llais y sir

Haf 2018

Hysbysiad o flaen llaw o waith adnewyddu sylweddol i bwll nofio yng Nhanolfan Hamdden Rhuthun

Mae gwaith adnewyddu sylweddol i bwll nofio Canolfan Hamdden Rhuthun ar fin dechrau yn yr haf.

Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn y Ganolfan Hamdden yn barod yn yr ardaloedd ffitrwydd a newid. 

Bydd cam nesaf y rhaglen adnewyddu yn cynnwys:

  • Diweddariadau sylweddol i ystafelloedd newid gwlyb merched a dynion i greu ardal newid ar y cyd
  • Gwelliannau sylweddol i neuadd y pwll, gan gynnwys to newydd
  • Creu cyfleuster newid hygyrch sydd â mynediad uniongyrchol at ochr y pwll a newidiadau i fynedfeydd.

Bydd y pwll nofio yn cau ar ddydd Sul 22 Gorffennaf am gyfnod o oddeutu 24 wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ochr y pwll a’r ystafelloedd newid yn cael eu hadnewyddu.

Dywed y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Cabinet Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Iechyd a Lles: “Rydym wrth ein bodd yn gallu parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein cyfleusterau hamdden a fydd yn cynnig cyfleuster nofio o ansawdd uchel i’r gymuned am yr 20 mlynedd nesaf.

“Rydym yn falch iawn o’r hanes blaenorol o fuddsoddi mewn canolfannau hamdden pan mae ardaloedd eraill yn y DU yn gweld eu canolfannau hamdden yn cau.  Credwn yn gryf am yr angen i fuddsoddi mewn cyfleusterau gan fod buddion iechyd a lles amlwg yn ogystal â galw mawr gan y cyhoedd am weithgareddau a chyfleusterau y gallent gael mynediad iddynt saith niwrnod yr wythnos.

“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid o flaen llaw am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i’r gwaith adnewyddu fynd rhagddo ond bydd y gwaith adnewyddu gorffenedig yn darparu profiad nofio llawer gwell”.

Ar gyfer plant wedi cofrestru ar Raglen Nofio Sir Ddinbych bydd y sir yn cysylltu â chwsmeriaid yn gofyn os ydynt yn fodlon symud i safle arall ar gyfer y cyfnod cau (yn dibynnu ar argaeledd).

Ar gyfer y rheiny sy’n dymuno defnyddio cyfleusterau nofio yn agored i'r cyhoedd mae sesiynau dyddiol ar gael yn Ninbych, Corwen, Y Rhyl a Nova Prestatyn.

Mae amserlenni ar gyfer y Canolfannau hyn ar gael ar wefan hamdden y sir: http://www.denbighshireleisure.co.uk

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda chlybiau sydd yn defnyddio'r pwll nofio i ddod o hyd i ddarpariaeth arall.

Bydd y Cyngor hefyd yn adolygu’r sefyllfa ar gyfer gwersi nofio ysgol pan fydd yr amserlen yn cael ei chadarnhau ym mis Medi.

Yn ystod yr adnewyddu, bydd yr ystafell ffitrwydd, stiwdio, neuadd chwaraeon a’r cae chwarae pob tywydd ar gael i’w defnyddio fel yr arfer.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â gwersi nofio neu unrhyw agwedd arall o'r gwaith adnewyddu, siaradwch ag aelod o staff yn y Ganolfan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...