croeso cynnes sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad blynyddol hwn i’n gwesteion.

Mae yna gymaint o fudd i deuluoedd sy’n cynnig llety gan gynnwys £15 y pen fesul noson a thocyn diwrnod am ddim i deulu weld eu gwesteion yn perfformio'n fyw yn yr Eisteddfod.

I wybod sut i gyfrannu at Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen neu i brynu tocynnau ar gyfer pob cyngerdd, gan gynnwys Llanfest, ewch i: http://eisteddfod-ryngwladol.co.uk

Moderneiddio Gofal Cymdeithasol i Oedolion: Egwyddorion y Ddeddf newydd

Ym mis Ebrill 2016, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym gan ddisodli sawl cyfraith flaenorol. Mae'n newid sut y mae cynghorau a gwasanaethau gofal yn gweithio. Mae'n awr yn rhoi cyfrifoldeb ar y cyd arnoch chi a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu'r canlyniadau sy'n bwysig i chi.

Mae pobl wrth galon y Ddeddf newydd.   Mae’n rhoi cyfle cyfartal iddyn nhw leisio barn ar y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Nawr, gall unrhyw un sy’n credu bod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth (neu y bydd ganddynt) gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl am wybodaeth, cyngor a chymorth. Gellir cynnig cefnogaeth yn gynt na'r arfer i helpu i osgoi mwy o angen a chadw pobl yn hapus, yn ddiogel ac yn iach.

Bydd y sgwrs yn wahanol. O’r blaen roeddem yn arfer canolbwyntio ar beth oedd yn bod ac yn ceisio ei ddatrys.   Nawr rydym yn dechrau trwy ofyn i bobl sut fywyd maent yn dymuno ei gael.   Rydym yn gofyn beth sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac yn y dyfodol i'w helpu i gadw'n iach ac yn ddiogel.  Rydym yn gofyn beth sy’n gweithio’n dda a ddim cystal yn eu bywydau a gyda’n gilydd rydym yn gweld beth allan nhw ei wneud eu hunain a phwy a beth sydd o gwmpas i’w helpu i oresgyn rhwystrau a chyflawni’r hyn sydd o bwys iddyn nhw.  

Byddwn yn cynhyrchu cyfres o erthyglau byr i ddweud mwy wrthych am yr hyn rydym yn ei wneud a sut.

Mae’r ffordd rydych yn cael cymorth wedi newid

Mae'r dull o asesu a chymhwyso yn newid, rydym yn dechrau gyda chi.

 Moderneiddio Gofal

Gall unrhyw un sy’n credu fod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth gysylltu â ni, beth bynnag yw lefel eu hanghenion neu eu hadnoddau ariannol. Bydd gwybodaeth, cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu. Bydd mwy o wasanaethau ataliol yn cael eu cynnig i gefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a chynorthwyo i osgoi cynnydd yn eu hanghenion.

Byddwn yn cael sgwrs gyda nhw i wybod beth sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac yn y dyfodol i'w cadw'n iach ac yn ddiogel.  Yn hytrach na gofyn 'Beth sy’n bod arnoch chi?' byddwn yn gofyn 'Beth sy'n bwysig i chi?' er mwyn canfod beth sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym eisiau cael y sgwrs gywir â nhw er mwyn dod o hyd i’r ateb iawn gyda nhw. 

Gyda'n gilydd, byddwn yn trafod yr hyn sy'n llwyddiannus yn eu bywyd yn awr, a'r hyn nad yw cystal. Byddwn yn gofyn beth maent eisiau o'u bywyd a'r hyn maent eisiau ei gyflawni. Byddwn yn nodi pa gryfderau a/neu adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Byddwn yn trafod y bobl o'u cwmpas ac yn eu cymuned. Efallai y byddant yn gallu eu cynorthwyo i oresgyn rhwystrau a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Byddwn yn canolbwyntio ar eich lles ac ansawdd eich bywyd. Byddwn yn trafod y canlynol gyda nhw:

  • Eu hamgylchiadau personol
  • Eu canlyniadau personol
  • Y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau hynny
  • Y peryglon i gyflawni canlyniadau personol
  • Eu cryfderau a’u gallu personol. Os ydych yn meddwl eich bod angen cymorth neu yr hoffech gael trafodaeth gyda rhywun, gallwch gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl ar 0300 4561000 neu ymweld â’n gwefan   
  • Neu gallwch gael golwg ar Dewis Cymru y lle am wybodaeth lles yng Nghymru. Gellir dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol i helpu trigolion i barhau i fod yn annibynnol ac yn iach http://www.dewis.cymru/.
  • https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/iechyd-a-gofal-cymdeithasol/oedolion-a-phobl-hyn/oedolion.aspx
  • Ar gyfer mwyafrif yr unigolion sy'n cysylltu â'r awdurdod lleol oherwydd bod pryderon ynglŷn â'u lles, fel arfer gall ystod o opsiynau yn y gymuned, gwasanaethau ail-alluogi, offer neu gefnogaeth tymor byr ddiwallu eu hanghenion ac atal yr angen ar gyfer gofal a chefnogaeth tymor hwy.

Dewis Cymru

Dewis

Diweddariad Sgwrs y Sir

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gyfle cyffrous i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Mae’n gofyn i ni feddwl mwy am ganlyniadau tymor hir ein penderfyniadau ac edrych ar atal problemau cyn iddynt ddigwydd.  

Ers cyflwyno’r Ddeddf ar ddechrau 2016, rydym wedi bod yn gweithio i nodi’r blaenoriaethau y mae trigolion Sir Ddinbych yn teimlo sy’n bwysig. Yn ystod yr haf 2016, holodd Cyngor Sir Ddinbych bobl am eu dyheadau hirdymor ar gyfer dyfodol eu cymunedau. Mae hyn, ynghyd ag ystadegau, wedi ein galluogi i ddrafftio rhestr o’r hyn y credwch a oedd yn bwysig.County Conversation

Mae’r adborth a dderbyniwyd nawr wedi cael ei adolygu ac mae ein Cabinet presennol wedi cytuno ar y 6 Blaenoriaeth a ddewiswyd gan drigolion Sir Ddinbych. Byddwn yn cynnig bod ein Cyngor newydd yn mabwysiadu’r rhain yn ffurfiol fel ein blaenoriaethau corfforaethol ym mis Hydref 2017, yn dilyn cyfnod arall o ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf.

Mae ein Datganiad Lles draft hefyd yn egluro sut y dylai’r blaenoriaethau hyn wella lles ein cymunedau.

Mae’r canlynol yn set o amcanion lles y cytunwyd arnynt a threfnwyd fel â ganlyn yn ein ymgynghoriad diweddaraf, gyda mwy na 1500 o ddinasyddion wedi ymateb:  

  1. Mae Sir Ddinbych yn fan lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo a lle bydd ganddynt y sgiliau i wneud hynny.
  2. Mae cymunedau wedi eu cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein neu drwy gysylltiadau trafnidiaeth da.
  3. Mae yna amgylchedd deniadol a warchodir sy'n cefnogi lles cymunedau a ffyniant economaidd.
  4. Gall pobl fyw bywydau annibynnol a chyflawn mewn cymunedau cryf, gofalgar, diogel a gwydn.
  5. Mae’r Cyngor a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn heriau; gan ddyfeisio a darparu datrysiadau ar y cyd.
  6. Mae yna ddigwyddiadau sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan greu cymunedau gweithgar a helpu busnesau i ffynnu.

Byddwn nawr yn mynd ati i amlinellu sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hyn, ac yn cyflwyno hyn i’n Cyngor newydd (yn dilyn etholiadau mis Mai) ym mis Hydref ar gyfer cymeradwyaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n Cynllunio Corfforaethol, dilynwch y ddolen hon.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid