Ysbrydoliaeth yr Hydref
Edrych am ddigwyddiadau a mannau i ymweld â nhw yn ystod yr hydref? Ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru am syniadau ar bethau i'w gwneud a'r digwyddiadau diweddaraf ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
Taflenni twristiaeth am ddim yn uniongyrchol i’ch drws
Oes gennych chi fusnes? Hoffech chi ddarparu taflenni twristiaeth am ddim i’ch gwesteion / ymwelwyr? Mae'r taflenni yn cynnwys Llwybrau Tref, Canolfan Grefft Rhuthun a 5 Siwrnai Sir Ddinbych. Mae’n rhaid dychwelyd ffurflenni erbyn 9 Hydref.
Oes gennych chi fusnes? A hoffech chi ddarparu taflenni rhad ac am ddim ar gyfer eich gwesteion / ymwelwyr? Mae'r taflenni sydd ar gael yn cynnwys Llwybrau Tref Sir Ddinbych, Canolfan Grefft Rhuthun, a 5 Siwrnai Sir Ddinbych. Yn syml, cwblhewch ffurflen sy'n gofyn am eich dewisiadau taflenni a faint sydd eu hangen ac fe'u cyflwynir yn uniongyrchol i'ch drws, i gyd yn rhad ac am ddim. Rhaid dychwelyd ffurflenni erbyn 9 Hydref.
Cysylltwch â'r Tîm Twristiaeth am gopi o'r ffurflen neu am ragor o fanylion - twristiaeth@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706223.
Manteision twristiaeth yn Sir Ddinbych ar gynnydd
Mae budd economaidd twristiaeth yn Sir Ddinbych yn parhau i dyfu. Mae’r ffigyrau effaith economaidd STEAM diweddaraf yn dangos yn 2017 fod twristiaeth wedi dod â £490.35miliwn i’r economi leol, cynnydd o 2.3 y cant ers 2016, a 70 y cant ers 2007.
Y llynedd roedd twristiaeth yn cefnogi 6,231 o swyddi yn Sir Ddinbych, a 5.93miliwn o bobl wedi ymweld â’r sir, cynnydd o 25 y cant ers 2007, cyfanswm o 11.58miliwn y dydd. Roedd y nifer o ymwelwyr â’r arfordir wedi cynyddu i 3.16miliwn, a nifer y dyddiau a dreuliwyd gan ymwelwyr (6.92miliwn) a’r nifer o ymwelwyr oedd yn aros (900,000).
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cynnydd yn y budd economaidd cyffredinol o dwristiaeth yn Sir Ddinbych yn galonogol iawn, er gwaethaf 2017 yn flwyddyn heriol o safbwynt y tywydd.
“Mae gan y sir gymaint i’w gynnig, morlin hyfryd, trefi marchnad gwledig, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, llu o weithgareddau awyr agored yn ogystal â chyfoeth o hanes a chynnyrch a siopau lleol gwych.
“Mae’r cynnydd mewn twristiaeth arfordirol yn arbennig o galonogol. Gyda dau westy newydd yn y Rhyl, atyniad i ymwelwyr SC2 fydd yn agor y flwyddyn nesaf, yn ogystal â’r bwyty 1891 sydd eisoes wedi’i sefydlu a’r Nova ym Mhrestatyn, byddem yn disgwyl i’r ffigyrau hyn barhau i dyfu. Mae hyn yn dangos buddsoddiad gan y Cyngor ac mae’r sector preifat yn cael effaith gwirioneddol ar ffyniant economaidd yn Sir Ddinbych, sy'n flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol."
Roedd yna gyfanswm o 1.5miliwn o ymwelwyr a oedd yn aros dros nos y llynedd a gyfrannodd at gyfanswm o £331.46miliwn i’r economi yn 2017, 50 y cant o gynnydd mewn ymwelwyr a oedd yn aros dros nos o’i gymharu â 2007.
Dywedodd Dave Jones, sy’n berchennog y Bwthyn Gwely a Brecwast pedair seren Plas Efenechtyd ger Rhuthun: “Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr tramor yn aros yn hirach, yn arbennig o’r Iseldiroedd, yr Almaen a'r UDA. Eleni cafwyd llawer o archebion dros fisoedd yr haf.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd gyda syniad o’r hyn maent yn dymuno ei weld a’i wneud ond heb lawer o wybodaeth am hanes, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru, rhywbeth yr hoffwn ei weld yn cael sylw.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn galonogol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol eraill fel Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd i greu rhaglenni gyda thema a chreu pecynnau deniadol fydd yn apelio at amrywiaeth o ymwelwyr.”
Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi twristiaeth drwy waith partneriaeth cadarn yng Ngogledd Cymru i gyfalafu ar y farchnad dwristiaeth gynyddol. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal prosiectau i uwchsgilio staff sy’n gweithio o fewn twristiaeth sy’n ymwneud â busnes i wella profiad ymwelwyr, cynhyrchu taflenni twristiaeth newydd a ffilmiau hyrwyddol i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach yn ogystal â chefnogi prif ddigwyddiadau a gwyliau fel Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Gwobrau Twristiaeth Go North Wales
Yn ôl am y drydedd flwyddyn, cynhelir Gwobrau Twristiaeth Go North Wales, mewn partneriaeth â Heart, ddydd Iau, 15 Tachwedd 2018 yn Venue Cymru, Llandudno.
Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth. Bydd y gwobrau yn arddangos ac yn dathlu’r cyflawniadau, gwaith caled ac ymrwymiad y sawl sy’n gweithio yn y diwydiant.
Os ydych chi’n rhan o ddiwydiant twristiaeth y rhanbarth yna mae’r gwobrau hyn i chi!
Mae yna 13 o gategorïau ac mae enwebiadau nawr yn agored! Gallwch enwebu eich busnes twristiaeth eich hun, neu’r busnes twristiaeth gorau yr ydych wedi’i brofi. Mae’n hawdd iawn enwebu, y cyfan sydd ei angen yw dewis categori a chlicio ar y ddolen i agor y ffurflen enwebu. Gallwch enwebu mewn gymaint o gategorïau ag y dymunwch, ond byddwch angen cyflwyno cais ar wahân ym mhob categori. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, 7 Hydref.
Enwebwch yn: http://www.gonorthwalestourismawards.co.uk
Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych a Garej Ddigidol Google
Oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth? Mae Fforwm a sefydlwyd i ddarparu gwybodaeth gyfredol i fusnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn twristiaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal fis Hydref. Mae prif siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Croeso Cymru fydd yn rhoi cyflwyniad ar gyfleoedd buddsoddi i fusnesau a Cadwch Gymru'n Daclus.
Cynhelir Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych ar ddydd Mercher 10 Hydref yng Ngwesty Oriel House, Llanelwy. Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio, dysgu sgiliau newydd a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau.
Mae Garej Ddigidol Google yn cynnal sesiynau am ddim ar farchnata digidol yn ystod y prynhawn. Mae sesiynau yn cynnwys cynllun marchnata digidol a chreu strategaeth cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar eich amcanion busnes.
I archebu lle yn sesiynau Fforwm Twristiaeth a/neu Garej Ddigidol Google ewch i https://denbighshiretourismforumandgoogledigitalgarage.eventbrite.co.uk
Arddangosfa ffotograffiaeth wedi agor yn Llangollen
Mae arddangosfa ffotograffiaeth yn dangos arfordir arbennig y rhanbarth wedi agor yn Llangollen.
Mae’r arddangosfa yng Nghanolfan Groeso Llangollen, y Capel, yn dathlu themâu blynyddol Croeso Cymru a 2018 yw Blwyddyn y Môr.
Cafodd yr arddangosfa o’r enw ‘Llwybrau i’r Môr’ ei chomisiynu gan Gyngor Sir Ddinbych a'i hariannu gan Bartneriaeth Gogledd-ddwyrain Cymru.
Mae’r ffotograffydd lleol Craig Colville, wedi tynnu lluniau o ‘lwybrau i’r môr’ yn yr ardal o bersbectif gwahanol i greu ffotograffau diddorol ac ysgogol.
Bydd lluniau'r arddangosfa ar werth ac i’w gweld tan ddiwedd mis Hydref, ac mae Canolfan Groeso Llangollen ar agor bob dydd o 9.30am tan 4pm, heblaw am dydd Iau.