llais y sir

Treftadaeth

Hydref ym Mhlas Newydd, Llangollen

Bydd Tŷ ac Ystafell De Plas Newydd yn parhau i fod ar agor ym mis Hydref, ond byddant ar gau ar ddyddiau Llun a Mawrth.

Bydd llond lle o hwyl brawychus i’w gael ym Mhlas Newydd yn ystod mis Hydref. Mae’r amgueddfa sydd wedi’i lleoli yn Llangollen yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros yr wythnosau i ddod wedi’u trefnu’n arbennig ar gyfer Calan Gaeaf.

O 20 i 31 Hydref, cewch fwynhau Helfa Calan Gaeaf rhwng 11am a 2.30pm. Dewch draw i Blas Newydd a dilyn yr helfa, gan gasglu’r cliwiau arswydus i ennill gwobr. Mae'r helfa ar gael o’r ystafell de ac yn costio £3 y person.

Ddydd Mawrth 23 Hydref rhwng 6.30pm a 8pm, bydd “Marwolaeth ar y Gamlas” yn cael ei gynnal ym Mhlas Newydd. Bydd yr hanesydd a’r awdur lleol, Peter Brown, yn creu naws iasol drwy adrodd straeon am ddamweiniau, meddwdod, twpdra a llofruddiaethau. Bydd angen i chi archebu eich lle ymlaen llaw.

Dydd Mercher 31 Hydref yw diwrnod Te Parti’r Gwarchod. Bydd y digwyddiad anhygoel hwn yn cael ei gynnal rhwng 3pm a 5pm, gyda’r gwesteion yn cyfarfod yn Y Caban, sef Canolfan Gelfyddydau Plas Newydd. Bydd yno straeon, crefftau, gemau a’r te parti ei hun gyda gwrachod a dewiniaid Plas Newydd. Codir £6 y person a bydd angen i chi archebu eich lle ymlaen llaw.

Yn y cyfamser, i symud oddi wrth Galan Gaeaf, mae Plas Newydd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a hoffai wirfoddoli i helpu cadw'r gerddi mewn cyflwr penigamp. Mae gan yr amgueddfa tua 12 erw o dir i gyd. Mae’r tirwedd hynod amrywiol yn cynnwys popeth o erddi cywrain hardd i goetiroedd garw.Plas Newydd Drawing with Light

Mae cyfraniad gwirfoddolwyr tuag at gynnal a chadw’r gerddi wedi’i hen sefydlu ac yn cael ei werthfawrogi’n arw. Os hoffai unrhyw un gael gwybod mwy, mae croeso iddyn nhw gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.

I archebu lle ar gyfer digwyddiadau Calan Gaeaf, ffoniwch 01824 712757.

I gael manylion am wirfoddoli, ffoniwch 01978 862834.

Hydref ym Mhlas Newydd, Llangollen

Er bod tymor ymwelwyr yr haf yn dod i ben, mae hi dal yn gyfnod prysur ym Mhlas Newydd. Ymhlith y digwyddiadau sydd yna, bydd yr amgueddfa’n bwynt canolog i gyfres o deithiau cerdded wedi’u trefnu, lle gall y cyhoedd ymuno.

Mae’r stori o ddwy ddynes ddewr a heriodd eu teulu a rhedeg i ffwrdd yn y 18fed ganrif i ddechrau bywyd newydd gyda’i gilydd, ar fin cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd ei mwynhau. Ym 1778, fe wnaeth yr Arglwyddes Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ffoi o Iwerddon a dod i fyw i Gymru. Daethant i enwogrwydd cenedlaethol a chael eu hadnabod fel Merched Llangollen.

Nawr mae eu stori’n cael ei hail-fyw mewn gwisgoedd o’r cyfnod gan Living Histories Cymru. Enw’r gwaith yw Anwyldeb Benywaidd Anhygoel – Bywyd a Chariad Merched Llangollen.

Bydd Cerdded yn Ôl-troed Merched Llangollen yn caniatáu pobl i gael y cyfle i fynd am dro a dilyn rhai o hoff lwybrau Eleanor a Sarah wrth iddynt gerdded o amgylch y cefn gwlad hyfryd o gwmpas eu cartref. Bydd y rhain yn digwydd:

  • Dydd Gwener 5 Hydref, 11am – 2pm.      Blaen Bache, Allt y Badi a Ffarm Pen-lan
  • Dydd Sul 14 Hydref, 10.30 - 2.30pm – Y Tŵr, Eglwys Llantysilio ac Abaty Glyn y Groes

Cadwch lygad am ddiwrnodau agored a digwyddiadau Calan Gaeaf yn yr Hydref.

Am ragor o fanylion ynghylch yr holl ddigwyddiadau uchod, cysylltwch â Phlas Newydd, drwy ffonio 01978 862834 neu plas.newydd@sirddinbych.gov.uk

Wythnos Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun

Mae sgerbydau a chreaduriaid anghynnes yn llechu yn y cysgodion, a sŵn bwganod yng ngwynt y nos. Daeth yr amser unwaith eto i Garchar Rhuthun agor ei ddrysau ar gyfer wythnos Calan Gaeaf, a chroesawu pobl o bob oed i ddod i gael hwyl o fewn muriau arswydus y Carchar.Plas Newydd Drawing with Light

Bydd y Carchar wedi’i addurno’n arbennig ar gyfer yr achlysur, a bydd digonedd o weithgareddau celf a chrefft tymhorol a helfa Calan Gaeaf i’w chwblhau wrth ichi grwydro o amgylch celloedd iasoer y carchar Fictoraidd. Rydym yn annog unrhyw un sy’n ddigon dewr i ddod yn eu gwisg Calan Gaeaf fwyaf dychrynllyd i fynd i ysbryd y digwyddiad.

Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad, a bydd y carchar ar agor o 10 o'r gloch tan 5 o'r gloch gydol wythnos Calan Gaeaf (drysau’n cau i ymwelwyr am 4 o'r gloch).

Adroddiad Tymhorol y Gwasanaethau Treftadaeth

Bu’r cyfnod hir o dywydd godidog eleni o fudd i ymwelwyr â safleoedd Treftadaeth Sir Ddinbych, ac fe gyfrannodd at lwyddiant ysgubol y digwyddiadau a gynhaliwyd yno.

Daeth tyrfa werth chweil i Garchar Rhuthun ar gyfer Diwrnod yr Ail Ryfel Byd fis Mehefin, i ddathlu’r rhan a chwaraeodd y carchar fel ffatri arfau yn ystod y rhyfel, ac i weld yr effaith a gafodd hynny ar drigolion y dref ar y pryd. Daeth carfan sylweddol o grwydriaid i’r digwyddiad ‘Cipiwyd ar Gamera’ fis Gorffennaf, lle cafodd ymwelwyr ymddangos ar eu posteri DIHIRYN eu hunain a mynd â nhw adref. Roedd pobl yn greadigol iawn gyda’u hanes troseddol a rhai ohonynt yn gwgu’n eithaf dychrynllyd! Yn olaf, bu’n tîm bendigedig o staff yn difyrru ymwelwyr gyda hanesion go iawn y rhai a garcharwyd yma, yn ein digwyddiad ‘Straeon o’r Carchar’ a gynhaliwyd fis Awst. Roedd hi’n hyfryd hefyd mwynhau hufen iâ lleol Chilly Cow, sydd bellach ar werth yn siop y Carchar, ac yn gweddu’r tywydd braf i’r dim.

Bydd Carchar Rhuthun yn cau wrth i’r tymor ddod i ben ddiwedd mis Medi, ond bydd modd bwcio teithiau tywys preifat gydol y gaeaf, a bydd y Carchar yn ail-agor yn ystod wythnos Calan Gaeaf hefyd.

Cafodd ymwelwyr â Nantclwyd y Dre gyfle i faeddu eu dwylo yn ein gerddi pan gynhaliwyd ein 'Helfa Drychfilod’. Bu’r gwesteion yn chwilota drwy Ardd yr Arglwydd am amrywiaeth o bryfetach, gan ddysgu am fioamrywiaeth a’r pryfed sy’n byw yn ein coedwigoedd a’n gerddi. Dychwelodd Shakespeare i Ardd yr Arglwydd hefyd, gyda chynhyrchiad awyr agored Illyria o ‘Marsiandwr Fenis’. Ffynnodd y gerddi yn y tywydd bendigedig a gawsom ni, a’r blodau lliwgar yn pefrio diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr.

Rhoes Gwasanaethau Treftadaeth Sir Ddinbych gynnig ar gynllun newydd, Tocyn Gardd Nantclwyd y Dre, sy’n golygu y gall pobl dalu unwaith i ddod i Ardd yr Arglwydd faint bynnag yr hoffent gydol y tymor. Caiff y tocyn ei lansio’n swyddogol y tymor nesaf, a byddwch yn medru galw heibio unrhyw bryd y mae’r ardd ar agor i fynd am dro, mwynhau picnic neu ddim ond ymlacio yn nhawelwch braf yr ardd ganoloesol.

Mae Plas Newydd bob amser yn ddigon o ryfeddod, ond yn heulwen hyfryd yr haf eleni roedd yn wirioneddol ysblennydd. Daeth ymwelwyr o bell ac agos i’r plasty a’r gerddi i ddysgu am hanes enwog Boneddigesau Llangollen. Cynhaliwyd teithiau natur o gwmpas y gerddi rhwng Mai a Mehefin, lle cafodd ein gwesteion gyfle i chwilota a dysgu ffeithiau difyr am fyd natur drwy wneud cwis, a chynhaliwyd digwyddiadau ar ôl ysgol tan ddiwedd mis Mehefin. Ar 22 Medi llwyfannir drama yn y gerddi o’r enw ‘An Extraordinary Female Affection’ a fydd yn olrhain hanes bywydau Boneddigesau Llangollen a’u perthynas. Jane Hoy a Helen Sandler o Living Histories Cymru fydd yn perfformio.

Mae Amgueddfa’r Rhyl bellach yn cynnal digwyddiad ‘Cwrdd â’r Curadur’ bob mis, lle gall ymwelwyr gael sgwrs â Churadur Sir Ddinbych a thrin a thrafod eitemau hanesyddol go iawn sy’n ymwneud â’r ardal, gan gynnwys pethau o Oes y Rhufeiniaid a’r ugeinfed ganrif pan oedd Y Rhyl ar ei hanterth fel cyrchfan glan môr. Bydd ymwelwyr hefyd yn medru dod â’u heitemau a'u hanesion eu hunain a sôn amdanynt, a chael barn broffesiynol ynglŷn ag unrhyw arteffactau lleol sydd ganddynt.

Cynhelir ‘Cwrdd â’r Curadur’ ar y dydd Mercher olaf bob mis, gydol y flwyddyn yn Amgueddfa’r Rhyl, sydd ar lawr cyntaf Llyfrgell y Rhyl.

Rydym nawr ar gau am y gaeaf, ond bydd modd bwcio teithiau tywys mewn rhai safleoedd dethol. Anfonwch e-bost i Treftadaeth@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi fynd ar daith dywys neu gael mwy o wybodaeth.

Hoffem ddiolch o galon i'n staff a gwirfoddolwyr a fu wrthi'n ddiflino'n cynnal yr holl fwrlwm yn ein safleoedd gydol y tymor, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen yn arw at y tymor nesaf.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid