llais y sir

Adran Busnes

Prosiect i helpu pobl yn ôl i waith yn cael ei lansio gan y Cyngor

Trechu tlodi drwy helpu pobl yn ôl i waith oedd canolbwynt digwyddiad lansio arbennig yn ddiweddar.

Mae'r Cyngor wedi lansio Sir Ddinbych yn Gweithio sy’n cynnwys prosiectau OPUS, ADTRAC a Chymunedau dros Waith.

Maent yn cefnogi preswylwyr 16 oed a throsodd sydd bellaf o’r farchnad lafur yn ôl i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, sydd i gyd yn flaenoriaethau allweddol yng Nghynllun Corfforaethol newydd y Cyngor.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Optic yn Llanelwy ar Ebrill 12, yn arddangos y prosiectau i dros 100 o bobl oedd yn bresennol o sefydliadau perthnasol gan ddarparu gwybodaeth am gymorth cyflogadwyedd.

Working Denbighshire

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddull newydd o ddatblygu a chreu cymunedau cryf ar draws yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda ffocws mwy llym ar drechu tlodi drwy ddarparu cymorth sy’n helpu pobl i waith, yn symud rhwystrau i gyflogaeth ac yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

“Fel rhan o’r blaenoriaethau a gaiff eu cynnwys yn ein Cynllun Corfforaethol, rydym yn anelu i gynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith gan sicrhau fod Sir Ddinbych yn lle y mae preswylwyr a busnesau yn gryf ac yn cysylltu'n dda ac â chyfleoedd i gael sgiliau a swyddi, gan arwain at fywydau llwyddiannus a boddhaus.”

Caiff ADTRAC, Cymunedau dros Waith ac OPUS eu cyllido’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford, ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobl i gael gafael ar y sgiliau a’r hyfforddiant y maent eu hangen i gael swydd o ansawdd dda. Mae’r prosiectau hyn yn enghreifftiau pellach o ba mor bwysig fu cyllid Ewropeaidd i Gymru ac yn dangos pa mor bwysig yw i Lywodraeth Prydain sicrhau fod cyllid ar gael yn ei le ar ôl Brexit fel y gallwn barhau i gefnogi pobl a'u helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus."

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach neu gymorth arnoch cysylltwch â sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk

Ydych chi wedi cofrestru eich eiddo ac adeiladau busnes bwyd?

Yn ôl Cyfraith Bwyd mae’n ofynnol i bob safle bwyd fod wedi ei gofrestru gyda'n Tîm Diogelwch Bwyd. Mae yna ddirwy o hyd at £5,000 am y drosedd o beidio â chofrestru eich safle bwyd.Food Safety

Pwy sydd angen cofrestru?

Os ydych chi’n rhedeg sefydliad bwyd sy’n darparu unrhyw fath o fwyd i’r cyhoedd (drwy werthu neu beidio) mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw safle y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi’r bwyd a ddarparwch chi e.e. caffis, cantîn staff, gwely a brecwast, stondinau marchnad a stondinau eraill, arlwywyr cartref, masnachwyr symudol, busnes dros dro neu achlysurol.

Pa bryd y bydd angen i mi gofrestru? 

Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen? Mae’n rhaid i chi ofalu fod gennym y gwybodaeth diweddaraf am eich sefydliad busnes bwyd ac mae’n rhaid ein hysbysu (yn ysgrifenedig fyddai orau) o fewn 28 diwrnod o unrhyw newid sylweddol mewn gweithgareddau, neu gau. Os bydd yna newid gweithredwr fe ddylai gweithredwr newydd y busnes bwyd hysbysu’r Cyngor o hynny.

Beth os byddaf i’n newid fy ngweithgareddau?

Mae’n ofynnol i ni gynnal rhestr o sefydliadau busnes bwyd sy’n gofrestredig â nhw a’i rhoi ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd yn gyffredinol ar bob adeg resymol. Bydd y rhestr yn cynnwys enw, cyfeiried a pha fath o fusnes bwyd ydi o.

Sut mae cofrestru?

Dylech gofrestru eich sefydliad busnes bwyd o leiaf 28 diwrnod cyn i’r gweithrediadau bwyd ddechrau.                

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid