llais y sir

Addysg

Ysgol Gatholig Crist y Gair yn lansio gwisg ysgol newydd

Mae gwisg ysgol newydd wedi cael ei lansio ar gyfer ysgol ffydd 3-16 newydd gwerth £23 miliwn yn y Rhyl.

Bydd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn agor ym mis Medi a bydd gan y wisg ysgol themâu cyffredin ar gyfer disgyblion ar draws yr oedrannau ond bydd y rheiny ym Mlwyddyn 7 ac uwch yn gwisgo blaser i gydnabod eu bod wedi symud i'r ysgol uwch.

Mae’r ysgol, a fydd yn gartref i 420 disgybl llawn amser rhwng 3 ac 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed, yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â'r Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Gill Greenland, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol: “Roeddem yn awyddus i ymgynghori’n eang ynglŷn â syniadau am y wisg ysgol newydd. 

“Roeddem yn hapus iawn â lefel uchel yr ymateb a gawsom gan rieni i'r holiadur a anfonwyd allan a derbyniwyd bron i 250 o ymatebion. 

“Cawsom hefyd ymateb gwych gan ddisgyblion yn y ddwy ysgol lle buom yn trafod yr opsiynau gyda'r cynghorau ysgol."

Cafodd y Llywodraethwyr gyfarfod â chyflenwyr lleol i drafod sut y gellid datblygu syniadau'r disgyblion cyn iddyn nhw gymeradwyo'r wisg ysgol newydd yn derfynol.

Ychwanegodd Mrs Greenland: “Mae’r wisg ysgol yn adlewyrchu logo ein hysgol newydd a chafodd y lliwiau eu hysbrydoli gan ddyluniadau a gyflwynwyd gan ddisgyblion presennol Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones. Hyderwn ein bod wedi datblygu gwisg ysgol sy’n adlewyrchu ein hunaniaeth.”

Mae’r Llywodraethwyr hefyd yn edrych ar bosibiliadau ariannu eraill i gynorthwyo teuluoedd â'r gost.

Cyfnod newydd i Ysgol Carreg Emlyn

Mae cyfnod newydd ar droed i Ysgol Carreg Emlyn, un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Sir Ddinbych. Bydd yr ysgol, a sefydlwyd yn 2014, yn symud i adeilad ysgol newydd yn Clocaenog ar ddechrau mis Mehefin diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif.

Crëwyd Ysgol Carreg Emlyn yn 2014 yn dilyn uno Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog. Ers mis Medi 2014 mae’r ysgol newydd wedi cael ei rhedeg o’r safleoedd cyfredol yn y ddau bentref cyn y byddant yn symud i un safle.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys 4 dosbarth newydd, ardaloedd dysgu ychwanegol, neuadd, ystafell gymunedol, ardaloedd chwarae allanol, mynedfa ceir newydd a maes parcio gyda man gollwng pwrpasol.

Yn Mai 2018 gyda’r cyllid ar caniatâd cynllunio mewn lle dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r adeilad ysgol newydd ychydig dros 100 metr i ffwrdd o safle cyfredol Clocaenog. Ychydig o dan 12 mis wedyn bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo gan Wynne Construction. Yn ystod mis Mai bydd paratoadau ar gyfer symud yn cymryd lle gyda cyfle i staff ymgyfarwyddo gyda’r adeilad cyn i’r disgyblion ddechrau yr hanner tymor olaf yn eu cartref newydd.

Bydd y disgyblion yn gweld trawsnewid yn eu hamgylchedd dysgu o fewn eu cartref newydd. Fel rhan o’r paratoadau i ffarwelio a’r adeiladu presennol byddant yn cael ymweliad arbennig ar ddechrau mis Mai. Mae’r prif gontractwr Wynne Construction hefyd wedi trefnu digwyddiad cymunedol i alluogi preswylwyr i weld yr ysgol wedi ei orffen cyn i’r ysgol symud i mewn.

Mae cwblhau’r prosiect hwn yn foment arwyddocaol i gymuned Ysgol Carreg Emlyn. Mae’r prosiect yn dangos ymrwymiad Cynghorwyr Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cymuned yr ysgol wedi dangos eu cefnogaeth yn y prosiect i drawsnewid addysg yn yr ardal wledig yma a bydd hwn yn gyfleuster gwych i blant ifanc.

Adeilad newyddYsgol Carreg Emlyn fydd y 6ed prosiect wedi ei gwblhau gan Sir Ddinbych fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion 21ain ganrif. Mae’r rhaglen wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion yn Cynwyd, Prestatyn, Rhyl, Rhuthun a Llanelwy ynghyd a prosiectau sydd yn mynd rhagddo ar gyfer Ysgol Gatholig Crist y Gair yn Y Rhyl ac Ysgol Llanfair. 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid