Newyddion
Lleihau dyddiau agor parc ailgylchu Rhuthun a Dinbych
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi bod parciau ailgylchu Rhuthun a Dinbych yn cau un diwrnod yr wythnos o fis Ebrill 2019 ymlaen, fel rhan o fesurau lleihau costau sy’n cael eu cyflwyno gan yr awdurdod.
Roedd y cynigion ymysg pecyn £5.6 miliwn o arbedion effeithlonrwydd yn ddiweddar a gymeradwywyd gan y Cyngor.
Bydd y Parc Ailgylchu Dinbych yn cau bob dydd Iau ond yn parhau i fod yn agored am weddill yr wythnos. Bydd deiliaid tai sydd angen defnyddio cyfleusterau parc ailgylchu yn gallu ymweld â’r pharc ailgylchu agosaf yn Rhuthun neu yn y Rhyl.
Bydd Parc Ailgylchu Rhuthun ar gau bob dydd Gwener, ond yn parhau i fod yn agored am y chwe diwrnod arall o’r wythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: “Mae sefyllfa y gyllideb yn golygu bod arnom angen edrych yn agos iawn ar bopeth yr ydym yn ei wneud, ac mae'n rhaid gwneud ychydig o benderfyniadau anodd.
“Rydym wedi edrych ar weithredoedd ein parc ailgylchu ac wedi cytuno i gau'r parciau yn Rhuthun a Dinbych un diwrnod yr wythnos. Byddant yn cau ar ddiwrnodau gwahanol, ac ar ddiwrnodau sydd yn draddodiadol y distawaf ar gyfer y lleoliad penodol hwnnw. Fodd bynnag, bydd y ddau leoliad ar agor chwe diwrnod yr wythnos (gan gynnwys diwrnodau’r penwythnos pan mae’r parciau ailgylchu yn dueddol o fod yn brysurach). Ni ddylai’r ffordd newydd o weithio effeithio ar breswylwyr, gan fydd cyfleusterau eraill ar gael yn y sir.
Nid yw’r diwrnodau agor parc ailgylchu y Rhyl yn cael eu heffeithio.
Bydd arwyddion yn hysbysu’r preswylwyr o’r newidiadau yn cael eu rhoi ym mharciau ailgylchu Dinbych a Rhuthun ym mis Mawrth i helpu preswylwyr gynllunio eu hymweliadau o amgylch oriau agor newydd o fis Ebrill ymlaen.
Mae manylion am ailgylchu yn Sir Ddinbych ar gael ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu
Sir Ddinbych yn gosod ei gyllideb 2019/20
Rydym wedi cytuno ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Rhuthun, gofynnwyd i'r aelodau ffurfioli'r gyllideb a chytunodd y dylai lefelau treth gyngor godi o 6.35% yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r pwysau ariannol cyfredol yn y Gwasanaethau Plant ac Addysg, gofal cymdeithasol, priffyrdd a'r amgylchedd.
Mae'r 6.35% yn cyfateb i £72.24 y flwyddyn ychwanegol ar gyfer eiddo Band D, neu £1.52 yr wythnos.
Dynodwyd arbedion o £5.6 miliwn gan wasanaethau'n uniongyrchol a chafwyd hyd i'r rhain trwy ystod eang o doriadau ac effeithlonrwydd mewn swyddogaethau sy'n cefnogi'r Cyngor, gyda'r gwasanaethau a gynigir yn uniongyrchol i'r cyhoedd yn cael eu gwarchod gymaint ag y bo modd.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid: "Ein dyletswydd fel cynghorwyr yw sicrhau bod y gyllideb yn gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac mae’r ansicrwydd ynghylch lefelau ariannu yn y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud ein gwaith llawer yn galetach.
"Mae gostyngiadau ariannol sylweddol mewn termau go iawn i gynghorau lleol yng Nghymru wedi parhau tra bo'r costau'n parhau i dyfu. Mae ysgolion a gofal cymdeithasol yn cynrychioli'r elfennau mwyaf arwyddocaol o gyllideb y Cyngor ac mae costau'r rhain yn tyfu y tu hwnt i'r adnoddau sydd ar gael.
"Er ein bod yn hynod o ofalus wrth reoli'r arian, ar ôl arbed £ 35 miliwn dros y chwe blynedd diwethaf, nid yw'n bosibl mynd i'r afael â'r bwlch cyllido rhwng arbedion a wneir gan wasanaethau a threthi lleol gwirioneddol y mae angen eu cytuno. Mae'r Cyngor hefyd yn disgwyl bod angen i ni ddod o hyd i arbedion o £7 miliwn yn 2020 a £4.5 miliwn y flwyddyn ganlynol ".
Glanhau strydoedd cymuned Gorllewin y Rhyl
Mae ymdrechion i lanhau strydoedd Gorllewin y Rhyl yn talu ar ei ganfed.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych, gan weithio gyda'i bartneriaid, wedi nodi 10 lleoliad yn y rhan hon o'r dref yn flaenorol lle'r oedd tipio anghyfreithlon yn bryder.
Roedd y sbwriel yn amrywio o wastraff domestig, matresi, soffas, cadeiriau ac eitemau cartrefi eraill a dodrefn. Roedd pobl hefyd yn rhoi bagiau sbwriel allan, yn aml yn cynnwys gwastraff bwyd, ymhell cyn eu diwrnod casglu. Roedd hyn yn aml yn denu gwylanod i dorri'r bag ar agor wrth chwilio am fwyd.
Mae'r Cyngor ers hynny wedi gweithio'n agos gyda pherchnogion eiddo, trigolion a busnesau i ddeall y problemau y tu ôl i'r tipio anghyfreithlon, i addysgu'r cyhoedd am effeithiau gwrthgymdeithasol tipio anghyfreithlon ac i ddarparu biniau mwy ar gyfer yr unigolion hynny sydd ei angen.
O ganlyniad, mae'r ardal wedi gweld gwelliant dramatig, gyda nifer y mannau problemus yn cael eu lleihau i un.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd: "Rydym wrth ein bodd bod yr ymdrechion parhaus yn y Rhyl yn gweithio'n dda. Yr ydym yn gweld gwelliant amlwg yn y modd y mae'r gymuned leol yn edrych ac yn teimlo ac mae pobl yn ymddangos yn ymfalchïo yn y ffordd y mae eu heiddo'n edrych. Mae'n ymddangos bod ein hymdrechion addysg yn gweithio.
"Fodd bynnag, rydym yn parhau i gael ambell i eiddo neu unigolion yma sy'n meddwl ei fod yn dderbyniol i dipio’n anghyfreithlon ac nid yw'r neges yn cyrraedd y bobl hyn. Os byddwn yn dod o hyd i enghreifftiau o bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon, edrychwn drwy'r sbwriel i weld a oes unrhyw wybodaeth sy'n nodi'r sawl sy'n euog.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i helpu i wella ansawdd bywyd trigolion a glanhau strydoedd y dref. Gyda datblygiadau arwyddocaol yn mynd rhagddo ar hyd glan y môr a gwaith sy'n mynd rhagddo gydag ymgynghoriad y Prif Gynllun Rhyl, mae'n hanfodol bod y berthynas waith agos yng Ngorllewin y Rhyl yn newid canfyddiadau ac yn gwella profiad byw yno i breswylwyr.
Os ydych yn gweld pobl yn tipio anghyfreithlon, dylent roi gwybod amdanynt i 01824 706000, gan roi cymaint o fanylion â phosib o'r troseddwyr. Gallwch hefyd roi gwybod am broblem ar ein gwefan.
Llun o dipio anghyfreithlon yng Nghraianrhyd ger Llanarmon yn Iâl.
Dim goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn erbyn staff y Cyngor
Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych yn goddef ymddygiad gwrth - gymdeithasol yn erbyn staff - dyna yw’r neges ar ôl i ddau swyddog gorfodaeth wynebu ymddygiad bygythiol yn ystod digwyddiad yn Rhuthun.
Roedd swyddogion wedi adnabod car a oedd wedi parcio yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun nad oedd wedi arddangos tocyn. Mi ddisgwyliodd y swyddogion am bum munud cyn cyflwyno Tocyn Rhybudd Cosb o £50. Yn ystod y cyfnod hwn, mi gyrhaeddodd y perchennog car ac ymddwyn yn fygythiol yn erbyn y swyddogion, a hynny o flaen tystion.
Mi barhaodd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, er gwaethaf dau swyddog cefnogi’r heddlu yn cyrraedd.
Yn Llys Ynadon Llandudno, mi dderbyniodd ddirwy a gorchymyn i dalu costau ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o dor-heddwch.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Nid oedd y swyddogion wedi’i hanafu ond wedi dioddef o ymddygiad bygythiol. Roedd y swyddogion wedi ymddwyn yn gwbl broffesiynol yn yr achos hwn. Mi fuodd i’r ddau ddal eu tir a delio gyda’r mater yn y modd cywir.
“Mae swyddogion gorfodaeth yn gweithio ar draws y sir yn ddyddiol. Dydyn nhw ddim yn disgwyl dod ar draws ymddygiad i’r fath. Ni fydd hyn yn cael ei oddef ac mi fydd y Cyngor yn cymryd camau yn erbyn unigolion sy’n ymddwyn yn y modd yma”.
Ydych chi wedi clywed y si am y gystadleuaeth dylunio logo?
Mae si ar led bod cyfle cyffrous i blant ysgol gymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio logo newydd.
Rydym yn rhoi cyfle i blant rhwng 5 ac 14 oed ddylunio logo ‘Cyfeillgar i Wenyn' y Cyngor.
Yn gynharach eleni dyfarnwyd statws Cyfeillgar i Wenyn i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, cynllun sy’n ceisio gwneud Cymru yn wlad cyfeillgar i beillwyr.
Mae’r Cyngor yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i greu "gwestai” i wenyn a phryfaid, lleihau’r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr a nodi safleoedd i'w gwella ar gyfer creaduriaid sy’n peillio trwy blannu blodau gwyllt a hadau blodau gwyllt.
Gofynnir i ddisgyblion feddwl am ddyluniad syml a thrawiadol y gallwn ei ddefnyddio ar bob un o’n safleoedd a’n cyhoeddiadau Cyfeillgar i Wenyn, a dylai gynnwys pryf sy’n peillio fel gwenyn neu löyn byw.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddymuno pob lwc i'r holl gystadleuwyr ac edrychaf ymlaen at weld y dyluniadau gwych.
“Mae gwenyn yn hynod bwysig i’r system eco. Yn ogystal â pheillio planhigion mewn gerddi, parciau a’r cefn gwlad ehangach, maent yn cyfrannu at yr amgylchedd ehangach. Mae creu sir sy’n Gyfeillgar i Wenyn yn rhan o’n gwaith i wella ac amddiffyn yr amgylchedd.”
Mae tri chategori oedran, Cyfnod Sylfaen, 5-7, 7-11 a 11-14 a byddwn yn dewis enillydd o bob categori cyn dewis y prif enillydd.
Bydd ysgol lle mae enillydd pob categori yn mynychu yn derbyn cymorth i greu ardal 'Cyfeillgar i Wenyn.’
Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 14 Mawrth ac i gystadlu anfonwch eich dyluniadau at Gystadleuaeth Dylunio Logo ‘Cyfeillgar i Wenyn’ Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth, Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 5LH.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Liam ar 07787 741763 neu e-bostiwch: liam.blazey@sirddinbych.gov.uk.
Grŵp Darllen Peilot i gael ei lansio yn y Rhyl
Mae grŵp darllen yn cael ei lansio er mwyn helpu’r rhai hynny sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
Bydd y Cyngor Sir a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) yn peilota’r grŵp Darllen a Chofio yn Llyfrgell y Rhyl a’r Siop Un Alwad.
Bydd y Gwasanaethau Llyfrgell a NEWCIS yn cynnal y sesiynau grŵp i annog cyd-ddarllen, rhannu atgofion a chyfarfod pobl newydd mewn awyrgylch hamddenol.
Mae gwaith arall sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Llyfrgell yn cynnwys cynyddu nifer y llyfrau fyddai o ddiddordeb i ofalwyr; gwasanaeth llyfrgell misol i fynd a llyfrau at bobl sy'n gaeth i'w cartrefi a llyfrau sydd wedi cael cymeradwyaeth glinigol i helpu pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr i ddeall y cyflwr.
Bydd y grŵp darllen yn cael ei gynnal ddydd Mercher, Mawrth 6 o 1.30pm yn Llyfrgell y Rhyl ac os bydd yn llwyddiannus mae’n bosibl y bydd rhagor o grwpiau'n cael eu sefydlu ar draws y sir.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llyfrgell y Rhyl ar 01745 353814.
Cydweithio ar waith gwrth-dlodi
Mae ymdrechion i leihau tlodi a gwella lles ariannol a trigolion Sir Ddinbych yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor wrth iddo ddyfarnu cytundeb pedair blynedd newydd i Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i wneud gwaith ar ei ran.
Dewiswyd CAB Sir Ddinbych i ddarparu gwasanaeth cynghori defnyddwyr annibynnol, cyfrinachol a rhad ac am ddim i drigolion Sir Ddinbych. Bydd y gwasanaeth hwn yn effeithiol wrth atal a lleihau materion yn ymwneud â budd-daliadau a chredydau treth, dyledion, tai ynni, tanwydd, cyflogaeth, materion defnyddwyr a theulu / perthynas.
Mae gan y sefydliad hanes cryf o weithio yn Sir Ddinbych eisoes, ar ôl cyflwyno gwasanaeth budd-daliadau i'r Cyngor ar ôl i'r awdurdod wneud toriadau i'r gwasanaeth a gynigiwyd gan y Cyngor yn flaenorol. Bydd CAB yn darparu gwasanaeth lles arbenigol, gan edrych ar bob agwedd ar y buddion sydd ar gael i drigolion.
Byddant yn darparu cymorth i unigolion sydd â phrosesau adolygiadau budd-daliadau ac apeliadau, yn helpu i liniaru unrhyw faterion sy'n codi o Gredyd Cynhwysol ac yn gyffredinol byddant yn cyfeirio pobl at y cyngor cywir ar yr adeg iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid: "Rydym wrth ein bodd o gael CAB yn ôl i helpu gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaeth buddion go iawn, gan gynorthwyo trigolion i ddelio â phryderon ariannol a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl gefnogaeth a chyngor sydd ar gael iddynt.
"Rydym eisoes wedi gweld bod rhai prosiectau arloesol yn digwydd ar lawr gwlad yn Sir Ddinbych ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, i sicrhau ein bod yn adeiladu cymuned sy'n wydn".
Sir Ddinbych yn Gweithio
Os ydych chi neu rywun rydych yn gwybod am, mewn, neu mewn perygl o fod mewn tlodi a hoffech helpu nhw i gael gwaith, neu i wneud cynnydd yn eu gwaith, gallwn ni helpu drwy gynnig cymorth ac arweiniad gyda:
- Cymhelliant a hunan hyder
- Cyngor ac arweiniad un i un
- Cyfleoedd hyfforddi
- Gwirfoddoli
- Ysgrifennu CV
- Profiad Gwaith
- Technegau Cyfweliad
- Gwneud Cais am Swydd
- Cyllid personol
- Cyfrifoldebau Gofalu
- Unrhyw beth arall sy'n eich atal rhag mynd i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
Sir Ddinbych yn gweithio yw ein dull o fynd i'r afael â thlodi trwy gyflogaeth. Ein nod yw cydlynu cefnogaeth sy'n helpu pobl i mewn i waith, yn tynnu’r rhwystrau i gael mewn i waith ac yn rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant. Ein bwriad yw lleihau tlodi trwy alluogi pobl gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau sy'n eu cefnogi yn eu taith tuag at gyflogaeth, ac i gynnal eu swydd a mynd yn eu blaen unwaith mewn cyflogaeth.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gwybod am yn 16 oed neu'n hŷn, mewn, neu mewn perygl o dlodi. Neu, os hoffech gymorth i fynd i mewn neu fynd ymlaen yn eich gwaith. Ewch i'n tudalen ‘Cymorth i gael gwaith ac i wneud cynnydd yn y gwaith’ er mwyn canfod sut y gallwn ni helpu.
Gadewch i ni gydweithio i fynd i’r afael â gwylanod trafferthus
Unwaith eto eleni rydym yn atgoffa ein preswylwyr i beidio â bwydo gwylanod.
Mae’r Cyngor yn derbyn cwynion am wylanod yn rheolaidd ac ystyrir y gwylanod hyn yn niwsans mawr, yn bennaf o fewn cymunedau arfordirol, ond maent hefyd yn bresennol yn y cymunedau mewndirol.
Mae’r Cyngor bellach yn edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â’r mater hwn a bydd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar annog preswylwyr ac ymwelwyr i beidio â bwydo’r gwylanod.
Rydym hefyd yn gofyn i fusnesau yn y sir sy’n paratoi bwyd i wneud yn siŵr bod ganddynt ddigon o le yn eu biniau i roi eu sbwriel a bod y biniau hyn yn cael eu cau yn dynn. Rydym hefyd yn gofyn iddynt annog eu holl gwsmeriaid i waredu bwyd yn y modd priodol a pheidio â’i daflu ar y stryd.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai a’r Amgylchedd: “Rydym yn cydnabod yn llawn bod gwylanod yn rhan o fywyd bob dydd ym mhob cymuned arfordirol. Maent wedi bod yn bresennol ers sawl blwyddyn bellach ac maent yn parhau i ffynnu.
"Fodd bynnag, rydym yn derbyn cwynion yn rheolaidd gan breswylwyr ein cymunedau arfordirol, yn ogystal â rhai o’n trefi mewndirol, mewn perthynas â’r peryglon a achosir gan wylanod, yn enwedig pan maent yn cael eu denu at fwyd.
“Mae’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor yn gyfyngedig, gan eu bod yn rhywogaeth a warchodir. Rydym wedi rhoi cynnig ar dechnegau i’w dychryn yn debyg iawn i’r balwnau ‘Angry Birds’ a’r netin/bynting sydd wedi cael eu darparu i rai ardaloedd ac sydd wedi llwyddo i raddau.
“Yr hyn rydym ei angen yw cefnogaeth y cyhoedd. Drwy beidio â bwydo gwylanod a sicrhau bod gwastraff bwyd wedi’i orchuddio, gall hyn leihau’r cyfleoedd i wylanod blymio ar ganol ein trefi.”
Gweithio Gyda'n Gilydd yn Y Rhyl
Bu cynnydd gwych gyda'r gwaith adfywio yn Y Rhyl hyd yma ac rydym am adeiladu ar hyn trwy ehangu ein ffocws rhag adfywio yn unig, i gynnwys datblygu cymunedol. Nod y gwaith datblygu cymunedol hwn yw cefnogi trigolion i lunio dyfodol eu cymuned a goresgyn ffactorau parhaus yr amddifadedd a wynebir. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol y sector cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd, Heddlu, Tai ac Addysg.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n trefnu pobl ac adnoddau i ddechrau'r gwaith hwn a fydd yn cynnwys trafodaethau gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn Y Rhyl.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau dros y misoedd nesaf ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith i sicrhau bod pob cymuned yn Sir Ddinbych yn lle, lle gall pobl ddisgwyl byw'n iach a diogel.
Cynnig Perchnogion
Oes gennych chi eiddo gwag nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd? Os felly, mae'r Cyngor eisiau defnyddio eich tai i helpu unigolion neu deuluoedd digartref.
Byddwch yn derbyn:
- 6 mis o rhent ymlaen llaw
- Blaendal
- Fydd y Cyngor yn rheoli'r tŷ am y 6 mis cyntaf
- Taliad cymhelliant ar ddiwedd y 6 mis os fydd y preswylydd yn derbyn tenantiaeth
- Cefnogaeth parhaus trwy ein cynhaliaeth tenantiaeth a'n gwasanaethau cefnogi pobl
- Bydd hyfforddiant 'Renting Ready' ar gael i'r tenantiaid
Byddwn yn rhoi cymorth i'r unigolion neu'r teuluoedd rydym yn ail-gartrefu yn eich tai. Ar ôl cyfnod o 6 mis byddwn yn hoffi i’r unigolion neu deulu dderbyn tenantiaeth byrddaliad sicr 6 mis. Fydd hwn yn golygu gallwch ddod i adnabod y bobl cyn iddynt gychwyn y tenantiaeth, a byddwch yn helpu pobl sydd angen cartref.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch trwy e-bost: atal.digartrefedd@sirddinbych.gov.uk neu rhif Ffôn: 01824 706 354