Sioeau teithiol Sir Ddinbych yn ymgysylltu â thenantiaid
Mae cannoedd o denantiaid tai wedi cymryd rhan mewn cyfres o sioeau teithiol ar draws Sir Ddinbych.
Cynhaliodd adran tai'r Cyngor Sir saith digwyddiad dros yr haf i ymgysylltu â thenantiaid, darparu gweithgareddau llawn hwyl am ddim i'r plant a chodi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.
Cymerodd dros 500 o denantiaid ran yn sioeau teithiol Tai Sir Ddinbych yn Ninbych, Y Rhyl, Prestatyn, Gallt Melyd, Dyserth, Rhuallt a Llangollen.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Roedd y sioeau teithiol tai dros yr haf yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â thenantiaid a darparu gweithgareddau llawn hwyl i blant. Roedd nifer dda’n bresennol a chafwyd adborth gwych a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.
“Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i ni siarad â thrigolion i gael dealltwriaeth o’r gymuned a rhannu gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.
“Mae darparu tai sy'n diwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych yn flaenoriaeth i’r Cyngor.
“Bydd Tai Sir Ddinbych yn darparu 170 o dai Cyngor ychwanegol ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf.”
Rhai o’r gweithgareddau i blant oedd paentio wynebau, celf a chrefft, creu pontydd a gemau chwaraeon stryd a rhai o'r sefydliadau a gymerodd ran oedd Heddlu Gogledd Cymru, Age Connect, y Fenter Iaith yn ogystal â nifer o wasanaethau’r Cyngor.
Diweddariad Datblygiadau Tai
Yn y rhifyn diwethaf, fe wnaethom sôn wrthych am y cynnydd rydym yn ei wneud gyda'n rhaglen i adeiladu 170 o gartrefi newydd y cyngor ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf.
Rydym wedi cyflwyno ein cynigion yn ddiweddar i Gyfoeth Naturiol Cymru am gwlfer newydd ar draws safle hen Ysgol Bodnant ar Marine Road ym Mhrestatyn ac unwaith rydym wedi cael eu caniatâd, byddwn yn dechrau ar y gwaith o'i adeiladu a bydd hyn yn clirio'r ffordd i ni ddechrau adeiladu cartrefi newydd ar y safle.
Dros yr haf, mae ymgynghoriadau wedi bod yn digwydd ynghylch cynigion ar gyfer cartrefi newydd yn y Dell ym Mhrestatyn, ac ar y cyd â Grŵp Cynefin, ar safle hen Fflatiau Pennant yn Ninbych. Mae’r ymgynghoriadau hyn bellach wedi cau ac mae ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio i’r ddau ddatblygiad yn cael eu prosesu ar hyn o bryd, a dylem glywed y canlyniad cyn y Nadolig.
Mae contractwr lleol newydd ei benodi i drosi’r eiddo rydym wedi’i brynu ar Brighton Road yn y Rhyl, yn dri rhandy newydd, a disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle'r mis hwn.
Dim ond megis dechrau yw hyn a byddwn yn dod â newyddion i chi am fwy o ddatblygiadau cyffrous yn rhifynnau’r dyfodol.