llais y sir

Haf 2018

Mwy o arddangosfeydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl 2018

Bydd awyren a ddefnyddiwyd yn y ffilm a enillodd Oscar, Dunkirk, yn cymryd rhan yn Sioe Awyr y Rhyl yr haf hwn.

Bydd y Bristol Blenheim olaf yn y byd yn ymuno â’r Red Arrows yn y digwyddiad sydd am ddim, a gynhelir yn yr awyr uwchben y Rhyl ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Awst.Team Raven

Y Cyngor sy’n trefnu Sioe Awyr Y Rhyl, gyda chefnogaeth Cyngor Tref y Rhyl fel partneriaeth allweddol y digwyddiad.

Roedd tua 50 o awyrennau Blenheims, bomwyr ysgafn, wedi cymryd rhan yng ngwacau Dunkirk, trwy aflonyddu lluoedd y gelyn ym 1940, ac mae’r awyren sy’n dod i'r Rhyl wedi ymddangos yn y ffilm yn 2017 yn serennu Tom Hardy.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Dyma’r tro cyntaf i’r Bristol Blenheim gymryd rhan yn Sioe Awyr y Rhyl.

 “Yn ogystal ag Awyrennau Cofeb Brwydr Prydain, mae’r cyhoeddiad am yr awyren hon yn dangos ein hymrwymiad i gyfuno nostalgia gydag arddangosfeydd erobatig o'r radd flaenaf, gan helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb.Red Arrows

 “Sioe Awyr y Rhyl yw’r digwyddiad am ddim gorau o'i fath yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â chynnig adloniant o’r radd flaenaf ar stepen ddrws pobl leol, mae'n bwysig oherwydd ei fod yn atynnu miloedd o ymwelwyr ar draws y DU. Golygai hyn y bydd pobl yn gwario mwy yn siopau, bwytai, gwestai, tafarndai a busnesau eraill y dref, gan gefnogi'r economi lleol, sy'n flaenoriaeth i'r Cyngor."

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Maer y Rhyl: “Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch iawn o gefnogi sioe awyr y dref unwaith eto. Mae hwn yn un o uchafbwyntiau tymor yr haf a bob amser yn llwyddiant ysgubol. Mae pobl yn dod o bell i wylio’r arddangosfa a bob amser yn cael croeso cynnes. Edrychwn ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall, ac wrth gwrs, mae'r Red Arrows yn un o'r uchafbwyntiau."

Bydd y Red Arrows yn cloi Sioe Awyr y Rhyl ddydd Sul, gyda’r Bristol Blenheim yn cloi’r gweithgareddau dydd Sadwrn.

BlenheimMae’r arddangosfeydd eraill yn cynnwys Awyrennau Cofeb Brwydr Prydain gyda’r Spitfire, Hurricane a Dakota, Tîm Arddangos Parasiwt y Red Devils, Tîm arddangos ffurfiannau erobatig Team Raven ac awyren hyfforddiant ac ymosod ysgafn wedi’i bweru gan jet sef y Strikemaster.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr lleol i gerdded neu feicio i’r sioe awyr eleni er mwyn osgoi tagfeydd traffig.

Bydd manylion llawn yr arddangosfeydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach ac am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.sirddinbych.gov.uk/sioeawyryrhyl

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...