Hydref ym Mhlas Newydd, Llangollen
Er bod tymor ymwelwyr yr haf yn dod i ben, mae hi dal yn gyfnod prysur ym Mhlas Newydd. Ymhlith y digwyddiadau sydd yna, bydd yr amgueddfa’n bwynt canolog i gyfres o deithiau cerdded wedi’u trefnu, lle gall y cyhoedd ymuno.
Mae’r stori o ddwy ddynes ddewr a heriodd eu teulu a rhedeg i ffwrdd yn y 18fed ganrif i ddechrau bywyd newydd gyda’i gilydd, ar fin cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd ei mwynhau. Ym 1778, fe wnaeth yr Arglwyddes Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ffoi o Iwerddon a dod i fyw i Gymru. Daethant i enwogrwydd cenedlaethol a chael eu hadnabod fel Merched Llangollen.
Nawr mae eu stori’n cael ei hail-fyw mewn gwisgoedd o’r cyfnod gan Living Histories Cymru. Enw’r gwaith yw Anwyldeb Benywaidd Anhygoel – Bywyd a Chariad Merched Llangollen.
Bydd Cerdded yn Ôl-troed Merched Llangollen yn caniatáu pobl i gael y cyfle i fynd am dro a dilyn rhai o hoff lwybrau Eleanor a Sarah wrth iddynt gerdded o amgylch y cefn gwlad hyfryd o gwmpas eu cartref. Bydd y rhain yn digwydd:
- Dydd Gwener 5 Hydref, 11am – 2pm. Blaen Bache, Allt y Badi a Ffarm Pen-lan
- Dydd Sul 14 Hydref, 10.30 - 2.30pm – Y Tŵr, Eglwys Llantysilio ac Abaty Glyn y Groes
Cadwch lygad am ddiwrnodau agored a digwyddiadau Calan Gaeaf yn yr Hydref.
Am ragor o fanylion ynghylch yr holl ddigwyddiadau uchod, cysylltwch â Phlas Newydd, drwy ffonio 01978 862834 neu plas.newydd@sirddinbych.gov.uk