llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 2

Y Mis Mawrth Menter gorau erioed gyfer Sir Ddinbych

Mae cymuned fusnes Sir Ddinbych wedi cymryd rhan yn y mis busnes gorau erioed.

Yn ystod pedwerydd mis Mawrth Menter y Cyngor, bu bron i 530 o bobl gymryd rhan mewn 26 o ddigwyddiadau amrywiol, y ffigyrau uchaf hyd yma.

Gan weithio gyda darparwyr cefnogaeth partneriaeth, roedd mis menter y Cyngor yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddiant, yn cynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau am Fargen Dwf Gogledd Cymru sy'n werth £1bn, a digwyddiad bwyd i arddangos cynnyrch lleol ac uwchgynhadledd ar ganol trefi gydag arbenigwyr y diwydiant.

Penderfynwyd ar ffocws mis Mawrth Menter wedi i ni ofyn i fusnesau pa fath o gymorth yr oeddent ei eisiau. Fel Cyngor, rydym yn gwrando ar ein cymuned fusnes ac rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid i dyfu eu busnesau.

Mae’r adborth o fis Mawrth Menter wedi bod yn gadarnhaol iawn a busnesau’n dweud y bydd y gefnogaeth a ddarparwyd o gymorth iddynt wrth symud ymlaen. Gydag amgylchedd masnachu heriol yn wynebu masnachwyr y Stryd Fawr ac ansicrwydd ynghylch Brexit, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddarparu cymorth i fusnesau Sir Ddinbych, er mwyn iddynt allu parhau i dyfu’r economi a chreu swyddi ledled y sir.

Roedd rhai o’r digwyddiadau eraill yn cynnwys sesiwn i fusnesau i fanteisio’n llawn ar Eisteddfod yr Urdd pan fydd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2020, helpu busnesau â threth yn ogystal â hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol.

Roedd sefydliadau a fu’n gweithio gyda’r Cyngor yn cynnwys Busnes Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Dywedodd Fiona Evans o Snow in Summer: “Mae mis Mawrth Menter yn gyfle gwych i fusnesau fynychu digwyddiadau a gweithdai amrywiol yn rhad ac am ddim a fydd o fudd i’w busnesau.

“Mae’r gweithdai cyfryngau cymdeithasol yr wyf wedi’u mynychu wedi bod yn fuddiol iawn ar gyfer hyrwyddo’r siop, megis y gweithdy Instagram a hefyd digwyddiad yr Urdd.

“Byddwn i’n argymell mis Mawrth Menter, mae’n gyfle gwych i rwydweithio â busnesau lleol eraill.”

Mae Mis Mawrth Menter yn rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu’r economi lleol i sicrhau fod cymunedau’r sir yn wydn a bod mynediad gan drigolion at nwyddau a gwasanaethau.

Dywedodd Hannah James, sy’n berchen ar Clwyd Chambers yn y Rhyl: “Roedd digwyddiadau gwych yn ystod mis Mawrth Menter. Mae cyngor marchnata yn hynod werthfawr i fusnesau bach ac mae’r digwyddiadau yn rhoi mynediad at gyngor o safon ar lefel agored a pherthnasol.

“Byddwn i’n argymell bod busnesau yn cymryd mantais o'r hyfforddiant a’r gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...