llais y sir

Gwasanaethau Lles a Hamdden Cymunedol

Hysbysiad o flaen llaw o waith adnewyddu sylweddol i bwll nofio yng Nhanolfan Hamdden Rhuthun

Mae gwaith adnewyddu sylweddol i bwll nofio Canolfan Hamdden Rhuthun ar fin dechrau yn yr haf.

Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn y Ganolfan Hamdden yn barod yn yr ardaloedd ffitrwydd a newid. 

Bydd cam nesaf y rhaglen adnewyddu yn cynnwys:

  • Diweddariadau sylweddol i ystafelloedd newid gwlyb merched a dynion i greu ardal newid ar y cyd
  • Gwelliannau sylweddol i neuadd y pwll, gan gynnwys to newydd
  • Creu cyfleuster newid hygyrch sydd â mynediad uniongyrchol at ochr y pwll a newidiadau i fynedfeydd.

Bydd y pwll nofio yn cau ar ddydd Sul 22 Gorffennaf am gyfnod o oddeutu 24 wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ochr y pwll a’r ystafelloedd newid yn cael eu hadnewyddu.

Dywed y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Cabinet Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Iechyd a Lles: “Rydym wrth ein bodd yn gallu parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein cyfleusterau hamdden a fydd yn cynnig cyfleuster nofio o ansawdd uchel i’r gymuned am yr 20 mlynedd nesaf.

“Rydym yn falch iawn o’r hanes blaenorol o fuddsoddi mewn canolfannau hamdden pan mae ardaloedd eraill yn y DU yn gweld eu canolfannau hamdden yn cau.  Credwn yn gryf am yr angen i fuddsoddi mewn cyfleusterau gan fod buddion iechyd a lles amlwg yn ogystal â galw mawr gan y cyhoedd am weithgareddau a chyfleusterau y gallent gael mynediad iddynt saith niwrnod yr wythnos.

“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid o flaen llaw am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i’r gwaith adnewyddu fynd rhagddo ond bydd y gwaith adnewyddu gorffenedig yn darparu profiad nofio llawer gwell”.

Ar gyfer plant wedi cofrestru ar Raglen Nofio Sir Ddinbych bydd y sir yn cysylltu â chwsmeriaid yn gofyn os ydynt yn fodlon symud i safle arall ar gyfer y cyfnod cau (yn dibynnu ar argaeledd).

Ar gyfer y rheiny sy’n dymuno defnyddio cyfleusterau nofio yn agored i'r cyhoedd mae sesiynau dyddiol ar gael yn Ninbych, Corwen, Y Rhyl a Nova Prestatyn.

Mae amserlenni ar gyfer y Canolfannau hyn ar gael ar wefan hamdden y sir: http://www.denbighshireleisure.co.uk

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda chlybiau sydd yn defnyddio'r pwll nofio i ddod o hyd i ddarpariaeth arall.

Bydd y Cyngor hefyd yn adolygu’r sefyllfa ar gyfer gwersi nofio ysgol pan fydd yr amserlen yn cael ei chadarnhau ym mis Medi.

Yn ystod yr adnewyddu, bydd yr ystafell ffitrwydd, stiwdio, neuadd chwaraeon a’r cae chwarae pob tywydd ar gael i’w defnyddio fel yr arfer.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â gwersi nofio neu unrhyw agwedd arall o'r gwaith adnewyddu, siaradwch ag aelod o staff yn y Ganolfan.

Ardal chwaraeon

Yr haf hwn mae camp aml chwaraeon Hamdden Sir Ddinbych, i fechgyn a merched rhwng 6-11 oed, yn dychwelyd i’n Canolfannau Hamdden. Sports Equipment

Mae Ardalchwaraeon yn gyfle gwych i blant fwynhau eu hunain, cymdeithasu a rhoi cynnig ar ystod eang o chwaraeon, megis pêl-rwyd, pêl-fasged, rygbi, badminton a phêl-droed.

Gall amserlenni amrywio o Ganolfan i Ganolfan, felly gwiriwch ein gwefan am fwy o fanylion.

Cerdyn Hamdden

Mae Cardiau Hamdden yn cynnig gostyngiadau ar weithgareddau yng Nghyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych a safleoedd eraill.

Mae’r cardiau ar gael i oedolion, ieuenctid, myfyrwyr, unigolion dros 60 oed a grwpiau.

Os ydych wedi cofrestru fel unigolyn anabl, yn hawlio budd-daliadau diweithdra neu gymhorthdal incwm, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Cerdyn Hamdden am ddim.

Ewch i http://www.denbighshireleisure.co.uk/ neu gofynnwch i aelod o staff am fanylion.

Canolfannau Hamdden

Tra bod awdurdodau eraill yn cael trafferth buddsoddi yn eu darpariaethau hamdden, mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o safon uchel a gwerth am arian i’w gwsmeriaid.Rhyl Leisure Studio Cycling

Dros y 12 mis diwethaf, mae llawer o ddatblygiadau cyffrous iawn wedi bod ar draws y Sir, gan gynnwys ystafell ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden Llangollen a chae pêl-droed 3G cyntaf (i dimau 5 bob ochr) Sir Ddinbych yng Nghorwen. Yn dilyn agor canolfan a chyfleuster 3G newydd yn Llanelwy yn ystod mis Medi diwethaf, ychwanegwyd at y cyfleusterau ym mis Mai drwy adeiladu ystafell hyfforddi HiT newydd.

Mae'r datblygiadau yn parhau gyda ailddatblygu Canolfan Hamdden y Rhyl wedi ei gwblhau. Mae'r Cyngor Sir wedi agor Stiwdio Feicio Grŵp gyda 25 beic yn y ganolfan, sy’n cynnwys systemau sain a goleuo wedi ei deilwra.  Bydd y stiwdio yn cynnig 15 dosbarth beicio grŵp yr wythnos, yn cynnwys boreau cynnar a nosweithiau, fel rhan o’r amserlen newydd.  Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, aelod arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Y stiwdio hon yw'r ychwanegiad diweddaraf i Ganolfan Hamdden y Rhyl, sydd wedi derbyn £1.2m i ailddatblygu dros y 12 mis diwethaf.

“Rydym wir yn falch o’n henw da mewn buddsoddi yn ein cyfleusterau hamdden, tra bo cynghorau eraill yn ystyried cau’r fath gyfleusterau.

“Rydym yn cydnabod manteision ein cyfleusterau mewn gwella iechyd a lles ein preswylwyr drwy wneud ein cymunedau yn gryf, sy’n flaenoriaeth i’r Cyngor.”

Mae Beicio Grŵp yn weithgaredd lle ceir ychydig iawn o straen ar gymalau pen-glin, cluniau a fferau, ac yn un o’r sesiynau stiwdio sy’n llosgi’r mwyaf o galorïau, lle mae’r beicwyr yn gallu teilwra’r gweithgaredd i'w gallu eu hunain trwy addasu eu beiciau.

Y rhan olaf o’r ailddatblygiad yw agor ystafell ffitrwydd newydd yn y ganolfan ar 3 Gorffennaf, sy'n cynnwys y cyfarpar cardio ac ymwrthedd Technogym diweddaraf gyda llwybrau hyfforddi awyr agored rhithiol.

Mae’r cyfarpar newydd yn cynnwys ‘Skill Runs’, sy’n caniatáu rhedwyr i berfformio hyfforddiant parasiwt a sled, a dringwr grisiau.

Mae ystafelloedd newid y ganolfan hefyd wedi cael eu huwchraddio ac yn agor ar 3 Gorffennaf.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau’n fuan ar ddiweddaru pwll nofio ac ystafelloedd newid Canolfan Hamdden Rhuthun ac ar ddiweddaru’r ystafelloedd newid yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn.

Dim ond cipolwg yw’r prosiectau hyn o’r rhaglen gyffrous o welliannau sydd ar y gweill yng nghyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych – galwch heibio’ch canolfan leol i weld dros eich hunain.

Gwersi Nofio

A wyddoch chi fod plant yn gallu dysgu i nofio gyda Hamdden Sir Ddinbych yn 3 mlwydd oed? Swimming

Gan ddechrau gyda sesiynau Sblash, mae plant yn symud drwy 7 cam, gan ddilyn Cynllun Dysgu Nofio Cymreig. Byddwch yn siŵr o weld eu sgiliau a’u hyder yn datblygu wrth iddynt symud o un lefel i’r llall.

Cynigir gwersi dwyieithog ar draws y sir ac mae ein Porth Rhieni yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden leol.

Byddwn hefyd yn ymgynhori â rhieni er mwyn gweld faint o alw sydd am wersi nofio Cymraeg fel ein bod yn gallu trefnu sesiynau yn y lle cywir.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid