llais y sir

Newyddion

Cyfarfod y Prif Weithredwr newydd

Dyma'r Prif Weithredwr yn siarad yn ei blog cyntaf ..........

 

£90 miliwn o fuddsoddiad i ysgolion Sir Ddinbych

Mae buddsoddiad o £90 miliwn i ysgolion y Sir wedi gweld mwy na 3,500 o ddisgyblion yn elwa o gyfleusterau gwell.Matt\'s article on schools

Mae cam cyntaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a'r Cyngor wedi gweld ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yn ogystal ag ail-ddatblygu sylweddol o safleoedd presennol gyda chwarter o ddisgyblion y sir yn gweld trawsnewid yn eu profiad addysgu.

Mae cam cyntaf y rhaglen wedi gweld ysgol newydd gwerth £24 miliwn gyda 1,200 o lefydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, estyniad ac adnewyddu Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy gwerth £16.5m, a safle newydd ar y cyd gwerth £10.5 miliwn i Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.

Mae gwaith arall yn cynnwys estyniad ac adnewyddu saith ystafell ddosbarth gwerth £3.5m gydag ardal dderbynfa a neuadd newydd yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn yn ogystal ag estyniad ac adnewyddu tair ystafell ddosbarth gwerth £1.4m yn Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd.

Mae gwaith bellach wedi’i ddechrau ar y tri prosiect olaf yn y cam cyntaf, adeiladu ysgol newydd gwerth £5m i Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog, adeiladu ysgol newydd gwerth £5.3m i Ysgol Llanfair ynghyd â’r Ysgol Gatholig 3-16 yn y Rhyl gwerth £23m.

Mae ail gam o’r rhaglen genedlaethol sydd i’w ddechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf ar hyn o bryd yn y cam datblygu ar ôl i’r amlinelliad strategol gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd.

Bydd y ffocws bellach ar ddatblygu prosiectau unigol am gyllid.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r buddsoddiad wedi altro’r amgylchedd addysgu yn llwyr i filoedd o ddisgyblion. Mae dysgu disgyblion mewn ystafelloedd hen ffasiwn wedi hen fynd a bellach mae ganddyn nhw ardaloedd pwrpasol a newydd sy’n ateb y gofynion.

“Mae’r dystiolaeth eisoes yn dangos fod hyn wedi newid ymateb y disgyblion i ddysgu ac yn eu helpu nhw i gyflawni mwy nag erioed yn yr ysgol.

“Mae gwneud yn siŵr fod gan bobl ifanc y sgiliau cywir yn flaenoriaeth allweddol o'n Cynllun Corfforaethol a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ysgolion y sir wrth i ni edrych tuag at y cam nesaf o raglen Ysgolion y 21ain Ganrif gyda Llywodraeth Cymru.”

Mae contractwyr sydd wedi bod yn gweithio ar yr ysgolion sef Willmott Dixon, Reed Construction, Wynne Construction a Kier Construction wedi bod yn defnyddio cadwyni cyflenwi a gweithwyr lleol i wneud y gwaith.   Fel rhan o hynny mae yna bwyslais ar gaffael canran uchel o wariant o fewn yr ardal leol ac mae nifer fawr o isgontractwyr lleol yng Ngogledd Cymru wedi cael eu cyflogi i helpu gyda chyflawni’r prosiectau hyn. 

Penderfyniad wedi'i wneud ar ddyfodol Canolfan Dydd Hafan Deg

Mae gweithrediad canolfan gofal dydd yn y Rhyl wedi’i drosglwyddo i ddarparwr gofal.Hafan Deg

Gwnaeth Cabinet y Cyngor gyfarfod ar 24 Ebrill i drosglwyddo’r gwaith o redeg Canolfan Dydd Hafan Deg, sy’n darparu gweithgareddau a grwpiau i’r henoed, i’r cynigydd a ffefrir ar gyfer y contract, KL Care.

Mae’r Cyngor wedi dilyn proses dendro i ddod o hyd i gontractwr a allai ddangos sut gallai gwasanaethau o Hafan Deg gynyddu nifer y bobl sy’n gallu aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy, cynyddu nifer y bobl hŷn sy’n cael rhyngweithio cymdeithasol yn ogystal â’r mathau o wasanaethau sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Mae diogelu dyfodol Hafan Deg a chynyddu’r cyfleoedd a’r manteision i bobl hŷn sy’n defnyddio’r ganolfan yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Bydd trosglwyddo’r safle i’r cynigydd a ffefrir yn caniatáu parhad gwasanaethau gofal dydd yn yr adeilad a galluogi asiantaethau trydydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar i bobl hŷn sy’n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, cefnogi annibyniaeth a hyrwyddo cadernid.

“Dan ein Cynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi’i gwneud yn flaenoriaeth i gefnogi unigolion i ddatblygu cadernid, gan eu galluogi i aros adref, wedi’u cysylltu â’u cymunedau a’u cefnogi mewn amgylchedd deniadol ac mae diogelu a gwella gwasanaethau yn Hafan Deg yn helpu preswylwyr i wneud hynny.”

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y safle eisoes, ac roedd ymatebion yn bwydo i mewn i gynlluniau.

Fel rhan o fanyleb y contract, disgwylir i’r darparwr ddatblygu Fframwaith Sicrhau Ansawdd cadarn a bydd y Cyngor yn gofyn am adborth gan deuluoedd, budd-ddeiliaid a staff.

Mae’r cytundeb am ddechrau o Mis Medi.

Mae KL Care Limited yn ddarparwr gofal cartref wedi’i gymeradwyo gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ardaloedd Sir Ddinbych a Chonwy.

Newyddion da ar gyfer deiliaid bathodynnau glas

Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas yn byw yn Sir Ddinbych, fe fyddwch nawr yn gallu parcio ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor am awr ychwanegol.Blue Badges

Yr ydym yn rhoi yr awr ychwanegol ar ben yr amser sy'n dod i ben wedi'i argraffu ar eich tocyn talu ac arddangos.

Ystyrir yr awr ychwanegol fel "addasiad rhesymol" o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac fe'i gweithredwyd hefyd gan rai cynghorau eraill sy'n codi tâl am ddeiliaid bathodyn glas am barcio.

Bydd swyddogion gorfodi sifil sy'n gweithio mewn maes parcio yn caniatáu awr ychwanegol i'r amser a ddangosir.

Nid yw'n hanfodol i ddeiliaid bathodynnau glas barcio mewn bae anabl i dderbyn yr awr ychwanegol. Fel arfer, mae mwyafrif y deiliaid bathodyn glas yn parcio mewn mannau anabl gan fod llefydd fel arfer ar gael ac maent fel arfer yn agosach at fynedfeydd i gerddwyr. Fodd bynnag, os nad oes lleoedd ac mae angen iddynt barcio mewn mannau parcio eraill, bydd yr awr ychwanegol yn berthnasol.

Edrychwn ymlaen i’r cynllun hwn ddechrau a byddwn yn monitro ei lwyddiant.

Am fwy o wybodaeth cyffredinol am y cynllun bathodyn glas, ewch i'n gwefan.

Arolwg trigolion – diolch yn fawr iawn

Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i'r rhai ohonoch a gwblhaodd ein harolwg trigolion.Thumbs Up Image

Ymatebodd mwy na 2,500 ohonoch ar nifer o faterion, gan gynnwys ansawdd gwasanaethau'r cyngor, byw mewn cymunedau ac adborth ar eich profiadau o ddelio â'r Cyngor.

Mae'r canlyniadau bellach yn cael eu dadansoddi a byddwn yn cyhoeddi'r canfyddiadau ar ôl yr haf.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid