Arweinwyr Chwaraeon
Yn ystod hanner tymor, cynhaliodd staff Gwasanaethau Hamdden gwrs Arweinwyr Chwaraeon Lefel 1 yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy. Cymerodd 20 o bobl ifanc o glybiau yn y gymuned leol ran yn y cwrs dau ddiwrnod.
Mae cymhwyster Arweinwyr Chwaraeon yn dysgu pobl ifanc sut i gynllunio ac arwain sesiynau.
Mae cwrs Arweinwyr Chwaraeon lefel 2 hefyd wedi cael ei gynnal dros 4 diwrnod yn ystod y Pasg.
I gael rhagor o wybodaeth ar Arweinwyr Chwaraeon cysylltwch â Hollie Collins ar hollie.collins@sirddinbych.gov.uk