Rhyddhau delweddau o Barc Dŵr y Rhyl
Mae set o ddelweddau o barc dŵr ac atyniad hamdden y Rhyl wedi cael eu rhyddhau, gan ddarparu cipolwg unigryw ar sut y bydd yr atyniad mawr hwn yn edrych.
Datganodd Aelodau'r Cyngor Sir eu cefnogaeth i gynnig y parc dŵr yn ffurfiol yn gynharach eleni. Bellach, mae cynlluniau manwl yn cael eu paratoi cyn eu cyflwyno i Adran Gynllunio'r Cyngor yn y dyddiau nesaf.
Mae Cyngor Tref y Rhyl hefyd yn darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y datblygiad.
Mae’r cynnig yn cynnwys gofod dŵr 1,200 metr sgwâr, gyda reidiau dŵr y tu mewn a’r tu allan, ffrâm chwarae a sleidiau dŵr i blant, man gweithgareddau uchder dwbl i blant, cyfleusterau dringo, ystafelloedd ar gyfer partïon, derbynfa, ardaloedd gwerthu, Pwll Sblasio y tu allan – dau bad sblasio gwlyb, ardaloedd ar gyfer gwelyau haul a therasau â chaffis i ddarparu adloniant chwarae gwlyb.
Bydd yno gabanau newid a thoiledau fel rhai ar y traeth, yn ogystal â bar a theras at gyda'r nos.
Bydd y datblygiad yn creu 60 o swyddi newydd ac yn denu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd gwaith yn dechrau fis Medi 2017 a bydd y cyfleusterau newydd ar agor yn fuan yn 2019.
Bydd y cynigion, a luniwyd mewn partneriaeth ag Alliance Leisure, hefyd yn golygu y bydd parc sglefrio yn cael eu hadleoli. Bydd y Cyngor yn ymgynghori â phobl ifanc leol i gydgynllunio'r parc sglefrio a bydd y cyfleuster newydd yn cynnig nodweddion newydd, mwy deniadol. Bydd pad sblasio a theras haul awyr agored llawer gwell yn dod yn lle’r pwll padlo, yn rhan o’r datblygiad.