Preswylwyr yn ailgylchu ei ffordd i’r dyfodol
Gall trigolion Sir Ddinbych fod yn falch bod ein cyfraddau ailgylchu ni ymysg y gorau yng Nghymru. Mae dros 64% o wastraff o dai ar draws y sir yn cael ei ailgylchu.
Mae’r ffordd mae’r byd yn trin gwastraff yn prysur newid. Mae mwy a mwy o wneuthurwyr bellach yn mynnu cael papur, cerdyn, tybiau plastig, caniau, tuniau, a photeli a photiau gwydr o'r ansawdd gorau er mwyn eu defnyddio i greu cynnyrch newydd.
Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi dod o hyd i ffordd o helpu i oresgyn y costau cynyddol o ddelio â gwastraff Sir Ddinbych. Bydd y system newydd sydd ar y gweill yn helpu pawb i ailgylchu mwy o bethau'n amlach, ond bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn casglu deunydd ailgylchu o’r ansawdd gorau posib, ac rydym yn bwriadu ei werthu i gwmnïau yn y DU sy’n troi eich eitemau chi’n gynnyrch newydd. Mae hyn yn llawer gwell ar gyfer yr amgylchedd oherwydd gall y cynnyrch hwn gael ei ailgylchu eto ac eto. Mae hefyd yn ffynhonnell incwm ddefnyddiol i’n helpu i wagio 4 miliwn o gynwysyddion gwastraff bob blwyddyn.
Fe roesom ni gyfle i'r trigolion ddweud beth oedd eu barn nhw am y gwasanaeth newydd. Mae’r arolwg Ailgylchu Mwy, Gwastraffu Llai wedi cael ymateb anhygoel. Atebodd dros 2,300 ohonoch chi ar-lein a llenwodd 150 o bobol arolygon yn y llyfrgelloedd a’r Siopau Un Alwad. Mae’r wybodaeth hon yn hynod bwysig a bydd yn helpu i gyfrannu at y penderfyniad y bydd y Cyngor yn gorfod ei wneud yn fuan ynglŷn â'n gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol.
Bydd ein gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnwys:
- Casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunydd ailgylchadwy fel papur, gwydr, caniau a phlastig, sy’n cael ei gasglu yr un pryd â’ch gwastraff bwyd, gyda chynwysyddion newydd, hawdd i'w defnyddio, i storio peth o'r gwastraff ailgylchu ar wahân.
- Casgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad, batris ac eitemau trydanol bychain
- Trwy ehangu’r ystod o eitemau y gallwch chi eu hailgylchu o’ch cartref, a’u casglu nhw’n amlach, dim ond ychydig bach o wastraff na ellir ei ailgylchu fydd ar ôl. Rydym ni felly’n cynnig newid y gwasanaeth casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu i gasgliadau bob pedair wythnos.
- Yn lle eich bin du 140 litr presennol, byddwn yn cynnig bin du newydd, mwy, 240 litr i chi.
Rydyn ni’n hyderus y gall aelwydydd Sir Ddinbych ateb yr her, ond fe allai hyn fod yn anoddach mewn ambell i sefyllfa. Felly, rydyn ni eisoes yn edrych ar:
- Wasanaeth newydd am ddim ar gyfer gwastraff fel clytiau a chynnyrch anymataliaeth.
- Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ychwanegol ar gyfer aelwydydd mwy.
- Parhau i gynnig casgliadau â chymorth i’r bobl hynny sydd eu hangen.
- Cynwysyddion ailgylchu gwahanol i bobl sydd angen addasiadau i’w helpu i reoli eu gwastraff, neu i aelwydydd sydd heb lawer o le i'w storio neu broblemau mynediad.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg neu wedi mynd i’r sesiynau galw heibio a gynhaliom ni’n ddiweddar yn ein prif drefi. Nid dyna fydd diwedd y drafodaeth. Os yw’r Cyngor yn gwneud penderfyniad i newid ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu cyfredol, bydd nifer o gyfleoedd i’n trigolion gymryd rhan yn y drafodaeth wrth i ni gynllunio a chyflwyno'r newidiadau hynny. Y cynharaf y byddai unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i’r gwasanaeth cyfredol fyddai gwanwyn 2020.
Amserau Agor dros y Gaeaf: Parciau Ailgylchu i Breswylwyr
Mae cwmni CAD Recycling yn gweithredu tri Pharc Ailgylchu parhaol at ddefnydd trigolion Sir Ddinbych yn unig, sef Ffordd Marsh yn Y Rhyl; Colomendy, Dinbych a Lôn Parcwr, Rhuthun. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ar ddydd Sadwrn ddwywaith y mis yng Nghorwen (maes parcio Lôn Las) a Llangollen (y Pafiliwn). Ymhob safle derbynnir amrywiaeth helaeth o wastraff o’r cartref na allwn ei godi gyda’n gwasanaeth arferol o garreg y drws. I weld rhestr gyflawn o’r gwasanaethau ewch i www.denbighshire.gov.uk, gan gadw mewn cof fod gan bob safle wahanol gyfleusterau.
Rhai o’r pethau y gallwn eu derbyn yn ein Parciau Ailgylchu:
|
Bric-a-Brac
|
Cyfrifiaduron a sgriniau
|
Tecstilau
|
Nwyddau trydanol
|
Tiwbiau fflworoleuol
|
Olew modur
|
Dodrefn
|
Gwastraff o’r ardd
|
Pridd a rwbel
|
Ffonau symudol
|
Setiau teledu
|
Nwyddau gwyn
|
Metel sgrap
|
Coed
|
Batris
|
RWBEL, BRICS, PRIDD A THEILS: Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld pobl yn dod â llawer iawn mwy o rwbel i’n safleoedd. O 29 Hydref ymlaen (pan fydd y clociau’n troi’n ôl), ni fyddwn ond yn derbyn uchafswm o dair sach o rwbel ar bob ymweliad. Nid yw rwbel adeiladu, brics, teils na phridd yn cyfrif fel gwastraff domestig (hyd yn oed os ydynt yn dod o'r cartref), ac nid oes rhwymedigaeth arnom i dderbyn y rhain yn ein safleoedd. Os oes arnoch angen cael gwared ar fwy o'r math yma o wastraff, yna gallwch logi sgip gan gwmni trwyddedig. Mae'r Cyngor wedi ail-osod y cyfyngiad hwn er mwyn atal masnachwyr rhag ceisio defnyddio’r safleoedd yn anghyfreithlon. Rydym hefyd yn gwneud mwy o waith gorfodi er mwyn adnabod ac erlyn busnesau sy’n mynd â'u gwastraff i’r safleoedd hyn yn fwriadol er mwyn osgoi talu'r costau masnachol.
Amserau agor dros y gaeaf: 29 Hydref 2018 - 24 Mawrth 2019
Amserau agor dros yr haf: 25 Mawrth 2019 - 28 Hydref 2019
Safle
|
Dydd Llun i ddydd Gwener
|
Dydd Sadwrn a dydd Sul
|
Dydd Llun i ddydd Gwener
|
Dydd Sadwrn a dydd Sul
|
Y Rhyl
|
10am - 6pm
|
10am - 6pm
|
10am - 6pm
|
10am - 6pm
|
Dinbych
|
10am - 4pm
|
9pm-4pm
|
10am - 6pm
|
10am - 6pm
|
Rhuthun
|
10am - 4pm
|
9pm-4pm
|
10am - 6pm
|
10am - 6pm
|
Llangollen
|
Amherthnasol
|
9am-11am (ail a phedwerydd dydd Sadwrn o’r mis yn unig)
|
9am-11am (ail a phedwerydd dydd Sadwrn o’r mis yn unig)
|
9am-11am (ail a phedwerydd dydd Sadwrn o’r mis yn unig)
|
Corwen
|
Amherthnasol
|
9am-11am (dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd un o’r mis yn unig)
|
9am-11am (dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd un o’r mis yn unig)
|
9am-11am (dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd un o’r mis yn unig)
|
(Bydd pob safle ar gau ar 26 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr)