llais y sir

Addysg

Diweddariad Ysgol Gatholig Crist y Gair

Mae cynnydd ar yr ysgol Gatholig 3 i 16 yn y Rhyl yn cynyddu gyda cadarnhad enw newydd ar gyfer yr ysgol ynghyd a’r gwaith adeiladu yr ysgol newydd yn dechrau.

Ddiwedd mis Mehefin cafodd gwesteion eu gwahodd gan Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, i seremoni torri tywarchen ddydd Gwener ar safle’r datblygiad a fydd yn cymryd lle Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones. Yn ystod y digwyddiad cyhoeddodd yr Esgob enw newydd yr ysgol 3 i 16 – Ysgol Gatholig Crist y Gair.

Mae’r safle drws nesaf i’r ddwy ysgol lle mae gwaith galluogi eisoes wedi digwydd ac mae’r gwaith llawn bellach ar y gweill. Mae cwmni Kier Construction wedi cael ei benodi gan y Cyngor fel prif gontractwr yr ysgol newydd a ddarperir ar gyfer Esgobaeth Wrecsam.

I ddathlu’r cynnydd bu seremoni arwyddo’r trawst pan y gwahoddwyd gwesteion i arwyddo trawst. Rhoddwyd trawst i ddisgyblion a staff yr ysgolion yr wythnos flaenorol i’w arwyddo ac roedd hwn i’w weld yn y strwythur yn ystod y digwyddiad.

Disgwylir i’r adeilad newydd agor yn hydref 2019 a bydd adeiladau’r ysgolion presennol yn cael eu dymchwel cyn i waith allanol ddechrau ar yr ardaloedd chwaraeon / chwarae ar ôl cwblhau adeilad yr ysgol yn barod ar gyfer haf 2020. Bydd lle i 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed yn yr ysgol newydd. 

Mae’r prosiect mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Cyngor yn croesawu buddsoddiad mewn Canolfan Iaith Gymraeg fel “hwb mawr”

Mae'r Cyngor wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn canolfan Gymraeg yng ngogledd y sir fel hwb mawr i'r iaith Gymraeg.

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno cynnig i greu Canolfan Iaith ar safle Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, yn darparu ar gyfer disgyblion cyn-ysgol, cefnogaeth i hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3 trwy’r broses "trochi", cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau'r Gymraeg a lleoliad bosibl ar gyfer partneriaid sy’n hyrwyddo’r Gymraeg,  yn ogystal â chynnydd bach mewn lle ar gyfer Ysgol Glan Clwyd.

Gallai'r cyfleuster hwn hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu oedolion y tu allan i oriau ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch- Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a'r Iaith Gymraeg: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych ac mae ei angen i helpu i ddiwallu'r cynnydd yn y galw am gyfrwng Cymraeg lleoedd ledled y sir.

"Yn Sir Ddinbych, mae gennym weledigaeth glir i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn ein cymunedau, gan gynnwys ein hysgolion ac mae ein cydweithwyr wedi gweithio'n ddiflino ar lunio cais sylweddol, uchelgeisiol a chymhellol am gyllid. Mae'n amlwg bod y cyflwyniad o ansawdd uchel hwn wedi creu argraff ar Lywodraeth Cymru a oedd yn barod iawn i dderbyn ein cynnig yn llawn.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo'n gadarn i wella addysg cyfrwng Cymraeg a darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn ei Gynllun Corfforaethol ei hun a bydd y prosiect allweddol hwn yn chwarae rhan bwysig wrth weithio tuag at yr uchelgais hon.

"Byddwn yn awr yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y freuddwyd hon yn realiti.

"Mae hon yn stori newyddion da i Sir Ddinbych ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ganolfan hon yn datblygu wrth i ni ymdrechu i chwarae ein rhan i gwrdd â'r targed cenedlaethol ar gyfer siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".

Awydd bod yn Lywodraethwr Ysgol?

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn wirfoddolwr cymunedol a bod yn rhan o dîm, gan gael effaith gadarnhaol ar ein hysgolion?  Does dim ots beth ydi'ch profiad na'ch cefndir.

Os ydych chi'n credu bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol ar lein:  www.sirddinbych.gov.uk/llywodraethwyr.

Bydd aelod o'n tîm yn cysylltu efo chi gyda gwybodaeth am ofynion y rôl.

Gwaith yn mynd yn ei flaen mewn dwy ysgol yn y Sir

Mae disgyblion wedi bod yn gadael eu hôl ar ddwy ysgol newydd yn y Sir, canlyniad buddsoddi bron i £10 miliwn mewn addysg wledig yn y sir.

Bu myfyrwyr Ysgol Carreg Emlyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn cymryd rhan mewn seremonïau llofnodi paneli wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen yn y ddwy ysgol.

Cawsant gyfle i lofnodi paneli sy'n rhan o wead yr adeiladau newydd.

Mae ysgol ddwyieithog newydd yr eglwys yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy, ac yng Nghlocaenog fydd safle newydd Ysgol Carreg Emlyn.

Ariennir y ddwy ysgol drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Roedd hi’n galonogol gweld disgyblion yn y ddwy ysgol yn dangos cymaint o ddiddordeb yn eu hadeiladau newydd.

“Mae’n un o flaenoriaethau’r Cyngor i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau fod ganddynt ysgolion modern sy’n hybu eu dysg. Mae’r ddwy ysgol hon yn rhan o fuddsoddiad o £90 miliwn yn ysgolion Sir Ddinbych.

“Gallwn weld fod y gwaith yn dod ei flaen yn dda, ac rydym yn disgwyl i’r ddwy ysgol agor eu drysau erbyn yr haf nesaf.”

Yn y llun uchod:  Cynghorwyr etholedig, swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a chynrychiolwyr o Esgobaeth Llanelwy, ynghyd a phlant, athrawon a llywodraethwyr o Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd gyda chynrychiolwyr o’r gymuned a staff o Wynne Construction

Yn y llun uchod:  Carreg Emlyn - Cynghorwyr etholedig a swyddogion o'r Cyngor Sir, ynghyd a phlant, athrawon a llywodraethwyr o Ysgol Carreg Emlyn gyda chynrychiolwyr o’r gymuned a staff o Wynne Construction

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid