Twristiaeth
Oes ganddoch chi diddordeb mewn twristiaeth?
Mae Fforwm yn cael ei gynnal er mwyn cadw busnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw person sydd hefo diddordeb mewn twristiaeth, wedi’i diweddaru ar yr holl newydd ac datblygiadau o fewn yr diwydiant yn cymryd lle mis Hydref yma.
Mae’r Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych yn cymryd lle ar Dydd Iau, 26ain o Hydref yn y Oriel, Llanelwy am 11am. Mae’r digwyddiad am ddim yma yn rhoi cyfle gwych i busnesau rhwydweithio ac rhannu profiadau, gwybodaeth ac syniadau.
Mi fydd yn amrywiaeth o siaradwyr gwadd:
- Ken Skates AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith
- Cynghorydd Hugh Evans OBE – Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych
- Simon Jones – Perchennog, Pro Kitesurfing
- Russell Vaughan – Rheolwr Prosiectau, Cyngor Sir Ddinbych; Datblygiadau ar Glan y Môr Y Rhyl
- Hannah Arndt – Beicio Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych
I archebu lle ar y fforwm e-bostiwch: twristiaeth@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch: 01824 706223 / 706915. Mi fedrwch hefyd archebu lle drwy ein system ar-lein.
Ydych chi wedi gweld y tacsi hwn?
Mynd i Lundain yn y dyfodol agos? Edrychwch allan am y tacsi yma yn Llundain yn dangos delwedd wych o'r Nova ym Mhrestatyn! (ni allwch fethur'r lliwiau llachar!)
Os ydych yn ei weld – cymerwch llun neu selfie gyda’r tacsi a’i yrru i twristiaeth@sirddinbych.gov.uk neu postiwch eich llun ar ein tudalen Facebook Darganfod Sir Ddinbych i gael y cyfle i ennill aelodaeth 6 mis i gampfa y Nova.
Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn yma.
Pob Lwc!
Gogledd Ddwyrain Cymru yn Sicrhau Grant ar gyfer Gweithgarwch Twristiaeth
Mae grant o £40,000 gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau i amlygu cynnig twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’r partner arweiniol, Cyngor Sir Ddinbych, yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint wedi uno i redeg prosiect ‘Llwybrau i’r Môr' yn ystod thema Blwyddyn y Môr Croeso Cymru yn 2018 ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau cyllid gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol 2017-2019 gan Lywodraeth Cymru.
Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Barneriaethau Rheoli Cyrchfan y dair sir yw arddangos ac adrodd straeon sy’n ymgysylltu am arfordir y rhanbarth, llwybrau beicio, llwybrau cerdded, beicio mynydd, gweithgareddau awyr agored, tirlun, safleoedd hanesyddol, camlesi ac afonydd yn ogystal â dathlu’r cynnig bwyd.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych: “Rwy’n falch iawn o glywed bod partneriaeth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi sicrhau’r cyllid hwn i barhau’r gwaith da wrth hyrwyddo’r rhanbarth i breswylwyr ac ymwelwyr. Rydyn ni’n gwybod bod twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, a bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu economi twristiaeth gynaliadwy ffyniannus."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae prosiectau arloesol yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant twristiaeth yn y dyfodol ac er mwyn denu ymwelwyr i Gymru. Mae’r arian ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhan o £2 filiwn o gyllid sydd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 38 o brosiectau ar draws Cymru drwy’r Gronfa Cynnyrch Twristiaeth Arloesol ac Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol. Rwy’n hynod falch fod yr arian hwn yn galluogi'r sectorau preifat a chyhoeddus i ddatblygu prosiectau arloesol fydd yn creu galw ac yn gwella’r cynnig i ymwelwyr drwy gefnogi ein blynyddoedd thema."
Caiff amrywiaeth o ddelweddau o ansawdd uchel a ffilmiau byrion yn cynnwys llawer o’n lleoliadau a thirnodau allweddol fel Safle Treftadaeth y Byd a chamlas Pontcysyllte ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llwybr Arfordirol Cymru eu cynhyrchu.
Gan adeiladu ar lwyddiant Her Fwyd Gogledd Ddwyrain Cymru 2017; caiff Her Fwyd ‘Blwyddyn y Môr’ hefyd ei lansio yn 2018 a fydd yn arddangos ein cynnig bwyd a’n bwytai sy’n gysylltiedig â’n harfordir a’n dyfrffyrdd.
I gael rhagor o wybodaeth am Ogledd Ddwyrain Cymru ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru
Mwy o bobl yn ymweld â Sir Ddinbych
Yn ôl ymchwil diweddar mae diwydiant twristiaeth Sir Ddinbych yn ffynnu. Mae ffigyrau wedi eu cyhoeddi fel rhan o raglen STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor), sy’n ceisio mesur effaith ymwelwyr sy’n aros ac ymwelwyr dydd.
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Sir Ddinbych ac yn 2016 roedd cyfanswm yr effaith economaidd ychydig yn fwy na £479 miliwn, sef cynnydd o 3.2% o’i gymharu â 2015 a 50% o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Yn 2016 roedd nifer yr ymweliadau â Sir Ddinbych, dros nos ac am y diwrnod, bron yn 6 miliwn, sef cynnydd o 1.7% o’i gymharu â 2015 a 23% o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Dyma newyddion gwych i Sir Ddinbych ac rydw i’n falch iawn bod ein diwydiant twristiaeth yn tyfu. Roedd ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn cyfrif am 67% o gyfanswm yr effaith economaidd y llynedd; sy’n dangos pwysigrwydd datblygu llety o ansawdd yn yr ardal.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Sir Ddinbych yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd ar gyfer ymwelwyr dydd, ac yn 2016 cefnogwyd 6,000 o swydd llawn amser gan wariant twristiaid. Mae hyn yn dangos cyfraniad y sector at ein heconomi leol, sef darparu gwasanaethau i’r gymuned a gwaith i’n preswylwyr.
“Mae manteisio ar ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru, gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu ein Cynllun Rheoli Cyrchfan a phoblogrwydd cynyddol gogledd Cymru fel cyrchfan gwyliau oll yn chwarae rhan bwysig i godi ymwybyddiaeth pobl o’r atyniadau, y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael yn ein sir.”
Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych: “Mae’n braf gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r sir, yn ymwelwyr sy’n aros dros nos ac yn ymwelwyr dydd. Byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd arloesol i ddenu mwy o ymwelwyr, gan amlygu ein hatyniadau cudd a’n gweithgareddau cyffrous – pethau y mae llawer o bobl yn chwilio amdanynt wrth archebu gwyliau.
“Rydym ni ar hyn o bryd yn cwblhau Cynllun Rheoli Cyrchfan 2017-20 mewn partneriaeth â busnesau a grwpiau lleol i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir ar gyfer datblygiad twristiaeth yn y sir."
Mae adroddiadau STEAM yn rhoi cyfrif misol o berfformiad diwydiant twristiaeth ardal, y mae modd wedyn eu defnyddio i nodi tueddiadau a gweithredu arnynt. Mae ymchwil o’r fath yn hanfodol i sicrhau datblygiad a llwyddiant y diwydiant yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.darganfodsirddinbych.cymru.
Potensial Twristiaeth o’r Wiwerod Goch
Mi wnaeth grŵp o Lysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych ddysgu am waith yr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru dros helpu i amddiffyn poblogaeth y gwiwerod coch ac i archwilio’r potensial ar gyfer tŵf twristiaeth.
Mae Coedwig Clocaenog yn un o tri cadarnleodd ar gyfer wiwerod coch yng Nghymru. Yr ardaoloedd eraill yw canolbarth Cymru ac wrthgwrs Sir Fôn. Yn y 1990au mi roedd y wiwerod coch yn poblogaidd yn Coedwig Clocaenog ac roedd yn cael eu weld fel poblogaeth mwyaf yng Nghymru tan y llwyddiant yn Sir Fôn. Mae diddordeb mawr o’r cyfryngau wedi gweld cynnydd yn y potensial twristiaeth o’r gwiwerod coch yn Sir Fôn.
Dywedodd Becky Clews Roberts, Ceidwad Gwiwerod Coch yng Nghoedwig Clocaenog, “Gan iddi fod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Gwiwerod Coch, mi roedd yn wych cyfarfod y Llysgenhadon ac i drafod gyda nhw amdan y gwaith sydd yn mynd ymlaen. Dwi’n hoff o weld wynebau pobl pan dwi’n esbonio'r nifer fach o wiwerod coch sydd wedi goroesi yng Nghoedwig Clocaenog! Codi ymwybyddiaeth o’r materion o ostyngiad mewn niferoedd yw fy swydd bwysicaf yn y prosiect Gwiwerod Coch Unedig (RSU), ariannwyd gan brosiect HLF tair blynedd, ac mae llawer o bobl wedi gwirfoddoli i helpu gyda’r gadwraeth”.
“Rhan fwyaf o fy swydd yw i recriwtio, hyfforddi ac cynghori ein gwirffoddolwyr. Rydw i’n ffodus iawn fod gymaint o pobl isho helpu ond mi rydem angen mwy! Mae yna llawer o waith gyda partneriaethau hefyd. Mae Coedwig Clocaenog yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac maent yn gwneud llawer o waith i helpu’r gwiwerod coch sydd dal i fodoli yma. Rydem wedi rhedeg nifer o ddiwrnodau hyfforddiant ar y cyd ac yn rheoli set o gamerâu llwybr sydd yn dangos beth mae’r cochion yn gwneud.”
Llysgenhadon Twristiaeth yw grŵp o fusnesau twrisitaeth lleol sydd yn cydweithio i rhannu ei ymarferion da ac i hyrwyddo Sir Ddinbych a’r ardal Gogledd Dwyrain Cymru.
Dywedodd Roberta Roberts, Llysgennad ac Arweinydd Teithiau Bathodyn Glas, “Mi roeddwn wedi syfrdanu i ddysgu am y pethau roeddent angen i oroesi. Mae’r rhywogaeth frodorol yma angen unrhyw fath o help bosibl. Fel arweinydd taith mi wnâi rhannu fy ngwybodaeth newydd gydag ymwelwyr tra’n teithio ar deithiau bws trwy Ogledd Cymru. Dwi’n siŵr mi fydd ymwelwyr yn hapus clywed amdan y gweithgareddau cadwraeth sydd yn yr ardal.
Os hoffech gymryd rhan, darganfod mwy o wybodaeth neu yn gweld gwiwer goch mewn coedwig, cysylltwch gyda Bechy ar beckyredsquirrel@gmail.com neu ymwelwch â www.redsquirrels.info Os oes ganddo’ch diddordeb mewn bod yn Llysgennad Twristiaeth yna cysylltwch â twrisitiaeth@sirddinbych.gov.uk neu darllenwch ein blog ar www.darganfodsirddinbych.cymru
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Pencoed/Mount Wood yn cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd.
Mae cyfanswm o 101 o fannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n gymunedol yng Nghymru wedi bodloni’r safon uchel sydd ei angen i gael Gwobr Gymunedol flaenllaw y Faner Werdd (83 yn 2016/17).
Bydd y Faner yn hedfan yn Pencoed/Mount Wood i gydnabod ei gyfleusterau rhagorol a’i ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych.
Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon am y drydedd flwyddyn yn olynol a theimlo mai dim ond gwobrwyo i holl wirfoddolwyr Cadwch Cymru'n Daclus â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych sydd yn ei gadw mewn trefn mor dda ac i bwyllgor Gwirfoddolwyr Cadwraeth Cymunedol Dinbych (GCCD) sydd bellach wedi bod yn rhan o brosiectau i wella amgylchedd Dinbych ers dros 20 mlynedd ac mae'n parhau i chwilio am feysydd pellach i weithio arnynt.
Caiff cynllun Gwobr y Faner Werdd ei gyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â’r safleoedd sy’n gwneud cais a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/greenflag.
Arolygon newydd ar Gastell Dinas Brân
Mae arolygon newydd wedi eu cynnal ar Gastell Dinas Brân eleni i ddarganfod beth sy’n weddill o dan arwyneb y castell a’r fryngaer o Oes yr Haearn. Defnyddiodd yr arolwg geoffisegol, a ariannwyd gan Cadw a’r Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll wrthedd a magnetometreg i greu map o weddillion a gladdwyd heb amharu ar y ddaear. Mae’r ardal yn Heneb Gofrestredig felly ni chaniateir unrhyw gloddio heb ganiatâd penodol gan Cadw. Mae canfodyddion metel wedi eu gwahardd yn llwyr ar y safle.
Mae’r canlyniadau wedi ein cyrraedd yn ddiweddar ac, efallai nad yw'n syndod, ond nid oes nodweddion wedi eu nodi o fewn muriau’r castell, gan fod y creigwely’n agos iawn at yr arwyneb ac mae llawer o rwbel o adeileddau sydd wedi syrthio yn cuddio unrhyw nodweddion eraill. Fodd bynnag, yn y fryngaer sy’n goroesi yng ngogledd y safle, mae tystiolaeth y defnyddiwyd yr ardal ar gyfer gweithgarwch amaethyddol ar ôl i’r castell gael ei adael yn wag. Mae cefnen a rhych i’w gweld, ac mae hyn yn dystiolaeth o gaeau rhesog a ffermiwyd o'r 14eg ganrif ymlaen, ar ôl i'r castell gael ei adael yn wag. Mae hefyd awgrymiadau diddorol o losgi mewn rhai mannau ar ragfuriau’r fryngaer. Os cerddwch chi yn yr ardal hon mae terasau bach gwastad o fewn y safle, ac efallai mai yma y codwyd tai yn Oes yr Haearn (oddeutu 2500 o flynyddoedd yn ôl), ond yn ôl pob tebyg mae’r caeau rhesog wedi dinistrio’r dystiolaeth hon. Fodd bynnag, reit ar ymyl y fryngaer, mae’r arolwg wedi nodi olion dau dŷ crwn posibl. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth newydd hon rydym wedi ei chael am y safle hynod ddiddorol hwn yn golygu y caiff rhagor o wybodaeth ei chynhyrchu yn y dyfodol.
Fel rhan o’r broses arolygu, daeth cwmni teledu o’r Iwerddon sy’n ffilmio cyfres ar y Brenin Arthur i Ddinas Brân, gan fod chwedlau sy’n dweud fod y Greal Sanctaidd wedi’i gladdu ar y safle. Roedd y cwmni ffilmio yn awyddus i gofnodi’r arolygon geoffisegol a gynhaliwyd ac i gynnwys technegau archeolegol go iawn yn y rhaglen, a fydd yn cael ei ddarlledu ar sianel Discovery gan y Sefydliad Smithsonian yn y Flwyddyn Newydd.
Cerddinen Wen Llangollen
Mae cerddinen wen Llangollen wedi ei nodi fel rhywogaeth unigryw. Cynhaliwyd arolwg arnynt ddiwethaf ym 1987 pan nodwyd dim ond 239 gwrthrych – pob un ohonynt o amgylch Llangollen! Daethpwyd o hyd i ddau wrthrych arall yn Swydd Amwythig yn 2011. Mae'r goeden yn tyfu ar greigiau calchfaen a gall fod yn heriol iawn mynd yn ddigon agos i’w hadnabod.
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gweithio gyda Sw Caer a Chyfoeth Naturiol Cymru i gael ffigwr poblogaeth diwygiedig gyda chymorth y botanegwyr blaenllaw Dr. Tim Rich a Libby Houston sy’n cynnal arolygon ar droed ar glogwyni. Mae technoleg yr 21 Ganrif hefyd yn cynorthwyo gyda’r prosiect ac mae Andy
Goodwin o Remote Insight wedi bod yn mapio’r creigiau ac yn cymryd delweddau o ansawdd uchel gan ddefnyddio drôn.
Gwaith arolygu yn cael ei wneud ar greigiau Eglwyseg ddechrau mis Medi
Clytwaith o’r Gorffennol
Dathlwyd treftadaeth hynod Parc Gwledig Loggerheads mewn Mosaig newydd a grëwyd gan brosiect ar y cyd a ddarperir gan Wasanaeth Cefn Gwlad a Threftadaeth Sir Ddinbych, Gwasanaeth y Celfyddydau a Dewch i Gerdded Sir Ddinbych.
Mwynhaodd aelodau o grŵp cerdded Cymunedau yn Gyntaf y Rhyl daith gerdded dywys ar gyfer iechyd a ddangosodd blanhigion a threftadaeth ddiwydiannol Loggerheads cyn iddynt weithio gyda'r arlunydd Julie Rogers, Illuminarte i greu darn o waith celf sy’n tynnu ynghyd yr elfennau sy’n gwneud y Parc Gwledig yn Arbennig.
Mae’r mosaig yn cynnwys cynrychioliadau o hanes diwydiannol y safle a chloddio am blwm, planhigion ac anifeiliaid arbennig, megis llysiau paris, rhosyn y graig, pig yr aran ruddgoch, glas y dorlan a gloÿnnod byw, yr afon a charreg galchfaen.
Ariannwyd y gwaith drwy grant a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru drwy Brosiect Etifeddiaeth Calchfaen sy’n ceisio cynnal a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'n etifeddiaeth calchfaen arbennig.
Dywedodd Helen Mrowiec, Uwch Swyddog Hamdden gydag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy “Mae daeareg calchfaen yn un o nodweddion arbennig yr AHNE, dyma’r asgwrn cefn sy’n creu tirluniau hardd yr ardal a dyna pam fod cymaint o bobl yn ymweld â, ac yn mwynhau, Loggerheads yn arbennig. Mae hefyd yn cynnal cymuned arbennig o blanhigion ac anifeiliaid sydd o Bwysigrwydd Ewropeaidd.
Mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda’r Grŵp Cymunedau yn Gyntaf i gipio’r tirlun arbennig hwn a bydd y mosaig yn amlygu ei bwysigrwydd i ymwelwyr â’r parc yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i’r grŵp, yr artist a’r arianwyr am eu gwaith caled dros sawl wythnos i greu'r gwaith celf bendigedig hwn a fydd hefyd yn dod â lliw i ardal allanol y ganolfan ymwelwyr’
Bydd y mosaig yn cael ei osod yn ei le ym mis Hydref a bydd ar gael i bawb ei fwynhau am flynyddoedd i ddod. Os nad ydych chi wedi ymweld â Loggerheads, neu os ydych yn ymwelydd rheolaidd, mae’r hydref yn amser gwych i ymweld, gyda’r dail yn newid eu lliwiau yn ychwanegu at yr hud, lluniaeth cynnes ar gael yn y Caffi ac amrywiaeth o anrhegion, arweinlyfrau a chynnyrch lleol ar gael o’r ganolfan ymwelwyr.
Dyma rai dyfyniadau gan aelodau o grŵp Cymunedau yn Gyntaf y Rhyl:
Janet Moseley – Rydw i wrth fy modd yn gwneud celf a chrefft ond dydw i heb wneud mosaig o'r blaen, felly roedd yn wych cael mynd i gerdded a gwneud rhywbeth pleserus.
Carol Stringer – Mi wnes i fwynhau gwneud hyn yn fawr. Rydw i wrth fy modd efo’r ffaith y bydd yn mynd i fyny ar y wal yn Loggerheads i bawb ei weld. Byddaf yn falch iawn wrth ei ddangos i fy Wyrion.
Jane Evans – Rydw i wrth fy modd yn dod i'r grŵp hwn yn gwneud ffrindiau newydd ac yn cael hwyl. Mae wedi fy nhynnu allan o’r tŷ i wneud rhywbeth rydw i wedi ei fwynhau yn fawr.
Gail Page – Roedd hwn yn ddosbarth gwych, mi wnes i allu dod â fy ŵyr sydd erioed wedi bod i Loggerheads o’r blaen a chawson ni gymaint o hwyl. Diolch.
Ysgol Goedwig wedi cyrraedd Llangollen
Lansiwyd Ysgol Coedwig WILD ym Mhlas Newydd, Llangollen yr haf hwn gyda dwy sesiwn clwb gwyliau ardderchog yn cynnig ymagwedd holistaidd tuag at addysg y tu allan, gan gyfuno gweithgareddau strwythuredig gydag amser rhydd i archwilio.
Mae’r cysylltiadau rhwng ein hiechyd a lles a’r amgylchedd wedi eu nodi’n helaeth, ynghyd â’r angen i blant gael amser yn yr awyr agored yn ymwneud â chwarae rhydd. Mae gan blant ryfeddod cynhenid tuag at y byd naturiol, a’r prif gymhelliant y tu ôl i'r ysgol goedwig yw troi'r rhyfeddod hwn yn ddoethineb fel bod plant yn tyfu i fyny wedi eu haddysgu, yn gyffrous ac yn deall sut i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol.
Cyn y datblygwyd y cysyniad ffurfiol o ysgol goedwig yn y DU yn y 90au, roedd nifer o ddulliau dysgu yn yr awyr agored yn mynd yn ôl mor bell â’r 1800au yn pwysleisio pwysigrwydd rhyddid creadigol, diniweidrwydd plant a phwysigrwydd natur. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae hi hyd yn oed yn fwy pwysig a buddiol i ymgysylltu ein cenedlaethau ieuengach gyda byd natur a chwarae yn yr awyr agored.
Mae gweithgareddau sesiynau ysgol goedwig fel arfer yn cynnwys:
- Darganfod bywyd gwyllt a rheoli cynefinoedd
- Gemau a chyfleoedd am chwarae creadigol a llawn dychymyg
- Adeiladu deniau a llochesi
- Tanau a choginio
- Defnyddio offer
- Crefftau natur
- Dathliad tymhorol
- Gweithgareddau thema (llyfr stori/ testun/ cymeriadau)
- Chwarae'n rhydd a dysgu dan gyfarwyddyd plant
Yn dilyn digwyddiadau'r haf, dechreuodd ein grŵp cyn ysgol ‘Habitots’ ym Mhlas Newydd a bydd yn cael ei gynnal mewn blociau o 6 wythnos i ganiatáu plant i ddatblygu eu sgiliau gyda’r sesiynau. I gael rhagor o wybodaeth am ein sesiynau, anfonwch e-bost i wildforestschool@outlook.com neu ewch i'n tudalen Facebook ar https://www.facebook.com/wildforestschool/
Haf llwyddiannus o gloddfeydd archeolegol
Mae nifer o gloddfeydd archeolegol llwyddiannus wedi bod ym Mryniau Clwyd dros yr haf, gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn ymwneud â phob un. Ym Moel y Gaer, Bodfari, bryngaer o’r Oes Haearn, archwiliodd archeolegwyr o Rydychen, yn ogystal a gwirfoddolwyr lleol, ardal o’r gaer y credir ei bod yn fynedfa i’r safle. Ar fryngaer Penycloddiau ger Llandyrnog, mae myfyrwyr o Brifysgol Lerpwl wedi bod yn dysgu technegau cloddio archeolegol wrth gloddio gweddillion tŷ o'r Oes Haearn a Rhagfur. Roedd ymweliadau diwrnod agored ar y ddau safle yn hynod lwyddiannus gyda tua 300 o bobl yn ymweld â’r safleoedd.
Mae grŵp lleol cymunedol, Grŵp Archeolegol Bryniau Clwyd, a ddechreuodd fel rhan o gynllun Y Grug a'r Caerau a gâi ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, wedi tyfu o nerth i nerth ac eleni mae wedi bod yn cloddio ar lethrau y tu allan i fryngaer Moel Arthur. Fe wnaeth y grŵp gais am grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chafodd y grant hwnnw. Câi hwn ei gyfateb gan grant o Gronfa Datblygu Cynaliadwy yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gyda’r arian maent wedi gallu cyflogi archeolegydd proffesiynol, Dr Ian Brooks, i’w dysgu sut i gloddio. Roedd y grŵp yn cloddio gerllaw Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offfa am bedair wythnos eithaf gwlyb ym mis Gorffennaf ac Awst. Roedd eu lleoliad yn golygu i nifer o ymwelwyr ddod yma hefyd, ac arwyddodd tua 260 y Llyfr Ymwelwyr! Yn ystod y blynyddoedd blaenorol mae’r grŵp wedi canfod tystiolaeth o bobl yn yr ardal o 5000CC i’r presennol. Eleni daethant o hyd i wely hen nant ac yma roedd arfau calch hynod anarferol, nid oedd rhai o'r math yma'n sicr wedi eu gweld o’r ardal hon. Mae gwaith nawr yn mynd ymlaen i weld a oes unrhyw beth tebyg wedi ei ganfod unrhywle yn y DU. Mae’r grŵp yn dod ynghyd eto ym Mharc Gwledig Loggerheads yn nechrau Hydref ar gyfer gweithdy lle byddant yn dechrau cofnodi popeth y maent wedi eu canfod. Y bwriad yw y byddant yn dychwelyd haf nesaf.
Mae’n bendant yn gyffrous i weld cymaint o sylw ar ein hardal, ac yn galonogol i weld faint o bobl wnaeth yr ymdrech i ymweld â’r safleoedd i ganfod beth sy’n digwydd.
Adran Busnes
Sir Ddinbych yn ail mewn cystadleuaeth genedlaethol
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dod yn ail mewn gwobr genedlaethol am waith i leihau tâp coch.
Mae Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor wedi cael ei enwi'n ail yn y Gwobrau Rheoleiddio, cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ledled y DU sydd yn gwobrwyo gwaith rhagorol wrth reoleiddio.
Enwebwyd y Cyngor am ei gwaith gyda phrosiect Gwell Busnes i Bawb, sydd yn dwyn busnesau ac adran cynllunio a gwarchod y cyhoedd y Cyngor ynghyd i wella sut y caiff rheoleiddio ei ddarparu i arbed amser ac arian i fusnesau.
Fel rhan o Gwell Busnes i Bawb, mae’r Cyngor bellach yn cydlynu’n well rhwng busnesau er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyfannol i fusnesau yn ystod ymweliadau.
Derbyniodd Sir Ddinbych, yr unig ymgeisydd o Gymru a enwyd ymysg yr 13 yn y rownd derfynol, gydnabyddiaeth arbennig 'un i gadw llygad arno' gan Adran Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant, sy'n cynnal y gwobrau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: "Mae cael ein henwi'n ail yn y Gwobrau Rheoleiddio yn llwyddiant mawr. Rwy'n falch iawn o'r holl staff yn Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Gwell Busnes i Bawb.
"Fel rhan o Gwell Busnes i Bawb, mae rheoleiddwyr yn hysbysu busnesau o unrhyw gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan y Cyngor a sefydliadau eraill, gan gynnwys grantiau cymorth i fusnesau.
“Mae'r prosiect yn ymwneud â chael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio sy'n atal twf- a chodi cystadleurwydd economaidd Sir Ddinbych.
"Gall cydymffurfio â rheoliadau gynorthwyo eich busnes i ddarparu cynnyrch o safon uchel a chystadleuol y gall cwsmeriaid ymddiried ynddo, i gynorthwyo i ddiogelu eich busnes rhag atebolrwydd ac i dynnu sylw at unrhyw ddefnydd aneffeithlon o adnoddau.
“Rydym yn credu bod hyn yn ffordd effeithiol o gefnogi busnesau, ac yn ogystal â nifer o brosiectau dan ein Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, mae’n helpu cwmnïau Sir Ddinbych drwy ddatblygu’r economi.
“Rydym yn ymestyn egwyddorion Gwell Busnes i Bawb i feysydd gwasanaeth eraill er mwyn gwella ymhellach y modd mae’r Cyngor yn rhyngweithio gyda busnesau”.
Mae gwaith arall sydd wedi cael ei gynnal i wella rheoleiddio yn y sir yn cynnwys Partneriaeth Awdurdod Sylfaenol gyda busnesau lleol, llunio pecynnau busnes i ddarparu arweiniad a chefnogaeth well yn ogystal â chynnal gweithdai gyda busnesau i helpu i ddatblygu polisïau.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ym Mirmingham ar 4 Gorffennaf ac roedd y cystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol yn cynnwys tîm safonau ansawdd Tesco, Cyngor Dinas Salford a Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Nottingham.
Yn y llun mae'r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych (canol); Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (canol i'r dde); Emlyn Jones, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (canol chwith) a staff o'r adran cynllunio a diogelu'r cyhoedd.
Defnyddiwch cyfryngau cymdeithasol i roi sylw i fusnesau gwych Sir Ddinbych
Mae ffordd newydd ar gael i fasnachwyr a siopwyr roi sylw i nwyddau gwych sydd ar gael yn Sir Ddinbych.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio’r grŵp Facebook #CaruBusnesauLleol/#LoveLiveLocal er mwyn galluogi busnesau a siopwyr i arddangos nwyddau a bargeinion gwych lleol yn Sir Ddinbych.
Mae’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol yn tynnu sylw at yr ystod wych o fasnachwyr a nwyddau lleol sydd ar gael ar stryd fawr y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae yna gyfoeth o fusnesau gwych ar gael ar strydoedd mawr Sir Ddinbych yn gwerthu ystod eang o nwyddau.
“Mae masnachwyr annibynnol yn cynnig gwerth am arian a gwasanaeth cyfeillgar i’w cwsmeriaid a byddwn yn annog trigolion i weld beth sydd ar gael ar garreg eu drws.
“Mae’r grŵp Facebook hwn yn siawns i fusnesau hyrwyddo eu hunain i gwsmeriaid ac yn rhoi cyfle i siopwyr dynnu sylw at nwyddau a gwasanaethau gwych.
“Fel Cyngor rydym yn awyddus i weld busnesau lleol yn llwyddo ac mae hyn yn sicrhau fod arian sy’n cael ei wario yn lleol yn aros yn Sir Ddinbych ac yn helpu i greu economi ffyniannus.”
Mae ffigyrau'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn dangos fod yr economi leol yn elwa 63c o bob £1 sy'n cael ei wario gyda mentrau lleol bach neu ganolig.
Mae busnesau a phreswylwyr yn cael eu gwahodd i ymuno â’r grŵp Facebook #CaruBusnesauLleol/#LoveLiveLocal a hyrwyddo busnesau a nwyddau lleol gwych.
Sir Ddinbych yn cynnal cwrs am ddim i dynnu sylw at beryglon seiberdroseddu
Gallai methu â chymryd seiberddiogelwch o ddifrif a chymryd camau i amddiffyn eu hunain orfodi busnesau bach i gau.
Dyna oedd rhybudd llwm arbenigwyr mewn sesiwn hyfforddi a ddarparwyd am ddim i fusnesau bach drefnwyd gan y Cyngor.
Cafodd cwmnïau'r sir gyfle i fynychu sesiwn 'Cyber Essentials', sef cynllun seiberddiogelwch sylfaenol a gefnogir gan Lywodraeth y DU a diwydiant.
Arweiniwyd y sesiwn gan Jason Davies, cyfarwyddwr Safonda o Ruthun, sef cwmni sy'n achredu ‘Cyber Essentials' ac yn hyfforddi busnesau i amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau.
Dywedodd: “Mae seiberddiogelwch yn hanfodol i fusnesau bach. Gall busnesau mawr amsugno ymosodiadau seiber ond os yw busnesau bach yn colli mynediad at eu data, hyd yn oed am ddiwrnod, gall gael effaith enfawr ar eu cwmnïau a hyd yn oed eu gorfodi i gau i lawr.
“Os ydych yn cadw at egwyddorion 'Cyber Essentials’, ni all meddalwedd wystlo eich taro yn y lle cyntaf. Cyn belled a'ch bod yn gyfredol ac yn gwneud y pethau y dylech eu gwneud, ni ddylech gael eich dal allan.
“Os ydych wedi dioddef o ymosodiad seiber, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â’ch darparwr rhyngrwyd. Yna edrychwch beth yw’r difrod a beth sydd wedi’i effeithio.
“Ni allwn ddweud wrth bobl p’un a ddylent dalu am eu data ar ôl dioddef o ymosodiad meddalwedd wystlo ai peidio. Os ydych yn talu pridwerth am eich data, byddwch yn ariannu’r troseddwyr hynny ond yn y pen draw mae gennych fusnes i’w redeg ac os yw’r data yn hanfodol i chi, ni allwn ddweud wrthych am beidio â’i dalu.”
Yn 2016 costiodd seiberdroseddau £29 biliwn i fusnesau’r DU a dywedodd Mr Davies mai'r ffordd orau o amddiffyn eich hun yw drwy wneud copi wrth gefn o’ch data.
Dywedodd: “Ni all y troseddwyr wneud difrod na ellir ei drwsio i’ch rhwydwaith na’ch busnes os oes gennych system dda mewn grym i gadw data wrth gefn.
“Os ydych am gael ateb cyfan da, yr ateb yw mynd i edrych ar y cynllun ‘Cyber Essentials’. Mae’n rhoi cyfarwyddyd i chi am y pum cam gweithredu pwysicaf.
“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch yn rhanbarth gogledd Cymru.
Mae ‘Cyber Essentials’ yn annog busnesau i osod waliau tân a meddalwedd arall i atal mynediad diawdurdod a gwneud yn siŵr fod maleiswedd a meddalwedd gwrth-firws yn cael eu gosod a’u bod yn gyfredol.
Dioddefodd Maureen Young, cyd-berchennog cwmni Ruthin Decor, ymosodiad seiber y llynedd a dywedodd ei fod wedi bod yn ‘ddinistriol’.
Dywedodd: “Mae seiberddiogelwch yn broblem fawr i’n busnes. Cawsom ymosodiad maleiswedd ac er na effeithiodd ar ein prif systemau cyfrifo, fe effeithiodd ar rai o’n dogfennau.
“Mae bellach yn bryder go iawn i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn gyfredol er mwyn amddiffyn y busnes rhag y peryglon.
“Byddwn yn annog busnesau eraill i gymryd y bygythiad hwn o ddifrif. Roeddwn i’n meddwl fy mod yn deall ac yn gwybod pa negeseuon e-bost i'w hagor a pheidio â'u hagor, ond mi agorais i rywbeth na ddylwn i fod wedi'i agor.
“Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn. Mae gennyf restr o bethau i’w gwirio. Mae’n braf gweld y Cyngor yn helpu busnesau bach fel hyn. Dyma’r union fath o help sydd ei angen arnom. Mae pobl yn llai tebygol o roi blaenoriaeth i’r math yma o beth os ydynt yn gorfod talu amdano ond os ydych yn dioddef o ymosodiad seiber, gall fod yn hollol ddinistriol.”
Dywedodd Stuart Baldwin, perchennog cwmni Quest Consultancy o’r Rhyl, sy’n darparu hyfforddiant a gwasanaethau rheoli prosiectau i fusnesau: “Mae’r cwrs hwn yn gwneud synnwyr perffaith i ni. Mae seiberddiogelwch yn rhywbeth yr ydym yn pryderu yn ei gylch.
“Mae’n rhywbeth a allai ddinistrio’ch busnes. Rydych yn clywed am ymosodiadau mawr sy'n digwydd i gwmnïau byd-eang a gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn teimlo’n llawer mwy deallus ar ôl y cwrs hwn. Mae wedi lleihau'r ofnau, rydym wedi cael camau syml i’w cymryd a’n helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio."
Mae'r Cyngor am gynnal cwrs arall am ddim i fusnesau ym mis Hydref - os hoffech gofrestru’ch diddordeb dylech e-bostio econ.dev@denbighshire.gov.uk.
Dull arloesol i helpu disgyblion i fod yn barod ar gyfer byd gwaith
Mae disgyblion Y Sir am gael help llaw ychwanegol i baratoi ar gyfer byd gwaith.
Mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer dechrau Barod am Waith, sy’n cael ei ddarparu gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru, i roi cefnogaeth mentora uwch i fyfyrwyr, cyngor gyrfaoedd ychwanegol, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu sgiliau yn y gweithle.
Mae’n dilyn y prosiect Llwybrau+, a welodd mwy na 1,300 o fyfyrwyr yn mynd i ddigwyddiadau gyrfaoedd yn ogystal â sesiynau cyfweliadau ffug gyda chyflogwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: “Mae paratoi disgyblion ar gyfer byd gwaith yn hollbwysig. Bydd Barod am Waith yn helpu myfyrwyr i ddeall disgwyliadau a gofynion cyflogwyr.
“Bydd hefyd yn galluogi disgyblion a’u rhieni i ennill ymwybyddiaeth o amrywiaeth eang o swyddi a chyfleoedd gyrfa yn Sir Ddinbych.
“Fel rhan o’n gwaith yn datblygu’r economi o dan ein Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, rydym am wneud yn siŵr bod gan y sir weithlu medrus sy’n gallu elwa o’r swyddi a’r cyfleoedd sy’n codi.”
Bydd Barod am Waith yn anelu at ymgorffori cyngor gyrfaoedd yn y cwricwlwm craidd a gyflwynir gan ysgolion, a bydd yn cynnwys busnesau sy'n bartneriaid gyda'r ysgol, fel y gallant roi cyngor ymarferol.
Bydd hefyd yn cynnwys creu cynllun cymuned cyn-fyfyrwyr, i fanteision ar sgiliau a gwybodaeth cyn-fyfyrwyr, yn ogystal â darparu digwyddiadau gyrfaoedd dwyieithog.
Addysg
Ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl
Mae’r cynigion ar gyfer Ysgol Gatholig 3-16 newydd yn y Rhyl wedi cymryd cam pwysig ymlaen.
Mae cyfuno Ysgol Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones bellach wedi’i gymeradwyo ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig. Golyga hyn y bydd yr ysgolion newydd yn cael eu sefydlu ar 1 Medi 2019 a bydd y ddwy ysgol bresennol yn cau.
Yn ogystal â hyn, mae cwmni Kier Construction a benodwyd ym mis Mai 2017 i ymgymryd â chynlluniau i ddarparu’r ysgol Gatholig 3-16 newydd, wedi gwneud cynnydd mawr yn y gwaith o ddatblygu dyluniadau ar gyfer yr ysgol newydd. Mae’r gorffeniadau terfynol yn cael eu gwneud i’r cynlluniau cyn ymgynghori â’r cyhoedd ym mis Hydref. Bydd hyn yn galluogi preswylwyr, rhieni a disgyblion i ddweud eu dweud am y dyluniad cyn iddo gael ei gyflwyno am Gymeradwyaeth Cynllunio. Bydd y trefniadau yn cael eu cadarnhau ar wefan Sir Ddinbych a thrwy ei gyfryngau cymdeithasol.
Y bwriad yw y bydd y prosiect yn cael ei gynllunio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru, trwy ei Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a bydd cam cyntaf yr Achos Busnes sy’n seiliedig ar y cynlluniau dechreuol hyn yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr hydref.
Diweddariad Ysgolion
Bwriedir buddsoddi dros £ 21 miliwn yn ardal Rhuthun fel y bydd Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru trwy Ysgolion a Rhaglen Addysg yr 21ain Ganrif, yn darparu adeiladau newydd ar gyfer pedair ysgol gynradd yn ardal Rhuthun. Edrychwn ar gynnydd cyfredol yr holl gynlluniau yn yr ardal isod.
Ysgol Pen Barras a Stryd Rhos
Bydd y datblygiad £ 11 miliwn hwn yn arwain at Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd Rhos yn symud o'r safleoedd presennol i gyfleuster newydd yn Glasdir, Rhuthun.
Mae Wynne Construction, prif Gontractwr y prosiect, yn mynd rhagddo'n dda yn unol â'r rhaglen a fydd yn gweld y gwaith wedi'i gwblhau yng ngwanwyn 2018. Mae uchafbwyntiau diweddar y prosiect yn cynnwys cwblhau gosod cladin i’r tô a dechrau'r atgyweiriad mecanyddol a thrydanol cyntaf. Mae mwyafrif y ffenestri bellach wedi'u gosod ac mae gwaith i'r fynedfa newydd a'r maes parcio yn parhau.
Mae'r gwaith sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys cwblhau gosod y ffenestri a'r gwaith cerrig i flaen yr adeilad a'r maes parcio. Bydd gwaith hefyd yn parhau ar y gosodiad mecanyddol a thrydanol a'r plastr mewnol a rendr allanol.
Dros y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r ddwy ysgol i gynllunio'n ofalus y symudiad o'r safleoedd presennol i'r safle newydd.
Ysgol Carreg Emlyn
Dros yr haf mae gwaith paratoadol y tu ôl i'r llenni wedi parhau ar gyfer yr ysgol newydd yn Clocaenog ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn.
Yn dilyn cymeradwyaeth cynllunio i adeiladu ysgol gynradd newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn ym mis Mehefin, mae'r prosiect bellach wedi bod allan i dendro ac ar hyn o bryd rydym yn y cyfnod gwerthuso tendr. Cafwyd ymateb da iawn i'r tendr gyda nifer o gontractwyr â diddordeb.
Cyhoeddir penodi'r prif gontractwr adeiladu y mis yma, gyda'r adeiladwaith wedi ei drefnu i ddechrau ar y safle yn y gaeaf a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn hydref 2018.
Bydd yr adeilad newydd yn darparu ystafelloedd dosbarth, neuadd newydd, ystafell gymunedol, a lle ar gyfer gwaith grŵp bach, mannau chwarae allanol, mynediad i gerbydau newydd a pharcio ceir gydag ardal gollwng. Ar ôl cwblhau'r gwaith adeiladu, bydd yr ysgol yn gallu gweithredu o'r un safle hwn gyda'r adeiladau presennol yn Clocaenog a Cyffyliog yn cau.
Ysgol Llanfair
Ar y cyfan, cafwyd ymateb cadarnhaol i'r ymgynghoriad cyn cynllunio a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf. Yn dilyn adborth, gwnaed man newidiadu i'r cynlluniau mewnol a chynigion priffyrdd. Dylai cwblhau arolygon ecolegol ychwanegol ganiatáu i'r cais cynllunio gael ei ystyried dros yr wythnosau nesaf.
Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae symud ymlaen i sicrhau prif gontractwr i weithio gyda Sir Ddinbych i gyflawni'r prosiect.
Yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth, rhagwelir y gallai adeiladu ddechrau ar safle Gwanwyn 2018 a rhagwelir cwblhau yn ystod gwanwyn 2019.
Bydd y prosiect yn darparu dosbarthiadau ar gyfer dosbarthu dosbarthiadau blwyddyn cymysg ac ardaloedd ychwanegol gan gynnwys neuadd, cegin, ystafell gymunedol, ystafell staff, swyddfa weinyddol, swyddfa penaethiaid, toiledau a storio.
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd holl brosiectau Sir Ddinbych, ymunwch â'n Blog Addysg https://educationindenbighshire.wordpress.com/
Nodweddion
Llwyddiant y Sioe Awyr
Mae Sioe Awyr llwyddiannus arall wedi diddanu'r torfeydd yn Y Rhyl.
Mae trefnwyr Sioe Awyr y Rhyl flynyddol wedi datgan fod y digwyddiad eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda rhai adborth gwych a delweddau wedi'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Mynychodd miloedd o ymwelwyr y sioe deuddydd gydag ystod o wahanol arddangosfeydd awyr.
Dychwelodd y tîm arddangos enwog y Red Arrows eto eleni i gau gweithgaredd y penwythnos, gydag arddangosfeydd gan y Strikemaster, Yak Display, Tim Aerobics Trig, cerddwyr Breitling, tîm arddangos aerobatig Tîm Raven a'r Tîm Bronco Demo hefyd yn cyfrannu at lwyddiant y Sioe Awyr eleni.
Trefnwyd y digwyddiad am ddim gan Wasanaethau Hamdden Sir Ddinbych ac fe'i cefnogwyd gan Gyngor Tref y Rhyl a'r Awyrlu.
Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol dros yr Economi: "Eto eleni, roedd y Sioe Awyr wedi denu miloedd o drigolion ac ymwelwyr i'r promenâd, yn ogystal â channoedd o bobl yn gwylio'r gweithgaredd yn yr ardaloedd cyfagos.
"Rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb i'r arddangosfeydd. Nid yn unig y mae'n rhoi sioe o'r radd flaenaf i bobl leol ar garreg y drws, ond mae hefyd yn denu llawer o filoedd o ymwelwyr i Sir Ddinbych, gan helpu i gynhyrchu mwy o wariant yn ein gwestai, ein siopau, ein tafarndai, ein tai bwyta a'n busnesau eraill.
"Mae'r Cyngor, gan weithio gyda'i phartneriaid yng Nghyngor Tref y Rhyl a'r Awyrlu wedi sefydlu enw da am drefnu digwyddiadau o'r radd flaenaf ac mae'r adborth ac ymateb gan bobl dros y penwythnos wedi gwneud yr holl waith caled a'r ymrwymiad yn werth chweil".
Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol
Mae teithio gweithredol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded a beicio ac mae'n ddull cludiant iach a chynaliadwy. Hoffem glywed eich barn. Cwblhewch yr arolwg ar-lein
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/ymgynghoriadau/teithio-llesol-mapiau-rhwydwaith-integredig.aspx
Lansio Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn yn Sir Ddinbych
Mae rheoli cŵn yn Sir Ddinbych yn newid gyda lansio’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd ledled y sir a allai arwain at roi dirwy i gerddwyr cŵn anghyfrifol os ydynt yn methu cydymffurfio â’r gorchymyn.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r cyhoedd yn gynharach eleni, mae Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor wedi lansio’r gorchymyn gyda digwyddiad gwybodaeth ym Mharc Cae Ddôl, Rhuthun mis diwethaf.
Mae’r gorchymyn wedi’i gynllunio i drin materion hirsefydlog sy’n ymwneud â pherchnogion cŵn anghyfrifol ac ni fydd yn effeithio ar fwyafrif y perchnogion cŵn cyfrifol.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i weld swyddogion a dysgu mwy am y gorchymyn, sut caiff ei orfodi drwy’r sir a dysgu mwy am amryw adrannau’r gorchymyn.
Mae'r gorchymyn yn berthnasol ledled y sir a gellir gweld nodiadau canllaw sy’n egluro pob agwedd ar y gorchymyn ar ein gwefan. Gallwch hefyd wylio fideo yr ydym wedi gwneud isod.
Trigolion y Rhyl yn siarad am sbwriel
Eisiau stopio ysmygu?
Mae Helpa Fi i Stopio ...
- yn darparu pwynt mynediad ar gyfer pob gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu y GIG yng Nghymru, sy'n cael ei ddarparu wyneb yn wyneb:
- mewn grwpiau,
- mewn fferyllfeydd lleol,
- mewn ysbytai neu
- dros y ffôn
- yn ei gwneud yn haws i smygwyr gael y cymorth gorau er mwyn rhoi'r gorau i smygu
- yn cydnabod bod gan smygwyr anghenion cymorth amrywiol.
Smygu, a rhoi'r gorau i smygu
- Smygu yw prif achos afiechyd ataliadwy yng Nghymru o hyd. Mae 19% o oedolion yng Nghymru yn smygu.
- Mae smygwyr am roi'r gorau iddi...mae 64% o smygwyr am roi'r gorau iddi ac aeth 44% ati i geisio gwneud hynny y llynedd. (Arolwg Cenedlaethol Cymru).
- Ar gyfartaledd, mae'n rhaid i bobl aros llai na 7 diwrnod i gael cymorth i roi'r gorau iddi erbyn hyn, ac mae ansawdd y cymorth (cyfraddau rhoi'r gorau) ar gyfer yr holl wasanaethau yn cyd-fynd yn gyson â'r meincnodau cydnabyddedig, neu'n rhagori arnynt.
Pa gyngor dylid ei roi i smygwyr?
- Y ffordd orau o roi'r gorau i smygu yw gyda chymorth am ddim gan y GIG sy'n cael ei gynnig drwy Helpa Fi i Stopio.
- Mae gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu y GIG yn cynnig y cyfle gorau i lwyddo drwy ddarparu:
- Cymorth arbenigol, strwythuredig wedi'i deilwra
- Monitro carbon monocsid er mwyn ysgogi
- Mynediad at feddyginiaeth drwyddedig am ddim i roi'r gorau i smygu
- Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i smygu gyda chymorth y GIG na gwneud hynny eu hunain.
Gall smygwyr gael cymorth uniongyrchol drwy:
- Dylai gweithwyr proffesiynol atgyfeirio smygwyr drwy:
Beth arall allwn ni ei wneud?:
- Arddangos posteri a chardiau cyswllt (wedi'u hargraffu a/neu yn ddigidol) yn eich meddygfa.
- Gall gofyn i rywun a ydyn nhw'n smygu eu hysgogi i geisio rhoi'r gorau iddi, mae atgyfeirio yn cynyddu llwyddiant.
- Cysylltwch â helpmequit@wales.nhs.uk am unrhyw beth sy'n ymwneud â rhoi'r gorau i smygu.
Tai Sir Ddinbych
Llwyddiant tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych
Mae ymrwymiad y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy yn y sir yn talu ar ei ganfed wedi i 185 o gartrefi gael eu creu dros y tair blynedd diwethaf gan ddod â’r cyfanswm i 760 dros y 13 blynedd diwethaf.
Mae cartrefi fforddiadwy wedi’u creu ledled y sir trwy adeiladu tai newydd ac ailddefnyddio cartrefi sy'n bodoli eisoes, ac mae hynny wedi helpu pobl i brynu cartrefi ar y farchnad agored mewn ardaloedd o'u dewis neu drwy rentu.
Mae amrywiaeth o wahanol gyfleoedd ar gael ledled y sir ar hyn o bryd, gan gynnwys cynlluniau yn Henllan, Rhewl a Dinbych. Mae’r cynllun Cymorth Prynu yn galluogi ymgeiswyr i brynu cartref ar y farchnad agored drwy ddarparu cymorth ariannol.
I fanteisio ar y cyfleoedd hyn i brynu neu rentu am bris gostyngedig, mae angen i bobl gofrestru unwaith i fod ar y Gofrestr Tai Fforddiadwy. Rhedir y cynllun gan Grŵp Cynefin sy’n gallu darparu cyngor wedi’i deilwra’n unigol am yr opsiynau sydd ar gael.
I gofrestru, cysylltwch â’r tîm Tai Fforddiadwy yn Grŵp Cynefin, ar 0300 111 2122.
Rhan fawr o ddull y Cyngor o ddarparu tai fforddiadwy yw ail-ddefnyddio eiddo gwag.
Rydym yn un o’r Cynghorau gorau yng Nghymru am ailddefnyddio eiddo gwag ac mae 130 o gartrefi wedi cael eu hail-ddefnyddio yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a 900 wedi’u hailddefnyddio ers 2010.
Ar hyn o bryd mae oddeutu 700 o gartrefi gwag yn y sir ac mae’r Cyngor eisiau ailddefnyddio hyd yn oed mwy o gartrefi trwy weithio gyda’u perchnogion. Mae amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth ariannol ar gael i helpu perchnogion i ailddefnyddio eiddo gwag yn y tymor hir. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Andrea Fisher yn y gwasanaeth Amgylchedd Adeiledig ar 01824 706717 neu built.environment@sirddinbych.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Yr Aelod Cabinet Arweiniol sy’n gyfrifol am dai: “Mae’r Cyngor yn gwbl ymroddedig i helpu pobl leol i gael cartrefi fforddiadwy yn eu cymunedau dewisedig yn Sir Ddinbych.
“Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod eisiau cael eu troed ar yr ysgol eiddo, ond maent yn ei chael yn anodd gwneud hynny un ffordd neu’r llall. Mae darparu tai fforddiadwy mewn cymunedau lleol yn gyfle gwych i bobl ymgartrefu yn eu cymunedau eu hunain a chymryd y cam cyntaf pwysig yna ar yr ysgol.
“Mae llawer mwy o ddewisiadau ar gael nawr, gyda digonedd o gefnogaeth a chyngor ar gael gan y Cyngor a’i bartneriaid tai”.
Diweddariad ar Brosiect Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Parth Cynnes
Trwy ei raglen arbed ynni, mae’r Cyngor wedi gwella effeithlonrwydd ynni rhai o’r tai oedd yn perfformio waethaf yn Sir Ddinbych.
Mae effeithlonrwydd ynni cartref a chost biliau tanwydd yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng bod yn gyfforddus yn eich cartref eich hun neu allu fforddio bwyta. Mae tai aneffeithlonrwydd ynni yn creu biliau tanwydd uchel iawn a all gael effaith negyddol ar iechyd a lles pobl.
Mae’r sector rhentu preifat yn cynnwys rhai o’r cyfraddau effeithlonrwydd ynni isaf mewn tai ar draws Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys goblygiadau difrifol o Ebrill 2018. Mae Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhentu Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015 yn nodi bod holl dai rhentu preifat gyda thystysgrif perfformiad ynni (EPC) â chyfradd o F a G yn ‘is-safonol’ ac ni ellir eu gosod. Gall cofnod troseddol, dirwyon sylweddol ac eiddo na ellir ei osod fod yn rai o’r canlyniadau.
Mae rhai o’r tai mwyaf aneffeithlon wedi eu lleoli yng Ngorllewin y Rhyl lle’r oedd ein prosiect arbed ynni diwethaf.
Mae llawer o waith adfywio yn cael ei wneud o amgylch ardal Gerddi Heulwen yng Ngorllewin y Rhyl. Fel rhan o’r gwaith adfywio hwn, mae effeithlonrwydd ynni 36 annedd yn yr ardal wedi gwella o fand E, F a G i fand C ar y Tystysgrif Perfformiad Ynni. Mae llawer o’r tai hyn wedi eu datgysylltu o’r cysylltiad nwy a’u rhoi ar wresogyddion trydan sy’n creu biliau tanwydd uchel iawn gyda pherfformiad effeithlonrwydd ynni gwael.
Mae ein prosiect diweddaraf wedi gwella’r eiddo hyn drwy eu hailgysylltu i’r cysylltiad nwy a newid y systemau gwres trydan drud am systemau gwres canolog nwy modern sy’n defnyddio ynni’n effeithiol. Cafodd y gwaith ei ariannu trwy gais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru a Pharth Cynnes fel rhan o’r Rhaglen Cartrefi Cynnes.
Llwyddodd y prosiect i ddenu dros £100,000 o arian allanol i dalu am gostau gosod a chael y trigolion allan o dlodi tanwydd. Mae lefelau effeithlonrwydd ynni llawer o’r tai sy’n weddill yn agos at yr ardal adfywio nawr yn dda iawn. Bydd pob tŷ nawr yn arbed cannoedd o bunnoedd ar eu biliau tanwydd blynyddol.
Fel rhan o’r prosiect hwn roeddem hefyd yn gweithio gyda Chymunedau’n Gyntaf a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. Roeddent yn gallu cefnogi cyfleoedd hyfforddi i bobl leol. Roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu llinell ffôn Rhadffôn dwyieithog i gofrestru eiddo ar gyfer y prosiect ac yn gallu cynnig ymweliadau â thai a rhoi cyngor ar effeithlonrwydd ynni, mwyhau incwm, lleihau dyled, rheoli arian a chynorthwyo gyda cheisiadau grant ynni.
Gwaith i ddechrau ar brosiect i wella'r amgylchedd gwerth £1.2 miliwn yn Llanelwy
Bydd gwaith yn dechrau cyn hir ar y prosiect i wella'r amgylchedd gwerth £1.2 miliwn i denantiaid cyngor yn Llanelwy.
Bydd y prosiect yn darparu nifer o welliannau, gan gynnwys gwella priffyrdd a llwybrau troed a thirlunio amgylcheddol. Ar ôl cwblhau’r gwelliannau bydd yr ardal yn elwa ar gyfleusterau parcio gwell, mesurau gostegu traffig ac ardaloedd agored wedi eu tirlunio. Tai Sir Ddinbych sy’n buddsoddi yn y prosiect, gyda chymorth ehangach gan y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru.
Mae Dawnus wedi eu penodi fel y contractwr i ddarparu'r prosiect hwn. Mae gan y cwmni brofiad helaeth o ymgymryd â phrosiectau adeiladu a pheirianneg sifil a dywedasant: “Mae Dawnus yn hynod o falch o fod wedi ennill y cynllun gwella mawreddog hwn yn Bro Havard ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a’r gymuned leol i ddarparu prosiect llwyddiannus gyda chyn lleied o amhariad ag sy’n bosibl i breswylwyr”.
O 11 Medi, bydd Dawnus yn gweithio yn ardal Parc Stanley a’r cyffiniau, lle bydd safle â chlwstwr o adeiladau yn cael ei sefydlu. Yn ystod yr wythnos gyntaf hon, bydd Dawnus yn ymweld â phob eiddo yn yr ardal a effeithir gan y gwelliannau a byddant yn cyfarfod preswylwyr i drafod y prosiect gyda hwy.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai: “Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned i ddarparu’r gwelliannau yma ac i greu amgylchedd hyfryd y mae’r trigolion yn ymfalchïo ynddo. Mae hwn yn un o nifer o brosiectau cymunedol sydd ar y gweill yn y sir, gydag ymrwymiad cadarn gan y tîm i wella ansawdd bywyd trigolion lleol drwy ddarparu datblygiadau o ansawdd".
Diwrnodau pwysig yn ystod y prosiect i chi eu cofio:
- Ionawr hyd at fis Mawrth 2018 – bydd y gwelliannau amgylcheddol a thirlunio yn cychwyn.
- Rydym ni’n rhagweld y bydd y prosiect wedi’i gwblhau yn ystod haf 2018
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect i’w gael ar hysbysfwrdd y prosiect ym Mharc Stanley a hefyd ar dudalen Facebook Tai Sir Ddinbych @TaiSirDdinbych.DenbighshireHousing.
Os ydych yn dymuno cael mwy o wybodaeth neu gydag unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Jayne Valentine jayne.valentine@denbighshire.gov.uk, 07887 541000 neu Glyn Forsdick glyn.forsdick@denbighshire.gov.uk 01824 712959.
Y diweddaraf am ddatblygiadau yn Y Rhyl
Prif gogydd newydd wedi’i benodi ar gyfer bwyty 1891 y Rhyl
Bydd blas o’r Rhyl ar y fwydlen ym mwyty newydd y cyrchfan diolch i’w brif gogydd sydd newydd ei benodi.
Bydd Aaron Broster, sydd wedi gweithio dan gogydd enwog Dyffryn Clwyd, Bryn Williams, yn cymryd y brif swydd yn 1891, sy’n agor ym mis Rhagfyr yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl sydd wedi’i ailwampio.
Mae Aaron, 53, sy’n byw yn Ninbych, wedi gweithio mewn nifer o brif fwytai, yn fwyaf diweddar ym Mhorth Eirias, bwyty Bryn Williams ym Mae Colwyn a'r Felin Brwcws, Dinbych.
Meddai’r cyn ddisgybl o Ysgol Glan Clwyd: “Rwy’n gyffrous iawn o fod wedi fy mhenodi’n brif gogydd. Mae hwn yn gyfle gwych.
“Rwy’n gobeithio defnyddio cynnyrch lleol ar gyfer y fwydlen, o fewn dalgylch o 30 milltir i’r Rhyl ac yn bendant, o Ogledd Cymru. Fel cogydd, mae cynnyrch lleol yn well ac mae’n helpu i gefnogi’r busnesau lleol gwych sydd gennym yma yn y sir.
“Hoffwn roi’r Rhyl ar y fwydlen, bydd pwdin ‘Roc y Rhyl’, bydd rhai o’r seigiau wedi’u henwi ar ôl tirnodau’r Rhyl a bydd y stecen yn cael ei galw’n ‘The Cut’.
“Gwelir dylanwadau glan y môr a dylanwadau’r theatr ar y fwydlen. Fe fydd bwyd cain, ond bydd ar agor i bawb.”
Dewiswyd yr enw i adlewyrchu’r flwyddyn yr agorodd y Pafiliwn gwreiddiol am y tro cyntaf, a bydd 1891 yn cynnig bwyd a diod o ansawdd uchel mewn amgylchedd ffasiynol a chain a bydd ar agor i bobl sy’n mynd i’r theatr, preswylwyr ac ymwelwyr.
Mae Mr Broster wedi bod yn gweithio fel cogydd ers 27 mlynedd ac mae wedi gweithio hefyd yn y Chester Grosvenor, y Brighton Metropole a Phortmeirion.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn wych i weithio gyda Bryn. Rwyf wedi dysgu llawer iawn. Rwy’n falch fy mod wedi gweithio yno a nawr yw’r amser i gymryd y cam nesaf.
“Mae 1891 yn mynd i fod yn fwyty gwych. Mae’n edrych mor arbennig a does dim golygfeydd gwell i’w cael yng Ngogledd Cymru, gallwch weld ar hyd yr arfordir i gyd. Mae am fod yn brofiad anhygoel a bydd y bwyd yr un fath.
“Bydd hyn yn wych ar gyfer y Rhyl, a’r gwaith adfywio ehangach. Mae’n codi’r dref i fyny i lefel uwch. Mae’n lle addawol iawn.”
Mae ardaloedd bar y Pafiliwn hefyd yn cael eu hailwampio fel rhan o’r ailddatblygu yn ogystal â gwaith ailbeintio ac ail-greu ffasâd y prif adeilad a chreu cyntedd mynedfa newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: “Hoffwn longyfarch Aaron ar ei rôl newydd. Mae’n wych bod gennym gogydd mor brofiadol a dawnus ar gyfer 1891.
“Bydd ein bwyty yn ased i’r dref. Mae ailddatblygu Theatr y Pafiliwn yn rhan o’r gwaith ehangach yn y Rhyl a fydd yn cynyddu niferoedd ymwelwyr y dref a chreu swyddi a fydd yn hwb i’r economi leol.”
Blas o fwyd cain yn 1891
Dyma gipolwg sydyn o'r bwyty newydd sbon sy'n rhan o raglen adfywio glan y mor y Rhyl.
Mae’r lluniau hyn yn chwilboeth o’r wasg ac yn dangos awyrgylch ffasiynol a chain 1891, sydd i fod i agor ym mis Rhagfyr.
Bydd y bwyty newydd yn agor yn swyddogol ar 1 Rhagfyr.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.1891rhyl.com a chadwch olwg ar y papurau
newydd lleol a’r cyfryngau cymdeithasol am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf.
Carreg milltir arall yn natblygiad y parc dwr
Mae parc sglefrio y Rhyl wedi cau er mwyn gwneud lle ar gyfer y parc dŵr blaenllaw a fydd yn ffurfio rhan sylweddol o'r gwaith ailddatblygu’r promenad.
Mae’r gwaith ar y dyluniad manwl y parc sglefrio newydd newydd sbon yn mynd rhagddo a bydd lleoliad y cyfleuster newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Disgwylir i’r cais cynllunio ar gyfer y parc sglefrio gael ei gwblhau yn yr Hydref a bydd gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2018, gyda’r bwriad i fod yn barod ar gyfer misoedd yr haf.
Mae’r Cyngor yn dymuno diolch i ddefnyddwyr y parc sglefrio am eu cydweithrediad.
Yn y cyfamser, mae Alliance Leisure wedi ennill y cytundeb i ddatblygu parc dŵr, gyda chontractwyr ISG nawr yn paratoi'r safle.
Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE,: "Y Gwaith o uwchraddio’r arlwy twristiaeth a hamdden arfordirol yw’r elfen fwyaf o adfywio cyffredinol y Rhyl.
"Mae’r cynigion ar gyfer y 'Glannau' newydd wedi'u datblygu mewn ffordd sy'n ategu cynllun adfywio ar gyfer y dref gyfan ac, oherwydd ei leoliad (wrth ymyl y Twr Awyr & sinema, gyferbyn â datblygu Premier Inn newydd ac yn agos at ganol y dref), mae’n gatalydd ar gyfer denu mwy o ymwelwyr i'r Rhyl a gyrru ymwelwyr drwy ganol y dref.
"Mae adleoli’r parciau sglefrio yn elfen bwysig o'r cynllun ac mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn dangos bod cynlluniau ar gyfer parc dŵr yn symud ymlaen i gyfnod cyffrous iawn a'n bod ar y trywydd iawn i'w ddarparu. "
Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Alan James: "Mae symudiad gyda’r parc dŵr a pharc sglefrio yn drobwynt pwysig i’r gwaith o adfywio'r Rhyl. Gyda chontractwyr parc dŵr yn symud ar y safle, rydym yn cymryd cam arall ymlaen er mwyn hybu cynnig twristiaeth y dref. Er y deallwn y bydd rhai yn siomedig bod y parc sglefrio yn cau dros dro, bydd y cyfleuster newydd yn llawer gwell, gyda’r gwaith yn cychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd dros y misoedd nesaf wrth i’r newidiadau barhau yn y Rhyl”.
Newyddion
Cannoedd yn cefnogi cynnig Rhyddid Sir Ddinbych i’r Cymry Brenhinol
Bu cannoedd o bobl yn datgan eu cefnogaeth i’r Cymry Brenhinol ym mis Medi wrth iddynt gael eu hanrhydeddu gan Rhyddid Sir Ddinbych yn ystod pared yn Rhuthun.
Roedd y digwyddiad pwysig hwn yn nodi ail-ddatganiad Rhyddid y Sir i’r Cymry Brenhinol ac yn rhoi cyfle i drigolion Sir Ddinbych ac ymwelwyr yr ardal ddangos eu cefnogaeth a’u diolch i’n lluoedd arfog am eu gwroldeb a’u dewrder wrth gyflawni eu dyletswydd, boed hynny gartref neu dramor.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Rhuthun ddydd Sadwrn 2 Medi 2017, gyda’r orymdaith yn cael ei harwain gan Ffiwsiliwr Llewelyn, yr Afr Gatrodol. Roedd aelodau o luoedd Cadetiaid Sir Ddinbych wedi ymuno â’r Cymry Brenhinol ar yr orymdaith.
Bu i’r Cymry Brenhinol ymgynnull ar Ffordd Wynnstay cyn gorymdeithio i fyny Stryd y Farchnad i Sgwâr Sant Pedr lle cynhaliwyd archwiliad gorymdaith gan nifer o urddasolion dinesig a milwrol.
Yn dilyn anerchiad cyhoeddus ac Anthemau Cenedlaethol, mi arweiniodd y Ffiwsiliwr Llewelyn y Cymry Brenhinol, y Band Catrodol a’r Cadetiaid o amgylch Sgwâr Sant Pedr i lawr Stryd y Ffynnon ac ar hyd Ffordd Wynnstay lle daeth yr orymdaith i ben wrth y senotaff.
Dyfarnwyd Rhyddid y Sir gan y Cyngor i’r Cymry Brenhinol am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2011, pan ddaeth cannoedd o bobl i sefyll ar strydoedd Dinbych i gefnogi a gwylio’r digwyddiad.
Ymdrechion ailgylchu yn talu ar eu canfed
Hoffai'r Cyngor ddiolch yn fawr i holl breswylwyr y sir am eu hymdrechion i ailgylchu.
Yn 2016/17, fe lwyddodd Sir Ddinbych i ailgylchu 64% o’r gwastraff a gasglodd a chyrraedd y targed o 64%, a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ddwy flynedd yn gynnar.
Mae’r Cyngor nawr yn annog preswylwyr i sicrhau eu bod yn defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd i gael gwared â’u holl wastraff bwyd. Ar hyn o bryd, mae 20% o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu o’r biniau du ar olwynion yn wastraff bwyd.
Y targed nesaf sydd wedi’i osod ar gyfer Sir Ddinbych yw cyrraedd 70% erbyn 2024/2025.
I gynorthwyo â gwella cyfraddau ailgylchu ymhellach, gofynnir i breswylwyr sicrhau bod gwastraff bwyd yn cael ei roi yn y cadi gwastraff bwyd oren a ddarperir, yn barod i'w gasglu'n wythnosol.
Darperir cadi cegin llai i roi eich gwastraff bwyd ynddo bob diwrnod a gellir trosglwyddo'r gwastraff i’r cadi gwastraff bwyd oren pan fo hynny’n gyfleus. Gellir rhoi’r gwastraff bwyd canlynol yn y cadi oren: Cynhyrchion wedi’u pobi h.y. cacennau, grawnfwydydd, bisgedi, crystiau, bara sydd wedi llwydo; Cynhyrchion mewn tuniau/ wedi'u pacio h.y. cnau, codlysiau, hadau; Llysiau h.y. pilion / llysiau sydd wedi mynd yn ddrwg; Bagiau te / gwaddodion coffi; Gweddillion; Ffrwythau h.y. croen, creiddiau, pilion; Cig; Cynnyrch Llaeth h.y. plisg wyau.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol sydd â chyfrifoldeb am Ailgylchu: “Mae cyrraedd y targed ailgylchu ddwy flynedd yn fuan yn sicr yn dipyn o gamp ac i breswylwyr Sir Ddinbych y mae’r diolch am hynny, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu yn y ffordd gywir.
“Mae’r Cyngor yn falch iawn o’i wasanaeth ailgylchu, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf ac mae gwasanaeth ailgylchu Sir Ddinbych yn flaenllaw yng Nghymru. Rydym yn awyddus iawn i barhau â’r dull gwyrdd, ecogyfeillgar hwn drwy ddarparu’r gwasanaethau ailgylchu cywir a gweithio gyda phreswylwyr a chymunedau lleol.”
Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan.
Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2017 #CefnogiMabwysiadu
Bydd Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2017 yn cael ei gynnal Hydref 16 - 22. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r angen i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer ein plant bregus yn parhau i fod wrth wraidd y digwyddiad a bydd y ffocws eleni ar frodyr a chwiorydd.
Byddant hefyd yn ceisio cynnwys pob agwedd o fabwysiadu, er mwyn symleiddio ac egluro'r broses, ac i adlewyrchu heriau magu plant sydd wedi cael ei mabwysiadu.
Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cefnogi'r Wythnos trwy gynnal sesiynau gwybodaeth / galw heibio ar draws Gogledd Cymru gan roi cyfle i bobl ddod i ddarganfod mwy am y broses i fabwysiadu. Nid oes angen apwyntiad, ac mae croeso i bobl ddod i siarad trwy eu sefyllfa bersonol eu hunain, yn llawn hyder os dymunant.
Hydref 18, byddwn yn Llyfrgell y Rhyl 1yh -3yh ac yn Y Ganolfan Nofio yn Llandudno 4yh-7yh.
Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan.
Cynllun Arloesol Cyngor am weld cyfraniad y gymuned leol
Ar hyn o bryd mae Cynllun Rhannu Bywydau Sir Ddinbych yn chwilio am bobl leol fyddai’n hoffi dod yn ‘ofalwyr’. Mae’r cynllun yn darparu cymorth ychwanegol ym mywydau dyddiol pobl sydd mewn angen – fe allant fod ag anabledd cymhleth, problemau iechyd meddwl, anableddau corfforol, neu nam ar y synhwyrau sy’n effeithio eu bywydau.
Mae’r Cyngor yn chwilio am unigolion, cyplau neu deuluoedd brwdfrydig a gofalgar sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sydd ag ystafell sbâr yn eu cartref i fod yn Ofalwyr Rhannu Bywyd. Mae gan Gynllun Rhannu Bywydau Sir Ddinbych staff ymroddedig sy’n darparu cefnogaeth ymarferol, cyngor ac arweiniad i Ofalwyr Rhannu Bywydau. Hefyd fe fyddwn yn rhoi hyfforddiant priodol iddynt ac yn trefnu bod ffi yn cael ei dalu iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Cabinet Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Les ac Annibyniaeth: “Bwriad Cynllun Rhannu Bywydau Sir Ddinbych yw bod yn gyswllt allweddol o ran cefnogi'r rhai hynny yn ein cymuned sydd angen cymorth fwyaf. Byddai profiad o weithio yn y sector gofal yn ddefnyddiol ond nid yw’n angenrheidiol - mae brwdfrydedd yr un mor bwysig!”
