llais y sir

Gwasanaethau Lles a Hamdden Cymunedol

Buddsoddi mewn Hamdden – Pam ymarfer yn unrhyw le arall?

Llanelwy

Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda phoblogrwydd canolfan hamdden newydd wych Llanelwy, ers iddi agor y llynedd. Ond, yn Hamdden Sir Ddinbych, nid ydym yn aros yn llonydd, ac ar ôl gwrando ar syniadau ein cwsmeriaid, rydym ar fin ymestyn y ddarpariaeth ffitrwydd ymhellach gyda'n hystafell HIIT newydd, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cyflwyno rhywbeth gwahanol a chyffrous i'ch ymarfer corff.

Bydd yr ardal hyfforddi newydd, arferai fod yn ystafell gyfarfod, yn cynnwys offer modern, gan gynnwys Skillmills a Skillrows Technogym a Beiciau Grŵp Cyswllt.  Hefyd bydd offer Arke Technogym a bocsys plyometric.  Yn ogystal â’r offer newydd, byddwn yn adnewyddu’r ystafell gan osod llawr newydd a system awyru.  Bydd gwaith yn dechrau yn ystod mis Mawrth ac rydym yn bwriadu agor ym mis Mai 2018. 

Bydd agor yr ystafell HIIT hefyd yn rhyddhau lle ychwanegol ar lawr y gampfa.  Mae cwsmeriaid wedi bod yn gofyn am ardal ymestyn, a gallwn rŵan ddarparu hyn.

Rydym yn gyffrous iawn am y gwagle newydd, ac, wrth gwrs, gall gwsmeriaid ddefnyddio hwn fel rhan o’u pecyn aelodaeth cyfredol a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.

Edrychwch hefyd am ein hamserlen Dosbarthiadau Cyflym newydd, dan arweiniad ein tîm o hyfforddwyr rhagorol.

St Asaph Leisure Centre

Y Rhyl

Mae ymarfer corff yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl ar fin cael ei drawsnewid.  Dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio’n galed i greu cyfres o ardaloedd ffitrwydd newydd wedi eu dylunio i ddod a rhywbeth newydd a chyffrous i’ch sesiwn ymarfer. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf a chwiliwch am y rhifyn nesaf o Lais y Sir lle cewch yr holl fanylion. 

Llangollen yw’r diweddaraf i elwa o fuddsoddiad canolfannau hamdden

Mae’r buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden ar draws Dyffryn Dyfrdwy a chymunedau ehangach Sir Ddinbych yn mynd yn ei flaen, gyda chyfleusterau sydd wedi eu huwchraddio yng Nghanolfan Hamdden Llangollen yn awr ar agor i’r cyhoedd.

Mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf yn y Ganolfan wedi canolbwyntio ar yr ystafell ffitrwydd, ac yn cynnwys cyflwyno offer cardio Technogym newydd, yn ogystal â thechnoleg cwmwl Lles sy'n galluogi pobl i wylio fideos a rhaglenni wrth hyfforddi. Mae'r ystafell hefyd wedi ei gweddnewid ac wedi ei hail addurno yn llwyr. Hefyd mae llawr newydd wedi ei osod.

Dyma'r cynllun diweddaraf i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden yn Nyffryn Dyfrdwy. Dim ond y llynedd yr adnewyddwyd y cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Corwen, yn ogystal â buddsoddiad yn yr ystafell ffitrwydd.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth: “Dyma garreg filltir bwysig arall yn ein hymdrechion i ehangu ein cyfleusterau hamdden ar draws y sir.

“Rydym yn wirioneddol falch o’n buddsoddiad mewn hamdden, ar adeg pan fo awdurdodau eraill yn cau cyfleusterau neu’n eu trosglwyddo i gwmnïau preifat.

“Rydym yn gweld y budd gwirioneddol i iechyd a lles pobl ac rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion ar draws y sir i sicrhau fod disgyblion, yn ogystal â’r gymuned ehangach yn elwa o’r cyfleusterau a’r dechnoleg hamdden ddiweddaraf.

“Rydym yn gobeithio y bydd defnyddwyr hamdden yn Llangollen, aelodau presennol a newydd, yn manteisio ar y cyfleusterau gwych yn y Ganolfan.

Leisure Centre

Peidiwch ag anghofio trefnu eich sesiwn un i un am ddim gydag aelod o'n tîm o hyfforddwyr gwych. Gallan nhw adnewyddu eich rhaglen, dangos yr amrywiaeth newydd o gyfarpar i chi a'ch helpu i osod eich cyfrif cloud.

Pêl-droed cerdded ar gyfer y rhai dros 50!

Mae Pêl-droed Cerdded yn cael ei gydnabod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fel ffurf fechan a chynhwysol o’r gêm. Caiff ei gydnabod fel cyfle i gynyddu cyfranogiad ar gyfer pob grŵp ac i annog cyfranogiad gan chwaraewyr o bob gallu. Os ydych chi dros 50 oed ac eisiau cymryd rhan, mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Dinbych bob dydd Mercher o 5pm - 5.45pm.

Walking Football

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Delyth Morgan ar 01824 706 859 neu trwy e-bost ar delyth.morgan@sirddinbych.gov.uk.

Cist Gymunedol

Fyddech chi’n hoffi £1,500 ar gyfer eich prosiect Chwaraeon Cymunedol? Yna gwnewch gais am grant Cist Gymunedol. Pwrpas y grant yw cynyddu cyfranogiad a gwella safonau o fewn clybiau chwaraeon y gymuned.Sport Wales

Bellach caiff ceisiadau eu derbyn ar-lein drwy wefan Chwaraeon Cymru.

Rhaid i ymgeiswyr gofrestru ar-lein cyn cwblhau’r ffurflen gais. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â aled.williams@sirddinbych.gov.uk.

 

Arweinwyr Chwaraeon

Yn ystod hanner tymor, cynhaliodd staff Gwasanaethau Hamdden gwrs Arweinwyr Chwaraeon Lefel 1 yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy. Cymerodd 20 o bobl ifanc o glybiau yn y gymuned leol ran yn y cwrs dau ddiwrnod.

Mae cymhwyster Arweinwyr Chwaraeon yn dysgu pobl ifanc sut i gynllunio ac arwain sesiynau.

Mae cwrs Arweinwyr Chwaraeon lefel 2 hefyd wedi cael ei gynnal dros 4 diwrnod yn ystod y Pasg.

I gael rhagor o wybodaeth ar Arweinwyr Chwaraeon cysylltwch â Hollie Collins ar hollie.collins@sirddinbych.gov.uk

Sport Leaders

 

Gwobrau Chwaraeon Anabledd Cymru

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Anabledd Cymru’n ddiweddar yng Ngwesty’r Fro ym Mro Morgannwg, ac fe gafodd y triathletwr lleol, Elan Williams, a’i mam Ceris ac aelod "chwedlonol” Chwaraeon Cymru, Stewart Harris, wahoddiad i fod yn siaradwyr gwadd.

Yn ystod sesiwn cwestiwn ac ateb gyda chyflwynwyr y wobr, fe wnaethant roi manylion ynghylch beth maent wedi'i gyflawni mewn chwaraeon, y teithiau gwahanol maent wedi bod arnynt, gan ddweud sut mae hyn wedi bod o fudd iddynt a newid eu bywydau. Siaradodd Ceris hefyd am ei meddyliau o safbwynt rhiant, a’r gwahaniaeth y mae hi’n teimlo y mae chwaraeon wedi’i wneud i fywyd ei merch. Fe wnaethant i gyd siarad yn gadarnhaol am y cyfleoedd sydd ar gael yn Sir Ddinbych a sut mae clwb insport wedi helpu'r clybiau maent yn eu mynychu i ddarparu cynhwysiant, ac fe wnaethant argymell mwy o glybiau i gyfranogi yn y rhaglen.

Mae Ceris yn aelod o Tristars Rhuthun ac mae Stewart yn aelod o Clwb Golff Y Rhyl.

I gael rhagor o wybodaeth am chwaraeon anabledd, yn cynnwys clybiau lleol ac insport, cysylltwch â Brett Jones ar 07990 561 024.

Disability Sports

Darparu Hyfforddiant gan Gwasanaethau Hamdden a Ieuenctid

Mae darpariaeth hyfforddiant a datblygu Gwasanaethau Hamdden a Gwasanaethau Ieuenctid yn cynnwys:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatreg
  • Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • Diogelu
  • Codi a Symud yn Gorfforol
  • Hyfforddiant Achubwr Bywydau
  • Hylendid Bwyd
  • Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid (Dyfarniad a Thystysgrif)
  • Arweinwyr Chwaraeon (Lefel 2)

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Hyfforddianthamdden@sirddinbych.gov.uk

Celfyddydau Cymunedol

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cynnig Sir Ddinbych i Comic Relief am grant 2 flynedd ar gyfer Cronfa Her Cartrefi Gofal wedi bod yn llwyddiannus.  O ganlyniad, bydd tri o gartrefi gofal Sir Ddinbych yn cael gweithdai rheolaidd gyda NEW Dance a cherddorion o Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi’i gydlynu gan Wasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych.  Bydd ymarferwyr celfyddydol yn gweithio’n agos gyda staff y cartrefi gofal i’w huwchsgilio ac i adeiladu ar gynaliadwyedd y prosiect. Yn ogystal â chyfranogi ym mhob sesiwn, bydd staff hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi penodol.

Rydym yn rhagweld y prosiect yn helpu i wella iechyd a lles preswylwyr cartrefi gofal, gan leihau’r risg o gwympiadau, i ostwng unigrwydd a chynyddu ymgysylltiad gyda'r gymuned, gan gynnwys ysgolion cynradd lleol a darparwyr trydydd sector, ac i gynyddu hyder y gofalwyr a’r staff yn y cartrefi. Rydym yn edrych ymlaen at gynnwys teuluoedd a gofalwyr, a chael llawer o hwyl yn y broses.Community Arts

Bu i dri aelod o’r tîm fynychu’r cyfarfod sefydlu ym Mhencadlys Comic Relief yn Llundain, lle cawsant eu cyflwyno i fyd Comic Relief a dysgu sut y byddwn yn gweithio gyda hwy dros gyfnod y grant.  Roedd hwn yn gyfle gwych i gyfarfod prosiectau llwyddiannus eraill, i ystyried sut i fesur effaith y prosiect ac i ddysgu sut y bydd Comic Relief yn gwerthuso’r fenter ariannu hon.

 

Gwobr Gwaith Chwarae

Mae 13 aelod o’r tîm Lles Cymunedol wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae’n ddiweddar. Bydd y staff nawr wedi’u hyfforddi i wella a darparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ar draws y sir. Bydd hyn yn cael ei sefydlu drwy ddarpariaeth o fewn ysgolion, digwyddiadau cymunedol a darpariaeth chwarae mynediad agored. Mae hyn yn ategu at y tîm o 4, i 17 staff cymwys Gwaith Chwarae nawr.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych wedi’i ddyfarnu’n ddiweddar â “Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf”.Family Information Service

Mae’r Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf (FFQA) yn fframwaith gwella ansawdd ac yn broses sicrwydd Ansawdd Cenedlaethol, wedi'u dylunio i'ch helpu i ddarparu gwybodaeth safon aur i deuluoedd a chadw teuluoedd wrth wraidd eich gwaith. Mae Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn cydnabod sefydliadau sy’n dangos rhagoriaeth mewn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd lleol.

Mae’r wobr wedi’i datblygu gyda’r Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant drwy Gymdeithas Genedlaethol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, i helpu gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd fesur eu heffeithiolrwydd wrth gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, cysylltwch â ni ar 01745 815891.

Medal Efydd Insport

Fe enillodd staff Hamdden Strategol Wobr datblygu lefel Efydd insport, gan banel o weithwyr chwaraeon proffesiynol ac arweiniol.Insport Bronze

Mae rhaglen Datblygu insport yn rhan o brosiect ehangach ganddynt, a’i nod yw cefnogi y sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden gan gynnwys cynnwys pobl anabl.  Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair safon gynyddrannol (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) a nodwyd cyfres o nodau ar eu cyfer.  Yn rhan o'r cyflwyniad, darparwyd gwybodaeth am ddarparu’r rhaglen, datblygu gweithlu a chyfleusterau ymysg pethau eraill.

Bydd swyddogion nawr yn gweithio tuag at y wobr arian.

I gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Anabledd cysylltwch â Brett Jones, Swyddog Chwaraeon Anabledd ar 07990 561 024.

Y Cyngor yn ennill Gwobr 'Hearts for the Arts' 2018

Cyhoeddwyd yr enillwyr ar gyfer yr Ymgyrch Genedlaethol dros y Celfyddydau, Gwobrau ‘Hearts For The Arts’ 2018.Hearts for the Arts

Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith y Cynghorau, Cynghorwyr a Swyddogion Cyngor sydd wedi goresgyn heriau ariannol i sicrhau fod y celfyddydau yn aros yng nghanol bywyd cymunedol.

Mae ‘Ymgolli mewn Celf’ gan y Cyngor Sir wedi’i enwi fel Prosiect Celfyddydau Awdurdod Lleol Gorau am Annog Cydlyniad Cymunedol. 

Mae Ymgolli mewn Celf yn brosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr. Nôd y prosiect yw archwilio swyddogaeth y celfyddydau gweledol wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio pobl sy’n dioddef gyda dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu ac ansawdd bywyd. Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor a’i brosiect ymchwil Dementia a Dychymyg.  Mae yna ddau grŵp yn rhedeg yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, un yn Y Rhyl a’r un arall yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth:   “Hoffwn longyfarch y Gwasanaeth Celf a’u tîm am y prosiect gwerth chweil hwn, mae ymchwil wedi dangos bod cymryd rhan mewn prosiect creadigol yn gallu gwella hwyliau a hyder y rhai sy’n cymryd rhan a gwneud iddynt deimlo eu bod yn perthyn i gymuned.

“Mae’r elfen integreiddio gydag ysgolion lleol hefyd yn ychwanegiad bendigedig.”

Dywedodd Siân Fitzgerald, Swyddog Celfyddydau Cymunedol: “Ar ran y Gwasanaeth Celfyddydau, rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i’r tîm artistig oedd yn cymryd rhan a’r holl gyfranogwyr sydd wedi bod yn rhan annatod o’r prosiect.

“Hefyd hoffwn gydnabod y gefnogaeth a’r arbenigedd rydym wedi’i dderbyn gan Ganolfan Grefft Rhuthun, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid