llais y sir

Y diweddaraf am ddatblygiadau yn Y Rhyl

Rhyddhau delweddau o Barc Dŵr y Rhyl

Mae set o ddelweddau o barc dŵr ac atyniad hamdden y Rhyl wedi cael eu rhyddhau, gan ddarparu cipolwg unigryw ar sut y bydd yr atyniad mawr hwn yn edrych.Rhyl Development 1

Datganodd Aelodau'r Cyngor Sir eu cefnogaeth i gynnig y parc dŵr yn ffurfiol yn gynharach eleni. Bellach, mae cynlluniau manwl yn cael eu paratoi cyn eu cyflwyno i Adran Gynllunio'r Cyngor yn y dyddiau nesaf.

Mae Cyngor Tref y Rhyl hefyd yn darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y datblygiad.

Mae’r cynnig yn cynnwys gofod dŵr 1,200 metr sgwâr, gyda reidiau dŵr y tu mewn a’r tu allan, ffrâm chwarae a sleidiau dŵr i blant, man gweithgareddau uchder dwbl i blant, cyfleusterau dringo, ystafelloedd ar gyfer partïon, derbynfa, ardaloedd gwerthu, Pwll Sblasio y tu allan – dau bad sblasio gwlyb, ardaloedd ar gyfer gwelyau haul a therasau â chaffis i ddarparu adloniant chwarae gwlyb.

Bydd yno gabanau newid a thoiledau fel rhai ar y traeth, yn ogystal â bar a theras at gyda'r nos.

Bydd y datblygiad yn creu 60 o swyddi newydd ac yn denu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd gwaith yn dechrau fis Medi 2017 a bydd y cyfleusterau newydd ar agor yn fuan yn 2019.

Bydd y cynigion, a luniwyd mewn partneriaeth ag Alliance Leisure, hefyd yn golygu y bydd parc sglefrio yn cael eu hadleoli. Bydd y Cyngor yn ymgynghori â phobl ifanc leol i gydgynllunio'r parc sglefrio a bydd y cyfleuster newydd yn cynnig nodweddion newydd, mwy deniadol. Bydd pad sblasio a theras haul awyr agored llawer gwell yn dod yn lle’r pwll padlo, yn rhan o’r datblygiad.Rhyl Development 2

 

 

 

Goleuo Rhyl

Yn y cyfamser, mae gwaith paratoi wedi dechrau ar y cynllun diweddaraf sy'n rhan o'r briff ail-ddatblygu'r glannau yn Y Rhyl.

Mae gwaith paratoi cychwynnol wedi dechrau ar y Tŵr Awyr ar y promenâd wrth i’r Cyngor baratoi i ailwampio’r strwythur unigryw a’i drawsnewid yn oleufa statig.   Bydd y gwaith yn cynnwys paentio’r strwythur, gosod goleuadau a gosod palisau o amgylch gwaelod y strwythur.   

Cafodd y cynnig ei lunio gan Ion (Neptune gynt) fel rhan o gynigion datblygu glan y môr y Rhyl a bydd cwmni lleol Wynne Construction yn ymgymryd â’r gwaith.  

Mae hwn yn un o sawl prosiect ar y gweill ar hyd glan y môr.  Mae gwaith ailwampio allanol eisoes wedi dechrau ym Mhafiliwn y Theatr.   Bydd hyn yn cynnwys ffasâd newydd ar ochr yr adeilad a oedd yn arfer bod wedi’i uno i’r Heulfan, ail-baentio ac ailgladin ar brif adeilad y Theatr a chreu cyntedd mynedfa newydd. 

Mae gwaith ailwampio mewnol eisoes ar waith y tu mewn i’r adeilad.    Bydd gwaith yn cynnwys ailwampio’r bar yn llwyr, yn ogystal â chreu bwyty newydd.    

Mae gwaith hefyd ar y gweill i greu maes parcio newydd sbon wrth ymyl y theatr a rhoddwyd caniatâd cynllunio eisoes ar gyfer gwesty – Travelodge, tafarn/bwyty teulu – Marstons, trydydd uned fasnachol a gwaith ar faes parcio’r Pentref Plant.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid