Talebau gwerth £75 i ‘droi’n wyrdd!’
Ydych chi’n rhiant newydd neu’n adnabod unrhyw un sydd newydd gael babi?
Os felly, mae Cyngor Sir Ddinbych eisiau lledaenu’r neges am ei gynnig i annog rhieni i ddefnyddio clytiau go iawn yn lle rhai y gellir eu taflu.
Gall rhieni babanod hyd at 18 mis oed gael talebau hyd at £75 mewn gwerth tuag at brynu clytiau go iawn neu wasanaeth golchi clytiau go iawn.
Dywedodd Alan Roberts, Uwch Reolwr Gwastraff: “Rydym yn chwilio am ffyrdd i geisio lleihau faint o wastraff rydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi er mwyn arbed arian a helpu’r amgylchedd.
Nid oes modd ailgylchu nac ailddefnyddio clytiau tafladwy ac mae’n rhaid iddynt fynd i safleoedd tirlenwi lle maent angen tua 300 o flynyddoedd i bydru. Mae tua 200 miliwn o glytiau yn cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn, felly rydym yn cynnig y talebau hyn er mwyn ceisio lleihau’r nifer yna.”
"Mae yna fanteision i ddefnyddio clytiau go iawn, a tydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli eu bod wedi datblygu llawer ers y dyddiau ofnadwy o ddefnyddio clytiau terri a phinnau cau."
A Wyddoch chi ...?
Erbyn hyn mae dewis eang o glytiau cotwm, huganau y gellir eu golchi a leininau y gellir eu fflysio ar gael i rieni, o fabanod cynamserol i blant gorfywiog. Gall rhieni arbed cannoedd o bunnoedd drwy newid.
Manteision eraill clytiau go iawn ydi:
- Nid ydynt yn cynnwys gel cemegol felly nid ydynt yn sychu croen babanod
- Yn annog babanod i ddefnyddio’r poti’n gynt – drwy wneud y cysylltiad rhwng plentyn yn gwagu eu pledren a theimlo’n wlyb.
- Mae’n costio tua £1 yr wythnos i'w golchi adref – llai drwy ddefnyddio peiriant golchi effeithlon ac
Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, bod gennych chi blentyn hyd at 18 mis oed ac eisio rhoi cynnig ar glytiau go iawn, gallwch wneud cais am y talebau yma.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am glytiau go iawn ar:
http://www.realnappies-wales.org.uk/real-nappies/who-we-are?diablo.lang=cym
Gwirfoddoli yn bwysig i Sir Ddinbych - Lansio gwefan newydd
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein gwefan newydd er mwyn gwirfoddoli wedi cael ei lansio.
Drwy lansio'r wefan newydd, bydd modd i’r Cyngor gynyddu’r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i’r awdurdod lleol. Mae ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli wedi cael eu hadnabod ar draws yr awdurdod a bydd y rolau’n addas ar gyfer pob math o sgiliau a diddordebau. Gall unrhyw un wirfoddoli, beth bynnag yw eu hoedran, ac mae croeso i bobl sydd â phob diddordeb ac o bob cefndir.
Dywedodd David Davies, Rheolwr Ymrwymiad Cymunedol: “Ers llawer o flynyddoedd mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ymwneud yn llwyddiannus ar draws ystod eang o wasanaethau'r Cyngor ac wedi rhoi miloedd o oriau o'u hamser eu hunain. Mae gwirfoddolwyr wedi cefnogi gwaith gwasanaethau cefn gwlad, y celfyddydau, gwasanaethau hamdden, canolfannau ieuenctid a gwasanaethau tai, i enwi dim ond rhai.
“Mae gwirfoddolwyr wedi darparu gwerth ychwanegol a chefnogi gwaith staff cyflogedig i alluogi'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy effeithiol.
“Mae gwirfoddolwyr hefyd yn cael boddhad cadarnhaol drwy helpu pobl eraill a datblygu sgiliau newydd a gwneud cyfraniad at fywyd eu cymuned.”
Dyma oedd gan rhai o’n gwirfoddolwyr i’w ddweud:
“Mae gwirfoddoli yn brofiad buddiol”, meddai Sam Mackie, sydd yn fyfyriwr lleoliad gwaith yn Ysgol Uwchradd Dinbych wrthym, “Mae cael y cyfle i fod yn hyfforddwr cynorthwyol mewn clybiau 5x60 wedi helpu fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu gyda'r myfyrwyr yn yr ysgol ... roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wella.”
Dywedodd Gareth Evans, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol a roddodd y cyfle i Sam, “Dros y 18 mis diwethaf, rydw i wedi cael nifer o arweinwyr chwaraeon gwirfoddol sydd wedi fy helpu i gyflwyno amserlenni 5x60 llawn amser rhwng fy nwy swydd rhan-amser yn yr ysgol uwchradd. Nid yn unig hynny, mae un gwirfoddolwr wedi bod yn ddyfarnwr mewn cynghrair bêl-droed gymunedol leol am 5 mlynedd. Gyda’r gefnogaeth a’r arweiniad cywir, gall gwirfoddolwyr fod yn amhrisiadwy i’r gwaith rydym yn ei wneud – hebddyn nhw a’u cefnogaeth ar gyfer prosiectau, ychydig iawn sydd yn gynaliadwy yn yr hir dymor."
Dywedodd Hollie Jackson sydd yn Reolwr Gweithgareddau i Bobl Ifanc: “Dwi’n meddwl bod gwirfoddolwyr yn llawn cymhelliant ac yn hyblyg. Mae buddsoddi ynddynt yn sicrhau y gallwn weithio gyda mwy o bobl ifanc, mae’n cymell ein gweithwyr ein hunain, ac o bosib yn ein galluogi ni i ddatblygu a chynyddu ein gweithlu.”
Dywedodd Ken Robinson sy’n gwirfoddoli’n rheolaidd ar gyfer tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol: “Ar ôl i mi ymddeol 14 mlynedd yn ôl roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy wirfoddoli ym Mharc Gwledig Loggerheads. Dwi’n cael mwynhau’r awyr agored gyda phobl o’r un meddylfryd tra'n dysgu sgiliau newydd.”
Gall ymwelwyr i'r wefan cael mynediad i lu o gyfleoedd gan gynnwys coedlannu ym Mharc Gwledig Loggerheads a helpu i gyfrannu tuag at gyflawni ein rhaglen Sportzone. Rhaid i bob gwirfoddolwr gofrestru ar y wefan newydd drwy ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/gwirfoddoli
[Yn y llun gwelir Ken Robinson yn helpu tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol]