Lansio Cynllun Tai Newydd
Mae system newydd sbon er mwyn ceisio am dŷ cymdeithasol yn Sir Ddinbych wedi ei lansio.
Mae’r gofrestr tai newydd, yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin, Clwyd Alyn, Tai Gogledd Cymru a Wales and West Housing.
Bydd y gofrestr yn galluogi pobl sydd eisiau gwneud cais am dŷ cymdeithasol i wneud hynny unwaith h.y. un pwynt cyswllt, un cais ac un rhestr tai ar gyfer Sir Ddinbych sy'n cael ei rhannu rhwng y Cyngor a'r cymdeithasau tai lleol. Bydd hyn yn arbed amser, yn osgoi dyblygu gwasanaethau ac yn symleiddio pethau i gwsmeriaid.
Bydd pobl sydd â chysylltiad lleol â Sir Ddinbych yn cael blaenoriaeth ar gyfer eiddo yn y sir. Unwaith y bydd yr wybodaeth wedi dod i law, bydd pobl yn cael eu rhoi mewn un o bedwar band, yn dibynnu ar yr wybodaeth a ddarparwyd ganddyn nhw. Y bandiau yw: angen brys o ran tai - cysylltiad lleol; angen o ran tai - cysylltiad lleol; angen brys o ran tai - dim cysylltiad lleol; ac angen o ran tai - dim cysylltiad lleol.
Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai Sir Ddinbych: “Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth i ddarparu’r profiad gorau posibl i’r cwsmer.
“Ar hyn o bryd mae yna nifer o restrau tai ac mae ar y system angen ei symleiddio. Hefyd, does yna ddim digon o dai i bawb ar ein rhestr ac felly mae arnom ni eisiau cynnig cyngor gwell a dewisiadau eraill i bobl yn hytrach na bod ar restr neu gofrestr tai cymdeithasol.
“Bydd y ffordd newydd hon o weithio yn fwy effeithlon. Byddwn yn trafod y dewisiadau tai gorau gyda chwsmeriaid, gan gynnwys tai cymdeithasol, llety rhent preifat a phrynu tŷ.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â meini prawf cymhwyster a’r broses yn ei chyfanrwydd, ewch i: http://www.sirddinbych.gov.uk/cofrestrtai neu anfonwch lythyr at Tai Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych, Ffordd y Ffair, Dinbych, LL16 3RJ.