Ymylon Ffyrdd
Yn 2018 rhoddodd y Cyngor Sir Ddinbych drefn newydd ar waith am y tro cyntaf ar gyfer torri gwair ar ymyl y ffordd, gyda’r nod o sicrhau rhwydwaith o ffyrdd sy’n ddiogel ar gyfer gyrwyr a cherddwyr, a rheoli adnodd pwysig o ran bywyd gwyllt ar yr un pryd.
Mae’r lleiniau ar ymylon ffyrdd Sir Ddinbych yn gynefin i lawer o blanhigion ac anifeiliaid prin. Mae’r rhain yn cynnwys ffacbys rhuddlas, sy’n tyfu ar lain wrth ymyl y ffordd ger Dinbych a nunlle arall yng Nghymru. Bydd y polisi newydd yn galluogi'r cyngor i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth genedlaethol ac yn ein helpu i gyflawni’r amcanion a bennwyd yn adran amgylcheddol ein Cynllun Corfforaethol.
Lluniodd y Cyngor bolisi newydd ar gyfer torri gwair ar ymylon ffyrdd, mewn partneriaeth â ‘Byw ar yr Ymylon’ (grŵp gweithredu yn Sir Ddinbych a ffurfiwyd gan drigolion lleol ac arbenigwyr ar fywyd gwyllt, a ddadleuodd o blaid torri’r gwair mewn ffordd sy’n diogelu bywyd gwyllt). Nid yw'r gwair yn cael ei dorri cyn amled o dan y polisi newydd, dim ond unwaith ddechrau’r haf ac unwaith eto ddechrau’r hydref. Fel hyn caiff blodau gwyllt lonydd i flodeuo a hadu, gan sicrhau eu bod yn goroesi ar ymyl y ffordd. Mae’r blodau’n bwysig i bryfed sy’n peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw, yn enwedig gan fod eu niferoedd yn gostwng yn ddifrifol.
Ar ben hynny, mae’r polisi newydd yn cynnwys ‘Toriad Bioamrywiaeth’ yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac ardal cyngor cymuned Nantglyn. Gwneir hyn unwaith y flwyddyn gan ddechrau ar 1 Awst. Dylai hynny fod yn well fyth ar gyfer y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ar yr ymylon.
Diogelwch y ffyrdd yw’r flaenoriaeth o hyd o dan y polisi newydd; caiff lleiniau gwelededd eu cynnal a’u cadw'n fwy cyson, wrth i’r ardaloedd lle nad oes unrhyw berygl gael eu rheoli at ddibenion cadwraeth.
Tân Llantysilio
Roedd Ceidwaid Cefn Gwlad yn brysur dros yr haf yn helpu’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ddiffodd y tân ym Mwlch yr Oernant. Cychwynnodd y tân ar 14 Gorffennaf a bu’n llosgi am bron i 8 wythnos gan ledaenu dros hanner mynyddoedd Llantysilio a dinistrio cynefinoedd a phorfeydd pwysig. Bu Bwlch yr Oernant ar gau am wythnosau wrth i lwybr y tân symud tua’r ffordd, ac ar ei anterth, roedd yna bryder gwirioneddol am ddiogelwch eiddo ger y mynydd.
Roedd y ddaear mor sych a’r tân yn llosgi mor aruthrol nes iddo dreiddio i’r priddoedd mawnog a pharhau i losgi yn y ddaear ymhell ar ôl i’r llystyfiant ddiflannu. Roedd posib arogli’r mwg 20 milltir i ffwrdd wrth i’r mynydd barhau i losgi a mygu’n iasol ymhell ar ôl i’r fflamau ddiflannu oddi ar yr wyneb.
Oherwydd maint y tân, daeth criwiau tân ar hyd a lled Gogledd Cymru yno, gyda dros 60 o ddiffoddwyr tân wedi’u gwasgaru ar draws y mynydd yn ceisio diffodd y tân o sawl ochr trwy’r dydd a’r nos.
Mae gan y Gwasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad offer diffodd tân arbenigol y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith traddodiadol o losgi rhostiroedd grug dan reolaeth yn y gaeaf. Felly fe wnaethom yn siŵr bod yr offer hwn ar gael ar unwaith i fynd i’r afael â’r tân. Bu’n bosib i ni weithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Tân i ddiffodd rhannau o’r tân, trefnu i dorri rhwystrau tân a chynghori ar sut i fynd at fannau allweddol ar y mynydd.