Cofrestr tai fforddiadwy newydd i helpu pobl i brynu tai eu breuddwydion
Lansiwyd cyfle newydd i bobl gynyddu eu cyfleoedd i brynu tŷ eu breuddwydion ar draws Gogledd Cymru a Phowys.
Mae Tai Teg, Cofrestr Tai Fforddiadwy, yn gyfle Tai Fforddiadwy ar-lein i gofrestru pobl sydd mewn gwaith ond nad ydynt yn gallu fforddio tai’r farchnad.
Gelwir tŷ sy'n cael ei ddarparu ar gyfer rent neu i brynu ar gyfradd lai na gwerth y farchnad yn dŷ fforddiadwy.
Rydym yn gwybod nad yw nifer sylweddol o bobl yn Sir Ddinbych yn gallu fforddio rhent neu gyfradd prynu'r farchnad ac mae hwn yn gyfle i bobl gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd drwy adeiladau newydd a lleoedd gwag o fewn tai presennol.
Bydd Tai Teg yn cyflwyno’r broses cofrestru ar gyfer nifer o gynlluniau arloesol a fydd yn helpu pobl i ddringo ar yr ysgol eiddo neu ddiogelu tŷ rhent. Mae nifer o gynlluniau ar gael i’r rheiny mewn gwaith ac yn ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai dewisiadau i’r rheiny sy’n ennill hyd at £60,000.
Nid yw Tai Teg yn cynnwys eiddo traddodiadol y Cyngor na’r Gymdeithas Tai i’w rhentu, sy’n cael eu trin drwy Un Llwybr Mynediad At Dai, cofrestr tai sengl cyffredin yn Sir Ddinbych. Mae Tai Teg yn gweithio ar y cyd gyda’r gofrestr tai cyffredin.
Dyma brosiect partneriaeth a arweinir gan Grŵp Cynefin yn cynnwys Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, yn cynnwys y Cyngor Sir a Chymdeithasau Tai eraill. Mae’r holl bartneriaid hyd wedi cydweithio’n agos i ddod â’r gofrestr ymlaen.
Caiff Tai Teg ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn trafodaethau ceisiadau cynllunio i gefnogi Cyngor Sir Ddinbych a Chymdeithasau Tai i gynllunio ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.
Mae darparu tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych yn flaenoriaeth allweddol, gyda 250 o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y Sir ers 2014. Mae nifer o ddatblygiadau wedi cael eu cynllunio ar draws y Sir a bydd cofrestr Tai Teg yn cael ei ddefnyddio i osod pobl mewn lleoedd gwag addas.
I ddarganfod rhagor a chofrestru eich diddordeb mewn cartref, ewch i www.taiteg.org.uk.
Neges gan Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF)
Mae’r DTARF wedi'i sefydlu ers dros 20 mlynedd bellach ac wedi cyflawni gymaint ar ran tenantiaid a thrigolion Tai Sir Ddinbych.
Pwy ydym ni?
Rydym yn grŵp o denantiaid a phreswylwyr sydd yn chwarae ein rhan yn ein cymunedau ar draws y Sir. Yn llais dros denantiaid, rydym yn gweithio gyda Thai Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r safonau uchaf bosibl ar gyfer tenantiaid a’u cymunedau.
Ein nod
Ceisio sicrhau fod pobl yn byw bywydau mwy diogel a chyfforddus a gwella bywyd cymunedol.
Rydym bob amser yn falch o groesawu aelodau newydd i DTARF. Rydym yn cyfarfod bob mis mewn gwahanol leoliadau ar draws Sir Ddinbych, felly bydd bob amser gyfle i chi fynychu cyfarfod yn agos at eich cartref chi. Mae grant i aelodau o unrhyw gymdeithas preswylwyr i helpu bob blwyddyn i wireddu eu nodau drwy Gyngor Sir Ddinbych.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am DTARD cysylltwch â John Woodward, Cadeirydd dtarf@hotmail.co.uk
Datblygiadau Tai
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi’r newyddion y byddwn yn dechrau adeiladu tai Cyngor newydd am y tro cyntaf ers dros 25 o flynyddoedd.
Rydym newydd gael caniatâd cynllunio ar gyfer ein datblygiad cyntaf, sef pedwar fflat ar safle cantîn hen ysgol Bodnant yn Ffordd Caradoc, Prestatyn. Roeddem yn falch iawn o gael arian Grant Arloesedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn.
Mae gwaith wedi dechrau’n ddiweddar ar ddymchwel yr adeilad presennol a byddwn yn dechrau ar y gwaith o adeiladu’r fflatiau newydd yn ddiweddarach yr haf hwn.
Cyn bo hir hefyd bydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno ar gyfer datblygu cartrefi newydd i gymryd lle Fflatiau Pennant yn Ninbych a byddwn yn dechrau gwaith ar droi eiddo yr ydym wedi ei brynu yn Brighton Road, y Rhyl yn dri fflat.
Dim ond y datblygiad cyntaf yn ein rhaglen i adeiladu 170 o dai cyngor newydd ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf yw hyn.
