llais y sir

Newyddion

Cadarnhau cynllun i ariannu gofal plant am ddim yn Sir Ddinbych

Mi fydd cynllun Llywodraeth Cymru i ariannu gofal plant yn y sir am 30 awr yr wythnos, yn cael ei chyflwyno yn y Sir yn Ionawr 2019, gyda'r sir gyfan yn elwa o'r cyflwyno ar yr un pryd.

Yn 2017 addawodd Llywodraeth Cymru gynnig 30 awr yr wythnos o addysg a gofal plant cynnar wedi'i ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gymwys i blant tair a phedair oed sy'n gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn erbyn mis Medi 2020.

Bydd plant yn gymwys i gael mynediad i'r arlwy o ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedwar oed.

Bydd gan blant cymwys yr hawl i gael hyd at 20 awr o ofal plant am ddim yn ystod y tymor, ar ben y 10 awr a ddarperir eisoes gan y cyfnod sylfaen. Yn ystod gwyliau'r ysgol, pan nad oes addysg gynnar, bydd y cynnig yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am hyd at naw wythnos. Gall y rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sy'n gweddu i'w hamgylchiadau personol a theuluol, boed y tu mewn neu'r tu allan i'r Sir, mewn cytundeb â'r darparwr a'r awdurdod lleol.

Bydd y rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn defnyddio'r gofal plant am ddim am 10 awr yr wythnos a ddarperir gan y cyfnod sylfaen yn gallu gwneud cais am 20 awr o ofal plant am ddim, fel rhan o'r cynllun.

Er mwyn bod yn gymwys i gael gofal plant am ddim, mae'n rhaid i rieni/warcheidwaid fodloni set o feini prawf: rhaid i'w plentyn fod yn 3 neu 4 oed; rhieni/warcheidwaid yn gweithio ac yn ennill cyfwerth ag o leiaf 16 awr ar gyflog byw cenedlaethol neu isafswm cyflog cenedlaethol, neu'n derbyn budd-daliadau gofalu penodol a rhaid iddynt fyw yn Sir Ddinbych.

Rhoddir cyhoeddusrwydd i wybodaeth am y broses gofrestru maes o law. Am wybodaeth bellach, ewch i: www.sirddinbych.gov.uk/ggd

Gwastraff ac Ailgylchu

Preswylwyr yn ailgylchu ei ffordd i’r dyfodol

Gall trigolion Sir Ddinbych fod yn falch bod ein cyfraddau ailgylchu ni ymysg y gorau yng Nghymru. Mae dros 64% o wastraff o dai ar draws y sir yn cael ei ailgylchu.   

Mae’r ffordd mae’r byd yn trin gwastraff yn prysur newid.  Mae mwy a mwy o wneuthurwyr bellach yn mynnu cael papur, cerdyn, tybiau plastig, caniau, tuniau, a photeli a photiau gwydr o'r ansawdd gorau er mwyn eu defnyddio i greu cynnyrch newydd.

Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi dod o hyd i ffordd o helpu i oresgyn y costau cynyddol o ddelio â gwastraff Sir Ddinbych.  Bydd y system newydd sydd ar y gweill yn helpu pawb i ailgylchu mwy o bethau'n amlach, ond bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn casglu deunydd ailgylchu o’r ansawdd gorau posib, ac rydym yn bwriadu ei werthu i gwmnïau yn y DU sy’n troi eich eitemau chi’n gynnyrch newydd. Mae hyn yn llawer gwell ar gyfer yr amgylchedd oherwydd gall y cynnyrch hwn gael ei ailgylchu eto ac eto. Mae hefyd yn ffynhonnell incwm ddefnyddiol i’n helpu i wagio 4 miliwn o gynwysyddion gwastraff bob blwyddyn.

Fe roesom ni gyfle i'r trigolion ddweud beth oedd eu barn nhw am y gwasanaeth newydd. Mae’r arolwg Ailgylchu Mwy, Gwastraffu Llai wedi cael ymateb anhygoel. Atebodd dros 2,300 ohonoch chi ar-lein a llenwodd 150 o bobol arolygon yn y llyfrgelloedd a’r Siopau Un Alwad. Mae’r wybodaeth hon yn hynod bwysig a bydd yn helpu i gyfrannu at y penderfyniad y bydd y Cyngor yn gorfod ei wneud yn fuan ynglŷn â'n gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol.

Recycling

Bydd ein gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnwys:

  • Casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunydd ailgylchadwy fel papur, gwydr, caniau a phlastig, sy’n cael ei gasglu yr un pryd â’ch gwastraff bwyd, gyda chynwysyddion newydd, hawdd i'w defnyddio, i storio peth o'r gwastraff ailgylchu ar wahân.
  • Casgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad, batris ac eitemau trydanol bychain
  • Trwy ehangu’r ystod o eitemau y gallwch chi eu hailgylchu o’ch cartref, a’u casglu nhw’n amlach, dim ond ychydig bach o wastraff na ellir ei ailgylchu fydd ar ôl. Rydym ni felly’n cynnig newid y gwasanaeth casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu i gasgliadau bob pedair wythnos.
  • Yn lle eich bin du 140 litr presennol, byddwn yn cynnig bin du newydd, mwy, 240 litr i chi.

Rydyn ni’n hyderus y gall aelwydydd Sir Ddinbych ateb yr her, ond fe allai hyn fod yn anoddach mewn ambell i sefyllfa. Felly, rydyn ni eisoes yn edrych ar:

  • Wasanaeth newydd am ddim ar gyfer gwastraff fel clytiau a chynnyrch anymataliaeth.
  • Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ychwanegol ar gyfer aelwydydd mwy.
  • Parhau i gynnig casgliadau â chymorth i’r bobl hynny sydd eu hangen.
  • Cynwysyddion ailgylchu gwahanol i bobl sydd angen addasiadau i’w helpu i reoli eu gwastraff, neu i aelwydydd sydd heb lawer o le i'w storio neu broblemau mynediad.

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg neu wedi mynd i’r sesiynau galw heibio a gynhaliom ni’n ddiweddar yn ein prif drefi. Nid dyna fydd diwedd y drafodaeth. Os yw’r Cyngor yn gwneud penderfyniad i newid ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu cyfredol, bydd nifer o gyfleoedd i’n trigolion gymryd rhan yn y drafodaeth wrth i ni gynllunio a chyflwyno'r newidiadau hynny.  Y cynharaf y byddai unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i’r gwasanaeth cyfredol fyddai gwanwyn 2020.

Amserau Agor dros y Gaeaf: Parciau Ailgylchu i Breswylwyr

Mae cwmni CAD Recycling yn gweithredu tri Pharc Ailgylchu parhaol at ddefnydd trigolion Sir Ddinbych yn unig, sef Ffordd Marsh yn Y Rhyl; Colomendy, Dinbych a Lôn Parcwr, Rhuthun. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ar ddydd Sadwrn ddwywaith y mis yng Nghorwen (maes parcio Lôn Las) a Llangollen (y Pafiliwn).  Ymhob safle derbynnir amrywiaeth helaeth o wastraff o’r cartref na allwn ei godi gyda’n gwasanaeth arferol o garreg y drws. I weld rhestr gyflawn o’r gwasanaethau ewch i www.denbighshire.gov.uk, gan gadw mewn cof fod gan bob safle wahanol gyfleusterau.

Rhai o’r pethau y gallwn eu derbyn yn ein Parciau Ailgylchu:

 Bric-a-Brac

 Cyfrifiaduron a sgriniau

  Tecstilau

 Nwyddau trydanol

  Tiwbiau fflworoleuol

  Olew modur

 Dodrefn

 Gwastraff o’r ardd

 Pridd a rwbel

 Ffonau symudol

 Setiau teledu

 Nwyddau gwyn

 Metel sgrap

Coed

 Batris

RWBEL, BRICS, PRIDD A THEILS: Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld pobl yn dod â llawer iawn mwy o rwbel i’n safleoedd. O 29 Hydref ymlaen (pan fydd y clociau’n troi’n ôl), ni fyddwn ond yn derbyn uchafswm o dair sach o rwbel ar bob ymweliad. Nid yw rwbel adeiladu, brics, teils na phridd yn cyfrif fel gwastraff domestig (hyd yn oed os ydynt yn dod o'r cartref), ac nid oes rhwymedigaeth arnom i dderbyn y rhain yn ein safleoedd. Os oes arnoch angen cael gwared ar fwy o'r math yma o wastraff, yna gallwch logi sgip gan gwmni trwyddedig. Mae'r Cyngor wedi ail-osod y cyfyngiad hwn er mwyn atal masnachwyr rhag ceisio defnyddio’r safleoedd yn anghyfreithlon. Rydym hefyd yn gwneud mwy o waith gorfodi er mwyn adnabod ac erlyn busnesau sy’n mynd â'u gwastraff i’r safleoedd hyn yn fwriadol er mwyn osgoi talu'r costau masnachol.

Amserau agor dros y gaeaf:  29 Hydref 2018 - 24 Mawrth 2019

Amserau agor dros yr haf:  25 Mawrth 2019 - 28 Hydref 2019

Safle

Dydd Llun i ddydd Gwener

Dydd Sadwrn a dydd Sul

Dydd Llun i ddydd Gwener

Dydd Sadwrn a dydd Sul

Y Rhyl

10am - 6pm

10am - 6pm

10am - 6pm

10am - 6pm

Dinbych

10am - 4pm

9pm-4pm

10am - 6pm

10am - 6pm

Rhuthun

10am - 4pm

9pm-4pm

10am - 6pm

10am - 6pm

Llangollen

Amherthnasol

9am-11am (ail a phedwerydd dydd Sadwrn o’r mis yn unig)

9am-11am (ail a phedwerydd dydd Sadwrn o’r mis yn unig)

9am-11am (ail a phedwerydd dydd Sadwrn o’r mis yn unig)

Corwen

Amherthnasol

9am-11am (dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd un o’r mis yn unig)

9am-11am (dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd un o’r mis yn unig)

9am-11am (dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd un o’r mis yn unig)

(Bydd pob safle ar gau ar 26 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr)

 

Twristiaeth

Ysbrydoliaeth yr Hydref

Autumn Leaves

Edrych am ddigwyddiadau a mannau i ymweld â nhw yn ystod yr hydref? Ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru am syniadau ar bethau i'w gwneud a'r digwyddiadau diweddaraf ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.

Taflenni twristiaeth am ddim yn uniongyrchol i’ch drws

Oes gennych chi fusnes? Hoffech chi ddarparu taflenni twristiaeth am ddim i’ch gwesteion / ymwelwyr?  Mae'r taflenni yn cynnwys Llwybrau Tref, Canolfan Grefft Rhuthun a 5 Siwrnai Sir Ddinbych. Mae’n rhaid dychwelyd ffurflenni erbyn 9 Hydref.

Oes gennych chi fusnes? A hoffech chi ddarparu taflenni rhad ac am ddim ar gyfer eich gwesteion / ymwelwyr? Mae'r taflenni sydd ar gael yn cynnwys Llwybrau Tref Sir Ddinbych, Canolfan Grefft Rhuthun, a 5 Siwrnai Sir Ddinbych. Yn syml, cwblhewch ffurflen sy'n gofyn am eich dewisiadau taflenni a faint sydd eu hangen ac fe'u cyflwynir yn uniongyrchol i'ch drws, i gyd yn rhad ac am ddim. Rhaid dychwelyd ffurflenni erbyn 9 Hydref.

Cysylltwch â'r Tîm Twristiaeth am gopi o'r ffurflen neu am ragor o fanylion - twristiaeth@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706223.

Tourism Leaflets

 

Manteision twristiaeth yn Sir Ddinbych ar gynnydd

Mae budd economaidd twristiaeth yn Sir Ddinbych yn parhau i dyfu. Mae’r ffigyrau effaith economaidd STEAM diweddaraf yn dangos yn 2017 fod twristiaeth wedi dod â £490.35miliwn i’r economi leol, cynnydd o 2.3 y cant ers 2016, a 70 y cant ers 2007.

Denbighshire Social Media

Y llynedd roedd twristiaeth yn cefnogi 6,231 o swyddi yn Sir Ddinbych, a 5.93miliwn o bobl wedi ymweld â’r sir, cynnydd o 25 y cant ers 2007, cyfanswm o 11.58miliwn y dydd. Roedd y nifer o ymwelwyr â’r arfordir wedi cynyddu i 3.16miliwn, a nifer y dyddiau a dreuliwyd gan ymwelwyr (6.92miliwn) a’r nifer o ymwelwyr oedd yn aros (900,000).

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cynnydd yn y budd economaidd cyffredinol o dwristiaeth yn Sir Ddinbych yn galonogol iawn, er gwaethaf 2017 yn flwyddyn heriol o safbwynt y tywydd.  

“Mae gan y sir gymaint i’w gynnig, morlin hyfryd, trefi marchnad gwledig, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, llu o weithgareddau awyr agored yn ogystal â chyfoeth o hanes a chynnyrch a siopau lleol gwych.

“Mae’r cynnydd mewn twristiaeth arfordirol yn arbennig o galonogol. Gyda dau westy newydd yn y Rhyl, atyniad i ymwelwyr SC2 fydd yn agor y flwyddyn nesaf, yn ogystal â’r bwyty 1891 sydd eisoes wedi’i sefydlu a’r Nova ym Mhrestatyn, byddem yn disgwyl i’r ffigyrau hyn barhau i dyfu. Mae hyn yn dangos buddsoddiad gan y Cyngor ac mae’r sector preifat yn cael effaith gwirioneddol ar ffyniant economaidd yn Sir Ddinbych, sy'n flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol."

Roedd yna gyfanswm o 1.5miliwn o ymwelwyr a oedd yn aros dros nos y llynedd a gyfrannodd at gyfanswm o £331.46miliwn i’r economi yn 2017, 50 y cant o gynnydd mewn ymwelwyr a oedd yn aros dros nos o’i gymharu â 2007.

Dywedodd Dave Jones, sy’n berchennog y Bwthyn Gwely a Brecwast pedair seren Plas Efenechtyd ger Rhuthun: “Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr tramor yn aros yn hirach, yn arbennig o’r Iseldiroedd, yr Almaen a'r UDA. Eleni cafwyd llawer o archebion dros fisoedd yr haf.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd gyda syniad o’r hyn maent yn dymuno ei weld a’i wneud ond heb lawer o wybodaeth am hanes, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru, rhywbeth yr hoffwn ei weld yn cael sylw.

“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn galonogol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol eraill fel Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd i greu rhaglenni gyda thema a chreu pecynnau deniadol fydd yn apelio at amrywiaeth o ymwelwyr.”

Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi twristiaeth drwy waith partneriaeth cadarn yng Ngogledd Cymru i gyfalafu ar y farchnad dwristiaeth gynyddol. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal prosiectau i uwchsgilio staff sy’n gweithio o fewn twristiaeth sy’n ymwneud â busnes i wella profiad ymwelwyr, cynhyrchu taflenni twristiaeth newydd a ffilmiau hyrwyddol i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach yn ogystal â chefnogi prif ddigwyddiadau a gwyliau fel Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales

Yn ôl am y drydedd flwyddyn, cynhelir Gwobrau Twristiaeth Go North Wales, mewn partneriaeth â Heart, ddydd Iau, 15 Tachwedd 2018 yn Venue Cymru, Llandudno.

Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.  Bydd y gwobrau yn arddangos ac yn dathlu’r cyflawniadau, gwaith caled ac ymrwymiad y sawl sy’n gweithio yn y diwydiant.

Os ydych chi’n rhan o ddiwydiant twristiaeth y rhanbarth yna mae’r gwobrau hyn i chi!

Mae yna 13 o gategorïau ac mae enwebiadau nawr yn agored! Gallwch enwebu eich busnes twristiaeth eich hun, neu’r busnes twristiaeth gorau yr ydych wedi’i brofi. Mae’n hawdd iawn enwebu, y cyfan sydd ei angen yw dewis categori a chlicio ar y ddolen i agor y ffurflen enwebu. Gallwch enwebu mewn gymaint o gategorïau ag y dymunwch, ond byddwch angen cyflwyno cais ar wahân ym mhob categori. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, 7 Hydref.

Enwebwch yn:  http://www.gonorthwalestourismawards.co.uk

 

Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych a Garej Ddigidol Google

Oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth? Mae Fforwm a sefydlwyd i ddarparu gwybodaeth gyfredol i fusnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn twristiaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal fis Hydref. Mae prif siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Croeso Cymru fydd yn rhoi cyflwyniad ar gyfleoedd buddsoddi i fusnesau a Cadwch Gymru'n Daclus. 

Cynhelir Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych ar ddydd Mercher 10 Hydref yng Ngwesty Oriel House, Llanelwy. Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio, dysgu sgiliau newydd a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau.

Tourism Forum Flyer

Mae Garej Ddigidol Google yn cynnal sesiynau am ddim ar farchnata digidol yn ystod y prynhawn. Mae sesiynau yn cynnwys cynllun marchnata digidol a chreu strategaeth cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar eich amcanion busnes.

Google Digital Garage

Google Digital Garage

I archebu lle yn sesiynau Fforwm Twristiaeth a/neu Garej Ddigidol Google ewch i https://denbighshiretourismforumandgoogledigitalgarage.eventbrite.co.uk

 

Arddangosfa ffotograffiaeth wedi agor yn Llangollen

Mae arddangosfa ffotograffiaeth yn dangos arfordir arbennig y rhanbarth wedi agor yn Llangollen.

Mae’r arddangosfa yng Nghanolfan Groeso Llangollen, y Capel, yn dathlu themâu blynyddol Croeso Cymru a 2018 yw Blwyddyn y Môr.

Cafodd yr arddangosfa o’r enw ‘Llwybrau i’r Môr’ ei chomisiynu gan Gyngor Sir Ddinbych a'i hariannu gan Bartneriaeth Gogledd-ddwyrain Cymru.

Craig Colville Exhibition

Mae’r ffotograffydd lleol Craig Colville, wedi tynnu lluniau o ‘lwybrau i’r môr’ yn yr ardal o bersbectif gwahanol i greu ffotograffau diddorol ac ysgogol.

Bydd lluniau'r arddangosfa ar werth ac i’w gweld tan ddiwedd mis Hydref, ac mae Canolfan Groeso Llangollen ar agor bob dydd o 9.30am tan 4pm, heblaw am dydd Iau.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Sgwter traws gwlad newydd – Tramper

Mae ein sgwter traws gwlad newydd o’r enw Tramper yn caniatáu mynediad gwell at gefn gwlad i bawb yn cynnwys unigolion mewn cadeiriau olwyn, pramiau ac unigolion ag anawsterau symud.Tramper

Mae hwn yn sgwter gyriant pedair olwyn arbennig sy’n addas ar gyfer pob tir, gellir ei ddefnyddio ar draws gwlad neu ar dir garw, mwd a glaswellt.

Mae’r sgwter, sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads, ar gael i’w logi AM DDIM o amgylch y parc. Mae gofyn i ddefnyddwyr ddilyn cyflwyniad byr cyn mynd allan ar hyd y llwybr dynodedig o amgylch y parc.

Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy am gyllid i brynu’r sgwter.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Lloyd ar 01824 712757 neu e-bostiwch ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk

Gweinidog yr Amgylchedd yn ymweld â Bodfari

Yn ddiweddar, bu i Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd ymweld â’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd ym Modfari i weld Cronfa Datblygu Cynaliadwy’r AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar waith.

Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd yn gwmni buddiannau cymunedol sydd wedi’i leoli ym Modfari ac yn darparu addysg awyr agored. Oherwydd y twf yn y galw am y rhaglenni y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, roedd angen ystafell gyfarfod arall i wneud lle ar gyfer yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael.

Darparodd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyllid grant tuag at adeilad ffrâm bren newydd a oedd yn cynnwys cladin pren, inswleiddiad gwlân dafad a phlastr calch. Cafwyd y pren i gyd o goetiroedd lleol a chafwyd y deunyddiau eraill i gyd gan gyflenwyr lleol. Caiff yr adeilad ei wresogi gan losgwr coed gyda thrydan o’r to paneli solar ar yr adeilad presennol. Dyma’r unig adeilad o’i fath gyda Sgôr Perfformiad Ynni Band A yn Sir Ddinbych.

Dysgodd y Gweinidog sut y cafodd yr adeilad ei adeiladu dros gyfres o gyrsiau ar gyfer unigolion â diddordeb mewn adeiladau cynaliadwy a oedd hefyd yn cynnwys holl ddefnyddwyr y ganolfan, yn cynnwys; Cefnogaeth Gymunedol (oedolion ag anawsterau cymhleth), grwpiau addysg yn y cartref, disgyblion ag anghenion arbennig yn ogystal â gwirfoddolwyr rheolaidd.

Os hoffech wybod mwy am Gronfa Datblygu Cynaliadwy yr AHNE, cysylltwch â Ceri Lloyd ar 01824 712748 neu ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk

 

Diwrnod Gwych yn Sioe Dinbych a Fflint

Cawsom ddiwrnod gwych yn Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint eleni yn hyrwyddo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Y thema eleni oedd iechyd a lles. Gweithiom gyda’n cydweithwyr talentog o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a chynnal ystod o weithgareddau, yn cynnwys;

  • Gwneud Bathodynnau
  • Crefftau Cefn Gwlad
  • Cwis ar Blastig ac Addewid
  • Cyngor ar Gerdded Nordig a Sesiwn Flasu
  • Sesiwn Flasu ar Sgwter- ein sgwter traws gwlad newydd

Roedd y Sioe hefyd yn gyfle i ni hyrwyddo ein hymgyrch Dos a'r Tennyn, sy’n gofyn i berchnogion cŵn gadw eu cŵn ar dennyn pan yn ymweld â rhai o’n safleoedd cefn gwlad megis Parc Gwledig Moel Famau. Roedd y cŵn i gyd wedi mwynhau’r esgyrn am ddim!

Cawsom y cyfle hefyd i gefnogi busnesau lleol yn y neuadd fwyd. Cydweithiodd Aelodau Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd i hyrwyddo a gwerthu bwyd a diod blasus a gynhyrchwyd ar ein carreg drws! Doedd dim asgwrn i’w gael ond roedd y samplau yn flasus iawn!

 

Wythnos Eithriadol ym mis Medi!

Outstanding Week

Mis eithriadol fu mis Medi yng nghefn gwlad erioed; adeg casglu'r cynhaeaf, y coed a’r dolydd yn gwisgo'u lliwiau hydrefol, yr awyr yn balet llawn arlliwiau, arogl coelcerthi’n llenwi aer y nos a llonyddwch braf i ymwelwyr.

Mae mis Medi eleni fodd bynnag wedi bod yn fwy eithriadol byth!

Roedd teulu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi cydweithio i drefnu rhaglen wythnos o hyd (ac ychydig bach mwy) o ddigwyddiadau i helpu pobl i fwynhau a chael eu hysbrydoli gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Prydain (AHNE).

Mae Jill Smith o NAAONB yn egluro:

“Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn rhai o’r tirweddau mwyaf trawiadol o hardd yn y DU ac rydym yn eu trysori. Maent yn dirweddau byw sy'n cael eu defnyddio'n weithredol ac sy’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i bobl fwynhau a chael budd o'u hymweliadau â chefn gwlad.

“Roedd Wythnos Eithriadol yn helpu pobl i gysylltu â natur ac yn eu hannog i ddod allan i dirweddau eithriadol y DU i fwynhau bwydydd a diodydd lleol, sioeau gwledig, nosweithiau darganfod awyr dywyll, gwyliau cerdded, ffeiriau coed, chwilota, teithiau bywyd gwyllt, dyddiau arfordirol a morol, cyrsiau toi gwellt, cystadlaethau codi waliau cerrig, gwneud golosg, bioblits, ysbrydoliaeth drwy gelf a cherddoriaeth a llawer iawn mwy.

P'un a ydych yn chwilio am olygfa eithriadol, yn bwriadu cael te prynhawn blasus neu roi cychwyn ar drefn iechyd a lles newydd, ni allwch beidio â chael amser da yn un o'n 46 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Maent yn Dirweddau am Oes mewn cymaint o wahanol ffyrdd.”

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Ymylon Ffyrdd

Yn 2018 rhoddodd y Cyngor Sir Ddinbych drefn newydd ar waith am y tro cyntaf ar gyfer torri gwair ar ymyl y ffordd, gyda’r nod o sicrhau rhwydwaith o ffyrdd sy’n ddiogel ar gyfer gyrwyr a cherddwyr, a rheoli adnodd pwysig o ran bywyd gwyllt ar yr un pryd.

Mae’r lleiniau ar ymylon ffyrdd Sir Ddinbych yn gynefin i lawer o blanhigion ac anifeiliaid prin. Mae’r rhain yn cynnwys ffacbys rhuddlas, sy’n tyfu ar lain wrth ymyl y ffordd ger Dinbych a nunlle arall yng Nghymru. Bydd y polisi newydd yn galluogi'r cyngor i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth genedlaethol ac yn ein helpu i gyflawni’r amcanion a bennwyd yn adran amgylcheddol ein Cynllun Corfforaethol.

Lluniodd y Cyngor bolisi newydd ar gyfer torri gwair ar ymylon ffyrdd, mewn partneriaeth â ‘Byw ar yr Ymylon’ (grŵp gweithredu yn Sir Ddinbych a ffurfiwyd gan drigolion lleol ac arbenigwyr ar fywyd gwyllt, a ddadleuodd o blaid torri’r gwair mewn ffordd sy’n diogelu bywyd gwyllt). Nid yw'r gwair yn cael ei dorri cyn amled o dan y polisi newydd, dim ond unwaith ddechrau’r haf ac unwaith eto ddechrau’r hydref. Fel hyn caiff blodau gwyllt lonydd i flodeuo a hadu, gan sicrhau eu bod yn goroesi ar ymyl y ffordd. Mae’r blodau’n bwysig i bryfed sy’n peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw, yn enwedig gan fod eu niferoedd yn gostwng yn ddifrifol.

Ar ben hynny, mae’r polisi newydd yn cynnwys ‘Toriad Bioamrywiaeth’ yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac ardal cyngor cymuned Nantglyn. Gwneir hyn unwaith y flwyddyn gan ddechrau ar 1 Awst. Dylai hynny fod yn well fyth ar gyfer y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ar yr ymylon.

Diogelwch y ffyrdd yw’r flaenoriaeth o hyd o dan y polisi newydd; caiff lleiniau gwelededd eu cynnal a’u cadw'n fwy cyson, wrth i’r ardaloedd lle nad oes unrhyw berygl gael eu rheoli at ddibenion cadwraeth.

Tân Llantysilio

Roedd Ceidwaid Cefn Gwlad yn brysur dros yr haf yn helpu’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ddiffodd y tân ym Mwlch yr Oernant. Cychwynnodd y tân ar 14 Gorffennaf a bu’n llosgi am bron i 8 wythnos gan ledaenu dros hanner mynyddoedd Llantysilio a dinistrio cynefinoedd a phorfeydd pwysig. Bu Bwlch yr Oernant ar gau am wythnosau wrth i lwybr y tân symud tua’r ffordd, ac ar ei anterth, roedd yna bryder gwirioneddol am ddiogelwch eiddo ger y mynydd.

Roedd y ddaear mor sych a’r tân yn llosgi mor aruthrol nes iddo dreiddio i’r priddoedd mawnog a pharhau i losgi yn y ddaear ymhell ar ôl i’r llystyfiant ddiflannu. Roedd posib arogli’r mwg 20 milltir i ffwrdd wrth i’r mynydd barhau i losgi a mygu’n iasol ymhell ar ôl i’r fflamau ddiflannu oddi ar yr wyneb.

Oherwydd maint y tân, daeth criwiau tân ar hyd a lled Gogledd Cymru yno, gyda dros 60 o ddiffoddwyr tân wedi’u gwasgaru ar draws y mynydd yn ceisio diffodd y tân o sawl ochr trwy’r dydd a’r nos.

Mae gan y Gwasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad offer diffodd tân arbenigol y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith traddodiadol o losgi rhostiroedd grug dan reolaeth yn y gaeaf. Felly fe wnaethom yn siŵr bod yr offer hwn ar gael ar unwaith i fynd i’r afael â’r tân.  Bu’n bosib i ni weithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Tân i ddiffodd rhannau o’r tân, trefnu i dorri rhwystrau tân a chynghori ar sut i fynd at fannau allweddol ar y mynydd.

 

Addysg

Diweddariad Ysgol Gatholig Crist y Gair

Mae cynnydd ar yr ysgol Gatholig 3 i 16 yn y Rhyl yn cynyddu gyda cadarnhad enw newydd ar gyfer yr ysgol ynghyd a’r gwaith adeiladu yr ysgol newydd yn dechrau.

Ddiwedd mis Mehefin cafodd gwesteion eu gwahodd gan Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, i seremoni torri tywarchen ddydd Gwener ar safle’r datblygiad a fydd yn cymryd lle Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones. Yn ystod y digwyddiad cyhoeddodd yr Esgob enw newydd yr ysgol 3 i 16 – Ysgol Gatholig Crist y Gair.

Mae’r safle drws nesaf i’r ddwy ysgol lle mae gwaith galluogi eisoes wedi digwydd ac mae’r gwaith llawn bellach ar y gweill. Mae cwmni Kier Construction wedi cael ei benodi gan y Cyngor fel prif gontractwr yr ysgol newydd a ddarperir ar gyfer Esgobaeth Wrecsam.

I ddathlu’r cynnydd bu seremoni arwyddo’r trawst pan y gwahoddwyd gwesteion i arwyddo trawst. Rhoddwyd trawst i ddisgyblion a staff yr ysgolion yr wythnos flaenorol i’w arwyddo ac roedd hwn i’w weld yn y strwythur yn ystod y digwyddiad.

Disgwylir i’r adeilad newydd agor yn hydref 2019 a bydd adeiladau’r ysgolion presennol yn cael eu dymchwel cyn i waith allanol ddechrau ar yr ardaloedd chwaraeon / chwarae ar ôl cwblhau adeilad yr ysgol yn barod ar gyfer haf 2020. Bydd lle i 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed yn yr ysgol newydd. 

Mae’r prosiect mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Cyngor yn croesawu buddsoddiad mewn Canolfan Iaith Gymraeg fel “hwb mawr”

Mae'r Cyngor wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn canolfan Gymraeg yng ngogledd y sir fel hwb mawr i'r iaith Gymraeg.

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno cynnig i greu Canolfan Iaith ar safle Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, yn darparu ar gyfer disgyblion cyn-ysgol, cefnogaeth i hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3 trwy’r broses "trochi", cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau'r Gymraeg a lleoliad bosibl ar gyfer partneriaid sy’n hyrwyddo’r Gymraeg,  yn ogystal â chynnydd bach mewn lle ar gyfer Ysgol Glan Clwyd.

Gallai'r cyfleuster hwn hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu oedolion y tu allan i oriau ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch- Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a'r Iaith Gymraeg: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych ac mae ei angen i helpu i ddiwallu'r cynnydd yn y galw am gyfrwng Cymraeg lleoedd ledled y sir.

"Yn Sir Ddinbych, mae gennym weledigaeth glir i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn ein cymunedau, gan gynnwys ein hysgolion ac mae ein cydweithwyr wedi gweithio'n ddiflino ar lunio cais sylweddol, uchelgeisiol a chymhellol am gyllid. Mae'n amlwg bod y cyflwyniad o ansawdd uchel hwn wedi creu argraff ar Lywodraeth Cymru a oedd yn barod iawn i dderbyn ein cynnig yn llawn.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo'n gadarn i wella addysg cyfrwng Cymraeg a darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn ei Gynllun Corfforaethol ei hun a bydd y prosiect allweddol hwn yn chwarae rhan bwysig wrth weithio tuag at yr uchelgais hon.

"Byddwn yn awr yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y freuddwyd hon yn realiti.

"Mae hon yn stori newyddion da i Sir Ddinbych ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ganolfan hon yn datblygu wrth i ni ymdrechu i chwarae ein rhan i gwrdd â'r targed cenedlaethol ar gyfer siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".

Awydd bod yn Lywodraethwr Ysgol?

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn wirfoddolwr cymunedol a bod yn rhan o dîm, gan gael effaith gadarnhaol ar ein hysgolion?  Does dim ots beth ydi'ch profiad na'ch cefndir.

Os ydych chi'n credu bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol ar lein:  www.sirddinbych.gov.uk/llywodraethwyr.

Bydd aelod o'n tîm yn cysylltu efo chi gyda gwybodaeth am ofynion y rôl.

Gwaith yn mynd yn ei flaen mewn dwy ysgol yn y Sir

Mae disgyblion wedi bod yn gadael eu hôl ar ddwy ysgol newydd yn y Sir, canlyniad buddsoddi bron i £10 miliwn mewn addysg wledig yn y sir.

Bu myfyrwyr Ysgol Carreg Emlyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn cymryd rhan mewn seremonïau llofnodi paneli wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen yn y ddwy ysgol.

Cawsant gyfle i lofnodi paneli sy'n rhan o wead yr adeiladau newydd.

Mae ysgol ddwyieithog newydd yr eglwys yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy, ac yng Nghlocaenog fydd safle newydd Ysgol Carreg Emlyn.

Ariennir y ddwy ysgol drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Roedd hi’n galonogol gweld disgyblion yn y ddwy ysgol yn dangos cymaint o ddiddordeb yn eu hadeiladau newydd.

“Mae’n un o flaenoriaethau’r Cyngor i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau fod ganddynt ysgolion modern sy’n hybu eu dysg. Mae’r ddwy ysgol hon yn rhan o fuddsoddiad o £90 miliwn yn ysgolion Sir Ddinbych.

“Gallwn weld fod y gwaith yn dod ei flaen yn dda, ac rydym yn disgwyl i’r ddwy ysgol agor eu drysau erbyn yr haf nesaf.”

Yn y llun uchod:  Cynghorwyr etholedig, swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a chynrychiolwyr o Esgobaeth Llanelwy, ynghyd a phlant, athrawon a llywodraethwyr o Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd gyda chynrychiolwyr o’r gymuned a staff o Wynne Construction

Yn y llun uchod:  Carreg Emlyn - Cynghorwyr etholedig a swyddogion o'r Cyngor Sir, ynghyd a phlant, athrawon a llywodraethwyr o Ysgol Carreg Emlyn gyda chynrychiolwyr o’r gymuned a staff o Wynne Construction

Newyddion

Galw am safleoedd ymgeisydd Cynllun Datblygu Lleol

Fel rhan o’i waith ar Gynllun Datblygu Lleol newydd, mae'r Cyngor nawr yn gwahodd tirfeddianwyr, datblygwyr ac eraill sydd â buddiant mewn tir yn y sir, i gyflwyno safleoedd a awgrymir i’w datblygu yn y dyfodol.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi yn lle fydd datblygiad yn digwydd yn y sir yn y dyfodol a maint y datblygiad hwnnw, yn ogystal ag ardaloedd i’w gwarchod rhag datblygiad.  Er mwyn cynorthwyo â gwneud y penderfyniadau hyn, cynhelir ‘galwad am safleoedd ymgeisydd’ tan 26 Tachwedd 2018.

Fodd bynnag, nid yw cyflwyno safle yn gwarantu y bydd yn cael ei gynnwys yn y CDLl.  Mae’n rhaid i bob cyflwyniad safle gynnwys gwybodaeth gefndirol ddigonol a bydd y Cyngor yn asesu pob safle cyn gwneud penderfyniad o ran ei briodoldeb.  Bydd pob safle a fydd yn cael ei gynnwys yn destun ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r CDLl i’w Archwilio Gan y Cyhoedd yn gynnar yn 2020.

Mae canllawiau a ffurflenni ar gyfer cyflwyno safle ymgeisydd i’w cael yn yr adran Cynllun Datblygu Lleol. Rhaid sicrhau bod yr holl ffurflenni wedi’u cyflwyno yn llawn, yn cynnwys y mapiau angenrheidiol, cyn y dyddiad cau sef 26 Tachwedd.  Ni dderbynnir cyflwyniadau hwyr neu anghyflawn.   

I gael rhagor wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Strategol a Thai:

E-bost - polisicynllunio@sirddinbych.gov.uk 

Ffôn - 01824 706916

Cynlluniau amddiffyn llifogydd yn Nwyrain y Rhyl yn cael eu harddangos i'r cyhoedd

Mae'r Cyngor, gyda chymorth Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru, wedi llunio cynlluniau i osod arfau creigiau a chynyddu uchder y morglawdd ar hyd y promenâd rhwng Splash Point a'r llithrfa ger Clwb Golff Y Rhyl.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu gymryd 18 mis a dechrau yn ystod 2019, yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio, caniatau cydsyniad angenrheidiol eraill a chytundeb ariannu.

Bydd gan drigolion y cyfle i weld y cynlluniau a rhoi sylwadau arnynt mewn sesiwn galw heibio ar 11 Hydref rhwng 10am a 4pm yn Ystafell Elwy, Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl. Mae digwyddiad arall wedi'i gynllunio ar gyfer Tachwedd 8 yn yr un lleoliad.

Comisiynodd y Cyngor beirianwyr sifil Balfour Beatty a pherygl llifogydd ac arbenigwyr amgylcheddol JBA Consulting i ymgymryd â dadansoddiad manwl o'r sefyllfa i ddod o hyd i'r cynlluniau.

Mae'r arfau creigiau yn cael eu cynllunio i waredu'r ynni rhag tonnau storm fel y bydd yr effaith ar y wal newydd yn cael ei leihau'n sylweddol ac yn lleihau'r risg o lifogydd yn sylweddol dros y 100 mlynedd nesaf. Mae bywyd dyluniad y cynllun hwn hefyd yn cynnwys lwfansau ar gyfer effeithiau newid hinsawdd a stormydd cynyddol cysylltiedig a chynnydd yn lefel y môr.

Llun o'r safle ar gyfer y gwaith amddiffyn rhag llifogydd arfaethedig

 

 

Angen barn ar newidiadau i ffiniau Ardal Gadwraeth y Rhyl

Mae'r Cyngor wedi adolygu Ardal Gadwraeth y Rhyl ac mae’n cynnig rhai newidiadau i’r ffiniau. Rydym yn ymgynghori ar y cynigion hyn ar hyn o bryd ac mae mwy o wybodaeth amdanynt isod.

Mae Ardal Gadwraeth yn ardal o ‘ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol gwarchod neu wella ei chymeriad neu ei gwedd.

Mae dynodiad ardal gadwraeth yn ffordd i awdurdod lleol ychwanegu haen ychwanegol o reolaeth gynllunio, i helpu i ddiogelu ardaloedd sy’n cael eu gwerthfawrogi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Nod Deddfwriaeth Ardal Gadwraeth yw gwarchod a gwella ardaloedd o’n hamgylchedd hanesyddol sy'n werthfawr i'r bobl sy'n rhyngweithio gyda nhw, fel y cânt eu gwerthfawrogi gan y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r Rhyl yn dref glan y môr Fictoraidd gynlluniedig, sy’n cynnwys nifer o adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd. Er bod llawer o addasiadau wedi’u gwneud yn y Rhyl dros y blynyddoedd ar ffurf adeiladau amhriodol, ansawdd isel, o ddyluniad digydymdeimlad, mae llawer i’w ddathlu yn y Rhyl o hyd.

Yn wreiddiol, roedd dwy Ardal Gadwraeth ar wahân wedi’u dynodi yng nghanol y Rhyl, gydag Ardal Gadwraeth Eglwys Sant Tomos yn cael ei dynodi ym 1988 ac Ardal Gadwraeth Queen Street/Ffordd Cilgant yn cael ei dynodi ym 1992. Yn 2007, penderfynwyd adolygu'r ddwy Ardal Gadwraeth yng nghanol y Rhyl a'u cyfuno yn un Ardal Gadwraeth fwy. Mae’r Ardal Gadwraeth gyfredol yn cwmpasu ardal eang o ganol tref y Rhyl o Abbey Road i’r dwyrain i Stryd y Baddon yn y gorllewin, ac o Rodfa’r Gorllewin i’r gogledd, a’r orsaf drenau i’r de. Penderfynom y byddai Ardal Gadwraeth y Rhyl yn elwa o adolygiad, oherwydd teimlid bod rhai ardaloedd wedi colli eu cymeriad ac roedd yn ardal fawr i’w rheoli.

Argymhellodd yr adolygiad bedwar prif newid i ffiniau Ardal Gadwraeth y Rhyl. Yn gryno:

  1. Ymestyn y ffin ogledd-ddwyreiniol i gynnwys ardaloedd uchaf Stryd y Baddon a Pharc Morlan.
  2. Cael gwared ar Safle Datblygu Premier Inn, Harkers Amusements a Safle Datblygu Queen Street.
  3. Cynnwys yr hen Sinema Regal.
  4. Eithrio'r parc bysiau/maes parcio arfaethedig ar Ffordd Cilgant ac ail-lunio’r ffin i eithrio 20-30 ac 11-23 Stryd Edward Henry.

Rydym yn cynnig newid ffiniau Ardal Gadwraeth y Rhyl yn unol â’r argymhellion hyn a bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau arfaethedig yn dod i ben ar 2 Tachwedd 2018.

Dylid anfon sylwadau am y newidiadau arfaethedig i Ardal Gadwraeth y Rhyl yn ysgrifenedig at y Tîm CDLl, Cynllunio Strategol a Thai, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ neu gellir gwneud sylwadau ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk neu trwy anfon e-bost at planningpolicy@denbighshire.gov.uk cyn 5pm ar 2 Tachwedd 2018.

Rhyl Conservation Area Boundary 1Rhyl Conservation Area Boundary 3

Rheoli eich Treth Cyngor eich hun ar-lein

Gallwch nawr reoli'ch treth gyngor eich hun ar-lein. Mae'n rhad ac am ddim ac yn hawdd i gofrestru!

Bydd yn eich galluogi i weld manylion am:

  • Treth y Cyngor
  • Cymorth Budd-dal Tai a Threth Cyngor
  • Landlord
  • Trethi Busnes

Gallwch chi sefydlu cynllun talu i dalu Treth y Cyngor ar-lein ac mae e-bilio yn haws ac yn fwy gwyrdd.

Gallwch logio i mewn i:

  • Sefydlu debydau uniongyrchol
  • Talu eich treth gyngor ar-lein
  • Adrodd am newid cyfeiriad
  • Gwneud gais am ostyngiad
  • Darganfyddwch faint o dreth gyngor sydd mewn eiddo

I sefydlu e-bilio, e-bostiwch refeniw@sirddinbych.gov.uk. Byddwch wedyn yn gallu cofrestru i weld eich cyfrif ar-lein yn www.sirddinbych.gov.uk /trethycyngor

 

Beth sydd ymlaen

Be sy'mlaen yn Sir Ddinbych?

Mae’r canllaw Beth Sydd Ymlaen yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ar ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal o arfordir prydferth Gogledd Sir Ddinbych i’r enwog Dyffryn Dyfrdwy a’r holl drefi marchnad ar y ffordd.

Bydd ein rhifyn nesa yn cynnwys digwyddiadau yn mis Hydref 2018 yn cynnwys yr anhygoel Gwyl Fwyd Llangollen. Bydd modd i chi lawrlwytho’r rhifyn digidol arbenning hwn o’n gwefan yn syth i’ch dyfais.  Ni fydd y fersiwn argraffedig arferol ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich fersiwn digidol. Ar gael o www.discoverdenbighshire.wales/bethsymlaen.

Ac os ydych chi’n dilyn ein cyfryngau cymdeithasol byddwch yn cael yr hysbysiadau arferol ynghylch ein digwyddiadau i ddod.

Oherwydd nid ydym eisiau i chi methu dim.

Nodweddion

SC2 Rhyl

sc2

SC2 yw atyniad hamdden fwyaf newydd a mwyaf cyffrous Cymru, gyda mannau chwarae dŵr dan do ac awyr agored ac arena Tag Active gyntaf Cymru.  Bydd ymwelwyr yn ymhyfrydu pan fydd drysau'n agor yng ngwanwyn 2019.

Mae'r parc dŵr rhyfeddol hwn yn cynnig reidiau sy’n cymryd eich anadl, padlo ar ffurf traethau, padell sblasio a sleidiau ar gyfer pob oedran a gallu, ac mae rhywbeth i bawb. Mae caffis a mannau arlwyo â themâu, ynghyd â bar a theras awyr agored (yn dymhorol ar agor).

Mae Tag Active yn barth chwarae aml-lefel anhygoel dan do sy'n herio eich gallu meddyliol a chorfforol, eich sgiliau a'ch strategaeth, tra bod strwythur tag iau ar gael i rai 5-7 oed.

Mae SC2 yn cynnig rhywbeth i bob ymwelydd, p'un a ydych yn geisiwr gwefr, padlwr neu ddim ond eisiau rhoi eich traed i fyny ac ymlacio.

Cofrestrwch ar www.sc2yrhyl.co.uk i gael gwybodaeth bellach ac i gystadlu yn ein raffl i ennill tocynnau teulu am ddim.

 

Sylw ar bobl hŷn yn Sir Ddinbych

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau y mis diwethaf ar draws y Sir i ddathlu pobl hŷn, yn ystod cyfnod a oedd yn arwain at Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (Hydref 1af).

Bron i 30 mlynedd yn ôl, pleidleisiodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i ddynodi 1 Hydref yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.   Yn 2016 fe fu’r Cenhedloedd Unedig yn gwneud safiad yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran drwy dynnu sylw at, a herio stereoteip a chamdybiaethau negyddol am bobl hŷn a heneiddio.

Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen y llynedd, roedden yn ‘Dathlu Oedran’ ledled y Sir eto eleni gyda chyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd trwy Grŵp Amlasiantaeth Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych. Mae’r Bartneriaeth hon yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Age Connect, Cymdeithas Alzheimers’, Y Groes Goch Brydeinig, Gofal a Thrwsio, Fforwm Gofal Cymru, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, y GIG a llawer mwy.

Roedd y digwyddiadau yn cynnwys digwyddiadau cymdeithasol, celf a thecstilau, ‘clwb diwylliant' ar gyfer celf a dawns, gwybodaeth a chyngor a llawer mwy.Paint Brushes

Roedd hefyd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yn cychwyn i hyrwyddo’r prosiectau a helpu i godi proffil materion sy’n ymwneud â phobl hŷn.

PotteryDywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r proffil oedran cynyddol yn ffaith na allwn ei anwybyddu.

"Drwy gydol eu bywydau, mae pobl hŷn wedi casglu cyfoeth o wybodaeth, ac wrth i fyw yn hirach ddod yn fwy normal, mae’n rhaid i ni gydnabod, gwerthfawrogi a harneisio eu cyfraniad.   Mae’n rhaid i ni annog pobl i fod yn gyfrifol am gadw’n iach ac yn heini a chadw’n annibynnol am gyn hired ag y bo modd”.

Dywedodd y Cynghorydd Ellie Chard, Cefnogwr Pobl Hŷn Sir Ddinbych “Mae’n wych ein bod ni’n cynnal y digwyddiad hwn yn Sir Ddinbych; gan dynnu sylw at yr holl waith da sy’n cael ei wneud yn ogystal ag ymgysylltu â’r bobl hŷn eu hunain."

Dywedodd Sue Wright, Cadeirydd Grŵp Amlasiantaeth Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych:  “Mae Wythnos Dathlu Oedran yn arddangosiad clir o’r gwaith partneriaeth rhwng y sectorau statudol a’r trydydd sector.

Dylid cydnabod na fyddai llawer o’r digwyddiadau hyn yn digwydd heb frwdfrydedd ac ymrwymiad y bobl hŷn eu hunain.

"Mae’r trydydd sector yn goroesi, nid oherwydd haelioni arianwyr yn unig, ond hefyd oherwydd bod pobl hŷn yn gwerthfawrogi buddion gwirfoddoli egnïol.”

Yn Sir Ddinbych y mae’r ail boblogaeth fwyaf o bobl hŷn yng Nghymru. Mae bron i hanner poblogaeth Sir Ddinbych dros 50 oed ac mae bron i chwarter dros 65 oed. Mae mwy a mwy o bobl yn byw yn hŷn na 100 oed nag erioed o’r blaen.  

Galw am ofalwyr maeth newydd yn Sir Ddinbych

Fostering DenbighshireYdach chi erioed wedi ystyried bod yn ofalwr maeth?

Mae maethu’n ffordd o ddarparu bywyd teuluol i blant sy’n methu â byw efo’u rhieni eu hunain. Fe’i defnyddir yn aml i ddarparu gofal dros dro tra bydd rhieni’n cael help i ddatrys problemau, neu i helpu plant neu bobl ifanc drwy gyfnod anodd yn eu bywyd. 

Mae yna ddau fath o faethu: 

Maethu dros dro 
Bydd plant yn ymuno â chi ar fyr rybudd ac yn aros am ychydig wythnosau neu fisoedd, ac yna’n dychwelyd at eu teulu, neu’n symud ymlaen i fabwysiad neu faethu tymor hir. Bydd gofalwyr maeth dros dro’n gofalu am sawl plentyn yn ystod eu gyrfa. 


Maethu tymor hir 
Bydd plant yn cael eu paru’n ofalus â chi, ac fe fyddan nhw’n aros efo chi tan y byddan nhw’n symud allan i fyw’n annibynnol, pan fyddan nhw oddeutu 18 oed fel rheol. Gall cydberthynas faethu barhau hyd oedolaeth, wrth i blant ddatblygu cysylltiad emosiynol parhaol â chi a’ch teulu.

Mae’n rhaid i bobl sy’n ystyried maethu: 

  • fod dros 21 ac yn ddigon aeddfed i fodloni gofynion bod yn rhiant 
  • fod mewn iechyd rhesymol, ac yn ddigon ffit ac iach i ofalu am blant hyd nes byddan nhw’n oedolion 
  • fod yn gallu cynnig cartref diogel gydag ystafell sbâr ar gyfer un neu fwy o blant, ond nid oes raid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun 
  • fod â’r amser a’r gallu i faethu. Does dim angen i chi roi’r gorau i’ch gwaith i faethu, cyn belled â bod eich gwaith yn ddigon hyblyg i ymdopi â’r gofynion, ac mae gennych rwydwaith cefnogi wedi ei sefydlu.
  • Pan dderbyniwn ni eich ymholiad, fe gysylltwn â chi a threfnu i ymweld â chi yn eich cartref. Fe wnawn ni drafod maethu efo chi, a’ch helpu i benderfynu a ydych chi am wneud cais ffurfiol i faethu.  Ew i'r gwefan am fwy o wybodaeth.
  • Fyddwn ni ddim yn gwahaniaethu ar sail dosbarth, hil, diwylliant, cyfeiriadedd rhywiol nac anabledd. Byddwn hefyd yn croesawu ymholiadau gan bobl sengl sydd â diddordeb mewn maethu.

Mae gan Wasanaeth Maethu Sir Ddinbych berthynas agos a chefnogol iawn gyda’u gofalwyr, ac mae hyfforddiant, cefnogaeth a lwfans ariannol yn rhan o fod yn ofalwr maeth. Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol gyda naill ai Gweithiwr Cymdeithasol Maethu neu ofalwr maeth, cysylltwch â Sue Colman, Rheolwr y Gwasanaeth Maethu 01824 712279 neu Penny Moran 01824 712287, Swyddog Lleoli a Chomisiynu.

Peidiwch a bwydo gwylanod

Mae gwylanod yn destun trafodaeth gyson ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.Seagull Welsh

O ganlyniad i bryderon lleol, rydym wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i leihau problemau gyda gwylanod. Mae’r Cyngor yn derbyn cwynion am wylanod yn rheolaidd ac ystyrir y gwylanod hyn yn niwsans mawr yn bennaf o fewn cymunedau arfordirol, ond maent hefyd yn bresennol yn y cymunedau mewndirol.

Ac rydym yn galw eto ar i drigolion ac ymwelwyr i’r sir beidio a bwydo’r gwylanod.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai a’r Amgylchedd: “Rydym yn cydnabod yn llawn bod gwylanod yn rhan o fywyd bob dydd ym mhob cymuned arfordirol. Maent wedi bod yn bresennol ers sawl blwyddyn bellach ac maent yn parhau i ffynnu.

"Fodd bynnag, rydym yn derbyn cwynion yn rheolaidd gan breswylwyr ein cymunedau arfordirol, yn ogystal â rhai o’n trefi mewndirol, mewn perthynas â’r peryglon a achosir gan wylanod, yn enwedig pan maent yn cael eu denu at fwyd.

 “Mae’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor yn gyfyngedig, gan eu bod yn rhywogaeth a warchodir.  Rydym wedi rhoi cynnig ar dechnegau i’w dychryn yn debyg iawn i’r balwnau ‘Angry Birds’ a’r netin/bynting sydd wedi cael eu darparu i rai ardaloedd ac sydd wedi llwyddo i raddau.

 “Yr hyn rydym ei angen yw cefnogaeth y cyhoedd. Drwy beidio â bwydo gwylanod a sicrhau bod gwastraff bwyd wedi’i orchuddio, gall hyn leihau’r cyfleoedd i wylanod blymio ar ganol ein trefi.”

Tai Sir Ddinbych

Sioeau teithiol Sir Ddinbych yn ymgysylltu â thenantiaid

Mae cannoedd o denantiaid tai wedi cymryd rhan mewn cyfres o sioeau teithiol ar draws Sir Ddinbych.

Cynhaliodd adran tai'r Cyngor Sir saith digwyddiad dros yr haf i ymgysylltu â thenantiaid, darparu gweithgareddau llawn hwyl am ddim i'r plant a chodi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.

Cymerodd dros 500 o denantiaid ran yn sioeau teithiol Tai Sir Ddinbych yn Ninbych, Y Rhyl, Prestatyn, Gallt Melyd, Dyserth, Rhuallt a Llangollen.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Roedd y sioeau teithiol tai dros yr haf yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â thenantiaid a darparu gweithgareddau llawn hwyl i blant. Roedd nifer dda’n bresennol a chafwyd adborth gwych a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.

“Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i ni siarad â thrigolion i gael dealltwriaeth o’r gymuned a rhannu gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae darparu tai sy'n diwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Bydd Tai Sir Ddinbych yn darparu 170 o dai Cyngor ychwanegol ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf.”

Rhai o’r gweithgareddau i blant oedd paentio wynebau, celf a chrefft, creu pontydd a gemau chwaraeon stryd a rhai o'r sefydliadau a gymerodd ran oedd Heddlu Gogledd Cymru, Age Connect, y Fenter Iaith yn ogystal â nifer o wasanaethau’r Cyngor.

Housing Roadshows

Diweddariad Datblygiadau Tai

Yn y rhifyn diwethaf, fe wnaethom sôn wrthych am y cynnydd rydym yn ei wneud gyda'n rhaglen i adeiladu 170 o gartrefi newydd y cyngor ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf.

Rydym wedi cyflwyno ein cynigion yn ddiweddar i Gyfoeth Naturiol Cymru am gwlfer newydd ar draws safle hen Ysgol Bodnant ar Marine Road ym Mhrestatyn ac unwaith rydym wedi cael eu caniatâd, byddwn yn dechrau ar y gwaith o'i adeiladu a bydd hyn yn clirio'r ffordd i ni ddechrau adeiladu cartrefi newydd ar y safle.

Dros yr haf, mae ymgynghoriadau wedi bod yn digwydd ynghylch cynigion ar gyfer cartrefi newydd yn y Dell ym Mhrestatyn, ac ar y cyd â Grŵp Cynefin, ar safle hen Fflatiau Pennant yn Ninbych. Mae’r ymgynghoriadau hyn bellach wedi cau ac mae ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio i’r ddau ddatblygiad yn cael eu prosesu ar hyn o bryd, a dylem glywed y canlyniad cyn y Nadolig.

Mae contractwr lleol newydd ei benodi i drosi’r eiddo rydym wedi’i brynu ar Brighton Road yn y Rhyl, yn dri rhandy newydd, a disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle'r mis hwn.

Dim ond megis dechrau yw hyn a byddwn yn dod â newyddion i chi am fwy o ddatblygiadau cyffrous yn rhifynnau’r dyfodol.

The Dell

Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr

Treftadaeth

Hydref ym Mhlas Newydd, Llangollen

Bydd Tŷ ac Ystafell De Plas Newydd yn parhau i fod ar agor ym mis Hydref, ond byddant ar gau ar ddyddiau Llun a Mawrth.

Bydd llond lle o hwyl brawychus i’w gael ym Mhlas Newydd yn ystod mis Hydref. Mae’r amgueddfa sydd wedi’i lleoli yn Llangollen yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros yr wythnosau i ddod wedi’u trefnu’n arbennig ar gyfer Calan Gaeaf.

O 20 i 31 Hydref, cewch fwynhau Helfa Calan Gaeaf rhwng 11am a 2.30pm. Dewch draw i Blas Newydd a dilyn yr helfa, gan gasglu’r cliwiau arswydus i ennill gwobr. Mae'r helfa ar gael o’r ystafell de ac yn costio £3 y person.

Ddydd Mawrth 23 Hydref rhwng 6.30pm a 8pm, bydd “Marwolaeth ar y Gamlas” yn cael ei gynnal ym Mhlas Newydd. Bydd yr hanesydd a’r awdur lleol, Peter Brown, yn creu naws iasol drwy adrodd straeon am ddamweiniau, meddwdod, twpdra a llofruddiaethau. Bydd angen i chi archebu eich lle ymlaen llaw.

Dydd Mercher 31 Hydref yw diwrnod Te Parti’r Gwarchod. Bydd y digwyddiad anhygoel hwn yn cael ei gynnal rhwng 3pm a 5pm, gyda’r gwesteion yn cyfarfod yn Y Caban, sef Canolfan Gelfyddydau Plas Newydd. Bydd yno straeon, crefftau, gemau a’r te parti ei hun gyda gwrachod a dewiniaid Plas Newydd. Codir £6 y person a bydd angen i chi archebu eich lle ymlaen llaw.

Yn y cyfamser, i symud oddi wrth Galan Gaeaf, mae Plas Newydd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a hoffai wirfoddoli i helpu cadw'r gerddi mewn cyflwr penigamp. Mae gan yr amgueddfa tua 12 erw o dir i gyd. Mae’r tirwedd hynod amrywiol yn cynnwys popeth o erddi cywrain hardd i goetiroedd garw.Plas Newydd Drawing with Light

Mae cyfraniad gwirfoddolwyr tuag at gynnal a chadw’r gerddi wedi’i hen sefydlu ac yn cael ei werthfawrogi’n arw. Os hoffai unrhyw un gael gwybod mwy, mae croeso iddyn nhw gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.

I archebu lle ar gyfer digwyddiadau Calan Gaeaf, ffoniwch 01824 712757.

I gael manylion am wirfoddoli, ffoniwch 01978 862834.

Hydref ym Mhlas Newydd, Llangollen

Er bod tymor ymwelwyr yr haf yn dod i ben, mae hi dal yn gyfnod prysur ym Mhlas Newydd. Ymhlith y digwyddiadau sydd yna, bydd yr amgueddfa’n bwynt canolog i gyfres o deithiau cerdded wedi’u trefnu, lle gall y cyhoedd ymuno.

Mae’r stori o ddwy ddynes ddewr a heriodd eu teulu a rhedeg i ffwrdd yn y 18fed ganrif i ddechrau bywyd newydd gyda’i gilydd, ar fin cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd ei mwynhau. Ym 1778, fe wnaeth yr Arglwyddes Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ffoi o Iwerddon a dod i fyw i Gymru. Daethant i enwogrwydd cenedlaethol a chael eu hadnabod fel Merched Llangollen.

Nawr mae eu stori’n cael ei hail-fyw mewn gwisgoedd o’r cyfnod gan Living Histories Cymru. Enw’r gwaith yw Anwyldeb Benywaidd Anhygoel – Bywyd a Chariad Merched Llangollen.

Bydd Cerdded yn Ôl-troed Merched Llangollen yn caniatáu pobl i gael y cyfle i fynd am dro a dilyn rhai o hoff lwybrau Eleanor a Sarah wrth iddynt gerdded o amgylch y cefn gwlad hyfryd o gwmpas eu cartref. Bydd y rhain yn digwydd:

  • Dydd Gwener 5 Hydref, 11am – 2pm.      Blaen Bache, Allt y Badi a Ffarm Pen-lan
  • Dydd Sul 14 Hydref, 10.30 - 2.30pm – Y Tŵr, Eglwys Llantysilio ac Abaty Glyn y Groes

Cadwch lygad am ddiwrnodau agored a digwyddiadau Calan Gaeaf yn yr Hydref.

Am ragor o fanylion ynghylch yr holl ddigwyddiadau uchod, cysylltwch â Phlas Newydd, drwy ffonio 01978 862834 neu plas.newydd@sirddinbych.gov.uk

Wythnos Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun

Mae sgerbydau a chreaduriaid anghynnes yn llechu yn y cysgodion, a sŵn bwganod yng ngwynt y nos. Daeth yr amser unwaith eto i Garchar Rhuthun agor ei ddrysau ar gyfer wythnos Calan Gaeaf, a chroesawu pobl o bob oed i ddod i gael hwyl o fewn muriau arswydus y Carchar.Plas Newydd Drawing with Light

Bydd y Carchar wedi’i addurno’n arbennig ar gyfer yr achlysur, a bydd digonedd o weithgareddau celf a chrefft tymhorol a helfa Calan Gaeaf i’w chwblhau wrth ichi grwydro o amgylch celloedd iasoer y carchar Fictoraidd. Rydym yn annog unrhyw un sy’n ddigon dewr i ddod yn eu gwisg Calan Gaeaf fwyaf dychrynllyd i fynd i ysbryd y digwyddiad.

Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad, a bydd y carchar ar agor o 10 o'r gloch tan 5 o'r gloch gydol wythnos Calan Gaeaf (drysau’n cau i ymwelwyr am 4 o'r gloch).

Adroddiad Tymhorol y Gwasanaethau Treftadaeth

Bu’r cyfnod hir o dywydd godidog eleni o fudd i ymwelwyr â safleoedd Treftadaeth Sir Ddinbych, ac fe gyfrannodd at lwyddiant ysgubol y digwyddiadau a gynhaliwyd yno.

Daeth tyrfa werth chweil i Garchar Rhuthun ar gyfer Diwrnod yr Ail Ryfel Byd fis Mehefin, i ddathlu’r rhan a chwaraeodd y carchar fel ffatri arfau yn ystod y rhyfel, ac i weld yr effaith a gafodd hynny ar drigolion y dref ar y pryd. Daeth carfan sylweddol o grwydriaid i’r digwyddiad ‘Cipiwyd ar Gamera’ fis Gorffennaf, lle cafodd ymwelwyr ymddangos ar eu posteri DIHIRYN eu hunain a mynd â nhw adref. Roedd pobl yn greadigol iawn gyda’u hanes troseddol a rhai ohonynt yn gwgu’n eithaf dychrynllyd! Yn olaf, bu’n tîm bendigedig o staff yn difyrru ymwelwyr gyda hanesion go iawn y rhai a garcharwyd yma, yn ein digwyddiad ‘Straeon o’r Carchar’ a gynhaliwyd fis Awst. Roedd hi’n hyfryd hefyd mwynhau hufen iâ lleol Chilly Cow, sydd bellach ar werth yn siop y Carchar, ac yn gweddu’r tywydd braf i’r dim.

Bydd Carchar Rhuthun yn cau wrth i’r tymor ddod i ben ddiwedd mis Medi, ond bydd modd bwcio teithiau tywys preifat gydol y gaeaf, a bydd y Carchar yn ail-agor yn ystod wythnos Calan Gaeaf hefyd.

Cafodd ymwelwyr â Nantclwyd y Dre gyfle i faeddu eu dwylo yn ein gerddi pan gynhaliwyd ein 'Helfa Drychfilod’. Bu’r gwesteion yn chwilota drwy Ardd yr Arglwydd am amrywiaeth o bryfetach, gan ddysgu am fioamrywiaeth a’r pryfed sy’n byw yn ein coedwigoedd a’n gerddi. Dychwelodd Shakespeare i Ardd yr Arglwydd hefyd, gyda chynhyrchiad awyr agored Illyria o ‘Marsiandwr Fenis’. Ffynnodd y gerddi yn y tywydd bendigedig a gawsom ni, a’r blodau lliwgar yn pefrio diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr.

Rhoes Gwasanaethau Treftadaeth Sir Ddinbych gynnig ar gynllun newydd, Tocyn Gardd Nantclwyd y Dre, sy’n golygu y gall pobl dalu unwaith i ddod i Ardd yr Arglwydd faint bynnag yr hoffent gydol y tymor. Caiff y tocyn ei lansio’n swyddogol y tymor nesaf, a byddwch yn medru galw heibio unrhyw bryd y mae’r ardd ar agor i fynd am dro, mwynhau picnic neu ddim ond ymlacio yn nhawelwch braf yr ardd ganoloesol.

Mae Plas Newydd bob amser yn ddigon o ryfeddod, ond yn heulwen hyfryd yr haf eleni roedd yn wirioneddol ysblennydd. Daeth ymwelwyr o bell ac agos i’r plasty a’r gerddi i ddysgu am hanes enwog Boneddigesau Llangollen. Cynhaliwyd teithiau natur o gwmpas y gerddi rhwng Mai a Mehefin, lle cafodd ein gwesteion gyfle i chwilota a dysgu ffeithiau difyr am fyd natur drwy wneud cwis, a chynhaliwyd digwyddiadau ar ôl ysgol tan ddiwedd mis Mehefin. Ar 22 Medi llwyfannir drama yn y gerddi o’r enw ‘An Extraordinary Female Affection’ a fydd yn olrhain hanes bywydau Boneddigesau Llangollen a’u perthynas. Jane Hoy a Helen Sandler o Living Histories Cymru fydd yn perfformio.

Mae Amgueddfa’r Rhyl bellach yn cynnal digwyddiad ‘Cwrdd â’r Curadur’ bob mis, lle gall ymwelwyr gael sgwrs â Churadur Sir Ddinbych a thrin a thrafod eitemau hanesyddol go iawn sy’n ymwneud â’r ardal, gan gynnwys pethau o Oes y Rhufeiniaid a’r ugeinfed ganrif pan oedd Y Rhyl ar ei hanterth fel cyrchfan glan môr. Bydd ymwelwyr hefyd yn medru dod â’u heitemau a'u hanesion eu hunain a sôn amdanynt, a chael barn broffesiynol ynglŷn ag unrhyw arteffactau lleol sydd ganddynt.

Cynhelir ‘Cwrdd â’r Curadur’ ar y dydd Mercher olaf bob mis, gydol y flwyddyn yn Amgueddfa’r Rhyl, sydd ar lawr cyntaf Llyfrgell y Rhyl.

Rydym nawr ar gau am y gaeaf, ond bydd modd bwcio teithiau tywys mewn rhai safleoedd dethol. Anfonwch e-bost i Treftadaeth@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi fynd ar daith dywys neu gael mwy o wybodaeth.

Hoffem ddiolch o galon i'n staff a gwirfoddolwyr a fu wrthi'n ddiflino'n cynnal yr holl fwrlwm yn ein safleoedd gydol y tymor, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen yn arw at y tymor nesaf.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid