llais y sir

Haf 2018

Prosiect i helpu pobl yn ôl i waith yn cael ei lansio gan y Cyngor

Trechu tlodi drwy helpu pobl yn ôl i waith oedd canolbwynt digwyddiad lansio arbennig yn ddiweddar.

Mae'r Cyngor wedi lansio Sir Ddinbych yn Gweithio sy’n cynnwys prosiectau OPUS, ADTRAC a Chymunedau dros Waith.

Maent yn cefnogi preswylwyr 16 oed a throsodd sydd bellaf o’r farchnad lafur yn ôl i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, sydd i gyd yn flaenoriaethau allweddol yng Nghynllun Corfforaethol newydd y Cyngor.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Optic yn Llanelwy ar Ebrill 12, yn arddangos y prosiectau i dros 100 o bobl oedd yn bresennol o sefydliadau perthnasol gan ddarparu gwybodaeth am gymorth cyflogadwyedd.

Working Denbighshire

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddull newydd o ddatblygu a chreu cymunedau cryf ar draws yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda ffocws mwy llym ar drechu tlodi drwy ddarparu cymorth sy’n helpu pobl i waith, yn symud rhwystrau i gyflogaeth ac yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

“Fel rhan o’r blaenoriaethau a gaiff eu cynnwys yn ein Cynllun Corfforaethol, rydym yn anelu i gynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith gan sicrhau fod Sir Ddinbych yn lle y mae preswylwyr a busnesau yn gryf ac yn cysylltu'n dda ac â chyfleoedd i gael sgiliau a swyddi, gan arwain at fywydau llwyddiannus a boddhaus.”

Caiff ADTRAC, Cymunedau dros Waith ac OPUS eu cyllido’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford, ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobl i gael gafael ar y sgiliau a’r hyfforddiant y maent eu hangen i gael swydd o ansawdd dda. Mae’r prosiectau hyn yn enghreifftiau pellach o ba mor bwysig fu cyllid Ewropeaidd i Gymru ac yn dangos pa mor bwysig yw i Lywodraeth Prydain sicrhau fod cyllid ar gael yn ei le ar ôl Brexit fel y gallwn barhau i gefnogi pobl a'u helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus."

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach neu gymorth arnoch cysylltwch â sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...