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn Ofalwr Rhannu Bywydau neu sydd am gael gwybod mwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych a gofyn am siarad gyda Chydlynydd y Cynllun Rhannu Bywydau.
Gallwch ysgrifennu atynt neu eu cyfarfod yn: Un Pwynt Mynediad, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Tŷ Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl, LL18 3DP; ffôn: 0300 456 1000. Ebost: spoa@sirddinbych.gov.uk
Y Cyngor yn adnabod yr angen am safleoedd sipsiwn a theithwyr
Mae'r Cyngor yn chwilio am dir ar gyfer safle preswyl, yn ogystal â safle tramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y sir.
Fe gwblhaodd y Cyngor, ar y cyd â Chyngor Conwy, asesiad o’r angen am lety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n ofynnol i’r holl awdurdodau lleol ledled Cymru gynnal asesiadau o’r fath, yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014.
Fe wnaeth yr asesiad gydnabod yr angen am safle preswyl â chwe llain yn Sir Ddinbych, yn ogystal â safle tramwy â phedair neu bump o leiniau ar gyfer y rhai sy’n teithio drwy’r sir.
Byddai safle parhaol yn gweithredu fel unrhyw gymuned breswyl arall lle darperir llety sylfaenol, megis blociau amwynder unigol, mynediad at gyfleustodau, adnoddau sbwriel a gwasanaeth casglu sbwriel ar gyfer preswylwyr. Fel gydag unrhyw lety rhent arall, mae’r preswylwyr yn talu rhent a’r dreth cyngor, yn talu am eu cyfleustodau eu hunain ac mae’n ofynnol iddynt ymlynu wrth amodau tenantiaeth.
Cyfleusterau parhaol sydd wedi’u bwriadu i gael eu defnyddio dros dro gan feddianwyr, gyda bloc amwynder cymunedol fel arfer, yw safleoedd tramwy. Mae gan feddianwyr unigol hawl i aros ar y safle am hyd at dri mis ar y tro.
Ar hyn o bryd, nid oes safleoedd parhaol na safleoedd tramwy presennol yn Sir Ddinbych
Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai: “Mae’n ofynnol yn gyfreithiol bod y Cyngor yn sicrhau mynediad at dai neu lety o ansawdd ar gyfer pawb a bydd creu’r ddau safle yma yn y sir yn mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn y sir.
“Fel awdurdod, rydym yn dymuno gwneud yn iawn â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae ar ein teuluoedd sy’n deithwyr parhaol eisiau help i gadw eu diwylliant a’u treftadaeth yn fyw, gan integreiddio i’n cymunedau ymhob ffordd, o addysg a’r Gymraeg i fod yn gyfranogwyr brwd yn y gymuned ehangach.
“Ar hyn o bryd, nid oes opsiynau addas ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy’n teithio drwy’r sir ac rydym ni’n credu y bydd safle tramwy o gymorth i ni ddarparu gwasanaethau digonol dros dro. Bydd hefyd o gymorth i ni ostwng nifer y safleoedd dros dro diawdurdod yr ydym wedi bod yn eu gweld, yn enwedig yn ystod tymor yr haf.
Y camau nesaf yw adolygu’r holl dir addas sydd i’w gael yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd ac annog tirfeddianwyr i gynnig unrhyw safleoedd preifat ar gyfer ystyriaeth.
Dylid anfon unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb i cdll@sirddinbych.gov.uk Y dyddiad cau ar gyfer cynnig safleoedd yw 8 Tachwedd 2017.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch at: www.sirddinbych.gov.uk/sipsiwnatheithwyr
Llyfrgell a Siop Un Alwad Llanelwy – Gwybodaeth am Gau Dros Dro
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig teithiau bws am ddim o Lanelwy i Lyfrgell Rhuddlan ar gyfer cwsmeriaid llyfrgell yn ystod cyfnod byr y gwaith ailwampio.
Bydd Adeilad Llyfrgell a Siop Un Alwad Llanelwy ar gau i’r cyhoedd o ddydd Llun 2 Hydref 2017 a bydd yn ailagor yn y flwyddyn newydd.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â’r Cyngor Dinas, yn gwella’r adeilad a’r gwasanaethau a ddarperir i greu cyfleuster cymunedol sy’n addas i’r dyfodol.
Yn ystod y cyfnod cau, mae’r cyngor ac Arriva yn croesawu cwsmeriaid i deithio am ddim ar y gwasanaeth bws lleol (Arriva), i’r llyfrgell agosaf sef Llyfrgell / Siop Un Alwad Rhuddlan.
Byddwch yn barod i ddangos eich cerdyn Llyfrgell i’r gyrrwr bws er mwyn cael y gwasanaeth am ddim – os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen prynu tocyn, ond nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n teithio gyda thocyn bws am ddim.
Gall gwsmeriaid ddal y bws o unrhyw arosfan bws yn Llanelwy i deithio i Lyfrgell/Siop Un Alwad Rhuddlan yn y cyfeiriad a ganlyn:
Llyfrgell/Siop Un Alwad Rhuddlan
Lôn y Ficerdy
Rhuddlan
LL18 0DR
Oriau agor Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan yw:
Dydd Llun 9:30 – 12:30 1:30 – 5pm
Dydd Mercher 9:30 – 12:30 1:30 – 5pm
Dydd Iau 1:30 – 5pm
Dydd Gwener 9:30 – 12:30 1:30 – 5pm
Dydd Sadwrn 9:30 – 12:30
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn - a diolch i chi am eich cydweithrediad a’ch amynedd yn ystod y cyfnod hwn. Hoffai’r cyngor hefyd ddiolch i Arriva am ddarparu’r gwasanaeth hwn am ddim i gwsmeriaid
Eich Pwyntiau Siarad
Heneiddio'n dda yn Sir Ddinbych
Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu cynnal ledled Sir Ddinbych i ddathlu cyfraniad pobl hŷn cyn Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (1 Hydref).
Trefnwyd Grŵp Rhwydwaith Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych cyfres o ddigwyddiadau eleni i ddangos pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r Bartneriaeth hon yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Age Connect, Cymdeithas Alzheimers’, Y Groes Goch Brydeinig, Gofal a Thrwsio, Fforwm Gofal Cymru, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, a’r GIG a llawer mwy.
Roedd y digwyddiadau yn cynnwys sesiynau’r prosiect Ymgolli mewn Celf, celf a thecstilau, ‘clwb diwylliant’ ar gyfer celfyddydau a dawns a sesiynau Pwyntiau Siarad i bobl gael cyngor a gwybodaeth am faterion lles.
Cafwyd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol hefyd i hyrwyddo’r prosiectau a helpu i godi proffil materion sy’n ymwneud â phobl hŷn. Galwch weld y fideos aeth allan ar y cyfryngau cymdeithasol isod. Mae copi o Gynllun Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych hefyd ar gael drwy fynd i wefan: www.sirddinbych.gov.uk/heneiddiondda
Y Cyngor i ofyn barn trigolion
Bydd y Cyngor yn fuan yn gofyn am farn am wasanaethau cyngor yn eich cymuned leol.
Bob dwy flynedd, rydym yn cynhyrchu arolwg preswylwyr pan ofynnwn am eich barn am eich cymunedau fel lleoedd i fyw a pha mor fodlon ydych chi gyda gwasanaethau'r cyngor yn gyffredinol.
Bydd y canfyddiadau'n ein helpu i ddeall faint rydych chi'n ei wybod amdanom ni a'n gwasanaethau; eich profiadau o gysylltu â ni a darparu adborth a'r hyn y credwch y dylem ganolbwyntio arno yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2018.
Bydd yr arolwg yn cael ei roi i gartrefi sampl ar draws y sir dros yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd copïau hefyd ar gael yn y derbynfeydd ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fyddant ar gael.
Moderneiddio gwasanaethau cymdeithasol
Llywiwr cymunedol
Nod y Llyw-wyr cymunedol yw datblygu a chefnogi rhwydweithiau lleol a chymunedau a hyrwyddo amrywiaeth o gymorth sydd ar gael o fewn y gymuned, i leihau'r angen am gymorth ffurfiol, wedi'i gynllunio.
Bydd y cymorth ganddynt yn grymuso a galluogi lle bynnag y bo'n bosibl a bydd yn hyrwyddo annibyniaeth, hyder a sgiliau.
Mae llyw-wyr cymunedol yn darparu cyswllt rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, y dinesydd, eu teulu a gofalwyr, a ffynonellau cymorth o fewn y gymuned. Mae meddygon teulu yn gynyddol yn gweld y gwasanaeth yn amhrisiadwy, gyda’r gwasanaeth wedi'i ddisgrifio fel ' yn gyfrwng i gysylltu cleifion â ffynonellau cymorth o fewn y gymuned nad ydynt yn feddygol’.
Mae llyw-wyr cymunedol yn cynnig ffordd wahanol i bobl ddod i wybod pa gymorth a allai fod ar gael neu beth y gall ei gyfrannu yn eu cymuned i gefnogi eu hiechyd a'u lles. Maent yn gweithio'n agos gyda'r timau iechyd a gofal cymdeithasol ac ar gael o fewn y pwyntiau trafod yn eich ardal leol.
Dewis
Os yw'n well gennych i edrych ar-lein ar gyfer ffynonellau cymorth neu gyfleoedd i wirfoddoli, yna gallwch ymweld â gwefan Dewis Cymru, y lle ar gyfer gwybodaeth lles ledled Cymru a lle gellir dod o hyd i'r wybodaeth am sefydliadau lleol a gwasanaethau i'ch helpu i gynnal eich annibyniaeth a lles yw dewis.
I weld beth sydd ar gael mewn ardal benodol a allai fod o fudd i chi, eich aelodau teulu/ffrindiau neu'r rhai sy'n gofalu am bobl eraill edrychwch ar www.dewis.cymru. Yn ogystal â manylion am y gwasanaethau a gweithgareddau yn eich ardal, mae hefyd llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn.
Ar hyn o bryd, ceir dros 3,500 o adnoddau a thros 30,000 o ymweliadau i wefan Dewis, a bydd pob person sydd yn mynd ymlaen i Dewis yn aros am dros 5 munud.
Os credwch chi fod angen help neu os hoffech drafod gyda rhywun, gallwch ymweld ag yn sôn amdano, cysylltwch ag un pwynt mynediad ar 0300 456 1000 neu ewch i'n gwefan: http://www.sirddinbych.gov.uk/