llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Y Gylfinir Cymreig angen eich cymorth!

Y Gylfinir yn un o rywogaethau adar mwyaf eiconig Prydain. Mae ei gân groyw ac atgofus yn sŵn cyfarwydd; yn gennad Gwanwyn sydd yn gynhenid o fewn ein diwylliant.Welsh Curlew

Yn anffodus, mae’r Gylfinir o dan fygythiad difrifol, ac yn wynebu dyfodol ansicr trwy gydol Cymru ac mae’n prysur brinhau.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Cymru wedi colli dros 80% o’i gylfinirod bridio ers 1990au. Efallai bod cyn lleied o 400 o barau bridio ar ôl yng Nghymru heddiw, ac erbyn hyn dyma flaenoriaeth gadwraeth adar mwyaf dybryd yn y DU. Cafodd ei roi ar ‘Restr Goch’ Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r DU (BoCC).

Heb ymyrraeth, mae lle i gredu y gallai Gylfinirod bridio ddiflannu o dirlun Cymru o fewn pymtheg mlynedd gyda’r gyfradd bresennol o ostyngiad. Mae angen i ni weithredu rŵan i'w atal rhag bod ar ei ffordd i ddifodiant.

Sut allwch chi helpu?

Mae’n hanfodol gwybod lle mae’r Gylfinirod. Rydym angen cymaint o gofnodion ag sy’n bosibl i wybod lle mae’r Gylfinirod yn ystod y tymor bridio (rhwng Ebrill a Mehefin). Os fyddwch chi’n dod ar draws unrhyw ylfinirod - neu os ydych chi wedi gweld neu glywed rhai dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gadewch i ni wybod.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy, anfonwch e-bost at Vicky Knight o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, vicky.knight@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 712729.

Wythnos eithriadol ym mis Medi

Friends of the Clwydian RangeMae mis Medi erioed wedi bod yn fis eithriadol yn ein cefn gwlad wrth i’r cynhaeaf gael ei gasglu’n ddiogel, coed a dolydd yn dechrau troi’n lliwiau hydrefol, yr awyr yn cynnig palet llawn o arlliwiau, mwg coelcerthi’n aros yn awyr y nos a thawelwch croesawgar i ymwelwyr. Mae mis Medi yma fodd bynnag, yn addo i fod hyd yn oed yn fwy eithriadol!

Mae Teulu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau wythnos o hyd (ac ychydig mwy), a chael eu hysbrydoli gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Prydain (AHNE).

Mae’r digwyddiadau yn dechrau ddydd Sadwrn 15 Medi ac yn parhau tan ddydd Sul 23 Medi, ac mae'r digwyddiadau i'w gweld ar http://www.landscapesforlifeevents.org.uk/.

I ddathlu’r Wythnos Eithriadol, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain 3 taith gerdded ar hyd pob darn o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen. Bydd y cyfanswm o 11 milltir yn cael eu cerdded dros dridiau. Bydd pob taith gerdded yn mynd allan ac yn dychwelyd ar lwybr llusgo'r gamlas sy'n wastad ac yn addas i bawb. Os byddwch yn cwblhau’r dair daith gerdded, byddwch yn teithio tua 22 milltir! Fel arall, mae rhai o’r teithiau’n hygyrch i o leiaf ddychwelyd rhan o’r ffordd ar gludiant cyhoeddus. Bydd y teithiau cerdded yn cael eu harwain gan Swyddog yr AHNE a’u cefnogi gan Gyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (http://www.friends.cymru/).

Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho eich copi o ‘O Gwmpas’ http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/digwyddiadau/

TAITH 1 Dydd Llun 17 Medi Cyfarfod:  10am

Maes Parcio Grîn Llantysilio (talu ac arddangos)

GR 198 433 (tua 8 milltir)

TAITH 2 Dydd Mercher 19 Medi Cyfarfod:  10am

Tu allan i Ganolfan Wybodaeth y Draphont Ddŵr

Tua 6 milltir

TAITH 3 Dydd Gwener 21 Medi Cyfarfod:  10am

Tu allan i Ganolfan Wybodaeth y Draphont Dŵr

GR 271 422 (tua 8 milltir)

 

 

 

Llenwch eich blwyddyn gyda hwyl teuluol cyfeillgar!

Mae O Gwmpas yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chefn Gwlad Sir Ddinbych allan!Out and About Cover Welsh

Mae ein rhaglen ar gyfer 2018 yn cynnig amryw o ffyrdd i fwynhau tirlun godidog a threftadaeth cefn gwlad anhygoel y sir. O deithiau cerdded i glybiau ar ôl ysgol, mae yna rywbeth at ddant pawb.

Wyddoch chi fod yr awyr mewn rhannau o Fryniau Clwyd ymysg y tywyllaf yn y DU? Os hoffech ganfod mwy am yr Awyr Dywyll pam nad ewch i un o’r llu o ddigwyddiadau yn ein rhaglen, o deithiau cerdded Ystlumod i Wibfeini a’r Nos.

Pam na roddwch her i chi eich hun a chymryd rhan yn Her y Mynydd at y Môr? Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi llunio cyfres o deithiau cerdded a ddechreuodd gyda chyflwyniad yn Llyn Brenig. Byddwn nesaf yn archwilio pwyntiau amrywiol ar hyd yr Afon Clwyd wrth iddi lifo ar hyd cwrs 35 milltir, gan ostwng 1,200 troedfedd i’r traeth enwog yn y Rhyl.

Monitro Gloÿnnod Byw

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod ar genhadaeth i fonitro ein gloÿnnod byw.Butterflies 1

Mae monitro gloÿnnod byw yn bwysig oherwydd y gellir defnyddio’r data a gesglir i fesur llwyddiant rheolaeth cynefinoedd lleol. Mae cylch bywyd gloÿnnod byw yn un cyflym iawn ac maent yn hynod sensitif i amodau amgylcheddol.  Mae eu dibyniaeth ar rywogaethau penodol o blanhigyn a chynefinoedd yn rhoi syniad da i ni o’r mannau lle mae angen i ni gyfeirio ein hymdrechion cadwraeth ac asesu llwyddiant gwaith cadwraeth sydd eisoes yn digwydd. 

Enghraifft dda o rywogaeth o löyn byw sy’n ddibynnol ar ei gynefin a’r rhywogaethau eraill yn y cynefin hwnnw yw’r glöyn byw glas cyffredin.

Bydd gloÿnnod yw cyffredin yn dodwy eu hwyau ar blanhigyn bwyd eu lindys, fel arfer y feillionen hopysaidd gyffredin. Ymhen tua 8 diwrnod bydd yr wyau yn deor a bydd y lindys yn bwydo ar y planhigyn hwn.

Tra bydd y lindys yn bwydo, bydd yn secretu melwlith sy’n denu morgrug. Yn gyfnewid am y cyflenwad cyson o felwlith bydd y morgrug yn diogelu’r lindys rhag ysglyfaethwyr.  Ar ôl tu 6 wythnos bydd y lindys yn troi’n grysalis ar y ddaear neu wrth droed ei blanhigyn bwyd.  Bydd morgrug sy’n dod o hyd i’r crysalis yn aml iawn yn ei gladdu, sydd unwaith eto yn ei ddiogelu rhag ysglyfaethwyr.

Ar ôl pythefnos bydd glöyn byw yn dod allan o’r crysalis fel oedolyn. Byddant yn paru a bydd y cylch yn dechrau eto. Dim ond am tua 3 wythnos y bydd glöyn byw o’r rhywogaeth hwn yn byw.

Heb y feillionen hopysaidd a’r morgrug ni fyddai’r math hwn o löyn byw yn gallu goroesi.

Mae arolygon gloÿnnod byw yn cael eu cynnal ym Mharc Gwledig Loggerheads a Gwarchodfa Natur Bryniau Prestatyn.Butterflies 2

Sefydlwyd llwybr arolygu Loggerheads ym mis Chwefror 2017 a chafodd ei fonitro drwy gydol y tymor. Cofnodwyd 22 o wahanol rywogaethau gyda 3 ohonynt yn Rhywogaethau Pwysig Iawn.

Sefydlwyd llwybr arolygu bryniau Prestatyn ddiwedd 2017. Cafodd pobl leol eu hyfforddi ac mae’r llwybr yn awr yn cael ei fonitro gan wirfoddolwyr.  Bydd y data a gesglir yn cael ei ddadansoddi ddiwedd tymor 2018. 

Y gobaith yw y caiff rhagor o lwybrau arolygu eu sefydlu yn yr AHNE gan wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi. Mae dechrau cynnwys gwirfoddolwyr wedi gwneud yr arolygu yn fwy cynaliadwy ac wedi addysgu cynulleidfa newydd am bwysigrwydd ein gloÿnnod byw hardd.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn arolygu gloÿnnod byw yn eu hardal, cysylltwch â Vicky Knight trwy e-bost Vicky.knight@sirddinbych.gov.uk

Hyfforddiant Codi Waliau Cerrig Sychion

Dry Stone Walling 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut i godi waliau cerrig sychion?

Eleni fe fyddwn yn cynnal cyfres o gyrsiau hyfforddi am ddim i ddysgu sut i godi waliau cerrig sychion a sgiliau gwledig eraill, a hynny o ganlyniad i gyllid gan Cadwyn Clwyd.

Bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn cael eu cynnal yn ardal Corwen, ond byddant hefyd yn cael eu cynnal ar Foel Famau ac yn Rhuddlan. Byddant yn rhoi cyfle i ddechreuwyr llwyr neu rai sy’n fwy profiadol mewn codi waliau i ddod draw i hogi eu sgiliau. Bydd y cyrsiau’n cael eu harwain gan hyfforddwyr sydd wedi cymhwyso mewn codi waliau cerrig sychion a byddant fel arfer yn rhedeg am 3 diwrnod ar y tro – gallwch aros cyhyd neu am gyfnod mor fyr ag y dymunwch. Dewch â’ch cinio a’ch diodydd eich hun os gwelwch yn dda a sicrhewch fod gennych ddillad addas (gan gynnwys dillad glaw / hetiau). Dylid gwisgo esgidiau gyda blaen dur os yn bosibl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Ros Stockdale os gwelwch yn dda ar 01824 712794 neu e-bostiwch ros.stockdale@sirddinbych.gov.uk

Mae’r prosiect LEADER hwn yn rhan o Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bryniau ClwydCadwyn ClwydWelsh Government

O Gwmpas 2018

Mae llyfryn rhaglen gweithgareddau AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasnaethau Cefn Gwlad y Cyngor Sir ar gael mewn print ac ar lein yma ...http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/digwyddiadau/AONB Welsh

Os ydych angen copiau, cysylltwch gyda Pharc Gwledig Loggerheads ar 01824 712738 neu ebostiwch ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid