Cronfa Datblygu Cynaliadwy
Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn 2001 i gefnogi prosiectau arloesol a chynaliadwy ym mhum Ardal o Harddwch Eithriadol Cymru a, gorau oll, rydym ni newydd sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn arall. Mae’r gronfa yn cefnogi cynlluniau byw a gweithio’n fwy cynaliadwy yn ogystal â gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, diwylliant, tirwedd, defnydd tir a chymunedau yng nghyd-destun nodau ac egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Gall nifer o bobl wahanol wneud cais am gyllid:
- Grwpiau cymunedol, gwirfoddol a phartneriaeth
- Cynghorau Cymuned
- Unigolion a sefydliadau sector preifat (ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd)
Mae’r gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n:
- Cynnal a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig
- Hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd
- Hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol
- Hyrwyddo mwynhad tawel o'r AHNE
Er enghraifft, prosiectau cynaliadwy mewn ysgolion, fel rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt neu fentrau ynni, gwastraff a lleihau traffig; prosiectau cludiant cynaliadwy i leihau ein defnydd o geir ac i wella iechyd; prosiectau gwella mannau agored mewn pentrefi at ddefnydd lleol a bywyd gwyllt; gwaith adfer nodweddion hanesyddol fel pwll pentref, perllan gymunedol neu ffiniau traddodiadol; rhaglenni hyfforddiant i warchod sgiliau traddodiadol fel plygu gwrych, codi waliau cerrig a rheoli cadwraeth.
Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnig grantiau prosiect, grantiau rheoli i gwrdd â chostau staff a grantiau datblygu i hybu camau gweithredu neu bartneriaethau newydd, ac mae modd derbyn grant i gwrdd â 50% o gostau’r prosiect.
Eisiau gwybod mwy?
Cysylltwch â Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu Cynaliadwy, ar 01824 712757 neu ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk.