Gweinidog yr Amgylchedd yn ymweld â Bodfari
Yn ddiweddar, bu i Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd ymweld â’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd ym Modfari i weld Cronfa Datblygu Cynaliadwy’r AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar waith.
Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd yn gwmni buddiannau cymunedol sydd wedi’i leoli ym Modfari ac yn darparu addysg awyr agored. Oherwydd y twf yn y galw am y rhaglenni y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, roedd angen ystafell gyfarfod arall i wneud lle ar gyfer yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael.
Darparodd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyllid grant tuag at adeilad ffrâm bren newydd a oedd yn cynnwys cladin pren, inswleiddiad gwlân dafad a phlastr calch. Cafwyd y pren i gyd o goetiroedd lleol a chafwyd y deunyddiau eraill i gyd gan gyflenwyr lleol. Caiff yr adeilad ei wresogi gan losgwr coed gyda thrydan o’r to paneli solar ar yr adeilad presennol. Dyma’r unig adeilad o’i fath gyda Sgôr Perfformiad Ynni Band A yn Sir Ddinbych.
Dysgodd y Gweinidog sut y cafodd yr adeilad ei adeiladu dros gyfres o gyrsiau ar gyfer unigolion â diddordeb mewn adeiladau cynaliadwy a oedd hefyd yn cynnwys holl ddefnyddwyr y ganolfan, yn cynnwys; Cefnogaeth Gymunedol (oedolion ag anawsterau cymhleth), grwpiau addysg yn y cartref, disgyblion ag anghenion arbennig yn ogystal â gwirfoddolwyr rheolaidd.
Os hoffech wybod mwy am Gronfa Datblygu Cynaliadwy yr AHNE, cysylltwch â Ceri Lloyd ar 01824 712748 neu ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk