llais y sir

Preswylwyr yn ailgylchu ei ffordd i’r dyfodol

Gall trigolion Sir Ddinbych fod yn falch bod ein cyfraddau ailgylchu ni ymysg y gorau yng Nghymru. Mae dros 64% o wastraff o dai ar draws y sir yn cael ei ailgylchu.   

Mae’r ffordd mae’r byd yn trin gwastraff yn prysur newid.  Mae mwy a mwy o wneuthurwyr bellach yn mynnu cael papur, cerdyn, tybiau plastig, caniau, tuniau, a photeli a photiau gwydr o'r ansawdd gorau er mwyn eu defnyddio i greu cynnyrch newydd.

Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi dod o hyd i ffordd o helpu i oresgyn y costau cynyddol o ddelio â gwastraff Sir Ddinbych.  Bydd y system newydd sydd ar y gweill yn helpu pawb i ailgylchu mwy o bethau'n amlach, ond bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn casglu deunydd ailgylchu o’r ansawdd gorau posib, ac rydym yn bwriadu ei werthu i gwmnïau yn y DU sy’n troi eich eitemau chi’n gynnyrch newydd. Mae hyn yn llawer gwell ar gyfer yr amgylchedd oherwydd gall y cynnyrch hwn gael ei ailgylchu eto ac eto. Mae hefyd yn ffynhonnell incwm ddefnyddiol i’n helpu i wagio 4 miliwn o gynwysyddion gwastraff bob blwyddyn.

Fe roesom ni gyfle i'r trigolion ddweud beth oedd eu barn nhw am y gwasanaeth newydd. Mae’r arolwg Ailgylchu Mwy, Gwastraffu Llai wedi cael ymateb anhygoel. Atebodd dros 2,300 ohonoch chi ar-lein a llenwodd 150 o bobol arolygon yn y llyfrgelloedd a’r Siopau Un Alwad. Mae’r wybodaeth hon yn hynod bwysig a bydd yn helpu i gyfrannu at y penderfyniad y bydd y Cyngor yn gorfod ei wneud yn fuan ynglŷn â'n gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol.

Recycling

Bydd ein gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnwys:

  • Casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunydd ailgylchadwy fel papur, gwydr, caniau a phlastig, sy’n cael ei gasglu yr un pryd â’ch gwastraff bwyd, gyda chynwysyddion newydd, hawdd i'w defnyddio, i storio peth o'r gwastraff ailgylchu ar wahân.
  • Casgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad, batris ac eitemau trydanol bychain
  • Trwy ehangu’r ystod o eitemau y gallwch chi eu hailgylchu o’ch cartref, a’u casglu nhw’n amlach, dim ond ychydig bach o wastraff na ellir ei ailgylchu fydd ar ôl. Rydym ni felly’n cynnig newid y gwasanaeth casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu i gasgliadau bob pedair wythnos.
  • Yn lle eich bin du 140 litr presennol, byddwn yn cynnig bin du newydd, mwy, 240 litr i chi.

Rydyn ni’n hyderus y gall aelwydydd Sir Ddinbych ateb yr her, ond fe allai hyn fod yn anoddach mewn ambell i sefyllfa. Felly, rydyn ni eisoes yn edrych ar:

  • Wasanaeth newydd am ddim ar gyfer gwastraff fel clytiau a chynnyrch anymataliaeth.
  • Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ychwanegol ar gyfer aelwydydd mwy.
  • Parhau i gynnig casgliadau â chymorth i’r bobl hynny sydd eu hangen.
  • Cynwysyddion ailgylchu gwahanol i bobl sydd angen addasiadau i’w helpu i reoli eu gwastraff, neu i aelwydydd sydd heb lawer o le i'w storio neu broblemau mynediad.

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg neu wedi mynd i’r sesiynau galw heibio a gynhaliom ni’n ddiweddar yn ein prif drefi. Nid dyna fydd diwedd y drafodaeth. Os yw’r Cyngor yn gwneud penderfyniad i newid ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu cyfredol, bydd nifer o gyfleoedd i’n trigolion gymryd rhan yn y drafodaeth wrth i ni gynllunio a chyflwyno'r newidiadau hynny.  Y cynharaf y byddai unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i’r gwasanaeth cyfredol fyddai gwanwyn 2020.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid