llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Plas Newydd, Llangollen

Mae'r gwanwyn ar ein gwarthaf ym Mhlas Newydd ac rydym yn brysur yn paratoi am dymor newydd.

Bydd y safle ar agor bob dydd o 1 Ebrill hyd nes 3 Tachwedd eleni, a bydd ymwelwyr yn sylwi ar rai newidiadau.

Yn y tiroedd rydym wedi derbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyfoeth Naturiol Cymru i wella'r mynedfeydd i’r Dell, felly mae’r rhain yn llawer mwy diogel bellach.

Mae’r tŷ wedi elwa o gael taith dywys sain gyffrous newydd, ar gyfer oedolion a phlant, a fydd ar gael mewn nifer o ieithoedd.

Gall plant hefyd fwynhau llwybrau tymhorol newydd o amgylch y tiroedd, a fydd ar gael i’w prynu yn y swyddfa docynnau. Ac yn olaf.... os ydych yn edrych ymlaen am goginio Steve y cogydd unwaith eto, rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r Ystafell De ar ei newydd wedd – rydym yn credu y dylai fod yn welliant mawr.

Erbyn mis Ebrill, bydd y gerddi’n dod yn fyw, a byddwn yn dathlu’r tymor gyda Ffair Wanwyn ddydd Sadwrn 13 Ebrill, o hanner dydd tan 3pm. Bydd ŵyn a digon o grefftau'n ymwneud â gwlân i chi gymryd rhan ynddynt, felly beth am ymuno â ni ar y safle arbennig hwn?

Darganfyddwch yr Awyr Dywyll yn 2019

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch o gyhoeddi rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o’n Prosiect Awyr Dywyll.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Techniquest i ddod â phecyn amrywiol o sioeau planetariwm a sgyrsiau laser i grefftau anhygoel gan gynnwys adeiladu syllwr cytser a gweithdai rocedi, heb sôn am y cyfleoedd i wisgo fyny fel gofodwr!

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd awyr y nos nid yn unig i’n hiechyd a’n lles ni, ond hefyd i fywyd gwyllt a fflora a ffawna sy’n dibynnu ar dywyllwch i oroesi.

Hoffem gyflwyno aelod newydd o'n tîm i chi hefyd sef Dani Robertson. Dani yw Swyddog Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru ac mae’n gweithio ar ran AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac Ynys Môn a Llŷn yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd Dani yn y swydd am ddwy flynedd i gynorthwyo gyda digwyddiadau a chydlynu camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’n cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Rhyngwladol. Pob lwc Dani.

Mae’r Gwanwyn wedi cyrraedd Ein Tirlun Darluniadwy

Mae’r tîm ar y Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi bod yn brysur dros y Gaeaf yn cynllunio digwyddiadau er mwyn ymgysylltu’r cymunedau lleol gyda lleoliadau hardd sydd ar eu stepen drws. Bydd y rhaglen ddiweddaraf o ddigwyddiadau yn cael ei gyhoeddi yn y canllaw digwyddiadau ‘O Gwmpas Sir Ddinbych'. Brynhawn dydd Sadwrn 13 Ebrill, bydd y prosiect yn cynnal lansiad swyddogol yn Ffair Wanwyn Plas Newydd yn Llangollen, lle bydd prynhawn o weithgareddau, yn cynnwys rhoi cynnig ar ffeltio gwlân, darganfod hanes gwlân a chyfarfod y defaid. Yn ogystal â’r cyfle i roi cynnig ar lwybrau darganfod newydd o amgylch y safle ac ymuno â thaith gerdded dywys a sgwrs am gynlluniau i adfer y Dell yn ôl i’w hen ogoniant yn y cyfnod rhamantaidd pan oedd Merched Llangollen yn byw ym Mhlas Newydd. Bydd y tymor newydd ar gyfer y tŷ ac ystafelloedd te yn ei anterth hefyd, gan fod y drysau yn agor i ymwelwyr o 1 Ebrill ymlaen.

Ers y 1700au, mae pobl wedi bod ar siwrneiau ysbrydoledig drwy Ddyffryn Dyfrdwy, ar hyd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, ar hyd ffordd A5 Telford, Rheilffordd Llangollen a'r Afon Dyfrdwy. Daethant i fwynhau ac ymgysylltu â’r tirlun unigryw ac roedd nifer yn teimlo cymhelliant i drosi’r tirlun hardd i mewn i gelf. Trwy ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, bwriad y prosiect yw ysgogi pobl leol heddiw i ddilyn ôl-traed artistiaid y gorffennol a chymryd rhan mewn gweithgareddau artistig eu hunain er mwyn dathlu'r tirlun hardd ac unigryw. Gobeithiwn hefyd annog pobl i ddarganfod a dysgu am eu treftadaeth a’u cynefin, pwysau'r oes fodern sy’n eu hwynebu a sut allwn ni eu diogelu a'u rheoli yn y dyfodol.

Os hoffech wybod mwy am y prosiect, neu os ydych yn rhan o grŵp cymunedol yn Nyffryn Dyfrdwy, rhwng Corwen a’r Waun, ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect drwy weithgareddau celf neu awyr agored, cysylltwch â our.picturesque.landscape@sirddinbych.gov.uk 01824 706163.

 

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid