Datblygiadau Tai
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi’r newyddion y byddwn yn dechrau adeiladu tai Cyngor newydd am y tro cyntaf ers dros 25 o flynyddoedd.
Rydym newydd gael caniatâd cynllunio ar gyfer ein datblygiad cyntaf, sef pedwar fflat ar safle cantîn hen ysgol Bodnant yn Ffordd Caradoc, Prestatyn. Roeddem yn falch iawn o gael arian Grant Arloesedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn.
Mae gwaith wedi dechrau’n ddiweddar ar ddymchwel yr adeilad presennol a byddwn yn dechrau ar y gwaith o adeiladu’r fflatiau newydd yn ddiweddarach yr haf hwn.
Cyn bo hir hefyd bydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno ar gyfer datblygu cartrefi newydd i gymryd lle Fflatiau Pennant yn Ninbych a byddwn yn dechrau gwaith ar droi eiddo yr ydym wedi ei brynu yn Brighton Road, y Rhyl yn dri fflat.
Dim ond y datblygiad cyntaf yn ein rhaglen i adeiladu 170 o dai cyngor newydd ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf yw hyn.