llais y sir

Haf 2018

Chwilio am wirfoddolwyr ifanc ar gyfer Sialens Darllen yr Haf

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych yn chwilio am wirfoddolwyr ifanc i helpu gyda Sialens Ddarllen yr Haf eleni.Summer Reading Challenge

Y llynedd, bu 3,394 o blant Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y Sialens Ddarllen ac mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn dymuno efelychu  llwyddiant ysgubol y llynedd trwy gynnwys gwirfoddolwyr.

Thema’r Sialens eleni yw Dyfeiswyr Direidi.

Gwahoddir pobl ifanc rhwng 14 a 24 oed i ymuno fel gwirfoddolwyr a byddant yn elwa o brofiad gwaith gwerthfawr, y cyfle i ddatblygu hyder a sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â chyfrannu’n  gadarnhaol i'r gymuned leol.

Bydd gwirfoddolwyr yn cofrestru plant ar gyfer y Sialens a'u helpu i ddod o hyd i lyfrau, helpu plant a theuluoedd i ddefnyddio gwefan y Sialens a chynorthwyo gyda digwyddiadau yn llyfrgelloedd y sir.

Bydd angen i'r gwirfoddolwyr ymrwymo i o leiaf dair awr dros bedair wythnos. Bydd angen sgiliau cyfathrebu da ac, yn ddelfrydol, parodrwydd i ymgysylltu â phlant a theuluoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg; diddordeb mewn cefnogi a gweithio gyda phlant, ac mewn llyfrau a darllen; ac agwedd hyblyg a chyfeillgar tuag at dasgau a gyflawnir, prydlondeb a dibynadwyedd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r llyfrgell leol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...