llais y sir

Angen barn ar newidiadau i ffiniau Ardal Gadwraeth y Rhyl

Mae'r Cyngor wedi adolygu Ardal Gadwraeth y Rhyl ac mae’n cynnig rhai newidiadau i’r ffiniau. Rydym yn ymgynghori ar y cynigion hyn ar hyn o bryd ac mae mwy o wybodaeth amdanynt isod.

Mae Ardal Gadwraeth yn ardal o ‘ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol gwarchod neu wella ei chymeriad neu ei gwedd.

Mae dynodiad ardal gadwraeth yn ffordd i awdurdod lleol ychwanegu haen ychwanegol o reolaeth gynllunio, i helpu i ddiogelu ardaloedd sy’n cael eu gwerthfawrogi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Nod Deddfwriaeth Ardal Gadwraeth yw gwarchod a gwella ardaloedd o’n hamgylchedd hanesyddol sy'n werthfawr i'r bobl sy'n rhyngweithio gyda nhw, fel y cânt eu gwerthfawrogi gan y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r Rhyl yn dref glan y môr Fictoraidd gynlluniedig, sy’n cynnwys nifer o adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd. Er bod llawer o addasiadau wedi’u gwneud yn y Rhyl dros y blynyddoedd ar ffurf adeiladau amhriodol, ansawdd isel, o ddyluniad digydymdeimlad, mae llawer i’w ddathlu yn y Rhyl o hyd.

Yn wreiddiol, roedd dwy Ardal Gadwraeth ar wahân wedi’u dynodi yng nghanol y Rhyl, gydag Ardal Gadwraeth Eglwys Sant Tomos yn cael ei dynodi ym 1988 ac Ardal Gadwraeth Queen Street/Ffordd Cilgant yn cael ei dynodi ym 1992. Yn 2007, penderfynwyd adolygu'r ddwy Ardal Gadwraeth yng nghanol y Rhyl a'u cyfuno yn un Ardal Gadwraeth fwy. Mae’r Ardal Gadwraeth gyfredol yn cwmpasu ardal eang o ganol tref y Rhyl o Abbey Road i’r dwyrain i Stryd y Baddon yn y gorllewin, ac o Rodfa’r Gorllewin i’r gogledd, a’r orsaf drenau i’r de. Penderfynom y byddai Ardal Gadwraeth y Rhyl yn elwa o adolygiad, oherwydd teimlid bod rhai ardaloedd wedi colli eu cymeriad ac roedd yn ardal fawr i’w rheoli.

Argymhellodd yr adolygiad bedwar prif newid i ffiniau Ardal Gadwraeth y Rhyl. Yn gryno:

  1. Ymestyn y ffin ogledd-ddwyreiniol i gynnwys ardaloedd uchaf Stryd y Baddon a Pharc Morlan.
  2. Cael gwared ar Safle Datblygu Premier Inn, Harkers Amusements a Safle Datblygu Queen Street.
  3. Cynnwys yr hen Sinema Regal.
  4. Eithrio'r parc bysiau/maes parcio arfaethedig ar Ffordd Cilgant ac ail-lunio’r ffin i eithrio 20-30 ac 11-23 Stryd Edward Henry.

Rydym yn cynnig newid ffiniau Ardal Gadwraeth y Rhyl yn unol â’r argymhellion hyn a bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau arfaethedig yn dod i ben ar 2 Tachwedd 2018.

Dylid anfon sylwadau am y newidiadau arfaethedig i Ardal Gadwraeth y Rhyl yn ysgrifenedig at y Tîm CDLl, Cynllunio Strategol a Thai, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ neu gellir gwneud sylwadau ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk neu trwy anfon e-bost at planningpolicy@denbighshire.gov.uk cyn 5pm ar 2 Tachwedd 2018.

Rhyl Conservation Area Boundary 1Rhyl Conservation Area Boundary 3

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid