llais y sir

Addysg

Gwaith yn mynd rhagddo ar safle newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn

Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu ysgol safle sengl newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, a leolir ar hyn o bryd ar ddau safle yn Clocaenog a Cyffylliog. Ysgol Carreg Emlyn

Bydd yr adeilad newydd wedi'i leoli ar safle newydd sbon gyferbyn â safle presennol Clocaenog.

Er mwyn nodi dechrau’r gwaith ar y safle, mynychodd disgyblion a staff yr ysgol ynghyd a Chynghorwyr a'r Cynghorau Cymuned ddigwyddiad torri’r dywarchen ar y safle.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae’r ffaith fod gwaith yn dechrau ar yr ysgol newydd yn newyddion ardderchog i ddisgyblion yn Ysgol Carreg Emlyn ac i genedlaethau’r dyfodol sy’n byw yng Nghlocaenog, Cyffylliog a’r ardaloedd o amgylch.

“Roedd yn wych gweld disgyblion, athrawon ac arweinwyr cymunedol yn ymuno ar gyfer torri’r dywarchen ar safle’r ysgol newydd.

“Rydym yn cydnabod bod hyn wedi bod yn hir yn digwydd, ond rydym yn gwireddu ein haddewid i fwrw ymlaen â’r cynlluniau uchelgeisiol hyn.

“Mae gwneud Sir Ddinbych yn lle y bydd pobl iau am fyw ynddo a sicrhau bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol ac mae’r ysgol newydd hon yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd gwaith yn symud ymlaen i greu sylfeini'r adeilad a bydd y gwaith torri a llenwi y tir yn cael ei gyflawni i'r ardaloedd allanol. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Ysgolion a Rhaglen Gyfalaf Addysg yr 21ain Ganrif.

Wynne Construction yw'r prif gontractwyr a benodwyd i wneud y gwaith.

Gwaith adeiladu i ddechrau ar safle yr ysgol newydd 3-16 Catholig yn Y Rhyl

Mae gwaith galluogi wedi eu cwblhau gan Kier Construction ar safle yr ysgol newydd 3-16 Catholig yn Y Rhyl sydd yn agor y ffordd i’r prif waith adeiladu ddechrau. Mae’r lluniau isod yn dangos y cynnydd ar y safle a mae palisau wedi eu codi rhwng Ysgol Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones.

Catholic School

Bydd yr Esgobaeth Wrecsam a'r Cyngor Sir yn gweithio’n agos â’r ddwy ysgol i reoli’r cam hwn o’r prosiect er mwyn sicrhau fod y gwaith yn tarfu cyn lleied ag sy’n ymarferol bosib ar y disgyblion.

Bydd yr ysgol 3-16 newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam yn cymryd lle Ysgol Mair / Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Carreg filltir arbennig i Ysgol Llanfair DC

Mae seremoni torri tywarchen wedi nodi cam cyntaf adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd a ddechreuodd gael ei adeiladu ar y safle ar ddechrau mis Mehefin.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar dir cyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair gan ddefnyddio cyllid gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn ogystal â buddsoddiad gan y Cyngor Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol ar Addysg, Plant, Pobl Ifanc a’r Iaith Gymraeg: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn yn hanes Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

“Rydym wedi cydnabod bod y cyfleusterau presennol wedi dyddio a’u bod gwir angen moderneiddio.  Mae pryderon hefyd wedi codi am brinder maes parcio, ardaloedd staff, ardaloedd cyhoeddus a hygyrchedd i’r ysgol, sydd wedi’i leoli ar ffordd brysur yr A525 yng nghanol y pentref. Dyma’r rheswm bod y Cyngor, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi’n sylweddol yn y prosiect hwn ac rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn dechrau.

“Mae hyn yn datgan cyfnod newydd i genedlaethau o ddisgyblion yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac edrychwn ymlaen at weld cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cael eu datblygu ar y safle dros y misoedd nesaf”.

Mae cynnydd gwych wedi bod ar y safle hyd yn hyn ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cynnydd yn y gwaith tiroedd ar gyfer yr adeilad, maes parcio a maes chwarae newydd.

Cronfeydd cymunedol i'w hennill ar gyfer prosiectau addysg

Mae cyfanswm o £70,000 o gyllid wedi'i godi ar gyfer prosiectau addysgol yn Sir Ddinbych a gwahoddir ceisiadau yn awr.Community Foundation in Wales

Bydd cronfa addysg ar gyfer Dinbych a'r cyffiniau a chronfa ar wahân ar gyfer cymunedau ehangach Sir Ddinbych yn cefnogi addysgu unigolion a mentrau addysg penodol sy'n cefnogi grwpiau i gynnwys:

  • Prosiectau sy'n cefnogi'r addysgol cyrhaeddiad / datblygiad plant a phobl ifanc 11-25 oed;
  • Prosiectau mewn ysgolion/colegau sy'n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a byw'n iach; a
  • Prosiectau cynhwysiant addysg gyda chymorth i fyfyrwyr unigol drwy fwrsariaethau, ysgoloriaethau, cymorth teithio ac ati.

Ar gyfer Cronfa Dinbych, mae myfyrwyr rhwng 11 a 25 oed sydd ar hyn o bryd yn byw yn Ninbych neu yn ardaloedd Nantglyn, Henllan, Bodfari, Aberchwiler, Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, Llanynys, Llanefydd a Llansannan yn gymwys i ymgeisio, fel elusennau, grwpiau a sefydliadau sy'n rhedeg prosiectau a gweithgareddau er budd plant a phobl ifanc yn y cymunedau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Safonau Corfforaethol, ac sydd hefyd yn aelod o banel y gronfa addysg: "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod addysg yn gwella ac yn newid bywydau felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dyrannu'r arian hwn sydd ar gael i helpu plant a phobl ifanc yn yr ardal.

"Byddwn yn gofyn i'r gymuned roi eu syniadau ar brosiectau hyfyw a dod o hyd iddynt, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl arian sydd ar gael ac i wneud hynny'n ddoeth fel bod pobl ifanc yn gallu elwa ar y pot arian a ddyrannwyd inni."

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r sefydliad cymunedol yng Nghymru, ar 02920 379580 neu e-bostiwch:  info@cfiw.org.uk

Cynllun Addysg Gymraeg wedi cael sêl bendith

Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu addysg Cyfrwng Cymraeg yn y sir dros dair blynedd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (2017-2020) Sir Ddinbych, sy’n nodi sut bydd y Cyngor yn ceisio cyrraedd targedau a osodwyd yn genedlaethol.

Mae’r Cynllun yn nodi sut bydd yr awdurdod yn:

  • Sicrhau a datblygu digon o leoedd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion ledled y Sir
  • Cefnogi’r cynnydd mewn sgiliau cyfathrebu ar lafar a sgiliau deall Cymraeg ym mhob lleoliad blynyddoedd cynnar
  • Codi'r safon a chynyddu faint o Gymraeg a addysgir mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Cynyddu cyfran y dysgwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf
  • Gwella cyraeddiadau yn y Gymraeg ac mewn pynciau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol ym mhob ysgol
  • Datblygu gweithlu cynaliadwy er mwyn cynnal darpariaeth y dyfodol

Meddai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae gwella ansawdd addysg ac ansawdd ein hadeiladau ysgol yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd diweddar, a gellir gweld manteision hyn ar draws y sir.

“Rydym am i holl blant a phobl ifanc y Sir adael addysg llawn amser gyda’r gallu a’r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg.

“Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad cadarn drwy Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor i barhau i ganolbwyntio ar addysg cyfrwng Cymraeg a gweithio’n ddiflino i chwarae ein rhan o ran cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Daw’r Cynllun hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad arolygu Estyn o wasanaethau addysg y sir, a oedd yn canmol dull y Cyngor o ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Roedd wedi canfod: “Mae cynlluniau’r awdurdod ar gyfer cynyddu canran y dysgwyr mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn briodol uchelgeisiol, yn unol â’r targedau i gynyddu canran y pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sy’n addysgu llai na 50% ar hyn o bryd. Mae digon o leoedd ym mhob sector ar gyfer dysgwyr sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid