llais y sir

Ydych chi wedi clywed y si am y gystadleuaeth dylunio logo?

Mae si ar led bod cyfle cyffrous i blant ysgol gymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio logo newydd.

Rydym yn rhoi cyfle i blant rhwng 5 ac 14 oed ddylunio logo ‘Cyfeillgar i Wenyn' y Cyngor.

Yn gynharach eleni dyfarnwyd statws Cyfeillgar i Wenyn i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, cynllun sy’n ceisio gwneud Cymru yn wlad cyfeillgar i beillwyr.

Mae’r Cyngor yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i greu "gwestai” i wenyn a phryfaid, lleihau’r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr a nodi safleoedd i'w gwella ar gyfer creaduriaid sy’n peillio trwy blannu blodau gwyllt a hadau blodau gwyllt.

Gofynnir i ddisgyblion feddwl am ddyluniad syml a thrawiadol y gallwn ei ddefnyddio ar bob un o’n safleoedd a’n cyhoeddiadau Cyfeillgar i Wenyn, a dylai gynnwys pryf sy’n peillio fel gwenyn neu löyn byw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddymuno pob lwc i'r holl gystadleuwyr ac edrychaf ymlaen at weld y dyluniadau gwych.

“Mae gwenyn yn hynod bwysig i’r system eco. Yn ogystal â pheillio planhigion mewn gerddi, parciau a’r cefn gwlad ehangach, maent yn cyfrannu at yr amgylchedd ehangach. Mae creu sir sy’n Gyfeillgar i Wenyn yn rhan o’n gwaith i wella ac amddiffyn yr amgylchedd.”

Mae tri chategori oedran, Cyfnod Sylfaen, 5-7, 7-11 a 11-14 a byddwn yn dewis enillydd o bob categori cyn dewis y prif enillydd.

Bydd ysgol lle mae enillydd pob categori yn mynychu yn derbyn cymorth i greu ardal 'Cyfeillgar i Wenyn.’

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 14 Mawrth ac i gystadlu anfonwch eich dyluniadau at Gystadleuaeth Dylunio Logo ‘Cyfeillgar i Wenyn’ Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir  Ddinbych, Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth, Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 5LH.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Liam ar 07787 741763 neu e-bostiwch: liam.blazey@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid