llais y sir

Cydweithio ar waith gwrth-dlodi

Mae ymdrechion i leihau tlodi a gwella lles ariannol a trigolion Sir Ddinbych yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor wrth iddo ddyfarnu cytundeb pedair blynedd newydd i Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i wneud gwaith ar ei ran.  

Dewiswyd CAB Sir Ddinbych i ddarparu gwasanaeth cynghori defnyddwyr annibynnol, cyfrinachol a rhad ac am ddim i drigolion Sir Ddinbych. Bydd y gwasanaeth hwn yn effeithiol wrth atal a lleihau materion yn ymwneud â budd-daliadau a chredydau treth, dyledion, tai ynni, tanwydd, cyflogaeth, materion defnyddwyr a theulu / perthynas.  

Mae gan y sefydliad hanes cryf o weithio yn Sir Ddinbych eisoes, ar ôl cyflwyno gwasanaeth budd-daliadau i'r Cyngor ar ôl i'r awdurdod wneud toriadau i'r gwasanaeth a gynigiwyd gan y Cyngor yn flaenorol.   Bydd CAB yn darparu gwasanaeth lles arbenigol, gan edrych ar bob agwedd ar y buddion sydd ar gael i drigolion.

Byddant yn darparu cymorth i unigolion sydd â phrosesau adolygiadau budd-daliadau ac apeliadau, yn helpu i liniaru unrhyw faterion sy'n codi o Gredyd Cynhwysol ac yn gyffredinol byddant yn cyfeirio pobl at y cyngor cywir ar yr adeg iawn.  

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid: "Rydym wrth ein bodd o gael CAB yn ôl i helpu gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaeth buddion go iawn, gan gynorthwyo trigolion i ddelio â phryderon ariannol a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl gefnogaeth a chyngor sydd ar gael iddynt.  

"Rydym eisoes wedi gweld bod rhai prosiectau arloesol yn digwydd ar lawr gwlad yn Sir Ddinbych ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, i sicrhau ein bod yn adeiladu cymuned sy'n wydn".

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid