llais y sir

Twristiaeth

Beth sy'mlaen yn Sir Ddinbych? Peidiwch a methu dim!

Mae sawl peth yn digwydd yn Sir Ddinbych. Beth sydd ymlaen

Mae’r canllaw Beth Sydd Ymlaen yn rhoi’r newyddion diweddaraf I chi ar ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal o arfordir prydferth Gogledd Sir Ddinbych I’r enwog Dyffryn Dyfrdwy a’r holl drefi marchnad ar y ffordd.

Bydd ein rhifyn nesa yn cynnwys digwyddiadau yn mis Hydref 2018 yn cynnwys yr anhygoel Gwyl Fwyd Llangollen. Bydd modd I chi lawrlwytho’r rhifyn digidol arbenning hwn o’n gwefan yn syth I’ch dyfais, am fisoedd gaeaf ni fydd y fersiwn argraffedig arferol ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich fersiwn digidol. Ar gael o www.discoverdenbighshire.wales/symlaen

Ac os ydych chi’n dilyn ein cyfryngau cymdeithasol byddwch yn cael yr hysbysiadau arferol ynghylch ein digwyddiadau i ddod.

Oherwydd nid ydym eisiau i chi methu dim.

Ysbrydoliaeth gwyliau’r haf

Summer Activites

Edrych am ddigwyddiadau a mannau i ymweld â nhw dros wyliau’r haf?

Ewch i www.northeastwales.wales am syniadau ar bethau i'w gwneud a'r digwyddiadau diweddaraf ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ar gyfer digwyddiadau a syniadau am ddyddiau allan yn Sir Ddinbych ewch i www.discoverdenbighshire.wales

Gobeithio y cewch wyliau’r haf gwych yn chwilio o amgylch ein hardal brydferth!

Fforwm Twristiaeth - cadwch y dyddiad!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth?

Mae Fforwm a sefydlwyd i ddarparu gwybodaeth gyfredol i fusnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn twristiaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal fis Hydref.

Cynhelir Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych ar ddydd Mercher 10fed Hydref yng Ngwesty’r Oriel House, Llanelwy.

Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau.

Manylion pellach a manylion archebu lle i ddilyn.

Ewch ar ein tudalen Facebook (@DiscoverDenbighshire) a Twitter (@DiscoverDenbs) am holl ddiweddariadau twristiaeth. Neu, gallwch ymuno â’n rhestr bostio am ddim i dderbyn y diweddariadau twristiaeth busnes diweddaraf – anfonwch ebost at tourism@denbighshire neu ffoniwch 01824 706223.

Taflenni twristiaeth am ddim yn uniongyrchol i’ch drws

Oes gennych chi fusnes?Distribution

Hoffech chi ddarparu taflenni twristiaeth am dim i’ch gwesteion / ymwelwyr. Mae taflenni’n cynnwys Llwybrau Tref, Canolfan Grefft Rhuthun, Beth sy’n Digwydd a Thaflen Treftadaeth Sir Ddinbych.

Cysylltwch â’r Tîm Twristiaeth am fwy o fanylion – twristiaeth@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706223.

Edrych am antur i’r teulu?

Mythfest Welsh

Mae MythFest Wales yn antur hud, awyr agored, sy’n ymdrochi teuluoedd mewn straeon, cerddoriaeth a chrefftau naturiol yn seiliedig ar chwedlau Cymru.

Mae’r theatr unigryw, byw i’r teulu hwn yn cael ei gynnal ddydd Sul, 16 Medi yng Nghlocaenog a dydd Sul, 30 Medi yn Llaneurgain.

Dywedodd Vanessa Warrington, Rheolwr Prosiect MythFest, “Mae MythFest Wales yn ddigwyddiad cyffrous i’r teulu. Rydym wedi cymysgu rhai o’n hoff bethau; theatr awyr agored, adrodd straeon, cymeriadau gwallgof a thechnegau ysgol y goedwig i ddod ag antur hud i chi.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i: http://www.mythfestwales.co.uk/

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid