llais y sir

Treftadaeth

Beth sy'n newydd yn Nhreftadaeth ar gyfer 2019

2019

Dros y gaeaf, mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn cael y safleoedd yn barod ar gyfer 2019. Mae Amgueddfa'r Rhyl (yn Llyfrgell y Rhyl) yn agored trwy’r flwyddyn, tra bod Plas Newydd (Llangollen), Carchar Rhuthun a Nantclwyd Y Dre ar agor am ymweliadau cyffredinol o fis Ebrill, ond gellir archebu ymlaen llaw ar gyfer grwpiau trwy gydol y flwyddyn (gweler 'Cynllunio Eich Ymweliad' isod).

Beth sy’n newydd ar gyfer 2019?

Bydd Teithiau Sain diweddaraf o'r radd flaenaf yn cael eu lansio ym Mhlas Newydd a Charchar Rhuthun y gwanwyn hwn.

Gyda'r gwaith trosleisio wedi’i ddarparu gan bobl leol, bydd y teithiau newydd hyn yn ychwanegu haen rhyngweithiol newydd sbon i'r safleoedd. Mae'r system newydd yn hawdd ei defnyddio, ysgafn, ac mae'n cynnwys gwybodaeth newydd wedi’i diweddaru am Blas Newydd a Charchar Rhuthun a'r bobl sy'n gysylltiedig â'r adeiladau hanesyddol hyn.

Hefyd mae Taith Plant ddigidol rhyngweithiol newydd i annog cynulleidfaoedd iau i archwilio a dysgu tra'n cymryd rhan mewn cwis hwyliog.

Mae'r holl deithiau sain ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gyda mwy o ieithoedd yn cael eu hychwanegu trwy gydol 2019.

Mae yna rai digwyddiadau gwych eleni, teithiau gwanwyn a haf newydd ym Mhlas Newydd, Diwrnod Natur mawr yn Nantclwyd Y Dre ym mis Mehefin, teithiau ystlumod, sgyrsiau gardd, digwyddiadau gwisgo i fyny i’r plant a hyd yn oed cyfle i fod yn garcharor yng Ngharchar Rhuthun!

Cyflawni Rhagoriaeth

Cyrhaeddodd Carchar Rhuthun, Plas Newydd ac Amgueddfa’r Rhyl safon uchel o ragoriaeth yn 2018 ac enillodd statws Amgueddfa Achrededig llawn yn dilyn arolygiadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael achrediad llawn - mae'n adlewyrchu'r gwasanaeth cwsmer rhagorol, y gwaith caled a'r ymroddiad a ddarperir gan ein tîm.

Mae pob safle hefyd wedi ennill marc Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru ac mae Nantclwyd Y Dre a Charchar Rhuthun unwaith eto wedi ennill Gwobr Trysor Cudd Cymru.

Cynllunio Eich Ymweliad

Mae safleoedd treftadaeth ar agor o fis Ebrill 2019, mae amseroedd/ dyddiau agor yn amrywio felly ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth am fanylion unigol.

Mae Carchar Rhuthun yn gwbl hygyrch gyda lifftiau ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, a phramiau / cadeiriau gwthio.

Mae Nantclwyd Y Dre yn hygyrch o’r llawr gwaelod, gydag arddangosfeydd gweledol rhyngweithiol o'r lloriau uchaf a Phlas Newydd yn hygyrch o'r llawr gwaelod gyda chaffi. Gallwch ymweld ar unrhyw un o'r diwrnodau a hysbysebir heb archebu, neu archebu ymlaen llaw ar gyfer taith grŵp preifat, yn Gymraeg neu yn Saesneg, dan arweiniad un o'n harweinwyr gwych.

Ffoniwch 01824 706868 am ragor o fanylion.

Amser cystadleuaeth – Cyfle i Ennill Tocyn Teulu AM DDIM!

Ar Facebook trwy gydol mis Mawrth byddwn yn cynnig y cyfle i ennill tri Tocyn Teulu gwerth £17.50- £20. Bydd cwestiwn am y safleoedd hanesyddol hyn yn cael ei bostio ar Facebook bob wythnos a bydd pob ateb cywir yn cael ei roi mewn raffl i’w dynnu ddiwedd mis Mawrth. Mae un tocyn teulu ar gyfer pob safle, felly os ydych chi'n bwriadu ymweld â Charchar Rhuthun, Nantclwyd Y Dre, neu Plas Newydd eleni, cadwch lygad yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ewch i'n tudalen Facebook am fwy o fanylion  https://www.facebook.com/heritagedenbighshire/

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid