Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Y gyflwynwraig Clare Balding yn crwydro yn Sir Ddinbych
Yn ddiweddar bu i’r ddarlledwraig a newyddiadurwraig, Clare Balding gydweithio ag archeolegydd Cyngor Sir Ddinbych i fynd ar fryniau’r sir fel rhan o’i chyfres Radio 4, 'Ramblings’.
Ymunodd y gyflwynwraig radio a theledu â Fiona Gale, archaeolegydd y sir a’i chydweithwyr, David Shiel, uwch swyddog cefn gwlad a Helen Mrowiec, uwch swyddog hamdden Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, i ganfod mwy am fryngaerau Oes Yr Haearn ar hyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Dechreuasant eu taith drwy gerdded I Fryngaer Moel Arthur ac at Lwybr Clawdd Offa cyn mynd am Fryngaer Penycloddiau gan drafod gwaith cloddio diweddar a’r olion a adawyd ar y tirlun gan genedlaethau o’r gorffennol.
Dywedodd Fiona: “Roedd Clare yn edmygu’r ardal yn fawr a'r golygfeydd hyfryd a welodd ar ben Bryniau Clwyd. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r tirlun ac yn gweld y bryngaerau’n ddiddorol. Pan nad oeddem yn recordio, roeddem yn sgwrsio am bob math o bethau gwahanol, fel y byddech chi wrth fynd am dro gyda rhywun. Roedd hi’n ddynes ddiffuant a neis iawn.”
Dywedodd Fiona mai ei mab a gafodd y syniad o wahodd y rhaglen i ymweld â'r ardal.
Dywedodd: “Cysylltodd â Radio 4 ac awgrymodd iddynt wneud rhaglen ar fryngaerau Ardal o Harddwch Eithriadol. Roeddent yn hoffi’r syniad gan ei fod yn cyd-fynd â’u thema ‘Treftadaeth’, felly dyma nhw'n mynd ymlaen gyda’r syniad! Hefyd, roedd y cynhyrchydd wedi’i fagu yn Llanrhaeadr ac wedi mynd i’r ysgol yn Ninbych!”
Gellir gwrando ar y rhaglen hon drwy dudalen rhaglen Ramblings ar wefan y BBC.
Am fwy o wybodaeth am fryngaerau, rheoli rhostiroedd, hamdden a mynediad o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i: http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/addysg/

Llun – o’r chwith i’r dde, Helen Mrowiec, Clare Balding, Fiona Gale a David Shiel
Ymunwch â ni yn awyr agored Sir Ddinbych!
Mae'r gwanwyn wedi’n cyrraedd, a pha amser gwell i fynd allan a mwynhau’r cefn gwlad prydferth sydd ar garreg ein drws.
Boed a ydyw’n daith gerdded yn y coed gyda'ch canllaw eich hun, neu'r cyfle i roi cynnig ar weithgaredd newydd fel cyfeiriadur neu gerdded Nordig, mae rhaglen ddigwyddiadau Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2017 yn llawn o weithgareddau sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
Os ydych chi awydd mynd i gerdded gyda grŵp cyfeillgar o bobl, mae yna amrywiaeth wych i ddewis ohoni, popeth o hanner milltir i 7 milltir, yn ogystal â theithiau cerdded archeolegol, yn cynnwys ymweliadau â’r castell tomen a beili yn Nhomen y Rhodwydd, Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chloddiadau bryngaer, dan arweiniad arweinydd arbenigol a fydd yn dweud popeth wrthych am y llefydd anhygoel hyn.
Os mai bywyd gwyllt yw eich diddordeb, mae yna ddigwyddiadau i weld gwyfynod, ystlumod, troellwyr, gwenwyn, cael profiad o gôr y bore bach, yn ogystal ag ymweliadau dan arweiniad i weld un o nythfeydd adar mwyaf prin Cymru yng Ngronant, lle mae’r môr-wenoliaid bach yn nythu bob blwyddyn ar ôl gwneud eu taith 4,500 milltir o orllewin Affrica.
Mae yna weithgareddau a digwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar gyfeiriadu, cerdded Nordig, codi wal gerrig sychion, pysgota a bowls.
I’r rhai sy’n mwynhau’r celfyddydau, mae ein perfformiadau theatr awyr agored eleni yn siŵr o’ch plesio, gyda The Tempest gan Shakespeare yn Loggerheads, Around the World in 80 Days ym Mhlas Newydd, Llangollen, ac i blant cynradd, bydd yr Helfa Dinosoriaid Fictoraidd yn dychwelyd mewn lleoliadau ar draws y sir.
I ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru, mae gennym lawer o ddigwyddiadau teuluol a gweithgareddau crefftau wedi’u paratoi, yn cynnwys gwneud barcutiaid draig, corachod ac adenydd tylwyth teg, dweud straeon am fythau a chwedlau lleol, a llwybrau plant ar lawer o’n safleoedd.
Gallwch ddod i wybod mwy am bob un o’r gweithgareddau hyn drwy lawrlwytho copi o’r rhaglen digwyddiadau cefn gwlad o www.cefngwladsirddinbych.org.uk/newyddion-a-digwyddiadau
Neu gallwch gasglu copi o Barc Gwledig Loggerheads, Plas Newydd neu eich llyfrgell leol.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar facebook.
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Troedio Clwyd Walks
Môr-wenoliaid bach
Parc Gwledig Loggerheads
Plas Newydd, Llangollen
Treftadaeth Sir Ddinbych
Ride North Wales
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i ymuno â ni!

James yw Gwirfoddolwr y Flwyddyn!
Mae dyn a oresgynnodd ddamwain difrifol pan roedd yn ei arddegau wedi ei enwi yn Wirfoddolwr y Flwyddyn gan Wobrau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Derbyniodd James Yale a’i weithiwr cefnogi, Mike Worsely wobr am eu gwaith yn glanhau llwybrau, torri cloddiau a thrwsio draeni yn Loggerheads, yn ogystal â nifer o dasgau i sicrhau bod y parc yn edrych ei orau.
Maent wedi bod yn gwirfoddoli yn wythnosol ers dros 12 mis, ac mae tîm y parc wedi’u disgrifio fel dylanwad positif iawn sydd â brwdfrydedd ac egni 'heintus'.
Mae James wedi gorfod goresgyn heriau iechyd difrifol ar ôl iddo gael ei daro gan gar pan yr oedd yn ei arddegau a chafodd anafiadau difrifol.
Dywedodd David Shiel, uwch swyddog cefn gwlad AHNE gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Rydym wrth ein boddau bod James a Mike wedi ennill y wobr newydd gwirfoddolwr y flwyddyn.
“Mae Mike yn cefnogi James yn yr holl waith hwn ac maent wedi dod yn un o’r partneriaethau mawr hynny fel Sturridge a Suarez, Batman a Robin neu efallai mwy o Ant a Dec.
“Yn ddiweddar maent wedi cwblhau taith gerdded noddedig i fyny Moel Famau i godi arian i Ysbyty Alder Hey - a achubodd fywyd James yn dilyn ei ddamwain.
“Gan wybod eu bod yno, yn gefnogol a dibynadwy, yn parhau gyda’r gwaith yn dawel, yn galonogol.
“Maent bob amser yn hapus ac yn gyfeillgar.”
Llandegla yw Cymuned y Flwyddyn
Da iawn i breswylwyr Llandegla sydd wedi cipio’r wobr Cymuned y Flwyddyn yng ngwobrau Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Canmolwyd y pentrefwyr am ddod at ei gilydd i greu dau brosiect llwyddiannus sydd wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned ac wedi helpu i annog ymwelwyr i’r ardal.
Ar ôl i’r siop leol a’r swyddfa'r post gau oherwydd gwaeledd yn 2015, daeth preswylwyr at ei gilydd i sefydlu prosiect caffi a siop bentref Llandegla, gan wneud defnydd o hen adeilad ysgol. Mae’r cyfleuster wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol, cerddwyr ac ymwelwyr.
Yr ail brosiect oedd agor atyniad i ymwelwyr newydd yn Eglwys Sant Tegla sydd ar lwybr y Clawdd Offa.
Roedd pentrefwyr ac aelodau’r eglwys yn awyddus i ganfod ffyrdd o wneud defnydd o adeilad hyfryd ac eisiau cynnig rhywbeth mwy na man i orffwys a llonyddwch i ymwelwyr.
Cynigiwyd y syniad o greu canolfan ymwelwyr sy’n cynnwys hanes yr ardal, man te a choffi a thoiled yr oedd ei angen yn fawr iawn yn y festri. Defnyddiodd yr eglwys ei gyllid ei hun ynghyd â nifer o grantiau llai gan gynnwys un gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae’r ddau brosiect wedi darparu gwasanaeth gwych i’r gymuned leol ac i gerddwyr y Clawdd Offa.
Gwarchod y Gorffennol, Paratoi ar gyfer y Dyfodol
Mae gwaith i ddiogelu un o’r cynefinoedd mwyaf arbennig yn y sir wedi’i gyflawni gan y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gwelliannau wedi’u gwneud i ran o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n rhedeg drwy Gyrn-y-Brain, ardal fawr o weundir grug gwlyb i’r gogledd o Langollen, sy’n Ardal Gadwraeth Arbennig ac o bwysigrwydd byd-eang.
Mae’r safle'n cynnwys tomen gladdu o'r Oes Efydd, sy'n fwy na 4,000 oed. Mae’r gwaith wedi cynnwys dargyfeirio’r llwybr o amgylch y gladdfa, a disodli’r hen drawstiau pren ar y llwybr gyda slabiau cerrig mwy gwydn, i sicrhau bod yr ardal arbennig hon yn cael ei gwarchod a’i diogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Dywedodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn bod y gwaith hwn wedi’i wneud. Mae’r ardal hon yn un o’r safleoedd mwyaf arbennig yn Sir Ddinbych. Mae hanner gweundiroedd gwlyb y byd yn y DU, ac mae’r ardal hon o bwysigrwydd rhyngwladol, felly mae gennym gyfrifoldeb i’w diogelu.
“Bydd y gwaith a wnawn nid yn unig yn helpu i ddiogelu’r gweundir a'r tomen gladdu oes efydd rhag niwed, a'u gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond mae hefyd yn rhoi llwybr gwell a mwy diogel i gerddwyr i'r ardal."

Gwirfoddolwyr yn Cael Cystadleuaeth ‘Wrych’
Dangosodd gwirfoddolwyr o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych eu gallu i gystadlu mewn cystadleuaeth i weld pwy allai osod y gwrych gorau.
Cymerodd dau ddeg chwech o bobl ran yn yr her ar dir ym Modfari a rhyngddynt, gwnaethant osod 77 metr o wrychoedd newydd.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae’n ffordd o ddod â gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar wahanol safleoedd at ei gilydd ar gyfer digwyddiad llawn hwyl wrth gyflawni swydd hanfodol yng nghefn gwlad.
Dywedodd Jim Kilpatrick, warden cefn gwlad: ”Mae gosod gwrychoedd yn hen dechneg sy'n hanfodol er mwyn adfywio ein gwrychoedd ac sy’n cynnig cysgod ar gyfer bywyd gwyllt.
“Mae llawer o bobl bob amser yn bresennol yn y dasg wirfoddoli, ac ar ôl sylwi ar safon gwaith ein gwirfoddolwyr, roeddem ni’n meddwl y byddai’n beth da i ddefnyddio eu helfen gystadleuol!
“Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda gwaith arbennig o dda i’w weld. Baeddodd pawb eu dwylo ac roedd yn ymddangos eu bod wedi ei fwynhau.”
Roedd dewis yr enillwyr yn dasg anodd iawn ond ar y diwedd, aeth y gwobrau i’r gwirfoddolwyr David Jackson a Chris Johnson a Thomas Jones a Matty Williams, sy’n wardeniaid dan hyfforddiant gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am yr ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, codwch gopi o’r rhaglen ddiweddaraf.
Mae nifer o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt, boed chi’n dymuno gwneud rhywfaint o waith gyda’r garddwr ym Mhlas Newydd, Llangollen neu Nantclwyd y Dre yn Rhuthun, yn cynorthwyo gyda gwelliannau mynediad neu’n helpu gyda Nythfa’r Fôr-Wennol Fechan yng Ngronant.
Gallwch gael copi o’r rhaglen drwy ffonio 01824 712757 neu yn:
www.denbighshirecountrysideservice.co.uk/cymraeg
denbighshirevolunteers.co.uk
www.clwydianrangeanddeevalley.org.uk
Datgloi'r gorffennol yng Nghastell Dinas Brân
Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn canfod a oes unrhyw adfeilion tan ddaear ar safle un o gestyll eiconig y 13eg Ganrif.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal arolwg geo-ffisegol yng Nghastell Dinas Brân, Llangollen i weld a oes unrhyw strwythurau o dan y ddaear. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal ar ôl derbyn arian gan CADW a’r Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll.
Mae arolwg geo-ffisegol yn galluogi arbenigwyr i ddefnyddio technegau fydd yn rhoi darun i’r Cyngor o beth sydd oddi fewn i’r castell a’r bryngaer heb orfod amharu ar dir y castell, sydd yn heneb warchodedig ac yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mi gychwynodd y gwaith yr wythnos hon gan gwni Tigergeo ac mi fydd y canlyniadau yn wybyddus o fewn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Fiona Gale, Archeolegydd Sirol Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ”Mae hwn yn gyfle gwych i ni geisio darganfod mwy am y safle arbennig hwn sydd wedi bod yn lle pwysig yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ers miloedd o flynyddoedd.
“Bydd yn ddiddorol gwybod os oes olion o weddillion y fryngaer 2500 oed yn parhau, neu a wnaeth y castell eu dinistrio i gyd? Hefyd rydym yn meddwl fod mwy o adeiladu o fewn waliau’r Castell, a fyddwn ni’n gallu gweld eu holion?
“Gobeithio y bydd y gwaith yn ein galluogi ni i wybod mwy am y castell, fydd o gymorth i ni i warchod y safle i’r dyfodol ac yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cryfhau profiad ymwelwyr.
Meddai Jeremy Cunnington, Cadeirydd Ymddiriedolwyr ‘Castle Studies Trust', "Mae 'Castle Studies Trust' yn falch iawn o gyd-gyllido'r arolwg hwn er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o Ddinas Brân, castell Cymreig eiconig a hanfodol bwysig."
Adran Busnes
Mis Mawrth Menter
Rhaglen fwyaf erioed Sir Ddinbych o ddigwyddiadau busnes yn cael ei galw’n llwyddiant.
Mae mwy na 400 o bobl wedi cymryd rhan mewn 17 gweithdy, cynhadledd, a sesiynau rhwydweithio ar draws y sir, fel rhan o raglen Mis Mawrth Menter Cyngor Sir Ddinbych.
Roedd digwyddiadau’n cynnwys gweithdai hyfforddi o amgylch e-fasnach, cyfryngau cymdeithasol a marchnata, cynhadledd ar dwf a chyfleoedd buddsoddi yn Sir Ddinbych, sesiynau ‘holi’r arbenigwr’ a chinio rhwydweithio a gynhaliwyd ar y cyd â'r Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Dyfeisiwyd y rhaglen gan dîm Datblygiad Busnes ac Economaidd y Cyngor, yn dilyn adborth o arolwg busnes blynyddol Sir Ddinbych, ac mae'n rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu'r economi leol drwy ei Raglen Uchelgais Cymunedol ac Economaidd, sy'n bwriadu cefnogi busnesau preifat iach, creu swyddi sy'n talu fwy, a chysylltu'r rhain â phreswylwyr i gynyddu incymau'r aelwyd.
Dywedodd Mike Horrocks, rheolwr rhaglen a thîm y Cyngor ar gyfer Datblygiad Busnes ac Economaidd: “Mae Mis Mawrth Menter eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Rydym wedi gweld y nifer fwyaf erioed yn mynychu ar gyfer ein rhaglen fwyaf erioed, gyda phob lle wedi’i archebu ar gyfer sawl digwyddiad.
“Y peth pwysicaf yw ein bod wedi cael adborth grêt gan fusnesau a ddywedodd wrthym fod y sesiynau wedi bod o fudd go iawn iddyn nhw.
“Hoffwn ddiolch i bob busnes a gymerodd amser o’u hamserlenni prysur i fuddsoddi mewn digwyddiadau datblygu sgiliau a rhwydweithio, sydd wedi helpu i wneud Mis Mawrth Menter yn llwyddiant. Y targed go iawn i ni yw gweld llwyddiant y rhaglen yn troi’n llwyddiant busnes lleol, ac mae rhai arwyddion cryf bod hyn yn digwydd.
“Nawr mae yna fwy o fusnesau newydd nag erioed yn sefydlu bob blwyddyn yn Sir Ddinbych, o 280 y flwyddyn yn 2012 i 350 yn 2015, mae gennym y cyfraddau gorau o ran goroesi am flwyddyn, a’r cynnydd canraddol mwyaf o drosiant ariannol busnes nag unrhyw le arall yng Nghymru.
“I ychwanegu at hynny, mae cyflogaeth yn Sir Ddinbych wedi cyrraedd 40,000, gyda mwy na 1,500 o bobl yn gweithio nawr na phan wnaethom ddechrau’r rhaglen yn 2013.
“Fel rhan o’n ffocws o gael y budd mwyaf i fusnesau, byddwn yn cysylltu eto â’r rhai a gofrestrodd ar gyfer Mis Mawrth Menter er mwyn gweld sut y gwnaethant ddefnyddio’r cysylltiadau, y sgiliau a’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau hyn yn effeithiol yn eu busnes – dyma yw ei bwrpas."
Mae gweithdai ychwanegol wedi’u trefnu ar gyfer 25 Ebrill ac 16, 17 a 23 Mai, a bydd yn cynnwys sesiynau ar farchnata, cyfryngau cymdeithasol ac adeiladu eich busnes ar-lein.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.sirddinbych.gov.uk/busnes
Gwesty yn cynnig pecyn priodas Cymreig diolch i gymorth gan y Cyngor
Mae’r briodferch a’r priodfab nawr yn gallu cael cyfle i ddweud ‘ydw’ yn Gymraeg ar eu diwrnod arbennig.
Mae Gwesty a Sba yr Oriel House, Llanelwy nawr yn cynnig pecyn priodas Cymreig i helpu cyplau i ddathlu yn yr iaith a ffefrir ganddynt.
Cafodd y gwesty, sy’n cynnal rhwng 65 a 100 o briodasau’r flwyddyn, gefnogaeth ar ddatblygu ei gynnig Cymraeg trwy brosiect am ddim Cymraeg mewn Busnes Cyngor Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad â chwmni Iaith Cyf.
Mae pecyn y gwesty’n cynnwys telynor, disgo a bwydlen Cymraeg yn ogystal ag arddangosfa canol bwrdd llechen siâp calon a meistr seremonïau sy’n siarad Cymraeg.
Mae gan Michelle Seddon, cyfarwyddwr priodasau yn y gwesty dros 30 mlynedd o brofiad lletygarwch.
Dywedodd: “Gyda’n pecyn Cariad newydd, mae’r fwydlen yn seiliedig ar seigiau Cymreig, byddwn yn cynnig meistr seremoni Cymraeg ac mae gennym nifer o staff gwledda sy’n siarad Cymraeg.
“Mae’n rhoi’r cyfle i gyplau ddod yma â chael profiad cwbl Gymreig. Rydym yn falch iawn o gynnig y profiad hwnnw. Mae’n ymwneud â chadw diwylliant Cymru fel rhan o’r seremoni.
“Mae gan lawer o deuluoedd werthoedd traddodiadol sy’n gallu mynd ar goll mewn cymdeithas fodern”
Mae’r pecyn eisoes yn profi’n boblogaidd gydag archebion wedi eu derbyn trwy’r flwyddyn hon ac i mewn i 2018 ac mae’n cyfannu seremonïau sifil dwyieithog sydd eisoes ar gael yn y gwesty.
Mae’r Oriel yn dyddio’n ôl i 1780, yn gartref gwledig preifat i ddechrau a phrynodd y perchnogion presennol sef y teulu Seddon y gwesty yn 1998.
Roedd Cymraeg mewn Busnes yn brosiect peilot a gynhaliwyd ym Mhrestatyn, Llanelwy a Llangollen fel rhan o waith y Cyngor i ddatblygu’r economi leol trwy Raglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol.
Roedd cefnogaeth am ddim yn cynnwys gweithdai i ddarparu sgiliau ac anogaeth i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, yn ogystal â chymorth ymarferol fel cyfieithu bwydlenni.
Dywedodd Mike Horrocks, Rheolwr Rhaglenni a Thîm Datblygiad Economaidd a Busnes: “Mae’n wych gweld yr Oriel yn croesawu’r iaith Gymraeg fel hyn ac mae’n rhoi’r cyfle i gyplau ddathlu eu diwrnod arbennig yn Gymraeg.
“Mae Cymraeg mewn Busnes yn adeiladu ar y cryfderau economaidd a ddarperir gan hunaniaeth a diwylliant Cymreig cryf Sir Ddinbych i annog y defnydd o'r Gymraeg.
“Mae tystiolaeth yn dangos fod Cymraeg yn gallu cryfhau delwedd brand cwmni ac atgyfnerthu tarddiad lleol y nwyddau”
Mae Siwan Tomos yn gyfarwyddwr gwasanaethau addysg a hyfforddiant yr asiantaeth cynllunio a pholisi iaith, Iaith Cyf.
Dywedodd: “Mae ymchwil yn dangos y gall defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith gynyddu apêl tuag at fusnesau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a thwristiaid – y nod cyffredinol yw gwella busnes i fusnesau a chael effaith gadarnhaol ar eu llinell isaf.
“Mae’r Oriel wedi bod yn awyddus iawn i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg ac maent wedi bod yn llawn o syniadau arloesol.”
Ychwanegodd Mrs Seddon: “Roeddem yn meddwl bod y cynllun yn syniad gwych. Mae diwylliant Cymru yn cynnwys llawer o hanes ac rydym angen ei ddiogelu. Mae’r rhaglen wedi ein helpu i wella’r cynnig Cymraeg yn y gwesty.”
Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i dorri lawr ar fân reolau
Mae masnachwyr yn cefnogi cynllun i dorri lawr ar fân reolau ar gyfer busnesau Sir Ddinbych - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae prosiect Gwell Busnes i Bawb (GBiB) y Cyngor Sir yn dod â busnesau ac adran Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio y Cyngor ynghyd i wella sut mae rheolau’n cael eu darparu i arbed arian ac amser i fusnesau.
Mae’r Cyngor bellach yn cynnig gwell cydlyniant rhwng gwasanaethau fel bod gwasanaeth cyfannol yn cael ei ddarparu i fusnesau yn ystod ymweliadau.
Mae GBiB yn cynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, trwyddedu a chynllunio, ac mae’n darparu un pwynt mynediad syml i fusnesau i gael cyngor am ddim am reoliadau busnes.
Mae GBiB hefyd yn helpu busnesau i gael arian grant ac yn eu cyfeirio at gefnogaeth arall.
Dywedodd Emlyn Jones, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd: “Mae Gwell Busnes i Bawb yn golygu cael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio i dwf - a chodi cystadleurwydd economaidd Sir Ddinbych.
"Mae gwasanaethau rheoleiddio’n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi busnesau. Gall y gefnogaeth yma ddarparu mantais economaidd i fusnesau, yr hyder i dyfu a ffynnu a’r sicrwydd eu bod yn bodloni gofynion statudol.
“Rydym yn cefnogi cannoedd o fusnesau bob blwyddyn a drwy wella’r gwasanaeth, gallwn ostwng nifer yr ymweliadau gan reoleiddwyr a'r amser maen nhw'n dreulio ar reoliadau.
“Rydym ni’n credu bod hon yn ffordd effeithiol o gefnogi busnesau, ac ynghyd â nifer o brosiectau dan ein Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, mae’n helpu busnesau Sir Ddinbych drwy ddatblygu’r economi.”
Dan y cynllun, mae swyddogion y Cyngor wedi cael hyfforddiant i wella eu ymwybyddiaeth o'r pwysau y mae busnesau yn eu wynebu.
Dywedodd Tom Moore o Fecws Henllan, ar Stâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych bod cymorth Sir Ddinbych yn amhrisiadwy wrth adeiladu estyniad i’r safle wrth ehangu’r stordy.
Dywedodd: “Bu Cyngor Sir Ddinbych yn ddefnyddiol iawn, iawn. Os ydw i angen siarad â nhw, mae wastad rhywun ar ochr arall y ffôn.
“Mae’n wasanaeth da, cyflym a phroffesiynol. Pan rydym ni'n siarad efo rhywun, maen nhw'n dod i'n gweld ar unwaith. Maen nhw wedi bod yn ffantastig.
“Mae’n fuddiol iawn i’n busnes, mae’n helpu ni i dyfu’n gyflymach gan eu bod bob amser ar gael. Mae’n hawdd iawn cael gafael ar y Cyngor.”
Dywedodd Colin Brew, Siambr Fasnach Gorllewin Sir Caer a Gogledd Cymru: “Mae Gwell Busnes i Bawb yn fodel arloesol sy’n cynorthwyo i gael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio hynny sy’n effeithio ar allu busnesau i dyfu.
“Bydd busnesau lleol yn Sir Ddinbych yn croesawu’r ymagwedd arloesol hon a fydd nid yn unig yn darparu cynnyrch o safon gystadleuol y mae busnesau’n gallu ymddiried ynddo ond hefyd yn gallu amlygu a helpu i gael gwared ar ddefnydd aneffeithiol o adnoddau yn y sir."
Dywedodd Mike Learmond o’r Ffederasiwn y Busnesau Bach: “Roedd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn falch o gefnogi’r cynllun Gwell Busnes i Bawb yn Sir Ddinbych – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
“Mae rheoliadau’n parhau’n brif bryder i’n haelodau ac mae’n galonogol yr ymgynghorwyd â ni o’r dechrau a’n bod yn gallu bwydo pryderon ein haelodau i’r cynllun.
“Mae angen rheoliadau, ond mae’n ymwneud â sut y gorfodir y rheoliad. Mae busnesau yn adborth bod Sir Ddinbych yn edrych am ffordd gyflymach a gwell i helpu busnesau i arbed amser ac arian. Rydym yn falch bod Cyngor Sir Ddinbych wedi achub y blaen ar hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Cyngor yn dweud y gall casglu data welal rhwydweithiau ffonau symudol
Mae cwmni cynhyrchu bara wedi ymuno â'r Cyngor i helpu i wella perfformiad rhwydwaith ffôn symudol y rhanbarth.
Mae gyrwyr Henllan Bakery yn Ninbych yn lawrlwytho ap sy’n asesu ansawdd signal ffôn symudol i nodi mannau gwan yn y sir.
Mae’r Sir hefyd yn gofyn i staff lawrlwytho ap Ofcom sy’n anfon gwybodaeth i’r rheoleiddiwr heb i’r defnyddiwr orfod gwneud unrhyw beth.
Dywedodd Ed Moore, cyfarwyddwr yn y siop fara: “Rydym angen cysylltu â’n staff dosbarthu lle bynnag maen nhw a gall diffyg signal wneud hyn yn amhosibl.
“Mae’r sefyllfa’n ymddangos yn arbennig o wael tuag ardal y Waun a Chroesoswallt ond mae yna fannau gwan wedi eu gwasgaru ym mhobman, nid mewn ardaloedd gwledig yn unig.”
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr ffonau symudol i wella ansawdd signal yn y sir a bydd mwy o ddata yn helpu’r Cyngor i gyflwyno achos ar gyfer gwell isadeiledd.
Dywedodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Sir: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol o rwystredigaeth trigolion, busnesau ac ymwelwyr pan nad ydynt yn gallu cael signal boddhaol ar eu ffôn symudol.
“Mae newidiadau i’r system gynllunio ar lefel genedlaethol a chynlluniau gan weithredwyr rhwydwaith ar gyfer y dyfodol yn anelu tuag at welliannau.
“Mae Ofcom wedi gwneud camau cadarnhaol trwy ddatblygu technoleg sydd gan y rhan fwyaf trwy’r adeg.
“Gellir lawrlwytho'r ap unwaith ac yna mae’n casglu ac yn rhoi gwybodaeth am ansawdd y signal. Nid yw’r defnyddiwr angen gwneud unrhyw beth arall ac ni chesglir data personol.
“Rydym yn gweithredu tua 700 set llaw o fewn yr Awdurdod felly rydym mewn sefyllfa gadarn i gynorthwyo Ofcom.
“Gall busnesau fel Henllan Bakery hefyd wneud cyfraniad gwerthfawr ac rwy’n annog unrhyw un gyda ffôn Android i ystyried lawrlwytho’r ap.”
Mae Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor wedi amlygu cyfathrebu fel blaenoriaeth ac mae gwaith yn cael ei wneud i nodi problemau a chyfleoedd gyda seilwaith band eang a ffôn symudol trwy brosiect Sir Ddinbych Digidol.
Mae Ofcom wedi dweud y bydd cyhoeddi data a gasglwyd gan yr ap yn annog gweithredwyr rhwydwaith ffôn symudol i wella eu rhwydweithiau.
Gellir lawrlwytho ap Ymchwil Ffôn Symudol Ofcom yn http://www.ofcom.org.uk/
Cyllid ychwanegol ar gael i helpu busnesau i fod ar-lein
Gall cwmnïau sy’n chwilio am weddnewidiad digidol bellach fanteisio ar grant busnes.
Mae cynllun Grant Datblygu Busnes y Cyngor Sir wedi dyfarnu mwy na £71,000 i 17 o gwmnïau Sir Ddinbych ers mis Ebrill y llynedd.
Mae'r grant wedi’i ehangu i gynnig mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau sy'n ceisio manteisio ar dechnoleg ddigidol i helpu i ysgogi arloesedd lleol, gwella cystadleurwydd a helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd.
Mae hyn yn golygu cyfleoedd i bob math o fusnesau, gan gynnwys cwmnïau sydd am gymryd archebion ar-lein a gyrru nodau atgoffa awtomatig am apwyntiadau trwy negeseuon testun neu e-byst neu rai sydd am gael systemau rhatach dros y we yn lle hen systemau ffôn.
Dywedodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol: “Gall hyd yn oed y busnes lleiaf elwa o’r grant hwn.
“Mae gan wefannau manteision masnachu amlwg ac mae mwy o gyllid ar gael i fusnesau lleol yn 2017 i greu eu presenoldeb ar-lein sydd o safon uchel a mentro i werthu ar-lein, hyd yn oed.
“Byddwn yn annog busnesau cymwys y Sir i wneud cais am grant mor fuan â phosib’ gan fod yr arian ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.”
Mae posib ariannu hyd at 75 y cant o'r costau a bydd yn rhaid i gynigion ddangos sut y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r busnes.
Mae'r cynllun, sy'n ffurfio rhan o Raglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor, hefyd yn cynnig arian i fusnesau newydd a rhai sy'n bod eisoes i greu swyddi, gwella cystadleurwydd a chreu economi leol fywiog.
Yn ogystal â chynyddu’r arian ar gyfer elfen ddigidol y cynllun, mae cap y grant wedi’i gynyddu o £5,000 i £10,000 ac mae’r terfyn ar drosiant blynyddol yr ymgeiswyr wedi cynyddu o £250,000 i £500,000.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Sir Ddinbych ewch i'n gwefan neu cysylltwch â 01824 706896.
Addysg
Gwaith yn symud yn ei flaen ar safle datblygiad ysgolion newydd Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos
Mae gwaith yn symud ymlaen ar safle datblygiad ysgolion newydd ar gyfer yr Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos. Mae gwaith wedi bod yn symud ymlaen ar y safle y datblygiad newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn Glasdir, Rhuthun. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r gwaith tirwedd wedi parhau a dau gam yn y gwaith adeiladu wedi eu cwblhau. Mae dyluniad yr adeiladau ysgol newydd yn golygu bod codi lefel y ddaear yn ofynnol. Yn ystod mis Ionawr a dechrau mis Chwefror cludwyd deunydd llenwi i'r safle er mwyn creu y llwyfandir adeiladu. Cam arall y prosiect a gwblhawyd oedd y gwaith peilio a oedd yn ofynnol i gryfhau'r llwyfandir adeiladu. Defnyddiwyd y dechneg hon hefyd pan adeiladwyd y stadiwm Olympaidd newydd yn Llundain. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y gwaith tirwedd ar gyfer yr adeiladau yn parhau. Ar hyn o bryd mae ffosydd sylfaen yn cael eu cloddio a mae concrid eisoes wedi dechrau i gael ei dywallt ar y safle.
Mae diweddariadau ar gael ar y blog Addysg.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif.

Awdur Harry Potter yn anfon llythyr at blant Ysgolion Sir Ddinbych drwy 'Post Gwdihŵ'
Mae J K Rowling wedi ysbrydoli plant ysgol yn Sir Ddinbych ar ôl anfon llythyr atynt trwy 'bost tylluan'.
Mae’r llythyr gan yr awdur enwog yn diolch i blant Sir Ddinbych am gysylltu â hi ac mae’n dweud wrthynt ei bod yn gobeithio ysgrifennu llyfr arall i blant yn fuan.
Daeth yr ymateb hud ar ôl i swyddog o adran addysg Cyngor Sir Ddinbych anfon llythyr at J K Rowling i ddweud wrthi am y digwyddiad ar thema Harry Potter yn Sir Ddinbych yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain ac fel pe bai trwy hud, daeth ymateb wedi’i stampio gyda ‘phost tylluan’.
Llwyddodd Ysgol Bodfari ger Dinbych i dderbyn grant gan y Gymdeithas Gwyddoniaeth Prydeinig (BSA) trwy ei “Gynllun Bwrw Ymlaen’ ac mae digwyddiad thema Harry Potter yr ysgol wedi derbyn yr anrhydedd o gael ei ddewis fel fflaglong y DU ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain (10-19 Mawrth 2017).
Bydd disgyblion a staff yn defnyddio byd dewin hud Harry Potter i feddwl am wyddoniaeth o fewn cyd-destun y newidiadau sy’n digwydd yn y byd o’u hamgylch, gan rannu eu canfyddiadau trwy gyfrwng cymdeithasol gydag ysgolion eraill yn Sir Ddinbych, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Camau cadarnhaol ar gyfer Ysgol Llanfair
Ym mis Tachwedd 2016, cymeradwyodd Cabinet Sir Ddinbych y prosiect gyda’i ffocws yn ymwneud â datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC.
Ystyriwyd Cabinet Sir Ddinbych y cynnig busnes cychwynnol ym mis Ionawr 2017 a rhoddwyd eu cefnogaeth i'r prosiect. Mae’r cynnig presennol ar gyfer datblygiad newydd sy’n addas ar gyfer 126 o ddisgyblion llawn amser ar safle wedi eu lleoli o fewn y pentref. Byddai’r safle newydd yn darparu cyfleusterau gwell o lawer a’r gallu i ddarparu cwricwlwm yr 21ain ganrif yn effeithiol.
Bydd trafod cynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd yn digwydd dros y misoedd nesaf ac mi fydd cyfle i'r gymuned roi sylwadau ar y cynigion cyn eu cyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio.
Ochr yn ochr â hyn bydd y Cyngor yn datblygu ymhellach y cynllun busnes a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo fel rhan o'r rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Galw am ddarparu cynorthwywyr croesi’r ffordd ger ysgolion
Ydych chi’n chwilio am rôl fyddai’n eich gweld yn helpu’r Cyngor i sicrhau bod plant ac oedolion yn croesi’r ffordd yn ddiogel? Os felly, dymunwn glywed gennych.
Mae’ Cyngor yn chwilio am gynorthwywyr croesi’r ffordd fyddai’n gallu llenwi bylchau, yn ogystal â rhai sy’n chwilio am swyddi parhaol.
Y cwbl sydd ei angen yw:
- Person brwdfrydig gydag agwedd aeddfed
- Dealltwriaeth dda o beryglon croesi’r ffordd
- Prydlondeb, ysbryd cymunedol ac yn gyfathrebwr da
- Yn hapus i ddilyn hyfforddiant
- Y gallu i deithio ar gyfer rolau llenwi bwlch.
Diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth? Ffoniwch Alan Hinchliffe, Swyddog Diogelwch y Ffordd Sir Ddinbych, ar 01824 706887 neu e-bostiwch: alan.hinchliffe@sirddinbych.gov.uk <mailto:alan.hinchliffe@sirddinbych.gov.uk>
Dyma fideo byr gan un o’n cynorthwywyr croesi’r ffordd yn ardal y Rhyl.
Polisi Cludiant o’r cartref i’r ysgol
Mae cyfle i drigolion y Sir gael dweud eu dweud ar fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol ar gyfer disgyblion ar draws y sir.
Daeth y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol cyfredol i rym o fis Medi 2015, ar ôl cytundeb gan y Cyngor yn 2014; y byddai adolygiad o'r polisi yn cael ei gynnal ar ôl bod ar waith am 12 mis.
Dywedodd Karen Evans, Pennaeth Addysg: “Mae'r Cyngor yn cydnabod roedd yna bryderon ynghylch elfen benodol o’r polisi presennol, ac rydym wedi ceisio ymdrin â’r pryderon hyn yn ôl yr angen. Wrth weithredu’r polisi hwn, cytunodd y Cyngor y byddai’n cael ei adolygu ar ôl bod ar waith am flwyddyn. Mae’r adolygiad hwnnw bellach wedi digwydd ac mae wedi ystyried adborth gan ysgolion, rhieni, cynghorwyr a chyngor drwy drafodaethau cyfreithiol.”
“Mae un o'r prif newidiadau sy'n cael eu cynnig yn ymwneud â threfniadau ysgolion ‘bwydo’. Mae'r polisi presennol yn nodi y bydd cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf. Mynegwyd peth pryder mewn rhai cymunedau am y mater hwn, ac erbyn hyn, y cynnig yw y bydd cludiant ysgol i ysgolion uwchradd yn seiliedig ar yr ysgol addas agosaf neu pa un ai fynychodd y disgybl ysgol fwydo gynradd ddynodedig. Bydd cludiant ar sail porthi yn cael ei ddarparu o dan drefniadau dewisol.”
“Yn ogystal, mae eglurder yn cael ei gynnig yn ymwneud â mannau codi a llwybrau peryglus, ac mae nodyn canllaw a oedd ar wahân yn flaenorol wedi cael ei ymgorffori yn y polisi diweddaraf.”
“Fel gyda’r polisi cyfredol, byddai’r Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant i’r ysgol Gymraeg neu Ffydd addas agosaf, os mai hyn oedd dewis y rhieni/ gofalwyr.”
Gallwch weld y ddogfen ddiwygiedig ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau. Gall bobl fynegi sylwadau drwy e-bost moderneiddio.addysg@sirddinbych.gov.uk neu yn ysgrifenedig: Tim Moderneiddio Addysg, Neuadd y Sir, Rhuthun, LL15 1YN. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 30 Ebrill 2017
Nodweddion
Talebau gwerth £75 i ‘droi’n wyrdd!’
Ydych chi’n rhiant newydd neu’n adnabod unrhyw un sydd newydd gael babi?
Os felly, mae Cyngor Sir Ddinbych eisiau lledaenu’r neges am ei gynnig i annog rhieni i ddefnyddio clytiau go iawn yn lle rhai y gellir eu taflu.
Gall rhieni babanod hyd at 18 mis oed gael talebau hyd at £75 mewn gwerth tuag at brynu clytiau go iawn neu wasanaeth golchi clytiau go iawn.
Dywedodd Alan Roberts, Uwch Reolwr Gwastraff: “Rydym yn chwilio am ffyrdd i geisio lleihau faint o wastraff rydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi er mwyn arbed arian a helpu’r amgylchedd.
Nid oes modd ailgylchu nac ailddefnyddio clytiau tafladwy ac mae’n rhaid iddynt fynd i safleoedd tirlenwi lle maent angen tua 300 o flynyddoedd i bydru. Mae tua 200 miliwn o glytiau yn cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn, felly rydym yn cynnig y talebau hyn er mwyn ceisio lleihau’r nifer yna.”
"Mae yna fanteision i ddefnyddio clytiau go iawn, a tydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli eu bod wedi datblygu llawer ers y dyddiau ofnadwy o ddefnyddio clytiau terri a phinnau cau."
A Wyddoch chi ...?
Erbyn hyn mae dewis eang o glytiau cotwm, huganau y gellir eu golchi a leininau y gellir eu fflysio ar gael i rieni, o fabanod cynamserol i blant gorfywiog. Gall rhieni arbed cannoedd o bunnoedd drwy newid.
Manteision eraill clytiau go iawn ydi:
- Nid ydynt yn cynnwys gel cemegol felly nid ydynt yn sychu croen babanod
- Yn annog babanod i ddefnyddio’r poti’n gynt – drwy wneud y cysylltiad rhwng plentyn yn gwagu eu pledren a theimlo’n wlyb.
- Mae’n costio tua £1 yr wythnos i'w golchi adref – llai drwy ddefnyddio peiriant golchi effeithlon ac
Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, bod gennych chi blentyn hyd at 18 mis oed ac eisio rhoi cynnig ar glytiau go iawn, gallwch wneud cais am y talebau yma.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am glytiau go iawn ar:
http://www.realnappies-wales.org.uk/real-nappies/who-we-are?diablo.lang=cym
Gwirfoddoli yn bwysig i Sir Ddinbych - Lansio gwefan newydd
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein gwefan newydd er mwyn gwirfoddoli wedi cael ei lansio.
Drwy lansio'r wefan newydd, bydd modd i’r Cyngor gynyddu’r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i’r awdurdod lleol. Mae ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli wedi cael eu hadnabod ar draws yr awdurdod a bydd y rolau’n addas ar gyfer pob math o sgiliau a diddordebau. Gall unrhyw un wirfoddoli, beth bynnag yw eu hoedran, ac mae croeso i bobl sydd â phob diddordeb ac o bob cefndir.
Dywedodd David Davies, Rheolwr Ymrwymiad Cymunedol: “Ers llawer o flynyddoedd mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ymwneud yn llwyddiannus ar draws ystod eang o wasanaethau'r Cyngor ac wedi rhoi miloedd o oriau o'u hamser eu hunain. Mae gwirfoddolwyr wedi cefnogi gwaith gwasanaethau cefn gwlad, y celfyddydau, gwasanaethau hamdden, canolfannau ieuenctid a gwasanaethau tai, i enwi dim ond rhai.
“Mae gwirfoddolwyr wedi darparu gwerth ychwanegol a chefnogi gwaith staff cyflogedig i alluogi'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy effeithiol.
“Mae gwirfoddolwyr hefyd yn cael boddhad cadarnhaol drwy helpu pobl eraill a datblygu sgiliau newydd a gwneud cyfraniad at fywyd eu cymuned.”
Dyma oedd gan rhai o’n gwirfoddolwyr i’w ddweud:
“Mae gwirfoddoli yn brofiad buddiol”, meddai Sam Mackie, sydd yn fyfyriwr lleoliad gwaith yn Ysgol Uwchradd Dinbych wrthym, “Mae cael y cyfle i fod yn hyfforddwr cynorthwyol mewn clybiau 5x60 wedi helpu fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu gyda'r myfyrwyr yn yr ysgol ... roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wella.”
Dywedodd Gareth Evans, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol a roddodd y cyfle i Sam, “Dros y 18 mis diwethaf, rydw i wedi cael nifer o arweinwyr chwaraeon gwirfoddol sydd wedi fy helpu i gyflwyno amserlenni 5x60 llawn amser rhwng fy nwy swydd rhan-amser yn yr ysgol uwchradd. Nid yn unig hynny, mae un gwirfoddolwr wedi bod yn ddyfarnwr mewn cynghrair bêl-droed gymunedol leol am 5 mlynedd. Gyda’r gefnogaeth a’r arweiniad cywir, gall gwirfoddolwyr fod yn amhrisiadwy i’r gwaith rydym yn ei wneud – hebddyn nhw a’u cefnogaeth ar gyfer prosiectau, ychydig iawn sydd yn gynaliadwy yn yr hir dymor."
Dywedodd Hollie Jackson sydd yn Reolwr Gweithgareddau i Bobl Ifanc: “Dwi’n meddwl bod gwirfoddolwyr yn llawn cymhelliant ac yn hyblyg. Mae buddsoddi ynddynt yn sicrhau y gallwn weithio gyda mwy o bobl ifanc, mae’n cymell ein gweithwyr ein hunain, ac o bosib yn ein galluogi ni i ddatblygu a chynyddu ein gweithlu.”
Dywedodd Ken Robinson sy’n gwirfoddoli’n rheolaidd ar gyfer tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol: “Ar ôl i mi ymddeol 14 mlynedd yn ôl roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy wirfoddoli ym Mharc Gwledig Loggerheads. Dwi’n cael mwynhau’r awyr agored gyda phobl o’r un meddylfryd tra'n dysgu sgiliau newydd.”
Gall ymwelwyr i'r wefan cael mynediad i lu o gyfleoedd gan gynnwys coedlannu ym Mharc Gwledig Loggerheads a helpu i gyfrannu tuag at gyflawni ein rhaglen Sportzone. Rhaid i bob gwirfoddolwr gofrestru ar y wefan newydd drwy ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/gwirfoddoli
[Yn y llun gwelir Ken Robinson yn helpu tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol]
Y diweddaraf am ddatblygiadau yn Y Rhyl
Rhyddhau delweddau o Barc Dŵr y Rhyl
Mae set o ddelweddau o barc dŵr ac atyniad hamdden y Rhyl wedi cael eu rhyddhau, gan ddarparu cipolwg unigryw ar sut y bydd yr atyniad mawr hwn yn edrych.
Datganodd Aelodau'r Cyngor Sir eu cefnogaeth i gynnig y parc dŵr yn ffurfiol yn gynharach eleni. Bellach, mae cynlluniau manwl yn cael eu paratoi cyn eu cyflwyno i Adran Gynllunio'r Cyngor yn y dyddiau nesaf.
Mae Cyngor Tref y Rhyl hefyd yn darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y datblygiad.
Mae’r cynnig yn cynnwys gofod dŵr 1,200 metr sgwâr, gyda reidiau dŵr y tu mewn a’r tu allan, ffrâm chwarae a sleidiau dŵr i blant, man gweithgareddau uchder dwbl i blant, cyfleusterau dringo, ystafelloedd ar gyfer partïon, derbynfa, ardaloedd gwerthu, Pwll Sblasio y tu allan – dau bad sblasio gwlyb, ardaloedd ar gyfer gwelyau haul a therasau â chaffis i ddarparu adloniant chwarae gwlyb.
Bydd yno gabanau newid a thoiledau fel rhai ar y traeth, yn ogystal â bar a theras at gyda'r nos.
Bydd y datblygiad yn creu 60 o swyddi newydd ac yn denu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd gwaith yn dechrau fis Medi 2017 a bydd y cyfleusterau newydd ar agor yn fuan yn 2019.
Bydd y cynigion, a luniwyd mewn partneriaeth ag Alliance Leisure, hefyd yn golygu y bydd parc sglefrio yn cael eu hadleoli. Bydd y Cyngor yn ymgynghori â phobl ifanc leol i gydgynllunio'r parc sglefrio a bydd y cyfleuster newydd yn cynnig nodweddion newydd, mwy deniadol. Bydd pad sblasio a theras haul awyr agored llawer gwell yn dod yn lle’r pwll padlo, yn rhan o’r datblygiad.
Goleuo Rhyl
Yn y cyfamser, mae gwaith paratoi wedi dechrau ar y cynllun diweddaraf sy'n rhan o'r briff ail-ddatblygu'r glannau yn Y Rhyl.
Mae gwaith paratoi cychwynnol wedi dechrau ar y Tŵr Awyr ar y promenâd wrth i’r Cyngor baratoi i ailwampio’r strwythur unigryw a’i drawsnewid yn oleufa statig. Bydd y gwaith yn cynnwys paentio’r strwythur, gosod goleuadau a gosod palisau o amgylch gwaelod y strwythur.
Cafodd y cynnig ei lunio gan Ion (Neptune gynt) fel rhan o gynigion datblygu glan y môr y Rhyl a bydd cwmni lleol Wynne Construction yn ymgymryd â’r gwaith.
Mae hwn yn un o sawl prosiect ar y gweill ar hyd glan y môr. Mae gwaith ailwampio allanol eisoes wedi dechrau ym Mhafiliwn y Theatr. Bydd hyn yn cynnwys ffasâd newydd ar ochr yr adeilad a oedd yn arfer bod wedi’i uno i’r Heulfan, ail-baentio ac ailgladin ar brif adeilad y Theatr a chreu cyntedd mynedfa newydd.
Mae gwaith ailwampio mewnol eisoes ar waith y tu mewn i’r adeilad. Bydd gwaith yn cynnwys ailwampio’r bar yn llwyr, yn ogystal â chreu bwyty newydd.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i greu maes parcio newydd sbon wrth ymyl y theatr a rhoddwyd caniatâd cynllunio eisoes ar gyfer gwesty – Travelodge, tafarn/bwyty teulu – Marstons, trydydd uned fasnachol a gwaith ar faes parcio’r Pentref Plant.
Newyddion
Etholiadau Llywodraeth Leol 2017

Bydd etholiadau Cyngor Sir yn cael ei cynnal ddydd Iau 4ydd o Fai 2017. Dyma rhai dyddiadau allweddol i'w cofio:
- 5 Ebrill - mae'r rhestr o ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr Etholiadau Cyngor Sir nawr ar ein gwefan ynghyd â ymgeiswyr etholiadau Dinas, Tref a Chymuned
- 13 Ebrill - bydd angen i chi gofrestru erbyn y dyddiad hwn er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio ar y 4ydd o Fai. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio am fwy o wybodaeth
- 18 Ebrill - i ffwrdd ar 4ydd o Fai? Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar 18 Ebrill
- 25 Ebrill - dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr Etholiadau
- 25 Ebrill - bydd y Rhybudd o Bleidlais yn cael ei gyhoeddi
- 4 Mai - Diwrnod yr Etholiad. Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm
Unwaith y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10pm, bydd dilysu'r blychau pleidleisio yn cychwyn yng Nghanolfan Hamdden Dinbych. Bydd y cyfrif yna yn dechrau am 9am bore dydd Gwener 5ed o Fai gyda'r rhan fwyaf o'r canlyniadau y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi erbyn hanner dydd.
Felly cofiwch, os nad ydych ar y gofrestr etholiadol ni allwch bleidleisio yn yr etholiadau! Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru erbyn 13 o Ebrill.
Byddwn yn trydar pan fydd y canlyniadau etholiad yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob adran etholiadol, felly cofiwch ddilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.
ELlL17 #EtholiadSirDdinbych
Nodwch: Bydd yr etholiadau cynghorau dinas/tref/cymuned yn cymryd lle yr un diwrnod
Llyfryn Treth y Cyngor yn fyw ar-lein
Mae Eich Arian, canllaw y Cyngor ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig â threth y Cyngor ar gael ar-lein yn awr.
Yn ddiweddar gosododd y Cyngor y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18. O ran treth y cyngor, mae hyn yn golygu cynnydd o 2.94% ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych (mae hyn yn cynnwys cynnydd o 2.75% yn elfen y cyngor sir, ynghyd â phraesept cynghorau tref/dinas/cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd).
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynhyrchu llyfryn sy'n egluro’r ffeithiau a'r ffigyrau y tu ôl i setliad treth y cyngor, sut y caiff arian ei wario a manylion am sut i dalu biliau treth y cyngor.
Mae'n rhoi gwybodaeth am drethi busnes, gostyngiadau i fusnesau bach a pha fath o gymorth sydd ar gael os yw'r preswylwyr yn cael trafferth i dalu treth y cyngor.
Gellir gweld y llyfryn drwy glicio yma.

Mynediad i Gyfarfodydd y Cyngor
Mae Cynghorwyr wedi bod yn trafod cynnal cyfarfodydd y Cyngor ar wahanol adegau er mwyn hyrwyddo mynediad i'r cyhoedd ac rydym yn awr yn gofyn am eich barn chi.
A yw'r amseriad a/neu leoliad o pryd rydym yn cynnal cyfarfodydd yn rhwystr i chi fynychu?
Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn ateb y cwestiynau canlynol os gwelwch yn dda:
- A fyddai'n well gennych gyfarfodydd gyda’r bore, y prynhawn (gan ddechrau dim hwyrach na 4pm) neu gyda'r nos (gan ddechrau ar ôl 5pm)?
- Ydy eich dewis yn berthnasol i (a) holl bwyllgorau neu (b) pwyllgorau penodol yn unig - os yw'n bosibl, nodwch pa rai?
- Os mai dim ond un pwyllgor oedd yn cwrdd am 4pm pa bwyllgor y byddech am i hynny fod?
- A fyddai'n well gennych weld amseriad cyfarfodydd yn cylchdroi?
- Os ydych, a hoffech amseriadau i gylchdroi ar gyfer (a) holl bwyllgorau neu (b) ar gyfer rhai pwyllgorau yn unig - os yw'n bosibl, nodwch pa bwyllgor (au)?
- A oes adegau penodol a fyddai'n achosi anhawster i chi fod yn bresennol?
- Os ydych wedi nodi 'byddai', nodwch pa amseroedd fuasai’n anodd.
- A oes gennych leoliad(au) a ffefrir ar gyfer mannau cyfarfod?
- Os ydych, nodwch y lleoliad (au) a ffafrir.
Gellir cael manylion am y cyfarfodydd cyhoeddus ar ein gwefan.
Gall ymatebion drwy e-bost yn uniongyrchol at democratic@sirddinbych.gov.uk
Diolch am gymryd rhan.
Agor pennod newydd yn hanes Llyfrgell a Siop Un Alwad
Mae Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan wedi cyrraedd carreg filltir arbennig yn ei hanes gydag agoriad swyddogol yn dilyn adnewyddiad sylweddol, gan nodi dechrau pennod newydd sbon.
Mae’r cyfleusterau newydd yn darparu hwb cymunedol, gan gynnig pwynt mynediad sengl i nifer o wasanaethau’r Cyngor a lle i’r gymuned ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.
Yn yr adeilad sydd wedi ei adnewyddu mae ystafell gyfrifiadurol newydd y gall pobl wneud cais amdani neu i hysbysu gwasanaethau'r cyngor ar-lein, ciosg arian, cyfleuster i bobl ddychwelyd llyfrau, ystafelloedd cyfarfod newydd gyda chyfleusterau TG modern ac ystafell ymgynghori preifat ar gyfer trafodaethau un i un.
Mae ardal y plant wedi ei foderneiddio’n llwyr ac yn ychwanegol at hyn bydd ardal newydd i bobl ifanc/rhai yn eu harddegau. Bydd yr adeilad hefyd yn darparu ardal gymunedol ar gyfer arddangosfeydd, toiledau cwsmer newydd a wi-fi. Gall prosiectau partner ac asiantaethau fel Cyngor ar Bopeth a Heddlu’r Gogledd gynnal cymorthfeydd yma hefyd.
Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Marchnata: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyfleusterau newydd sbon yn Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu cydweithrediad a’u hamynedd yn ystod y gwaith adnewyddu ac ail-leoli’r cyfleusterau dros dro.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod gwerth llyfrgelloedd a siopau un alwad i’r gymuned a dyma pam rydym yn parhau gyda rhaglen o fuddsoddiad ar draws y sir ac yn ymateb i anghenion y gymuned.
“Mae’r hyn rydym wedi ei greu yn gyfleuster modern lle gall pobl ddod i gysylltiad â llawer mwy na llyfrau yn unig. Gall cwsmeriaid ddod i gysylltiad ag amrediad eang o wasanaethau'r cyngor mewn un lleoliad, cyflawni gweithrediadau a hefyd defnyddio’r cyfleusterau fel hwb cymunedol, lle ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol.

Safleoedd treftadaeth gwobrwyol yn paratoi ar gyfer y tymor gwyliau!
Mae tri o atyniadau treftadaeth poblogaidd Sir Ddinbych wedi agor eu drysau ar gyfer tymor gwyliau 2017!
Mae Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre yn Rhuthun a Phlas Newydd yn Llangollen ar agor i’r cyhoedd ers 1 Ebrill ac mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous i’r teulu oll wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf.
Mae'n newyddion gwych bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi ennill Gwobr Trysor Cudd Croeso Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, ac mae Carchar Rhuthun a Phlas Newydd yn amlwg wedi plesio defnyddwyr TripAdvisor gan eu bod wedi ennill 'Tystysgrif Rhagoriaeth', yn dilyn llu o adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn 2016.
Hoffai Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ddiolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys disgyblion Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl, sydd wedi helpu i drin y gerddi yn Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd dros fisoedd y gaeaf. Mae eu gwaith a’u hymroddiad wedi bod yn werthfawr iawn.
Bydd digwyddiad cyntaf y flwyddyn yn digwydd ym Mhlas Newydd ddydd Sadwrn 18 Mawrth. Mae taith gerdded 'taith y briallu' o amgylch y gerddi gyda’r garddwr cyn i'r tymor ddechrau yn costio £3 ac fe gewch friallen i fynd adref gyda chi.
Bydd Nantclwyd y Dre yn cynnal ei ddigwyddiad cyntaf, sef ‘Helfa Drychfilod’ i’r teulu oll ddydd Llun 8 Mai.
Mae Carchar Rhuthun yn cynnal 'Ar Gamera’ ddydd Iau 1 Mehefin lle bydd cyfle i ymwelwyr greu eu poster ‘YN EISIAU' eu hunain! Yn y dyddiau cyn agor ym mis Ebrill ac i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru, mae’r carchar yn rhannu hanes rhai o'r gymeriadau mwyaf lliwgar trwy flog ar-lein ar https://streaoncarcharrhuthun.wordpress.com.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y lleoliadau a'r digwyddiadau sydd i ddod ar:
www.nantclwydydre.co.uk
www.plasnewyddllangollen.co.uk
www.carcharrhuthun.co.uk

Grwpiau Cymunedol yn Cael Hwb Ariannol
Mae cyfanswm o 19 grŵp cymunedol wedi cael budd o hwb ariannol diolch i fenter gan Gyngor Sir Ddinbych a Chwaraeon Cymru trwy Gronfa Cist Gymunedol Sir Ddinbych.
Dyfarnwyd cyfanswm o £23,761 o grantiau yng nghyfarfod diwethaf y panel i gefnogi addysg hyfforddiant a chostau sefydlu clybiau newydd ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar draws y sir.
Clybiau a grwpiau wnaeth dderbyn grant:
- Clwb Pêl-Droed y Rhyl - Ieuenctid £1500
- Clwb Pêl-Droed y Rhyl - Merched £1500
- Ruthin Rovers £1500
- Clwb Tennis Prestatyn – Ieuenctid £400
- Clwb Tennis Prestatyn – Merched £1500
- Clwb Pêl-droed Merched Tref Dinbych £250
- Clwb Beicio y Rhyl £320
- Clwb Hoci y Rhyl £1466
- Dragon Riders BMX £1020
- Clwb Tennis y Rhyl £540
- Clwb Criced Llanelwy £1500
- Absolute Fitness Weightlifting £1500
- Ffilm a Cherddoriaeth Tape £1250
- Clwb Badminton Prestatyn £1215
- Clwb Pêl-droed Henllan £1257
- Clwb Gymnasteg Rhuthun £1500
- Clwb Gymnasteg Dinbych £1500
- Clwb Criced Prestatyn £1475
- Gee Martial Arts £1500
Mae yna hyd at £1,500 o grantiau yn y gronfa ar gyfer prosiectau chwaraeon cymunedol ac mae’n agored i unrhyw grŵp sy’n dymuno trefnu gweithgareddau a anelwyd at gael mwy o bobl yn fwy heini, yn amlach.
I glybiau sy’n dymuno cyflwyno cais, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma – http://www.sport.wales/ neu ffoniwch 0300 300 3111 i gofrestru eich clwb. I glybiau sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd eisiau cyngor, gallant ffonio Aled Williams, Swyddog Cist Gymunedol Sir Ddinbych ar 01824 712716.
Eisteddfod Llangollen yn dathlu 70 mlynedd gyda pherfformiadau gan y goreuon
Eisteddfod Ryngwladol yn croesawu sêr y byd i Langollen yr haf hwn!

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu 70 mlynedd eleni ac yn dychwelyd ar ddydd Llun, 3 Gorffennaf gyda pherfformiadau gan oreuon y byd, gan gynnwys amrywiaeth eang o artistiaid a thalent gerddorol.
Gyda pherfformiadau unigol a grŵp a chystadlaethau bob dydd yn ystod cyfnod yr Eisteddfod Ryngwladol, yn ogystal â’r Orymdaith Ryngwladol flynyddol o Genedlaethau, ddydd Gwener 7 Gorffennaf gyda’r holl gystadleuwyr yn gorymdeithio, canu a dawnsio trwy dref Llangollen, mae yna rywbeth i’r teulu cyfan.
Mae pob diwrnod yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn unigryw ac yn wahanol i unrhyw ddigwyddiad cerddorol arall, gan roi’r cyfle i westeion deilwra eu profiad personol gan greu gŵyl i'w chofio.
Ers dechrau Eisteddfod Llangollen, mae pobl ifanc wedi cyflwyno neges heddwch ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ac mae’r traddodiad hwn yn parhau’n rhan annatod o’r ŵyl. Mae'n cael ei gynnal ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant – ar ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf – gan gadarnhau gwir ystyr yr Eisteddfod; undod a dathlu byd-eang.
Eleni, bydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant yn cael ei gynnal gan Gyflwynydd CBBC, Storm Huntley, gyda'r ysgol leol Ysgol y Gwernant yn cyflwyno Neges Heddwch teimladwy.
Bydd yna gyngherddau a pherfformiadau o safon ryngwladol yn ystod yr wythnos gyda thalent byd-eang fel y canwr jas Gregory Porter, ffrind yr Eisteddfod, Syr Bryn Terfel a’r Overtones yn ogystal â chyfoeth o grwpiau a pherfformwyr o amgylch y byd.
Mae'r cyfansoddwr sydd wedi ennill Gwobr Grammy, Christopher Tin yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Cymru i arwain Côr Dathlu Llangollen a sefydlwyd yn arbennig mewn perfformiad o gân Tin ‘Calling All Dawns’ sy’n cynnwys perfformiad o’r eiconig “Baba Yetu” - tôn y thema o’r clasurol chwarae cwlt; Civilisation IV.
Wedi’i argymell gan Classic FM a’i gyflwyno gan Andrew Collins, peidiwch â cholli’r perfformiad hwn sy’n cyfuno byd ffantasi chwarae gyda gwychder y soprano Elin Manahan Thomas.
Bydd yna wythnos o berfformiadau clasurol, operatig a jas i ddiweddu yn Llanfest – gŵyl yr Eisteddfod – fydd yn wahanol i unrhyw ddiwrnod arall yn yr Eisteddfod.
Gyda Llanfest yn addewidio diwrnod llawn hwyl yr ŵyl, bydd yr Eisteddfod yn croesawu’r sêr roc Manic Street Preachers fydd yn perfformio eu hunig gig yng Nghymru eleni!
Am y tro cyntaf yn hanes y digwyddiad, bydd y Pafiliwn Rhyngwladol yn agor i gynnig mwy o le sefyll i’r gwylwyr, gan greu awyrgylch mwy ymlaciol fel y gall pawb yn Llanfest fwynhau’r gig hwn gan y Manics.
Gyda chefnogaeth nifer o fandiau poblogaidd a pherfformiadau eraill heb eu cyhoeddi eto, dylai cefnogwyr roc a cherddoriaeth boblogaidd sicrhau eu bod yno.
Mae’r Eisteddfod yn croesawu pobl o bob oed sy’n caru cerddoriaeth ac mae tocynnau teulu ar gael am £24 yn unig, sy’n cynnwys diwrnod cyfan o’ch dewis, ac eithrio Llanfest.
Hefyd, fel pobl leol Llangollen, mae yna gyfle i gynnig llety i un o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod, gan gynnig profiad o’r croeso cynnes sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad blynyddol hwn i’n gwesteion.
Mae yna gymaint o fudd i deuluoedd sy’n cynnig llety gan gynnwys £15 y pen fesul noson a thocyn diwrnod am ddim i deulu weld eu gwesteion yn perfformio'n fyw yn yr Eisteddfod.
I wybod sut i gyfrannu at Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen neu i brynu tocynnau ar gyfer pob cyngerdd, gan gynnwys Llanfest, ewch i: http://eisteddfod-ryngwladol.co.uk
Moderneiddio Gofal Cymdeithasol i Oedolion: Egwyddorion y Ddeddf newydd
Ym mis Ebrill 2016, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym gan ddisodli sawl cyfraith flaenorol. Mae'n newid sut y mae cynghorau a gwasanaethau gofal yn gweithio. Mae'n awr yn rhoi cyfrifoldeb ar y cyd arnoch chi a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu'r canlyniadau sy'n bwysig i chi.
Mae pobl wrth galon y Ddeddf newydd. Mae’n rhoi cyfle cyfartal iddyn nhw leisio barn ar y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Nawr, gall unrhyw un sy’n credu bod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth (neu y bydd ganddynt) gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl am wybodaeth, cyngor a chymorth. Gellir cynnig cefnogaeth yn gynt na'r arfer i helpu i osgoi mwy o angen a chadw pobl yn hapus, yn ddiogel ac yn iach.
Bydd y sgwrs yn wahanol. O’r blaen roeddem yn arfer canolbwyntio ar beth oedd yn bod ac yn ceisio ei ddatrys. Nawr rydym yn dechrau trwy ofyn i bobl sut fywyd maent yn dymuno ei gael. Rydym yn gofyn beth sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac yn y dyfodol i'w helpu i gadw'n iach ac yn ddiogel. Rydym yn gofyn beth sy’n gweithio’n dda a ddim cystal yn eu bywydau a gyda’n gilydd rydym yn gweld beth allan nhw ei wneud eu hunain a phwy a beth sydd o gwmpas i’w helpu i oresgyn rhwystrau a chyflawni’r hyn sydd o bwys iddyn nhw.
Byddwn yn cynhyrchu cyfres o erthyglau byr i ddweud mwy wrthych am yr hyn rydym yn ei wneud a sut.
Mae’r ffordd rydych yn cael cymorth wedi newid
Mae'r dull o asesu a chymhwyso yn newid, rydym yn dechrau gyda chi.

Gall unrhyw un sy’n credu fod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth gysylltu â ni, beth bynnag yw lefel eu hanghenion neu eu hadnoddau ariannol. Bydd gwybodaeth, cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu. Bydd mwy o wasanaethau ataliol yn cael eu cynnig i gefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a chynorthwyo i osgoi cynnydd yn eu hanghenion.
Byddwn yn cael sgwrs gyda nhw i wybod beth sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac yn y dyfodol i'w cadw'n iach ac yn ddiogel. Yn hytrach na gofyn 'Beth sy’n bod arnoch chi?' byddwn yn gofyn 'Beth sy'n bwysig i chi?' er mwyn canfod beth sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym eisiau cael y sgwrs gywir â nhw er mwyn dod o hyd i’r ateb iawn gyda nhw.
Gyda'n gilydd, byddwn yn trafod yr hyn sy'n llwyddiannus yn eu bywyd yn awr, a'r hyn nad yw cystal. Byddwn yn gofyn beth maent eisiau o'u bywyd a'r hyn maent eisiau ei gyflawni. Byddwn yn nodi pa gryfderau a/neu adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Byddwn yn trafod y bobl o'u cwmpas ac yn eu cymuned. Efallai y byddant yn gallu eu cynorthwyo i oresgyn rhwystrau a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Byddwn yn canolbwyntio ar eich lles ac ansawdd eich bywyd. Byddwn yn trafod y canlynol gyda nhw:
- Eu hamgylchiadau personol
- Eu canlyniadau personol
- Y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau hynny
- Y peryglon i gyflawni canlyniadau personol
- Eu cryfderau a’u gallu personol. Os ydych yn meddwl eich bod angen cymorth neu yr hoffech gael trafodaeth gyda rhywun, gallwch gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl ar 0300 4561000 neu ymweld â’n gwefan
- Neu gallwch gael golwg ar Dewis Cymru y lle am wybodaeth lles yng Nghymru. Gellir dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol i helpu trigolion i barhau i fod yn annibynnol ac yn iach http://www.dewis.cymru/.
- https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/iechyd-a-gofal-cymdeithasol/oedolion-a-phobl-hyn/oedolion.aspx
- Ar gyfer mwyafrif yr unigolion sy'n cysylltu â'r awdurdod lleol oherwydd bod pryderon ynglŷn â'u lles, fel arfer gall ystod o opsiynau yn y gymuned, gwasanaethau ail-alluogi, offer neu gefnogaeth tymor byr ddiwallu eu hanghenion ac atal yr angen ar gyfer gofal a chefnogaeth tymor hwy.
Dewis Cymru

Diweddariad Sgwrs y Sir
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gyfle cyffrous i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gofyn i ni feddwl mwy am ganlyniadau tymor hir ein penderfyniadau ac edrych ar atal problemau cyn iddynt ddigwydd.
Ers cyflwyno’r Ddeddf ar ddechrau 2016, rydym wedi bod yn gweithio i nodi’r blaenoriaethau y mae trigolion Sir Ddinbych yn teimlo sy’n bwysig. Yn ystod yr haf 2016, holodd Cyngor Sir Ddinbych bobl am eu dyheadau hirdymor ar gyfer dyfodol eu cymunedau. Mae hyn, ynghyd ag ystadegau, wedi ein galluogi i ddrafftio rhestr o’r hyn y credwch a oedd yn bwysig.
Mae’r adborth a dderbyniwyd nawr wedi cael ei adolygu ac mae ein Cabinet presennol wedi cytuno ar y 6 Blaenoriaeth a ddewiswyd gan drigolion Sir Ddinbych. Byddwn yn cynnig bod ein Cyngor newydd yn mabwysiadu’r rhain yn ffurfiol fel ein blaenoriaethau corfforaethol ym mis Hydref 2017, yn dilyn cyfnod arall o ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf.
Mae ein Datganiad Lles draft hefyd yn egluro sut y dylai’r blaenoriaethau hyn wella lles ein cymunedau.
Mae’r canlynol yn set o amcanion lles y cytunwyd arnynt a threfnwyd fel â ganlyn yn ein ymgynghoriad diweddaraf, gyda mwy na 1500 o ddinasyddion wedi ymateb:
- Mae Sir Ddinbych yn fan lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo a lle bydd ganddynt y sgiliau i wneud hynny.
- Mae cymunedau wedi eu cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein neu drwy gysylltiadau trafnidiaeth da.
- Mae yna amgylchedd deniadol a warchodir sy'n cefnogi lles cymunedau a ffyniant economaidd.
- Gall pobl fyw bywydau annibynnol a chyflawn mewn cymunedau cryf, gofalgar, diogel a gwydn.
- Mae’r Cyngor a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn heriau; gan ddyfeisio a darparu datrysiadau ar y cyd.
- Mae yna ddigwyddiadau sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan greu cymunedau gweithgar a helpu busnesau i ffynnu.
Byddwn nawr yn mynd ati i amlinellu sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hyn, ac yn cyflwyno hyn i’n Cyngor newydd (yn dilyn etholiadau mis Mai) ym mis Hydref ar gyfer cymeradwyaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n Cynllunio Corfforaethol, dilynwch y ddolen hon.