llais y sir

Twristiaeth

Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych

Oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth?

Mae Fforwm a sefydlwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn twristiaeth ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal fis Mawrth. Ymhlith y prif siaradwyr mae Banc Datblygu Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Cynhelir Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych ar ddydd Mercher 27 Mawrth yng Ngwesty Oriel House, Llanelwy. Mae’r digwyddiad hwn sydd am ddim yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau.

I archebu lle yn y Fforwm Twristiaeth ewch i https://www.eventbrite.com/e/fforwm-twristiaeth-sir-ddinbych-denbighshire-tourism-forum-tickets-56551189129

Y Digwyddiadau Diweddaraf

Edrychwch ar lyfryn diweddaraf ‘Beth sy’ Mlaen’ i weld beth yw'r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Ddinbych tan fis Mai 2019.

https://www.discoverdenbighshire.wales/whats-on/?lang=cy

 

Her Fwyd Blwyddyn Darganfod

I ddathlu ‘Blwyddyn Darganfod’ Cymru 2019 – fe osododd Tîm Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru her i leoedd bwyta lleol i ddyfeisio saig a fyddai’n dathlu’r cynnyrch lleol gorau yn yr ardal, yn ogystal â rhoi cyfle i ymwelwyr i roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol.

I dai bwyta yr her oedd i ddatblygu o leiaf tri o blatiau bach ac ar gyfer caffis/ystafelloedd te yr her oedd i greu pwdin. Caiff y ddau gategori eu hannog i ddefnyddio cynhyrchwyr lleol o Ogledd Ddwyrain Cymru a fydd yn chwarae ar y synhwyrau. Bydd y rhai sy'n ymgeisio yn cael eu sgorio drwy ymweliadau bwyta cudd a bydd y ddau bryd sy'n sgorio uchaf o bob categori wedyn yn cael gwahoddiad i sialens goginio gyda'r gwobrau yn cynnwys cyhoeddusrwydd, stondin yng Ngŵyl Fwyd a Diod Wrecsam a chyfleoedd eraill mewn digwyddiadau masnachol drwy gydol y flwyddyn.

Am fwy o fanylion ar y lleoedd bwyta sy’n cymryd rhan ac ar y seigiau ewch i http://www.northeastwales.wales/tour-food-challenge/

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

A hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os hoffech chi, mae’n syml a hawdd i gofrestru -

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx

Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth

Rydym yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth chwarterol am ddim ar gyfer busnesau i archebu taflenni a phamffledi. Caiff yr wybodaeth hon ei chynhyrchu i annog ymwelwyr i’r ardal, a gwella eu profiad pan maent yma.

Mae’r cynnyrch yn cynnwys:

  • Taflenni Llwybrau Tref
  • Taflen y 5 Taith
  • Anturiaethau Digidol Sir Ddinbych
  • Taflen Canolfan Grefft Rhuthun
  • Taflen Dreftadaeth
  • SC2 Y Rhyl

Pwy all archebu?

  • Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yn ac o amgylch Gogledd Ddwyrain Cymru ac os ydych yn dod i gysylltiad ag ymwelwyr.

Sut i archebu?

Ydych chi'n chwilio am leoedd newydd i ymweld â nhw eleni?

Oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch? Am syniadau ynglŷn â phethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yn ein cornel drawiadol o Ogledd Cymru, ewch i http://www.northeastwales.wales/?lang=cy

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid