llais y sir

Adroddiad Tymhorol y Gwasanaethau Treftadaeth

Bu’r cyfnod hir o dywydd godidog eleni o fudd i ymwelwyr â safleoedd Treftadaeth Sir Ddinbych, ac fe gyfrannodd at lwyddiant ysgubol y digwyddiadau a gynhaliwyd yno.

Daeth tyrfa werth chweil i Garchar Rhuthun ar gyfer Diwrnod yr Ail Ryfel Byd fis Mehefin, i ddathlu’r rhan a chwaraeodd y carchar fel ffatri arfau yn ystod y rhyfel, ac i weld yr effaith a gafodd hynny ar drigolion y dref ar y pryd. Daeth carfan sylweddol o grwydriaid i’r digwyddiad ‘Cipiwyd ar Gamera’ fis Gorffennaf, lle cafodd ymwelwyr ymddangos ar eu posteri DIHIRYN eu hunain a mynd â nhw adref. Roedd pobl yn greadigol iawn gyda’u hanes troseddol a rhai ohonynt yn gwgu’n eithaf dychrynllyd! Yn olaf, bu’n tîm bendigedig o staff yn difyrru ymwelwyr gyda hanesion go iawn y rhai a garcharwyd yma, yn ein digwyddiad ‘Straeon o’r Carchar’ a gynhaliwyd fis Awst. Roedd hi’n hyfryd hefyd mwynhau hufen iâ lleol Chilly Cow, sydd bellach ar werth yn siop y Carchar, ac yn gweddu’r tywydd braf i’r dim.

Bydd Carchar Rhuthun yn cau wrth i’r tymor ddod i ben ddiwedd mis Medi, ond bydd modd bwcio teithiau tywys preifat gydol y gaeaf, a bydd y Carchar yn ail-agor yn ystod wythnos Calan Gaeaf hefyd.

Cafodd ymwelwyr â Nantclwyd y Dre gyfle i faeddu eu dwylo yn ein gerddi pan gynhaliwyd ein 'Helfa Drychfilod’. Bu’r gwesteion yn chwilota drwy Ardd yr Arglwydd am amrywiaeth o bryfetach, gan ddysgu am fioamrywiaeth a’r pryfed sy’n byw yn ein coedwigoedd a’n gerddi. Dychwelodd Shakespeare i Ardd yr Arglwydd hefyd, gyda chynhyrchiad awyr agored Illyria o ‘Marsiandwr Fenis’. Ffynnodd y gerddi yn y tywydd bendigedig a gawsom ni, a’r blodau lliwgar yn pefrio diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr.

Rhoes Gwasanaethau Treftadaeth Sir Ddinbych gynnig ar gynllun newydd, Tocyn Gardd Nantclwyd y Dre, sy’n golygu y gall pobl dalu unwaith i ddod i Ardd yr Arglwydd faint bynnag yr hoffent gydol y tymor. Caiff y tocyn ei lansio’n swyddogol y tymor nesaf, a byddwch yn medru galw heibio unrhyw bryd y mae’r ardd ar agor i fynd am dro, mwynhau picnic neu ddim ond ymlacio yn nhawelwch braf yr ardd ganoloesol.

Mae Plas Newydd bob amser yn ddigon o ryfeddod, ond yn heulwen hyfryd yr haf eleni roedd yn wirioneddol ysblennydd. Daeth ymwelwyr o bell ac agos i’r plasty a’r gerddi i ddysgu am hanes enwog Boneddigesau Llangollen. Cynhaliwyd teithiau natur o gwmpas y gerddi rhwng Mai a Mehefin, lle cafodd ein gwesteion gyfle i chwilota a dysgu ffeithiau difyr am fyd natur drwy wneud cwis, a chynhaliwyd digwyddiadau ar ôl ysgol tan ddiwedd mis Mehefin. Ar 22 Medi llwyfannir drama yn y gerddi o’r enw ‘An Extraordinary Female Affection’ a fydd yn olrhain hanes bywydau Boneddigesau Llangollen a’u perthynas. Jane Hoy a Helen Sandler o Living Histories Cymru fydd yn perfformio.

Mae Amgueddfa’r Rhyl bellach yn cynnal digwyddiad ‘Cwrdd â’r Curadur’ bob mis, lle gall ymwelwyr gael sgwrs â Churadur Sir Ddinbych a thrin a thrafod eitemau hanesyddol go iawn sy’n ymwneud â’r ardal, gan gynnwys pethau o Oes y Rhufeiniaid a’r ugeinfed ganrif pan oedd Y Rhyl ar ei hanterth fel cyrchfan glan môr. Bydd ymwelwyr hefyd yn medru dod â’u heitemau a'u hanesion eu hunain a sôn amdanynt, a chael barn broffesiynol ynglŷn ag unrhyw arteffactau lleol sydd ganddynt.

Cynhelir ‘Cwrdd â’r Curadur’ ar y dydd Mercher olaf bob mis, gydol y flwyddyn yn Amgueddfa’r Rhyl, sydd ar lawr cyntaf Llyfrgell y Rhyl.

Rydym nawr ar gau am y gaeaf, ond bydd modd bwcio teithiau tywys mewn rhai safleoedd dethol. Anfonwch e-bost i Treftadaeth@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi fynd ar daith dywys neu gael mwy o wybodaeth.

Hoffem ddiolch o galon i'n staff a gwirfoddolwyr a fu wrthi'n ddiflino'n cynnal yr holl fwrlwm yn ein safleoedd gydol y tymor, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen yn arw at y tymor nesaf.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid