llais y sir

Talebau gwerth £75 i ‘droi’n wyrdd!’

Ydych chi’n rhiant newydd neu’n adnabod unrhyw un sydd newydd gael babi?

Os felly, mae Cyngor Sir Ddinbych eisiau lledaenu’r neges am ei gynnig i annog rhieni i ddefnyddio clytiau go iawn yn lle rhai y gellir eu taflu.

Gall rhieni babanod hyd at 18 mis oed gael talebau hyd at £75 mewn gwerth tuag at brynu clytiau go iawn neu wasanaeth golchi clytiau go iawn.

Dywedodd Alan Roberts, Uwch Reolwr Gwastraff: “Rydym yn chwilio am ffyrdd i geisio lleihau faint o wastraff rydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi er mwyn arbed arian a helpu’r amgylchedd.

Nid oes modd ailgylchu nac ailddefnyddio clytiau tafladwy ac mae’n rhaid iddynt fynd i safleoedd tirlenwi lle maent angen tua 300 o flynyddoedd i bydru. Mae tua 200 miliwn o glytiau yn cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn, felly rydym yn cynnig y talebau hyn er mwyn ceisio lleihau’r nifer yna.”

"Mae yna fanteision i ddefnyddio clytiau go iawn, a tydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli eu bod wedi datblygu llawer ers y dyddiau ofnadwy o ddefnyddio clytiau terri a phinnau cau."

A Wyddoch chi ...?

Erbyn hyn mae dewis eang o glytiau cotwm, huganau y gellir eu golchi a leininau y gellir eu fflysio ar gael i rieni, o fabanod cynamserol i blant gorfywiog. Gall rhieni arbed cannoedd o bunnoedd drwy newid.

Manteision eraill clytiau go iawn ydi:

  • Nid ydynt yn cynnwys gel cemegol felly nid ydynt yn sychu croen babanod
  • Yn annog babanod i ddefnyddio’r poti’n gynt – drwy wneud y cysylltiad rhwng plentyn yn gwagu eu pledren a theimlo’n wlyb.
  • Mae’n costio tua £1 yr wythnos i'w golchi adref – llai drwy ddefnyddio peiriant golchi effeithlon ac

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, bod gennych chi blentyn hyd at 18 mis oed ac eisio rhoi cynnig ar glytiau go iawn, gallwch wneud cais am y talebau yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am glytiau go iawn ar:

http://www.realnappies-wales.org.uk/real-nappies/who-we-are?diablo.lang=cym

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid