Mwy o arddangosfeydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl 2018
Bydd awyren a ddefnyddiwyd yn y ffilm a enillodd Oscar, Dunkirk, yn cymryd rhan yn Sioe Awyr y Rhyl yr haf hwn.
Bydd y Bristol Blenheim olaf yn y byd yn ymuno â’r Red Arrows yn y digwyddiad sydd am ddim, a gynhelir yn yr awyr uwchben y Rhyl ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Awst.
Y Cyngor sy’n trefnu Sioe Awyr Y Rhyl, gyda chefnogaeth Cyngor Tref y Rhyl fel partneriaeth allweddol y digwyddiad.
Roedd tua 50 o awyrennau Blenheims, bomwyr ysgafn, wedi cymryd rhan yng ngwacau Dunkirk, trwy aflonyddu lluoedd y gelyn ym 1940, ac mae’r awyren sy’n dod i'r Rhyl wedi ymddangos yn y ffilm yn 2017 yn serennu Tom Hardy.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Dyma’r tro cyntaf i’r Bristol Blenheim gymryd rhan yn Sioe Awyr y Rhyl.
“Yn ogystal ag Awyrennau Cofeb Brwydr Prydain, mae’r cyhoeddiad am yr awyren hon yn dangos ein hymrwymiad i gyfuno nostalgia gydag arddangosfeydd erobatig o'r radd flaenaf, gan helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb.
“Sioe Awyr y Rhyl yw’r digwyddiad am ddim gorau o'i fath yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â chynnig adloniant o’r radd flaenaf ar stepen ddrws pobl leol, mae'n bwysig oherwydd ei fod yn atynnu miloedd o ymwelwyr ar draws y DU. Golygai hyn y bydd pobl yn gwario mwy yn siopau, bwytai, gwestai, tafarndai a busnesau eraill y dref, gan gefnogi'r economi lleol, sy'n flaenoriaeth i'r Cyngor."
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Maer y Rhyl: “Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch iawn o gefnogi sioe awyr y dref unwaith eto. Mae hwn yn un o uchafbwyntiau tymor yr haf a bob amser yn llwyddiant ysgubol. Mae pobl yn dod o bell i wylio’r arddangosfa a bob amser yn cael croeso cynnes. Edrychwn ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall, ac wrth gwrs, mae'r Red Arrows yn un o'r uchafbwyntiau."
Bydd y Red Arrows yn cloi Sioe Awyr y Rhyl ddydd Sul, gyda’r Bristol Blenheim yn cloi’r gweithgareddau dydd Sadwrn.
Mae’r arddangosfeydd eraill yn cynnwys Awyrennau Cofeb Brwydr Prydain gyda’r Spitfire, Hurricane a Dakota, Tîm Arddangos Parasiwt y Red Devils, Tîm arddangos ffurfiannau erobatig Team Raven ac awyren hyfforddiant ac ymosod ysgafn wedi’i bweru gan jet sef y Strikemaster.
Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr lleol i gerdded neu feicio i’r sioe awyr eleni er mwyn osgoi tagfeydd traffig.
Bydd manylion llawn yr arddangosfeydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach ac am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.sirddinbych.gov.uk/sioeawyryrhyl
Hwyl yr haf am ddim yng Ngŵyl Gerddoriaeth Y Rhyl
Bydd Heather Small – prif gantores M People – yn perfformio mewn gŵyl am ddim yn Y Rhyl yr haf hwn.
Bydd y Cyngor Sir, gyda chefnogaeth Cyngor Tref Y Rhyl, yn trefnu’r digwyddiad, sydd hefyd yn cynnwys Showaddywaddy a Doctor and The Medics, yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl ddydd Sul, 12 Awst o hanner dydd tan 6pm.
Heather Small oedd prif gantores M People, oedd yn enwog am nifer o ganeuon llwyddiannus yn y 90au cynnar yn cynnwys One Night in Heaven, Moving on Up a Serach for the Hero.
Rhyddhaodd ei halbwm unigol cyntaf, Proud yn 2000, ac yn 2008 fe ymddangosodd ar raglen Strictly Come Dancing y BBC, gan orffen yn y 9fed safle.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Rwy’n falch iawn o groesawu gwesteion gwych i Ŵyl Arena Digwyddiadau’r Rhyl.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu’r gymuned ddod at ei gilydd a dathlu, sy’n rhan o waith y Cyngor i gefnogi lles a chydlyniant cymunedol, yn ogystal â denu ymwelwyr i’n sir a chynyddu ffyniant economaidd.
“Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych i Sir Ddinbych ac anogaf i breswylwyr ac ymwelwyr ddod i fwynhau’r awyrgylch cyfeillgar i deuluoedd ar y diwrnod.”
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Maer Y Rhyl: “Bydd Y Rhyl unwaith eto, yn taro tant gyda’i digwyddiad gŵyl yr haf. Mae’r ffaith y gallwn ddenu pobl fel Heather Small yn dystiolaeth o enw da cynyddol y dref wrth drefnu digwyddiadau gwych.
“Mae Cyngor Tref Y Rhyl yn falch o gefnogi’r strafagansa gerddoriaeth, ynghyd â’r sioe awyr a’n digwyddiadau cymunedol hefyd. Edrychwn ymlaen at haf yn llawn adloniant gwych.”
Mae Doctor and the Medics, a berfformiodd yn yr Ŵyl y llynedd, yn enwog am ganu'r gân Spirit in the Sky gan Norman Greenbaum, cân aeth i Rif 1 yn y siartiau ym 1986, a chafodd Showaddywaddy nifer o ganeuon yn y Deg Uchaf yn y 1970au yn cynnwys Under the Moon of Love, Three Steps of Heaven ac You Got What It Takes.
Dywedodd Clive Jackson, o Doctor & The Medics: “Mae gwyliau yn golygu lot i mi gan eu bod nhw'n dod a phobl a chymunedau ynghyd i ddathlu a mwynhau cerddoriaeth. Rydym ni’n edrych ymlaen i ddod yn ôl i’r Rhyl i berfformio. Byddwn ni’n chwarae set gyfan o ganeuon yr 80au y bydd pawb yn eu hadnabod, i gyd wedi cael triniaeth gan y Medics.”
Mae perfformwyr eraill yn cynnwys cantores deyrnged Dusty Springfield, Maxine Mazumber a band soul a ffync Yubaba.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Wybodaeth Twristiaeth Y Rhyl ar 01745 355068 neu Swyddfa Docynnau’r Pafiliwn ar 01745 330000.
Sioe Amaethyddol Sir Ddinbych a Fflint
Dewch i'n gweld yn Sioe Flynyddol Dinbych a Fflint yn digwydd yn y ‘Green’ ger Dinbych ddydd Iau, Awst 16eg.
Rydym yn ymuno unwaith eto eleni gyda ein cydweithwyr o Sir y Fflint gyda phabell ar faes y sioe. Ein thema eleni yw iechyd a lles.
Byddwch yn gallu dod i weld beth ellir ei wneud i wella'ch iechyd, sut i gael gafael ar wybodaeth ar gyfer eich lles, rhowch gynnig ar rwyfo ar beiriant ymarfer a llawer mwy o weithgaredd rhyngweithiol.
Bydd ein timau cefn gwlad a hamdden hefyd yn trefnu gweithgareddau trwy gydol y dydd.
Am ragor o wybodaeth am y sioe, ewch i http://www.denbighandflintshow.com/cms/
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.
Artistiaid o’r radd flaenaf ar gyfer adlewyrchiad cerddorol
Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, a sefydlwyd ym 1972 gan y cyfansoddwr Cymreig William Mathias, yn ŵyl cerddoriaeth glasurol a gynhelir yn flynyddol ym mis Medi yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Y thema ar gyfer yr ŵyl eleni, sy'n digwydd o Fedi 15 - 30, yw 'Adlewyrchiadau'.
Mae'r artistiaid yn cynnwys Côr Glanaethwy; grŵp lleisiol VOCES8 gyda rhaglen i goffáu 100 mlynedd diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf 'Hymn to the Fallen'; pianydd Freddy Kempf, 'Adlewyrchiadau Requiem' gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Corws Cymuned yr Wyl a'n cerddorfa preswyl NEW Sinfonia; y gitarydd Craig Ogden a'r gantores jazz Jacqui Dankworth yn perfformio 'Adlewyrchiadau Cariad'; y soprano Elin Manahan Thomas a'r pianydd Jocelyn Freemen; 'Family Affair' gyda Brian, Miriam a Daniel Hughes; Raphael Wallfisch ar y cello; Côr Meibion Trelawnyd a Bro Glyndŵr; pumpawd Pres A5; Telynau Clwyd, Côr Cytgan Clwyd a'r actor Jonathan Pryce.
Mae'r wyl hefyd yn cynnwys darlith am 'Lloyd George', gweithdai piano, lleisiol ac offerynnol, cyngherddau plant a babanod, sesiynau Camau Cerdd i fabanod a phlant hyd at 7 oed, a'n taith gymunedol flynyddol.
I ddarganfod mwy am Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ewch i www.nwimf.com. Mae tocynnau ar gael ar-lein, o Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - 01352 701521 neu Cathedral Frames, Llanelwy - 01745 582929.
DYDDIADUR
Dydd Sadwrn 15 Medi: 19.30 Côr Glanaethwy, Chwaraewyr NEW Sinfonia a Telynau Clwyd
Rhaglen yn cynnwys Blaenberfformiad Byd o gomisiwn newydd gan Paul Mealor ynghyd â darnau gan Olivier Messiaen, Gustav Mahler, Karl Jenkins, Brian Hughes, Caryl Parry Jones a Leonard Cohen.
Dydd Iau 20 Medi: 19.30 VOCES8 Hymn to the Fallen
Rhaglen o goffadwriaeth i ddathlu canfed pen-blwydd y Cadoediad.
Mae’r rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Parry, Gabrieli, Dove, Elgar, Pearsall a Simon & Garfunkel.
Dydd Gwener 21 Medi: 19.30 Freddy Kempf
Rhaglen yn cynnwys Chopin: Sonata i’r piano rhif 2 mewn B meddalnod lleiaf; Ravel: Le Tombeau de Couperin; Rachmaninov: Etudes Tableaux.
Dydd Sadwrn 22 Medi: 19.30 Corws Gymunedol yr Ŵyl, mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru, Unawdwyr Opera Cenedlaethol Cymru a NEW Sinfonia.
Adlewyrchiadau Requiem
Blaenberfformiad Byd o Materna Requiem Rebecca Dale
Dyfyniadau Requiem Mozart & Duruflé
Arvo Pärt: Spiegel im Spiegel.
John Cage: 4’33”
Soprano: Katy Thomson
Mezzo: Rebecca Afonwy-Jones
Bass: Julian Close
Dydd Iau 27 Medi: 19.30 Craig Ogden a Jacqui Dankworth
Adlewyrchiad o gariad
Cydweithrediad rhwng dau berfformiwr o ddau fyd gwahanol o gerddoriaeth. Mae eu rhaglen yn cynnwys cymysgedd o ganeuon amrywiol gan bawb o Paul Simon a James Taylor i Henry Mancini a Michel Legrand.
Dydd Gwener 28 Medi: 19.30 Elin Manahan Thomas (soprano) a Jocelyn Freeman (piano); Family Affair – Brian Hughes (piano), Daniel Brian Hughes (clarinet) a Miriam Hughes (ffliwt).
Adlewyrchiadau
Rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Dilys Elwyn Edwards, Morfydd Llwyn Owen, Brian Hughes, Purcell a Handel.
Dydd Sadwrn 29 Medi: 19.30 NEW Sinfonia a Raphael Wallfisch
Elgar: Concerto i’r Soddgrwth
Ravel: Pavane pour une infante défunte
Williams: Penillion
Bernstein: Three Dance Episodes from On the Town
Smile, Smile, Smile’ tref. J Guy gyda myfyrwyr o’r prosiect yn cymryd rhan.
Dydd Sul 30 Medi: 19.30 Jonathan Pryce, Corau Meibion Trelawnyd a Bro Glyndwr, Côr Cytgan Clwyd, Pumawd Pres A5 (NEW Sinfonia)
Adlewyrchiad ar ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr
Rhaglen yn cynnwys caneuon rhyfel, Barber, Kamen a detholiad o gerddoriaeth Karl Jenkins.
Theatr Pafiliwn Y Rhyl
I weld rhaglen o sioeau sydd ymlan ym Mhafiliwn Theatr Y Rhyl, ewch i'w gwefan.