llais y sir

Nodweddion

1891 ym Mhafiliwn Y Rhyl

1891

Mae 1891 yn cynnig te prynhawn gyda'r cyfle i gyfarfod Tim Arddangos Parasiwt Red Devils am bris rhesymol iawn o £25.  Gwelwch isod am fwy o wybodaeth.  I gael bwrdd ar gyfer 26 Awst neu ar gyfer unrhyw amser arall, ffoniwch nhw ar 01745 330000 new ewch i'w gwefan www.1891rhyl.com.

1891 Welsh

SC2

SC2

Am gyfle i ennill tocyn teulu am ddim cofrestrwch ar www.sc2rhyl.co.uk

Barbiciws

Sut i baratoi bwyd yn gywir, osgoi halogiad a choginio bwyd yn iawn ar gyfer eich barbiciws.Food Standards Agency

Haf yw’r amser perffaith i fwynhau barbiciw gyda theulu a ffrindiau. Mae angen i chi sicrhau fod bwyd yn cael ei storio a’i goginio'n ddiogel.

Gall tywydd cynnes a choginio yn yr awyr agored gynhyrchu’r amodau cywir ar gyfer y bacteria sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Felly mae’n hanfodol eich bod yn cofio am y 4 rheol hylendid bwyd:

  • oeri
  • glanhau
  • coginio
  • croeshalogi

Rydym wedi casglu rhywfaint o gyngor i’ch helpu i weini barbiciw anhygoel wrth gadw eich gwesteion yn ddiogel.

Oeri a dadmer BBQ2

Mae oeri bwyd yn iawn yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu, yn enwedig yn ystod misoedd cynnes yr haf.

I gadw eich bwyd yn ddiogel:

  • peidiwch â dadmer bwydydd ar dymheredd ystafell
  • sicrhewch eich bod yn dadmer bwyd dros nos yn yr oergell, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan ddefnyddio microdon ar y gosodiad dadmer yn syth cyn coginio
  • oerwch fwydydd wedi’u coginio ar dymheredd ystafell ac yna ei roi yn yr oergell o fewn un i ddwy awr
  • storiwch fwydydd amrwd ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, wedi’u gorchuddio ar silff waelod eich oergell
  • cadwch fwydydd oer allan o'r oergell am y cyfnod byrraf posibl yn ystod y gwaith paratoi
  • cadwch unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio erbyn, prydau wedi’u coginio, salad a phwdinau parod yn oer ac allan o’r haul tan yr amser gweini
  • peidiwch â gorlenwi eich oergell, mae hyn yn caniatáu aer i gylchredeg a chynnal y tymheredd sydd wedi’i bennu

Mae angen cadw rhai bwydydd yn yr oergell i helpu i arafu twf bacteria, a chadw bwyd yn ffres ac yn ddiogel am fwy o amser. Defnyddiwch thermomedr oergell i wirio bod y tymheredd o dan 5°C gan nad yw’r deialau bob amser yn dangos y tymheredd cywir i chi.

Coginio

Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir am yr amser cywir yn sicrhau y bydd unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Buddsoddwch mewn chwiliedydd tymheredd fel y gallwch sicrhau eich bod yn coginio’r bwyd ar o leiaf 75°C am 30 eiliad.

Peidiwch ag anghofio, nid yw'r ffaith bod bwyd wedi'i olosgi'n golygu ei fod wedi coginio ar y tu mewn bob amser. Cyn gweini cig rydych wedi’i goginio ar y barbiciw, gwiriwch:

  • fod y cig yn stemio’n boeth drwyddo draw
  • nad oes unrhyw gig pinc i’w weld pan dorrwch i’r darn mwyaf trwchus
  • bod y suddion yn rhedeg yn glir

Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion wedi’u gwneud o friwgig fel:

  • byrgers
  • selsig
  • cebabs
  • cyw iâr
  • porc

Ystyriwch goginio'r holl gyw iâr a phorc yn y popty yn gyntaf, gan ei orffen ar eich barbiciw ar y diwedd. Bydd eich teulu a'ch ffrindiau'n dal i brofi'r blas barbiciw arbennig hwnnw, ac rydych yn gwybod eich bod wedi coginio'r cig drwyddo draw.

BBQ1Cofiwch nad yw byrger fel stêc

Pam nad yw byrger fel stêc

Gellir cludo bacteria niweidiol ar wynebau darnau cyflawn o gig. Pan fydd stêc amrwd yn cael ei serio, mae’r bacteria hyn yn cael eu lladd, gan wneud y stêc yn ddiogel i’w bwyta.

Pan gaiff cig ei droi’n friwgig i gynhyrchu byrgers, mae unrhyw facteria niweidiol o wyneb y cig amrwd yn lledaenu drwy'r byrger. Oni bai bod y byrger yn cael ei goginio drwyddo draw, mae'r bacteria hyn yn aros yn fyw ar y tu mewn. Mae hyn yn gymwys i bob byrger, gan gynnwys byrgers wedi’u gwneud o gig drud neu o ansawdd da.

Glanhau

Mae glanhau effeithiol yn cael gwared ar facteria ar ddwylo, cyfarpar ac ar arwynebau, gan helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu ar fwyd.

Helpwch i leihau’r risg o germau’n lledaenu drwy:

  • olchi dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth cyn coginio a bwyta, yn enwedig os ydych wedi bod yn trin cig amrwd neu bethau fel tanwyr
  • cadw llestri a dysglau gweini'n lân wrth baratoi bwyd a sicrhau nad ydych yn eu cymysgu gyda'r rhai a ddefnyddiwyd i baratoi prydau amrwd a barod i'w bwyta
  • peidio â golchi unrhyw gyw iâr amrwd neu unrhyw gig arall - mae’n tasgu germau ar eich dwylo, llestri ac wynebau gweithio

Osgoi croeshalogiad

Mae croeshalogiad yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan mae bwyd amrwd yn cyffwrdd neu'n diferu ar fwyd parod, llestri neu arwynebau.

Gallwch atal hyn drwy:

  • storio cig amrwd ar wahân i fwydydd parod
  • defnyddio llestri, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwyd amrwd ac wedi’u coginio
  • golchi eich dwylo ar ôl cyffwrdd cig amrwd a chyn i chi drin bwyd parod

Deall gwenwyn bwyd

Mae llawer o bobl yn meddwl mewn camgymeriad mai dim ond byg dros dro yw gwenwyn bwyd, ond fe all fod yn ddifrifol iawn.

Mae’r rhan fwyaf o bobl gyda gwenwyn bwyd yn gwella adref, heb fod angen triniaeth benodol.  Os ydych yn meddwl fod gennych wenwyn bwyd, fe’ch cynghorir i fynd i weld eich Meddyg Teulu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau Diogelwch Bwyd ar www.sirddinbych.gov.uk 

Rhannwch eich bywyd a gwnewch wahaniaeth – fel gofalwr

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a gofalgar a hoffai fod yn ofalwyr.

Mae’r Cynllun Rhannu Bywydau yn darparu cefnogaeth ychwanegol ym mywydau dyddiol pobl mewn angen – gydag anableddau cymhleth, problemau iechyd meddwl, anableddau corfforol, neu nam ar y synhwyrau sy’n effeithio eu bywydau.

Gall y gofalwyr fod yn unigolion, cyplau neu deuluoedd sy’n byw o fewn y sir gydag ystafell wag yn eu cartref.  Mae staff ymrwymedig yn rhan o’r cynllun, sy’n darparu cefnogaeth ymarferol, cyngor a chyfarwyddyd i ofalwyr Rhannu Bywydau. Bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu a bydd gofalwyr yn cael tâl.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: Mae hwn yn gyfle gwych i godi proffil y cynllun gwerthfawr hwn.  Nod Rhannu Bywydau yw chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r rhai yn ein cymunedau sydd wir angen cymorth. Byddai profiad o weithio yn y sector gofal yn ddefnyddiol ond nid yw’n ofynnol – mae brwdfrydedd yr un mor bwysig.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn Ofalwr Rhannu Bywydau neu’r rhai a hoffai wybod mwy, ddod draw i’r digwyddiad diwrnod agored neu gysylltu ag Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych a gofyn am gael siarad gyda Cydlynydd Cynllun Rhannu Bywydau.  Gallwch ysgrifennu atynt neu ymweld â nhw yn: Un Pwynt Mynediad, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Tŷ Russell, Ffordd Churton, LL18 3DP; rhif ffôn: 0300 456 1000. E-bost:  spoa@sirddinbych.gov.uk

Ydych chi’n ystyried ymgymryd â gwaith adeiladu?

Os yw eich prosiect yn un mawr neu’n un bach, cysylltwch â gwasanaeth Rheoli Adeiladu'r Cyngor Sir a fydd yn fodlon eich helpu.LABC Logo

Rydym yn cynnig:

  • Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio i helpu’ch prosiect redeg yn esmwyth
  • Gwybodaeth am yr ardal leol, hanes safleoedd ac amodau daearegol
  • Syrfëwr rheoli adeiladu ymrwymedig a thîm cefnogi technegol
  • Mynediad i swyddog ar ddyletswydd rheoli adeiladu yn ystod oriau swyddfa, ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod tân lleol a’r awdurdod dŵr i’ch cynorthwyo chi a’ch prosiect
  • Yn wahanol i ddarparwyr eraill, rydym yn arolygu gwaith adeiladu yn ystod pob cam angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau gofynnol
  • Cynhelir archwiliadau safle y diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais, os derbynnir y cais cyn 4pm
  • Fel awdurdod lleol rydym ni’n atebol yn gyhoeddus, yn amhleidiol, yn dryloyw ac yn sefydliad nid-er-elw. Mae ein ffioedd wedi eu cyhoeddi ac nid oes unrhyw gost gudd ychwanegol
  • Byddwn yn darparu tystysgrif cwblhad i chi ar ddiwedd eich prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ni ar 01824 706717.

Building Control Image

Pwyntiau siarad yn Sir Ddinbych

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid