llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Sgwter traws gwlad newydd – Tramper

Mae ein sgwter traws gwlad newydd o’r enw Tramper yn caniatáu mynediad gwell at gefn gwlad i bawb yn cynnwys unigolion mewn cadeiriau olwyn, pramiau ac unigolion ag anawsterau symud.Tramper

Mae hwn yn sgwter gyriant pedair olwyn arbennig sy’n addas ar gyfer pob tir, gellir ei ddefnyddio ar draws gwlad neu ar dir garw, mwd a glaswellt.

Mae’r sgwter, sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads, ar gael i’w logi AM DDIM o amgylch y parc. Mae gofyn i ddefnyddwyr ddilyn cyflwyniad byr cyn mynd allan ar hyd y llwybr dynodedig o amgylch y parc.

Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy am gyllid i brynu’r sgwter.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Lloyd ar 01824 712757 neu e-bostiwch ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk

Gweinidog yr Amgylchedd yn ymweld â Bodfari

Yn ddiweddar, bu i Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd ymweld â’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd ym Modfari i weld Cronfa Datblygu Cynaliadwy’r AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar waith.

Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd yn gwmni buddiannau cymunedol sydd wedi’i leoli ym Modfari ac yn darparu addysg awyr agored. Oherwydd y twf yn y galw am y rhaglenni y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, roedd angen ystafell gyfarfod arall i wneud lle ar gyfer yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael.

Darparodd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyllid grant tuag at adeilad ffrâm bren newydd a oedd yn cynnwys cladin pren, inswleiddiad gwlân dafad a phlastr calch. Cafwyd y pren i gyd o goetiroedd lleol a chafwyd y deunyddiau eraill i gyd gan gyflenwyr lleol. Caiff yr adeilad ei wresogi gan losgwr coed gyda thrydan o’r to paneli solar ar yr adeilad presennol. Dyma’r unig adeilad o’i fath gyda Sgôr Perfformiad Ynni Band A yn Sir Ddinbych.

Dysgodd y Gweinidog sut y cafodd yr adeilad ei adeiladu dros gyfres o gyrsiau ar gyfer unigolion â diddordeb mewn adeiladau cynaliadwy a oedd hefyd yn cynnwys holl ddefnyddwyr y ganolfan, yn cynnwys; Cefnogaeth Gymunedol (oedolion ag anawsterau cymhleth), grwpiau addysg yn y cartref, disgyblion ag anghenion arbennig yn ogystal â gwirfoddolwyr rheolaidd.

Os hoffech wybod mwy am Gronfa Datblygu Cynaliadwy yr AHNE, cysylltwch â Ceri Lloyd ar 01824 712748 neu ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk

 

Diwrnod Gwych yn Sioe Dinbych a Fflint

Cawsom ddiwrnod gwych yn Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint eleni yn hyrwyddo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Y thema eleni oedd iechyd a lles. Gweithiom gyda’n cydweithwyr talentog o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a chynnal ystod o weithgareddau, yn cynnwys;

  • Gwneud Bathodynnau
  • Crefftau Cefn Gwlad
  • Cwis ar Blastig ac Addewid
  • Cyngor ar Gerdded Nordig a Sesiwn Flasu
  • Sesiwn Flasu ar Sgwter- ein sgwter traws gwlad newydd

Roedd y Sioe hefyd yn gyfle i ni hyrwyddo ein hymgyrch Dos a'r Tennyn, sy’n gofyn i berchnogion cŵn gadw eu cŵn ar dennyn pan yn ymweld â rhai o’n safleoedd cefn gwlad megis Parc Gwledig Moel Famau. Roedd y cŵn i gyd wedi mwynhau’r esgyrn am ddim!

Cawsom y cyfle hefyd i gefnogi busnesau lleol yn y neuadd fwyd. Cydweithiodd Aelodau Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd i hyrwyddo a gwerthu bwyd a diod blasus a gynhyrchwyd ar ein carreg drws! Doedd dim asgwrn i’w gael ond roedd y samplau yn flasus iawn!

 

Wythnos Eithriadol ym mis Medi!

Outstanding Week

Mis eithriadol fu mis Medi yng nghefn gwlad erioed; adeg casglu'r cynhaeaf, y coed a’r dolydd yn gwisgo'u lliwiau hydrefol, yr awyr yn balet llawn arlliwiau, arogl coelcerthi’n llenwi aer y nos a llonyddwch braf i ymwelwyr.

Mae mis Medi eleni fodd bynnag wedi bod yn fwy eithriadol byth!

Roedd teulu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi cydweithio i drefnu rhaglen wythnos o hyd (ac ychydig bach mwy) o ddigwyddiadau i helpu pobl i fwynhau a chael eu hysbrydoli gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Prydain (AHNE).

Mae Jill Smith o NAAONB yn egluro:

“Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn rhai o’r tirweddau mwyaf trawiadol o hardd yn y DU ac rydym yn eu trysori. Maent yn dirweddau byw sy'n cael eu defnyddio'n weithredol ac sy’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i bobl fwynhau a chael budd o'u hymweliadau â chefn gwlad.

“Roedd Wythnos Eithriadol yn helpu pobl i gysylltu â natur ac yn eu hannog i ddod allan i dirweddau eithriadol y DU i fwynhau bwydydd a diodydd lleol, sioeau gwledig, nosweithiau darganfod awyr dywyll, gwyliau cerdded, ffeiriau coed, chwilota, teithiau bywyd gwyllt, dyddiau arfordirol a morol, cyrsiau toi gwellt, cystadlaethau codi waliau cerrig, gwneud golosg, bioblits, ysbrydoliaeth drwy gelf a cherddoriaeth a llawer iawn mwy.

P'un a ydych yn chwilio am olygfa eithriadol, yn bwriadu cael te prynhawn blasus neu roi cychwyn ar drefn iechyd a lles newydd, ni allwch beidio â chael amser da yn un o'n 46 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Maent yn Dirweddau am Oes mewn cymaint o wahanol ffyrdd.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid