llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 2

‘Blas Lleol – Cwrdd â’r Cynhyrchydd’ yn arddangos cynhyrchwyr bwyd lleol

Mynychodd mwy na 100 o brynwyr o fusnesau lletygarwch o bob lliw a llun yr arddangosfa cynnyrch lleol.

Trefnwyd y trydydd digwyddiad ‘Blas Lleol – Cwrdd â’r Cynhyrchydd’ gan Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy a grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd, mewn cydweithrediad â thîm Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ddinbych. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Castell Rhuthun fel rhan o fis Mawrth Menter Sir Ddinbych.

Trwy ‘Blas Lleol - Cwrdd â'r Cynhyrchydd’ fe gafodd bwytai, tafarndai, caffis a busnesau manwerthu bwyd ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig y cyfle i flasu bwyd a diod gan fusnesau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.

Eleni roedd 24 o gynhyrchwyr bwyd a diod wedi cymryd rhan gyda stondinau yn arddangos eu cynnyrch, yn fwydydd wedi'u pobi'n draddodiadol, dewisiadau heb glwten, cigoedd, bwydydd fegan, seidr, cwrw, gin a gwirodydd, hufen iâ i gyd wedi'u cynhyrchu'n lleol yn ogystal â llawer mwy.

Roedd stondinau gan sefydliadau cymorth i fusnesau hefyd yn cynnwys Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a Chymraeg ym Myd Busnes. Cefnogwyd y cyfan yn ariannol gan gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych gan roi’r cyfle i fusnesau drafod syniadau am dwf, datblygiad neu arallgyfeirio.

Ar y dydd cafwyd sesiynau coginio gan Robert Dowell-Brown sy’n brif gogydd Bwyty Nant Y Felin a bu’n tynnu dŵr o ddannedd pawb wrth ddangos syniadau ar gyfer brecwast, cinio a canapés yn defnyddio cynnyrch lleol.

Meddai Lesley Haythorne o Gin Pant y Foel: “Siaradais gyda 14 o gwsmeriaid posib yn y digwyddiad ac rydym eisoes wedi sicrhau dau werthiant yn barod. Felly gyda dau gwsmer newydd yn barod rydym am gysylltu gyda’r busnesau eraill y gwnaethom eu cyfarfod ar y dydd."

Cynhyrchydd arall oedd Martin Godfrey a’i gwmni Hafod Brewing Company o’r Wyddgrug, meddai: “Roedd yn ddigwyddiad hynod gynhyrchiol i ni ac roedd hi'n grêt cael cyfarfod cwsmeriaid hen a newydd a chael dangos ein cynnyrch wyneb i wyneb."

Dywedodd Robyn Lovelock o Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy: “Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle i ddangos y dewis a safon y cynnyrch sydd gennym yn ein rhanbarth. P’un ai fod prynwyr yn edrych am gytundebau mawr hirdymor neu eisiau newid rhai cynnyrch allweddol gyda chynnyrch lleol yn lle, rydym wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw allu siarad a gwneud busnes gyda'r cynhyrchwyr eu hunain - gan helpu i gadw'r arian yn ein heconomi leol."

Meddai Jane Clough o Grŵp Bryniau Clwyd: “Roedd cynnwrf mawr trwy’r holl ddigwyddiad a'r gobaith yw bod sylfaen wedi’i osod ar gyfer blwyddyn arall wych o fwyd a lletygarwch yn y rhanbarth. Mae busnesau lletygarwch yn prysur sylweddoli’r budd o ddefnyddio cynnyrch lleol wrth i ymwelwyr a phobl leol edrych am flas o’r ardal ac rydym yn eiddgar i wybod tarddiad ein bwyd a'n diod."

Mae’r ddau grŵp a drefnodd y digwyddiad yn gobeithio datblygu'r digwyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda hyd yn oed mwy o gynhyrchwyr a lleoliad newydd. Maent hefyd yn rhan o dîm sydd yn gyfrifol am ddarparu Blas Gogledd Ddwyrain Cymru, mis cyfan sy'n dathlu bwyd a diod leol i'w lansio yn Hydref 2019.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...